LGBTQ+

Iechyd Rhywiol ar gyfer dynion LGBTQ +

Mae cael rhyw organ cenhedlu-organ cenhedlu neu ryw’r geg heb ddulliau atal cenhedlu yn eich rhoi mewn perygl o ddal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI).

Os ydych chi’n cael rhyw gweiniol neu refrol treiddgar, mae defnyddio condom neu gondom mewnol yn helpu diogelu yn erbyn HIV ac mae’n lleihau’r risg o gael llawer o heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol.

Mae mwy o bobl LGBTQ+ nag erioed yn byw â HIV, felly mae cael rhyw heb ddefnyddio condom (mewnol neu allanol) yn hynod beryglus. Gweler y dudalen am HIV ac AIDS ar gyfer pobl LGBT.

Mae llawer o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn anodd eu trin os oes gennych chi HIV. Gall rhai, fel syffilis, hyd yn oed gyflymu datblygiad HIV.

Yn ôl Gary Williams o brosiect Healthy Gay Life Birmingham, mae hepatitis C hefyd yn risg, yn enwedig yn y rheiny sydd â HIV. Mae Hepatitis C yn firws y gellir ei drin sy’n effeithio ar yr afu. Mae triniaethau ar gyfer Hepatitis C yn effeithiol iawn ag iddynt nifer fach o sgil-effeithiau Hepatitis C

Ni roddir profion sgrinio ar gyfer hepatitis C fel mater o drefn ond, os ydych chi’n meddwl eich bod chi mewn perygl neu wedi dod i gyswllt ag ef, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ewch i glinig iechyd rhywiol. Os ydych chi’n cael rhyw’r anws heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu yn rheolaidd, dylech gael apwyntiad gwirio o leiaf pob chwe mis mewn clinig iechyd rhywiol. “Ar gyfer rhai heintiau, ni fyddwch yn gweld unrhyw symptomau," dywed Williams.

Gall dynion traws, menywod traws a phobl anneuaidd hefyd fod mewn perygl. Os byddwch yn cael rhyw â chyswllt mewnol heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu, dylech sicrhau eich bod yn cael apwyntiad gwirio.

Siaradwch â’ch meddyg teulu neu ewch i glinig iechyd rhywiol.

Dewch o hyd i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf

 

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dod i gyswllt â hepatitis C neu mewn perygl o’i ddal, dylech gael prawf. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu ewch i glinig iechyd rhywiol.

Gonorea ('y clap')

Gall yr haint bacterol hwn achosi poen wrth droethi neu deimlo’r awydd i droethi ond methu gwneud hynny. Caiff ei drin â gwrthfiotigau.

Darllenwch fwy am gonorea.

Wrethritis amhenodol (NSU)

Pan fydd y wrethra’n chwyddo, wedi’i achosi gan facteria. Caiff ei ddal yn yr un ffordd a gonorea, ac, yn aml, mae ganddo symptomau tebyg. Gellir ei ddal gan berson wedi’i heintio, a chaiff ei drin gan ddefnyddio gwrthfiotigau.

Darllenwch fwy am NSU.

Clamydia

Dyma haint bacterol ar y wrethra, y rectwm neu’r gwddf. Efallai bydd hylif trwchus a phoen wrth fynd i’r tŷ bach neu boen yn y ceilliau (er gall clamydia fod heb symptomau).

Gellir ei ddal trwy gael rhyw â pherson wedi’i heintio, yn yr un ffordd â gonorea a NSU. Caiff ei drin â gwrthfiotigau.

Darllenwch fwy am glamydia.

Shigella

Dyma haint bacterol yn y coluddyn sy’n achosi dolur rhydd difrifol a phoen yn y stumog. Caiff ei gamgymryd am wenwyn bwyd yn aml. Gellir ei ddal yn ystod gweithgarwch rhywiol, gan gynnwys rhyw rhwng y geg a’r anws, a rhoi rhyw’r geg ar ôl rhyw’r anws. Caiff ei drosglwyddo’n hawdd iawn – yr oll sydd ei angen yw tipyn bach iawn o ysgarthion wedi’i heintio yn mynd i’ch ceg.

Gall rhywun sydd â shigella fod wedi’i heintio am hyd at fis. Gellir ei drin â gwrthfiotigau. Os ydych yn amau eich bod wedi dal shigella, dylech ymweld â’ch meddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol i gael prawf.

Gallwch osgoi dal shigella trwy olchi eich dwylo ar ôl cael rhyw (a’ch pen-ôl ac ardal eich organau cenhedlu hefyd, os gallwch chi, trwy gael cawod), a newid condomau rhwng rhyw’r anws a rhyw’r geg. Mae defnyddio menyg latecs/finyl ar gyfer defnyddio eich bysedd neu eich dwrn yn eich diogelu. A pheidiwch â rhannu teganau rhyw na chyfarpar ymolchi.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am shigella ar y daflen hon (PDF, 2.13Mb).

