Cwestiynau i ofyn am feddyginiaeth
Mae’r canllaw canlynol yn dweud wrthych sut i gael y gorau allan o’ch ymgynghoriad gyda'ch meddyg drwy ofyn y cwestiynau iawn. Bydd hyn yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal iechyd.
- Pa mor hir fydd yn rhaid i mi gymryd y feddyginiaeth? Am oes?
- Pryd y dylwn ddechrau gweld gwelliant yn fy nghyflwr?
- Beth fydd y feddyginiaeth yn ei wneud?
- Beth yw’r sgïl effeithiau?
- Fydd y feddyginiaeth yn adweithio gydag unrhyw feddyginiaeth arall?
- Fydda i'n gallu yfed alcohol tra’n cymryd y feddyginiaeth?
- Fydda i'n gallu cymryd tabledi llysieuol/ychwanegion/fitaminau tra’n cymryd y feddyginiaeth?
- Sut ydych chi'n gwybod mai dyma’r feddyginiaeth/dos cywir i mi?
- Fydd eisiau i mi newid meddyginiaeth/dos os na fydd yn gweithio?
- Fydda i'n gallu gyrru tra’n cymryd y feddyginiaeth yma?
Nodwch: Darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion a gewch gyda’r feddyginiaeth bob amser. Os bydd y daflen ar goll cysylltwch â fferyllydd a dylai roi un i chi.
I gael gwybodaeth bellach am ofyn y cwestiynau iawn fel claf, neu wybodaeth am brofion, cyflyrau/salwch, triniaeth neu ofal preifat, cliciwch ar y cyswllt priodol.