Dafadennau Organau Cenhedlu

Cyflwyniad

Haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yw dafadennau gwenerol (genital warts) sy'n cael ei hachosi gan feirysau papiloma dynol neu HPVs. Er bod dros gant o wahanol fathau o HPV, mae'r rhan fwyaf o ddafadennau gwenerol yn cael eu hachosi gan HPV 6 a HPV 11. Mae dafadennau ar y bysedd neu ar wadnau'r traed (ferwcau) yn cael eu hachosi gan feirysau HPV gwahanol, nad ydynt yn lledaenu i groen yr organau cenhedlu.

Ewch i glinig iechyd rhywiol os oes gennych:

  • 1 neu fwy o dyfiannau neu lympiau nad ydynt yn boenus o amgylch y wain, y pidyn neu'r anws
  • cosi neu waedu o'r organau cenhedlu neu'r anws
  • newid i lif cyffredin eich wrin (er enghraifft, mae wedi dechrau llifo i'r ochr) nad yw'n mynd i ffwrdd
  • partner rhywiol sydd â dafadennau gwenerol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau

Gallai'r symptomau hyn olygu bod gennych ddafadennau gwenerol. Ewch i glinig iechyd rhywiol am archwiliad.

Mae clinigau iechyd rhywiol weithiau'n cael eu galw'n glinigau meddygaeth genhedlol-droethol (GUM), neu'n wasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlu (SRH).

Gall triniaeth helpu i gael gwared â'r dafadennau ac atal yr haint rhag cael ei throsglwyddo ymlaen.

Pam y dylech fynd i glinig iechyd rhywiol

Gallwch weld meddyg teulu, ond fwy na thebyg bydd yn eich atgyfeirio i glinig iechyd rhywiol os yw'n credu y gallai fod gennych ddafadennau gwenerol.

Mae clinigau iechyd rhywiol yn arbenigo ar drin problemau â'r organau cenhedlu a'r system wrin.

Mae llawer o glinigau iechyd rhywiol yn cynnig gwasanaeth galw heibio sy'n golygu nad oes angen i chi wneud apwyntiad.

Bydd clinig iechyd rhywiol yn aml yn cael canlyniadau profion yn gyflymach na meddygfa.

Dod o hyd i glinig iechyd rhywiol

Beth sy'n digwydd mewn clinig iechyd rhywiol

Fel arfer, gall meddyg neu nyrs wneud diagnosis o ddafadennau gwenerol trwy edrych arnynt. Bydd yn:

  • eich holi am eich symptomau a'ch partneriaid rhywiol
  • yn edrych yn ofalus ar y lympiau o amgylch yr organau cenhedlu a'r anws, gan efallai ddefnyddio chwyddwydr
  • efallai y bydd angen iddo/iddi edrych y tu mewn i'r wain, yr anws neu'r wrethra (ble mae wrin yn dod allan), yn dibynnu ar ble mae'r dafadennau

Efallai na fydd yn bosibl canfod oddi wrth bwy y cawsoch ddafadennau gwenerol nac am ba mor hir y mae'r haint wedi bod arnoch.

Triniaeth ar gyfer dafadennau gwenerol

Mae angen i'r driniaeth ar gyfer dafadennau gwenerol gael ei rhoi ar bresgripsiwn gan feddyg.

Bydd y math o driniaeth a gynigir i chi yn dibynnu ar olwg y dafadennau a ble maen nhw. Bydd y meddyg neu'r nyrs yn trafod hyn gyda chi.

Mae triniaethau'n cynnwys:

  • hufen neu hylif: fel arfer, gallwch roi hwn ar y dafadennau eich hun ambell waith yr wythnos am sawl wythnos, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi fynd i glinig iechyd rhywiol er mwyn i feddyg neu nyrs ei roi. Gall y triniaethau hyn achosi poen, llid neu deimlad o losgi
  • llawdriniaeth: gall meddyg neu nyrs dorri, llosgi neu ddefnyddio laser i gael gwared â'r dafadennau. Gall hyn achosi poen, llid neu greithio
  • rhewi: bydd meddyg neu nyrs yn rhewi'r dafadennau. Weithiau, bydd y driniaeth yn cael ei hailadrodd sawl tro. Gall hyn achosi poen.

