Cyflwyniad
Mae’r clefyd crafu yn gyffredin a gall unrhyw un ei ddal. Dylai gael ei drin yn gyflym i’w atal rhag lledaenu.
Gwirio ai’r clefyd crafu ydyw
Dyma symptomau’r clefyd crafu:
- crafu dwys, yn enwedig yn y nos
- brech neu smotiau wedi codi
Gall y smotiau edrych yn goch. Maen nhw’n fwy anodd eu gweld ar groen tywyll, ond dylech allu eu teimlo.
Mae brech y clefyd crafu fel arfer yn lledaenu dros y corff cyfan, heblaw am y pen.
Fodd bynnag, gall pobl hŷn, plant ifanc a’r rhai â system imiwnedd wannach ddatblygu brech ar eu pen a’u gwddf.
Pryd nad y clefyd crafu ydyw
Gall llawer o bethau eraill achosi croen coslyd a brechau mewn babanod a phlant.
Gweler sleidiau ar frechau a chyflyrau eraill y croen.
Gall fferyllydd helpu gyda’r clefyd crafu
Nid yw’r clefyd crafu yn gyflwr difrifol fel arfer, ond mae angen ei drin.
Mae’r clefyd crafu yn un o’r cyflyrau sy’n dod o dan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion droi ato am gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim ac mae ar gael o 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.
Chwiliwch am eich fferyllfa agosaf yma.
Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.
Bydd fferyllydd yn argymell hufen neu eli i chi ei roi dros eich corff cyfan. Mae’n bwysig darllen y cyfarwyddiadau yn ofalus.
Gadewch i’r fferyllydd wybod os ydych chi’n bwydo ar y fron neu’n feichiog.
Bydd angen i chi ailadrodd y driniaeth wythnos yn ddiweddarach.
Mae’r clefyd crafu yn heintus iawn ond gall gymryd hyd at 8 wythnos i’r frech ymddangos.
Bydd angen trin pawb ar eich aelwyd ar yr un pryd, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau.
Dylid trin unrhyw un y cawsoch chi gysylltiad rhywiol â nhw dros yr 8 wythnos diwethaf hefyd.
Pethau y gallwch eu gwneud yn ystod triniaeth i atal y clefyd crafu rhag lledaenu
Gwnewch y canlynol:
- golchwch yr holl ddillad gwely a dillad yn y tŷ ar dymheredd o 50C neu uwch ar ddiwrnod cyntaf y driniaeth
- rhowch ddillad na ellir eu golchi mewn bag dan sêl am 3 diwrnod hyd nes bydd y gwiddon yn marw
- stopiwch fabanod a phlant rhag sugno’r driniaeth oddi ar eu dwylo trwy wisgo hosanau neu fenig arnynt
Peidiwch â:
- chael rhyw na chysylltiad corfforol agos hyd nes y byddwch chi wedi cwblhau’r driniaeth yn llawn
- rhannu dillad gwely, dillad na thywelion gyda rhywun sydd â’r clefyd crafu
Faint o amser mae’n ei gymryd i gael gwared ar y clefyd crafu
Gallwch chi neu’ch plentyn fynd yn ôl i’r gwaith neu’r ysgol 24 awr ar ôl y driniaeth gyntaf.
Er bod y driniaeth yn lladd gwiddon y clefyd crafu yn gyflym, gall y cosi barhau am ychydig wythnosau.
Ewch i weld meddyg teulu os yw eich croen yn crafu o hyd 4 wythnos ar ôl gorffen y driniaeth.
Gall y clefyd crafu ledaenu’n hawdd
Mae’r clefyd crafu yn trosglwyddo o berson i berson trwy gysylltiad â’r croen. Ni allwch ddal y clefyd crafu oddi wrth anifeiliaid anwes.
Mae mwy o risg i bobl sy’n byw neu’n gweithio’n agos â’i gilydd mewn meithrinfeydd, neuaddau preswyl prifysgol neu gartrefi nyrsio.
Gall unrhyw un gael y clefyd crafu – nid oes ganddo ddim i’w wneud â hylendid gwael.
Cymhlethdodau’r clefyd crafu
Gall crafu’r frech achosi heintiau i’r croen, fel impetigo.
Gall y clefyd crafu waethygu cyflyrau fel ecsema neu soriasis.