Dadhydradiad

Cyflwyniad

Dehydration
Dehydration

Mae dadhydradu'n golygu bod eich corff yn colli mwy o hylifau nag y byddwch yn eu cymryd. Os na chaiff ei drin, gall waethygu a throi'n broblem ddifrifol.

Pwysig

Mae mwy o risg i fabanod, plant a'r henoed ddadhydradu.

Gwirio a ydych chi wedi dadhydradu

Mae symptomau dadhydradu ymhlith oedolion a phlant yn cynnwys:

  • teimlo'n sychedig
  • wrin melyn tywyll, sydd ag arogl cryf
  • teimlo'n benysgafn 
  • teimlo'n flinedig
  • ceg, gwefusau a llygaid sych
  • pasio bach iawn o ddŵr, llai na 4 gwaith y dydd

Gall dadhydradu ddigwydd yn haws:

  • os oes gennych ddiabetes
  • os ydych yn chwydu neu mae gennych ddolur rhydd
  • os ydych chi wedi bod yn yr haul am yn rhy hir (trawiad gwres)
  • os ydych wedi yfed gormod o alcohol
  • os gwnaethoch chwysu gormod ar ôl gwneud ymarfer corff
  • os oes gennych dymheredd o 38C neu uwch
  • os ydych chi wedi bod yn cymryd meddyginiaethau sy'n gwneud i chi basio dŵr yn amlach (diwretigion)

Sut gallwch chi leihau risg dadhydradu

Yfwch rywbeth pan fyddwch chi'n teimlo symptomau dadhydradu.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd yfed oherwydd rydych chi'n teimlo'n sâl neu rydych wedi chwydu, dechreuwch gyda llymeidiau bach ac yna yfwch fwy yn raddol. 

Gallwch ddefnyddio llwy i'w gwneud hi'n haws i'ch plentyn lyncu'r ddiod.

Dylech yfed digon yn ystod y dydd fel bod lliw clir, golau i'ch wrin.

Yfwch pan fydd mwy o risg dadhydradu. Er enghraifft, os ydych chi'n chwydu, yn chwysu neu mae dolur rhydd arnoch.

Gofalwyr: gwneud yn siwr bod rhywun yn yfed digon

Weithiau, ni fydd y bobl rydych chi'n gofalu amdanynt yn gwybod faint maen nhw'n ei yfed.

I'w helpu:

  • gwnewch yn siwr eu bod yn yfed yn ystod prydau bwyd
  • gwnewch yfed yn rhywbeth cymdeithasol, fel "cael cwpaned o de"
  • cynigiwch fwyd iddynt sy'n cynnwys llawer o ddŵr – er enghraifft cawl, hufen iâ neu jeli, neu ffrwythau fel melon

Gall fferyllydd helpu gyda dadhydradu

Os ydych chi'n chwydu neu os oes dolur rhydd arnoch ac rydych yn colli gormod o hylif, bydd angen i chi adfer y siwgr, yr halwynau a'r mwynau a gollodd eich corff. 

Gall eich fferyllydd argymell pecynnau powdrau ailhydradu geneuol. Dyma bowdrau rydych chi'n eu cymysgu gyda dŵr ac yna'n eu hyfed.

Gofynnwch i'ch fferyllydd pa rai sy'n iawn i chi neu i'ch plentyn.

Dod o hyd i fferyllfa

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os na fydd eich symptomau'n gwella yn dilyn triniaeth

Ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys:

  • os ydych chi'n teimlo'n anarferol o flinedig
  • os ydych chi wedi drysu ac yn ffwndrus
  • os na fydd unrhyw bendro wrth sefyll yn diflannu 
  • os nad ydych wedi pasio dŵr o gwbl drwy'r dydd
  • os bydd eich pwls yn wan neu'n gyflym
  • os ydych chi'n cael ffitiau

Gall y rhain fod yn arwyddion dadhydradu difrifol, y mae angen triniaeth frys arnynt.

Plant o dan 5 oed wedi dadhydradu

Dylai plant o dan 5 oed gael digon o hylifau fel nad ydynt yn dadhydradu.

Mae'n eithaf cyffredin i blant ifanc ddadhydradu. Gall fod yn ddifrifol heb ddelio ag ef yn gyflym.

Ewch â'ch baban neu'ch plentyn at y meddyg teulu ar frys neu i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys:

  • os yw'n gysglyd
  • os yw'n anadlu'n gyflym
  • os oes bach iawn neu ddim dagrau ganddo wrth grïo
  • os oes man meddal ganddo ar ei ben, sy'n suddo tuag i mewn (fontanelle suddedig)
  • os oes ganddo geg sych
  • os yw ei wrin yn felyn tywyll neu nid yw wedi pasio dŵr yn y 12 awr diwethaf
  • os yw ei ddwylo a'i draed yn oer ac yn flotiog

Ar ôl trin y dadhydradu, bydd angen i'ch plentyn gynnal ei lefelau hylif.

Fel arfer, mae meddygon teulu'n cynghori'ch bod chi:

  • yn parhau i fwydo ar y fron neu ddefnyddio llaeth fformiwla – cynigiwch roi ychydig bach yn amlach na'r arfer
  • i fabanod sy'n yfed llaeth fformiwla neu'n bwyta bwyd solet –rhowch lymeidiau bach o ddŵr ychwanegol iddynt
  • yn rhoi diet arferol plant bach iddynt
  • yn rhoi llymeidiau bach o ddiod ailhydradu yn rheolaidd i adfer hylifau, halwynau a siwgrau a gollwyd – gofynnwch i'ch fferyllydd argymell un

Peidiwch â:

  • gwanhau llaeth fformiwla
  • rhoi sudd ffrwythau neu ddiodydd swigod i blant ifanc – maen nhw'n gwneud pethau fel dolur rhydd neu chwydu yn waeth

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 09/01/2024 11:00:05