Gwybodaeth Defnyddiol i Gleifion

Mae gwybodaeth o safon yn gallu helpu pobl i wneud penderfyniadau ynglyn â'u ffordd o fyw a hunanofal, a phenderfyniadau am iechyd.

Gyda mynediad i wybodaeth, mae cleifion yn cael eu grymuso ac yn chwarae mwy o ran yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hiechyd. I’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal iechyd, mae’r adran yma yn cynnwys arweiniad ar hawliau cleifion, polisïau iechyd a gofal cymdeithasol a sut i gwyno am driniaeth neu wasanaeth y GIG. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am sut i weld eich cofnodion iechyd drwy glicio yma.

Byrddau Iechyd
Yng Nghymru, mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd lleol megis Meddygon Teulu, Fferyllfeydd, Deintyddion a rhai gwasanaethau y tu allan i oriau. Maent hefyd yn gyfrifol am yr ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol. Am fwy o wybodaeth am Fyrddau Iechyd ewch i'n tudalen Byrddau Iechyd.

Un ffordd o sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir ac i wneud y gorau o’u hamser mewn apwyntiadau gyda'u darparwyr gofal iechyd yw meddwl pa gwestiynau i'w gofyn ymlaen llaw. Gall ysgrifennu eich cwestiynau ar bapur eich helpu i baratoi am yr ymgynghoriad, er mwyn i chi gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i annog cyfarthrebu rhyngoch chi a’ch darparwr gofal iechyd.

Mae’r cysylltiadau canlynol yn darparu gwybodaeth a chyngor am eich hawliau fel claf, a beth i'w disgwyl oddi wrth eich gwasanaethau gofal iechyd nawr ac yn y dyfodol.

Patients Association
www.patients-association.org.uk
Hawliau cleifion.

Cyfarwyddyd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
www.wales.nhs.uk
Gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl fel claf, a sut i gael mwy o wybodaeth am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Llywodraeth Cymru
www.wales.nhs.uk
Hanfodion Gofal.

British Medical Association (Gwybodaeth i'r cyhoedd a chleifion)
www.bma.org.uk

Citizen Advice Bureau
www.adviceguide.org.uk
Cyngor annibynnol am eich hawliau.

Gov UK
www.gov.uk
Amrywiaeth eang o wybodaeth am iechyd a lles.

British Dental Health Foundation
www.dentalhealth.org.uk
Hawliau cleifion deintyddol.

Llywodraeth Cymru
Gweithio i wella - codi pryder am GIG Cymru