Herpes yr organau cenhedlu

Mae herpes yr organau cenhedlu yn haint feirysol. Gall y symptomau gynnwys pothelli a wlserau poeni ar yr organau cenhedlu neu’r anws neu o’u cwmpas, ond nid yw rhai pobl yn dangos unrhyw symptomau.

Gellir dal herpes yr organau cenhedlu trwy gael rhyw’r geg gyda rhywun sydd â dolur annwyd (cold sore) o gwmpas eu ceg neu ynddo, neu trwy gael cyswllt agos croen ar groen ag organau cenhedlu rhywun sydd â herpes.

Gall tabledi gwrthfirws helpu’r broses wella a gwneud hyd yr achos yn fyrrach. Gall meddyg teulu roi presgripsiwn tabledi neu eli.

Darllenwch fwy am herpes yr organau cenhedlu.

Syffilis

Mae syffilis yn haint bacterol sy’n achosi wlser di-boen, fel arfer o gwmpas yr organau cenhedlu. Bydd yn diflannu ar ei ben ei hun, ond gall symptomau eraill ymddangos, fel rash ar y corff a chwarennau wedi chwyddo.

Os na chaiff ei drin, gall syffilis achosi niwed difrifol i'r nerfau ac organau'r corff yn ddiweddarach mewn bywyd, gan arwain at anabledd a marwolaeth. Mae syffilis hefyd yn ddifrifol iawn i bobl sy'n feichiog.

Yn ei gamau cynnar, mae syffilis yn heintus iawn a gellir ei drosglwyddo drwy gyswllt croen agos yn ystod rhyw. Mae'r driniaeth yn cynnwys pigiadau neu dabledi gwrthfiotig.

Darllenwch fwy am syffilis.

Dafadennau ar yr organau cenhedlu (Genital warts)

Dyma haint cyffredin sy’n ymddangos rai wythnosau neu fisoedd ar ôl cael rhyw gyda rhywun wedi’i heintio. Gall achosi tyfiannau bach iawn, ar ben y pidyn neu o’i gwmpas yn bennaf, ond hefyd yn yr anws ac o’i gwmpas.

Dylech drin dafadennau cyn gynted â phosibl, byddant yn haws o lawer i’w trin. Ni allwch drin dafadennau’r organau cenhedlu â’r un eli a ddefnyddiwch ar ddafadennau ar eich dwylo. Bydd meddyg yn eu rhewi neu ddefnyddio eli i’w tynnu.

Darllenwch fwy am ddafadennau yr organau cenhedlu.

Llau ('crabs')

Mae llau yn byw ar flew’r croen. Maen nhw’n fach iawn, felly gallant fod yn anodd i’w gweld, ond gellir gweld wyau bach tywyll yn sownd i wallt.

Mae’n well gan lau flew’r cedor (blew o amgylch eich organau cenhedlu a’ch anws) ond gellir eu gweld ym mlew’r corff hefyd (ond nid y gwallt ar eich pen). Gellir dal y llau o ddillad, tywelion a dillad gwely. Mae’r symptomau’n cynnwys crafu neu rash.

Gellir ei drin yn y cartref gydag eli y gallwch ei brynu mewn fferyllfa (nid oes angen presgripsiwn).

Darllenwch fwy am lau.

Sgabies

Dyma haint sy’n cael ei achosi gan bryfaid bach parasitig sy’n twrio o dan y croen. Gall achosi crafu difrifol i ran fwyaf o bobl (ond nid yw rhai pobl yn sylwi arno).

Mae’r crafu’n dechrau pythefnos neu fwy ar ôl cael rhyw â rhywun sydd wedi’i heintio. Gallwch ddal sgabies wrth rannu gwlâu a thywelion, ond mae hyn yn llai cyffredin.

Mae’r driniaeth yn debyg i driniaeth llau, er efallai byddwch yn parhau i grafu am rai wythnosau ar ôl i’r pryfaid bach farw.

Darllenwch fwy am sgabies.

Cael eich profi

Nid oes symptomau gan bob haint a drosglwyddir yn rhywiol. Os ydych yn cael rhyw, wedi sylwi bod gennych unrhyw un o’r symptomau uchod neu’n poeni bod gennych haint, dylech gael eich profi’n rheolaidd. Mae cael eich profi’n rheolaidd yn syniad da, er mwyn sicrhau bod gennych fywyd rhywiol iach. Mae gwasanaethau’r GIG yn rhad ac am ddim.

Dod o hyd i’ch gwasanaeth iechyd rhyw lleol.

Darllenwch fwy am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Hefyd, gweler y dudalen Iechyd Rhywiol menywod LGBTQ+, pobl anneuaidd a menywod a dynion traws.

Gallwch weld cyngor penodol ar gyfer dynion traws yma (Ymddiriedolaeth Terrence Higgins).

A menywod traws yma.