Cyflwyniad
Er bod problemau golwg difrifol yn ystod plentyndod yn brin, cynigir gwiriadau llygaid rheolaidd i fabanod newydd-anedig a phlant ifanc i amlygu unrhyw broblemau’n gynnar.
Hefyd, mae profion golwg am ddim gan y GIG ar gael gan optometryddion/optegwyr i blant dan 16 oed ac ar gyfer pobl ifanc dan 19 oed mewn addysg amser llawn. Cynghorir bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael archwiliad llygaid rheolaidd.
Dewch o hyd i optometrydd/optegydd.
Pam mae archwiliadau llygaid yn bwysig
Y cynharaf y bydd unrhyw broblem llygaid yn cael ei chanfod, y cynharaf y byddwch chi a'ch plentyn yn gallu cael unrhyw driniaeth a chymorth angenrheidiol.
Efallai na fydd plant yn sylweddoli bod ganddyn nhw broblem â’u golwg, felly, heb brofion rheolaidd, mae'n bosibl na fydd problem yn cael ei hamlygu. Gall hyn effeithio ar eu datblygiad a'u haddysg.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am olwg eich plentyn, ewch i weld meddyg teulu neu ewch i weld optometrydd/optegydd.
Pryd fydd llygaid fy mhlentyn yn cael eu gwirio?
Efallai y bydd llygaid eich plentyn yn cael eu gwirio nifer o weithiau drwy gydol oriau, wythnosau a blynyddoedd cyntaf ei fywyd.
O fewn 72 awr ar ôl ei eni
Bydd llygaid eich plentyn yn cael eu gwirio am unrhyw broblemau corfforol amlwg fel rhan o'r archwiliad corfforol newydd-anedig.
Rhwng 6 ac 8 wythnos oed
Archwiliad corfforol dilynol yw hwn i chwilio am unrhyw broblemau amlwg na amlygwyd yn gynnar ar ôl y geni
Tua blwydd oed neu rhwng 2 oed a 2 a hanner oed
Efallai y gofynnir i chi a oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch golwg eich plentyn fel rhan o adolygiad o iechyd a datblygiad eich plentyn; gellir trefnu profion llygaid, os oes angen.
Tua 4 neu 5 oed
Mae'n bosibl y bydd llygaid eich plentyn yn cael eu harchwilio yn gynnar ar ôl dechrau yn yr ysgol. Gelwir hyn yn sgrinio’r golwg ac mae'n gwirio am lai o olwg mewn un llygad neu'r ddau. Y nod yw canfod unrhyw broblemau'n gynnar fel bod modd rhoi triniaeth os oes angen.
Fel arfer, cynhelir sgrinio’r golwg yn ysgol eich plentyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd ym mhob ardal. Os na chaiff golwg eich plentyn ei wirio yn yr ysgol, ewch â nhw i’ch optometrydd/optegydd lleol i gael archwiliad llygaid.
Siaradwch â meddyg teulu neu ewch i weld optegydd os oes gennych chi unrhyw bryderon am olwg eich plentyn ar unrhyw adeg.
Pa brofion allai gael eu cynnal?
Mae'n bosibl y bydd nifer o brofion yn cael eu cynnal i chwilio am broblemau â golwg neu lygaid babanod a phlant.
Y prawf atgyrch coch
Mae'r prawf atgyrch coch fel arfer yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag archwiliad cyffredinol o lygaid eich babi, fel rhan o wiriadau newydd-anedig.
Mae'n cynnwys defnyddio offeryn o'r enw offthalmosgop sy'n chwyddo'r llygaid ac yn defnyddio golau fel y gellir eu harchwilio'n glir.
Pan mae golau'n cael ei ddisgleirio i lygaid eich babi, dylid gweld adlewyrchiad coch gan ei fod yn cael ei adlewyrchu yn ôl. Os gwelir adlewyrchiad gwyn, gallai fod yn arwydd o broblem â’r llygaid.
Y prawf adweithydd cannwyll llygad
Mae'r prawf atgyrch cannwyll llygad yn cynnwys disgleirio golau i lygaid eich babi er mwyn gwirio sut mae canhwyllau llygaid (dotiau duon yng nghanol y llygaid) yn ymateb i olau.
Dylai canhwyllau llygaid eich babi grebachu'n awtomatig wrth ymateb i'r golau. Os nad ydyn nhw, gallai fod yn arwydd o broblem.
Sylw i wrthrychau gweledol
Dyma brawf syml i weld a yw babi newydd-anedig yn talu sylw i wrthrychau gweledol.
Bydd bydwraig neu feddyg yn ceisio denu sylw eich babi gyda gwrthrych diddorol. Yna, byddan nhw'n ei symud i weld a yw llygaid y plentyn yn ei ddilyn.
Gellir defnyddio'r mathau hyn o brofion hefyd i wirio golwg babanod hŷn a phlant ifanc sydd ddim yn gallu siarad eto.