Fe allai gymryd wythnosau neu fisoedd i'r driniaeth weithio, a gallai'r dafadennau ddod yn ôl. Nid yw'r driniaeth yn gweithio ar rai pobl.

Nid oes gwellhad ar gyfer dafadennau gwenerol, ond mae'n bosibl i'ch corff glirio'r feirws dros amser.

Gwnewch y canlynol

  • dywedwch wrth y meddyg neu'r nyrs os ydych yn feichiog neu'n ystyried beichiogi, oherwydd ni fydd rhai triniaethau'n addas i chi
  • ceisiwch osgoi defnyddio sebon, gel cawod neu gynnyrch bath persawrus yn ystod eich triniaeth oherwydd gall y rhain lidio'ch croen
  • gofynnwch i'r meddyg neu'r nyrs a fydd eich triniaeth yn effeithio ar gondomau, diafframau neu gapiau

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • defnyddio triniaethau ar gyfer dafadennau o fferyllfa; nid yw'r rhain wedi'u gwneud ar gyfer dafadennau gwenerol
  • ysmygu; mae llawer o driniaethau ar gyfer dafadennau gwenerol yn gweithio'n well os nad ydych yn ysmygu
  • cael rhyw gweiniol, rhefrol na geneuol nes bod y dafadennau wedi mynd; os byddwch yn gwneud hynny, defnyddiwch gondom bob amser

Sut mae dafadennau gwenerol yn cael eu trosglwyddo ymlaen

Mae feirws y dafadennau gwenerol yn gallu cael ei drosglwyddo ymlaen p'un a oes dafadennau i'w gweld ai peidio.

Nid yw llawer o bobl sydd â'r feirws yn cael unrhyw symptomau, ond maen nhw'n gallu ei drosglwyddo ymlaen o hyd.

Os oes gennych ddafadennau gwenerol, dylai eich partneriaid rhywiol presennol gael eu profi oherwydd efallai y bydd ganddyn nhw ddafadennau heb yn wybod iddynt.

Ar ôl i chi ddal yr haint, gall gymryd wythnosau neu fisoedd lawer cyn i'r symptomau ymddangos.

Gallwch gael dafadennau gwenerol o'r canlynol:

Mae dafadennau gwenerol yn datblygu yn dilyn cysylltiad croen wrth groen â rhywun sydd â HPV yn ei groen. Gall haint â HPV ddigwydd –

  • ar ôl cael cyfathrach rywiol heb gondom gyda rhywun sydd â HPV yn ei groen. Gall hyn fod yn rhyw gweiniol, rhefrol neu eneuol. 
  • os caiff HPV ei drosglwyddo o fam sydd â dafadennau gwenerol i'w baban adeg genedigaeth. Mae hyn yn anghyffredin iawn.

Ni allwch ddal dafadennau o gofleidio, rhannu bath, tywelion, dillad gwely, seddau toiled na phyllau nofio.

Sut i atal trosglwyddo dafadennau gwenerol ymlaen

Gallwch osgoi trosglwyddo dafadennau gwenerol ymlaen trwy:

  • ddefnyddio condom bob tro y byddwch yn cael rhyw gweiniol, rhefrol neu eneuol - ond os yw'r feirws yn bresennol ar groen nad yw wedi'i orchuddio gan gondom, fe allai gael ei drosglwyddo o hyd
  • peidio â rhannu teganau rhyw; os byddwch yn eu rhannu, golchwch nhw neu gorchuddiwch nhw â chondom newydd cyn i unrhyw un arall eu defnyddio 
  • peidio â chael rhyw os ydych newydd roi hufen neu hylif triniaeth dafadennau ar eich croen. Mae cael cyfathrach rywiol heb amddiffyniad tra bydd dafadennau arnoch yn eich gwneud yn fwy tebygol o lawer o drosglwyddo feirws y dafadennau i'ch partner. Gallai defnyddio condom helpu i amddiffyn eich partner rhag cael ei heintio â'r feirws, os bydd y condom yn gorchuddio'r croen sydd wedi'i effeithio a bod y condom yn cael ei wisgo cyn bod unrhyw gyswllt croen yn digwydd. 

