Mae pigyn clust a phoen clust yn gyffredin, yn enwedig mewn pobl ifanc. Mae'n gallu bod yn boenus ond nid yw'n arwydd o unrhyw beth difrifol fel arfer.
Am ba hyd mae pigyn clust yn para
Mae'n dibynnu beth sy'n ei achosi. Mae'r rhan fwyaf o achosion o bigyn clust ymhlith plant yn cael eu hachosi gan haint y glust, sy'n dechrau gwella fel arfer ar ôl ychydig ddyddiau.
Canfod pigyn clust mewn babanod a phlant ifanc
Gall plentyn ifanc fod â phigyn clust:
- os yw'n rhwbio neu'n tynnu ei glust
- os nad yw'n adweithio i rai seiniau
- os oes ganddo dymheredd o 38C neu uwch
- os yw'n groendenau neu'n aflonydd
- os yw'n gwrthod ei fwyd
- os yw'n cadw colli'i gydbwysedd
Gall pigyn clust a phoen clust effeithio ar un glust neu ar y ddwy glust.
Sut i drin pigyn clust eich hun
Mae rhai pethau gallwch chi eu gwneud i helpu i liniaru pigyn clust a phoen clust:
- Defnyddiwch gyffuriau lleddfu poen fel parasetamol neu ibuprofen (ni ddylai plant iau nag 16 oed gymryd aspirin)
- Gosodwch glwt 'molchi cynnes neu oer ar y glust
Peidiwch â
- rhoi unrhyw beth y tu mewn i'ch clust, fel ffyn cotwm
- ceisio tynnu cwyr o'r glust
- gadael i ddwr fynd i mewn i'r glust
Gall fferyllydd helpu gyda phigyn clust
Efallai y bydd eich fferyllydd yn gallu dweud wrthych:
- beth arall gallwch chi ei wneud i drin pigyn clust eich hun
- os gallwch brynu unrhyw beth i helpu - diferion clust, er enghraifft
- os oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i'ch fferyllfa agosaf
Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych chi neu eich plentyn:
- dymheredd uchel iawn neu'n teimlo'n boeth ac yn crynu
- chwyddo o gwmpas y glust
- pigyn clust yn y ddwy glust
- hylif yn dod o'r glust
- rhywbeth yn gaeth yn y glust
- pigyn clust am fwy na 3 diwrnod
- colli clyw neu newid mewn clyw
- dolur gwddf difrifol neu chwydu
Os na allwch gael apwyntiad, cysylltwch â 111.
Beth sy'n achosi pigyn clust a phoen clust
Gall llawer o bethau achosi pigyn clust a phoen clust, ond weithiau, nid yw'r achos yn hysbys. Dyma rai o'r achosion mwyaf cyffredin:
- gall y symptom fod yn boen clust gyda'r ddanoedd - cyflwr posibl fyddai plentyn yn torri dannedd neu grawniad deintiol
- gall y symptom fod yn boen clust heb newid yn y clyw - cyflwr posibl fyddai clust ludiog, croniad o gwyr yn y glust, rhywbeth yn gaeth yn y glust (peidiwch â cheisio'i dynnu eich hun - ewch i weld eich meddyg teulu), tympan drydyllog y glust - yn enwedig ar ôl swn mawr neu ddamwain
- gall y symptom fod yn boen clust gyda phoen wrth lyncu - cyflwr posibl fyddai dolur gwddf, tonsilitis, ysbinagl (quinsy)- cymhlethdod tonsilitis
- gall y symptom fod yn boen clust gyda thwymyn - cyflwr posibl fyddai haint y glust, y ffliw neu annwyd