Os yw eich plentyn yn gallu siarad ond nad yw'n gallu adnabod llythrennau eto, efallai y bydd lluniau'n cael eu defnyddio yn lle gwrthrychau.
Siartiau Snellen a LogMAR
Pan fydd eich plentyn yn gallu adnabod neu baru llythrennau, profir ei olwg gan ddefnyddio siartiau sydd â rhesi o lythrennau a rhifau mewn meintiau sy’n lleihau.
Gofynnir i'ch plentyn ddarllen allan neu baru'r llythrennau y gall eu gweld o bellter penodol. Gelwir y siartiau hyn yn siartiau Snellen neu LogMAR.
Ar gyfer plant iau, efallai y bydd prawf tebyg gan ddefnyddio lluniau neu symbolau yn cael ei ddefnyddio yn lle.
Profion ystod symud
Er mwyn profi ystod symud pob llygad, bydd sylw plentyn yn cael ei dynnu at wrthrych diddorol, sydd wedyn yn cael ei symud i 8 safle gwahanol: i fyny, i lawr, i'r chwith, i'r dde, a hanner ffordd rhwng pob un o'r pwyntiau hyn.
Mae hyn yn profi pa mor dda mae cyhyrau'r llygad yn gweithio.
Prawf plygiant
Mae prawf plygiant yn cael ei gynnal gan optometrydd mewn optegydd ar y stryd fawr ac fe'i defnyddir i wirio a oes angen sbectol ar eich plentyn ac, os felly, pa bresgripsiwn sydd ei angen arnynt.
Cyn y prawf, efallai y bydd diferion arbennig yn cael eu rhoi yn llygaid eich plentyn sy'n lledu ei canhwyllau llygaid fel y gellir archwilio cefn ei lygaid yn gliriach.
Bydd angen i'ch plentyn edrych ar olau, neu ddarllen llythrennau ar siart os yw'n ddigon hen, tra bod lensys gwahanol yn cael eu gosod o flaen ei lygaid.
Prawf diffyg golwg lliw
Fel arfer, mae profion diffyg golwg lliw, sydd hefyd yn cael eu galw'n brofion lliwddallineb, yn cael eu cynnal mewn plant hŷn os amheuir bod problem.
Un o'r profion sy'n cael ei ddefnyddio i chwilio am lliwddallineb yw'r prawf Ishihara. Mae’n cynnwys edrych ar ddelweddau sydd wedi cael eu llunio gan ddefnyddio dotiau mewn 2 liw gwahanol. Os yw golwg lliw plentyn yn normal, bydd yn gallu adnabod llythyren neu rif yn y ddelwedd.
Ni fydd plentyn sy'n methu nodi’r gwahaniaeth rhwng 2 liw yn gallu gweld y rhif na'r llythyren, sy'n golygu y gallai fod ganddynt broblem golwg lliw.
Darllenwch fwy am roi diagnosis o ddiffyg golwg lliw.
Achosion problemau llygaid mewn babanod a phlant
Mae nifer o broblemau llygaid gwahanol yn effeithio ar fabanod a phlant y gellir eu canfod yn ystod profion llygaid, gan gynnwys:
Adnabod arwyddion o broblem â’r llygaid
Er y dylai'ch plentyn gael profion llygaid rheolaidd wrth dyfu i fyny, mae'n bwysig o hyd sylwi ar arwyddion o unrhyw broblemau a cheisio cyngor os oes gennych unrhyw bryderon.
Ar gyfer babanod, gellir defnyddio'r rhestr wirio yng nghofnod iechyd plant personol eich babi (llyfr coch) i'ch helpu i wirio a yw golwg eich plentyn yn datblygu fel y dylai.
O ran plant hŷn, gall arwyddion problem bosibl â llygaid gynnwys:
- y llygaid ddim yn pwyntio i'r un cyfeiriad
- cwyno am gur pen neu straen ar y llygaid
- problemau wrth ddarllen – er enghraifft, efallai bod angen iddyn nhw ddal llyfrau yn agos at eu hwyneb ac efallai eu bod nhw’n colli eu lle yn rheolaidd
- problemau â chydsymud rhwng y dwylo a’r llygaid – er enghraifft, efallai eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd chwarae gemau pêl
- bod yn anarferol o drwsgl
- rhwbio eu llygaid yn rheolaidd
- eistedd yn rhy agos at y teledu
Siaradwch â'ch meddyg teulu neu’ch ymwelydd iechyd os oes gennych chi unrhyw bryderon am lygaid neu olwg eich plentyn. Gorau po gyntaf y bydd problem yn cael ei hamlygu.
Gall blant gael prawf llygaid ar unrhyw oedran. Nid oes angen iddyn nhw allu darllen, na siarad hyd yn oed. Mae prawf golwg yn arbennig o bwysig os oes hanes o broblemau llygaid plant, fel tro llygad neu lygad ddiog, yn eich teulu.