Clinigau iechyd rhywiol

Cyflwyniad

Mae cael profion a thriniaeth am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) yn rhwydd ac yn gyfrinachol. Gall y rhan fwyaf o heintiau gael eu gwella.

Mae clinigau iechyd rhywiol neu glinigau  meddyginiaeth genhedlol-droethol (GUM) yn arbenigo mewn iechyd rhywiol ac yn darparu profion a thriniaethau ar gyfer llawer o STIs.

Ymweld â chlinig STI

Gallwch chi drefnu apwyntiad i fynd yno, neu weithiau bydd clinig taro i mewn (sydd yn golygu y gallwch droi mewn heb apwyntiad). Mae hi'n bosib y byddwch yn teimlo embaras ond nid oes angen: mae'r gweithwyr yn y clinigau hyn wedi arfer â gwneud profion am bob math o haint. Dyna yw eu swydd, a ni fyddant eich barnu chi. Dylen nhw wneud eu gorau er mwyn esbonio popeth ac yn gwneud i chi deimlo'n esmwyth.

Fe fedrwch chi fynd at glinig iechyd rhywiol pa oed bynnag ydych chi, gyda symptomau STI ai peidio.  Os byddwch o dan 16 oed mae'r gwasanaeth yn dal yn gyfrinachol a ni fydd y clinig yn dweud wrth eich rhieni.

Os byddan nhw'n amau eich bod chi neu berson ifanc arall â risg o niwed, gall fod rhaid iddyn nhw ddweud wrth wasanaethau gofal iechyd eraill. Ond fe fyddan nhw'n dweud wrthych chi cyn eu bod yn gwneud felly.

Dewch o hyd i wasanaethau iechyd rhywiol yn lleol i chi, gan gynwys clinigau iechyd rhywiol a GUM.

Sut mae'n gweithio?

Eich enw a'ch manylion

Pan ewch chi i glinig iechyd rhywiol, cewch chi eich gofyn am eich enw a rhai manylion cyswllt. Nid oes rhaid i'ch rhoi eich enw go iawn os nad ydych yn dymuno. Os gwnewch chi fe'i cedwir yn gyfrinachol. Ni ddywedir wrth eich meddyg teulu am eich ymweliad heb eich caniatâd chi.

Os cewch chi brofion nad ydy'r canlyniadau iddynt ar gael yn ystod eich ymweliad, bydd angen i'r clinig cysylltu â chi wedyn, felly rhowch y manylion cyswllt cywir iddynt. Fe fyddant yn gofyn ichi sut byddwch chi am dderbyn y canlyniadau: fel arfer mae'n bosib eu rhoi ichi dros y ffôn, mewn neges destun neu lythyr heb farciau.

Ateb cwestiynnau

Fe welwch chi feddyg neu nyrs, a fydd yn gofyn am eich hanes meddygol a rhywiol. Byddwch yn barod i ateb cwestiynnau am eich bywyd rhywiol, gan gynnwys:

  • pryd gawsoch chi gyfathrach rywiol ddiwethaf?
  • a gawsoch chi ryw anniogel?
  • a oes symptomau arnoch?
  • pam eich bod yn amau bod haint arnoch chi

Fe fedrwch chi ofyn gweld meddyg neu nyrs benywaidd os oes yn well gennych chi ond efallai bydd angen ichi aros yn hwy na'r arfer nes bydd un ar gael.

Beth sy'n digwydd?

Cael profion STI

Bydd y meddyg neu nyrs yn dweud wrthych pa brofion, yn ôl ei dyb ef bydd ei angen arnoch chi. Dylai esbonio'r hyn sydd yn mynd yn ei flaen a phaham mae'n awgrymu'r profion hyn. Os nad ydych yn deall am rywbeth, gofynnwch am esboniad.

Gall y profion cynnwys:

  • sampl o'ch troeth (dwr)
  • sampl o'ch gwaed
  • sampl o'ch gwain ( a fedrwch chi wneud eich hun fel arfer)
  • archwiliad o'ch organau rhywiol

Bydd profion am chlamydia a hadlif (gonorrhoea) fel arfer yn gofyn am sampl o'ch dwr yn unig. Bydd angen sampl o'ch gwaed am brofion HIV a siffilis.

Ni chaiff profion am herpes eu gwneud oni bai bod briwiau ar eich organau rhywiol neu eich anws. Yn yr achos yma caiff swab ei gymryd o un o'r briwiau. Bydd hyn yn anghysurus am ychydig.

Dysgwch ragor am:

Canlyniadau

Derbyn canlyniadau eich prawf

Gyda rhai profion, gallwch chi dderbyn y canlyniadau (a thriniaeth os bydd ei hangen) ar yr un diwrnod. Gyda rhai eraill, gall fod angen aros am wythnos neu ddwy. Os felly, bydd y clinig yn gofyn sut yr hoffech chi dderbyn y canlyniadau.

Os bydd y prawf yn bositif am STI, gofynnir i chi ddychwelyd at y clinig i drafod eich canlyniadau a'ch triniaeth. Gall llawer o STIau gael eu gwella â gwrthfiotigau. Gyda rhai heintiau, fel HIV, nid oes iachâd ond mae triniaethau ar gael. Gall y clinig roi cyngor ichi am y rhain, a bydd yn bosib rhoi manylion cynghorydd ichi.

Os bydd yn bosib, dywedwch wrth eich partner rhyw ac unrhyw gynbartneriaid fel y gallan nhwthau gael profion a thriniaeth hefyd. Os nad ydych chi am wneud hyn, fel arfer gall y clinig ei gwneud hi drosoch chi (adnabyddir hyn fel hysbysu partneriaid, ni fydd y clinig yn dweud pwy ydych chi).

Defnyddio condomau    

Y ffordd orau o osgoi dal neu drosglwyddo haint yw defnyddio condom pob tro y byddwch chi'n cael rhyw. Gall y clinig roi condomau ichi fel y gallwch chi arfer rhyw ddiogelach.

Prynwch gondomau sydd â marc CE ar y paced bob tro. Mae hyn yn feddwl eu bod wedi profi o dan safonau diogelwch uchel Ewropeaidd. Ni fydd condomau heb y marc CE yn cyrraedd y safonau hyn, felly peidiwch â'u defnyddio nhw.

Cofiwch nad yw dioddef o STI yn y gorffennol yn rhoi imiwnedd ichi: fe allwch chi gael yr un haint eto. 

Mannau eraill am gymorth

Mae gan glinigau iechyd rhywiol a chlinigau GUM yr arbenigedd fwyaf wrth brofi a thrin heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Ond gallwch chi fynd hefyd at:

  • eich meddyg teulu
  • glinig atal genhedlu cymunedol lleol
  • fferyllfa

Mae'n bosib y byddan nhw'n medru cynnig profion am rai heintiau, ac yn rhoi cyngor ichi ar le i fynd am gymorth pellach.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/09/2022 11:52:02