Pam mae dafadennau gwenerol yn dod yn ôl

Mae'n eithaf cyffredin i ddafadennau gwenerol ddod yn ôl, fel arfer yn y tri mis cyntaf ar ôl iddynt ddiflannu. Gan amlaf, bydd hyn yn digwydd oherwydd bod HPV yn y croen o hyd. Mae pobl sy'n ysmygu'n fwy tebygol o weld eu dafadennau'n dod yn ôl. Fodd bynnag, gydag amser, bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael gwared ar HPV ac ni fyddant yn datblygu dafadennau newydd.

Gallai dafadennau ddiflannu heb driniaeth, ond gall hyn gymryd sawl mis. Gallwch drosglwyddo'r feirws ymlaen o hyd, a gallai'r dafadennau ddod yn ôl.

Dafadennau gwenerol a chanser

Mae'n hynod anghyffredin i ddafadennau droi'n ganseraidd. Mae hyn oherwydd bod y feirysau HPV sy'n achosi'r rhan fwyaf o ddafadennau (HPV 6 ac 11) yn feirysau 'risg isel'. 

Pa HPVs all achosi canser? O'r rhyw 100 o HPVs sy'n gallu heintio pobl, mae'n hysbys bod 13 ohonynt yn achosi canser. Y pwysicaf o'r feirysau 'risg uchel' hyn yw HPV 16 ac 18.

Mae'r brechlyn HPV a gynigir i ferched a bechgyn 12 i 13 oed yng Nghymru yn amddiffyn rhag canser serfigol a dafadennau gwenerol.

Hefyd, mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig i ddynion (hyd at 45 oed) sy'n cael rhyw gyda dynion (MSM), dynion traws a menywod draws, gweithwyr rhyw, a dynion a menywod sy'n byw gyda HIV.

Dysgwch fwy am y brechlyn HPV.

Dafadennau gwenerol a beichiogrwydd

Pwysig

Dywedwch wrth eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • os ydych yn feichiog, neu'n credu eich bod yn feichiog, a bod gennych ddafadennau gwenerol neu'n credu bod gennych ddafadennau gwenerol

Nid yw'n anarferol i fenywod ddatblygu dafadennau gwenerol am y tro cyntaf yn ystod beichiogrwydd. Gall newidiadau yn system imiwnedd a chyflenwad gwaed menyw ganiatáu i ddafadennau ddatblygu. Gall dafadennau gael eu trin yn ystod beichiogrwydd, ond gall fod yn fwy anodd cael gwared arnynt. Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn sylwi bod eu dafadennau'n diflannu yn ystod yr wythnosau yn dilyn geni'u baban.

A all dafadennau effeithio ar fy maban? Mae'n anghyffredin i fabanod menywod â dafadennau gwenerol ddatblygu dafadennau eu hunain. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y rhain fel arfer ar groen y baban. Yn anaml iawn, gall dafadennau ddatblygu yng nghorn gwddf y baban.

A fydd angen toriad Cesaraidd arnaf i? Nid yw cael dafadennau gwenerol yn ystod beichiogrwydd yn rheswm fel arfer dros gael toriad Cesaraidd. Bydd y rhan fwyaf o fenywod beichiog â dafadennau yn esgor eu baban drwy'r wain.

Mae'r rhan fwyaf o fenywod beichiog sydd â dafadennau gwenerol yn esgor trwy'r wain. Efallai y cynigir toriad Cesaraidd i chi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 03/04/2024 13:15:55