Canser y Croen (melanoma)

Cyflwyniad

Mae melanoma yn fath prin a difrifol o ganser y croen sy'n dechrau yn y croen ac sy'n gallu lledaenu i organau eraill yn y corff.

Yr arwydd mwyaf cyffredin o felanoma yw man geni newydd yn ymddangos neu newid mewn man geni sy'n bodoli eisoes. Gall hyn ddigwydd unrhyw le ar y corff, ond mae'n digwydd amlaf ar y cefn, coesau, breichiau a'r wyneb.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ffurf afreolaidd a mwy nag un lliw i felanoma. Gall fod yn fwy na mannau geni arferol hefyd, a gall gosi neu waedu weithiau.

Mae 'rhestr wirio ABCDE' wedi'i datblygu i bobl allu dweud y gwahaniaeth rhwng man geni arferol a melanoma.

Darllenwch mwy am symptomau melanoma.

Pam fydd melanoma'n digwydd?

Bydd melanoma'n digwydd pan fydd rhai celloedd yn y croen yn dechrau datblygu'n annormal. Nid oes neb yn gwybod yn union pam mae hyn yn digwydd, er y credir y gall golau uwchfioled UV) o ffynonellau naturiol neu artiffisial fod yn rhannol gyfrifol.

Gall nifer o ffactorau gynyddu eich siawns o ddatblygu melanoma, fel bod â:

  • chroen golau sy'n llosgi'n rhwydd
  • gwallt coch neu olau
  • llawer o namau geni neu frychni
  • aelod o'r teulu sydd wedi cael melanoma

Darllenwch fwy am achosion melanoma.

Diagnosis

Ewch i weld eich meddyg teulu os sylwch ar unrhyw newid i'ch mannau geni. Yn aml bydd eich meddyg teulu'n gallu gwneud diagnosis o felanoma yn dilyn archwiliad, er y bydd fel arfer yn eich cyfeirio at arbenigwr mewn cyflyrau'r croen (dermatolegydd0 neu lawfeddyg plastig arbenigol os yw'n meddwl fod melanoma gennych.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd man geni amheus yn cael ei dynnu trwy lawdriniaeth a'i astudio i weld a yw'n ganseraidd. Gelwir hyn yn fiopsi.

Efallai y cewch hyn a elwir yn fiopsi o'r nodau lymff sentinel hefyd i wirio a yw melanoma wedi lledaenu i rywle arall yn eich corff.

Darllenwch fwy am gwneud diagnosis o felanoma.

Sut bydd melanoma'n cael ei drin?

Y brif driniaeth ar gyfer melanoma yw llawdriniaeth, er y bydd eich triniaeth yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os gwneir diagnosis o felanoma a'i drin yn gynnar, mae llawdriniaeth yn llwyddiannus fel arfer, er y gall fod angen gofal dilynol arnoch chi i atal melanoma rhag digwydd eto.

Os nad oes diagnosis o felanoma'n cael ei wneud tan yn hwyrach, bydd triniaeth yn cael ei defnyddio'n bennaf i arafu lledaeniad y canser a lleihau symptomau. Bydd hyn yn cynnwys meddyginiaethau fel arfer, fel cemotherapi.

Darllenwch fwy am trin melanoma.

Pwy sy'n cael eu heffeithio

Mae melanoma'n gymharol brin, ond mae'n dod yn fwy cyffredin. Ar hyn o bryd mae diagnosis yn cael ei wneud o bron i 13,000 o achosion newydd bob blwyddyn yn y DU.

Melanoma yw un o'r canserau mwyaf cyffredin ymhlith pobl 15-34 oed, ac mae hefyd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau o ganser y croen. Bydd dros 2,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn y DU oherwydd melanoma.

Melanoma gwrthdroadol

Os ydych wedi cael melanoma yn y gorffennol, mae siawns y gall ddychwelyd. Mae'r risg hon yn fwy os oedd eich canser blaenorol wedi lledaenu ac yn ddifrifol.

Os bydd eich tîm canser yn teimlo bod risg sylweddol y bydd eich melanoma'n dychwelyd, mae'n debyg y bydd angen archwiliadau rheolaidd arnoch i fonitro'ch iechyd. Cewch eich dysgu i archwilio'ch hun hefyd am unrhyw diwmorau ar eich croen.

A ellir osgoi melanoma?

Nid oes modd osgoi melanoma bob amser, ond gallwch leihau eich siawns o ddatblygu'r cyflwr drwy osgoi cael eich amlygu'n ormodol i olau uwchfioled.

Gallwch helpu i amddiffyn eich hun rhag niwed haul trwy ddefnyddio eli haul a gwisgo'n synhwyrol yn yr haul.

Dylech osgoi gwelyau haul a lampau haul hefyd.

Gall gwirio'ch mannau geni a brychni yn rheolaidd helpu i arwain at ddiagnosis cynnar a chynyddu eich siawns o driniaeth lwyddiannus.

Darllenwch fwy am atal melanoma.

Symptomau

Yr arwydd cyntaf o felanoma yn aml yw ymddangosiad man geni newydd, neu newid yng ngolwg man geni sydd eisoes yn bodoli.

Mae mannau geni normal fel arfer yn unlliw, yn grwn neu'n hirgrwn, ac nid ydynt yn fwy na 6mm (1/4 modfedd) mewn diamedr. Mae melanomau yn fwy tebygol o fod yn afreolaidd o ran siâp, bydd mwy nag un lliw iddynt, ac yn aml maent yn fwy na 6mm (1/4 modfedd) mewn diamedr. Gall melanoma hefyd gosi a gall waedu'n achlysurol.

Ffordd dda o ddweud y gwahaniaeth rhwng man geni normal a melanoma yw trwy ddefnyddio'r rhestr wirio ABCDE;

  • A yw anghymesurol (asymmetrical) - mae gan felanomau ddau hanner gwahanol iawn ac mae eu siâp yn afreolaidd.
  • B yw border (afreolaidd) (border) - yn wahanol i fan geni normal, bydd gan y melanomau forder rhiciog neu fylchog.
  • C yw dau liw neu fwy (colours) - bydd melanomau yn gyfuniad o ddau liw neu fwy.
  • D yw diamedr (mawr) (diameter) - yn wahanol i'r rhan fwyaf o fannau geni, mae melanomau yn fwy na 6mm (1/4 modfedd) mewn diamedr.
  • E yw  helaethiad neu ddatblygiad - mae man geni sy'n newid o ran nodweddion a maint dros amser yn fwy tebygol o fod yn felanoma.

Gall melanomau ymddangos yn unrhyw le ar eich corff, ond y cefn, y coesau, y breichiau a'r wyneb yw'r safleoedd mwyaf cyffredin. Weithiau, gallant ddatblygu o dan ewin.

Os ydych yn pryderu am un o'ch mannau geni, ewch i weld eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl.

Achosion

Nid oes neb yn gwybod yn union beth sy'n achosi melanoma, er bod cysylltiad agos rhwng y rhan fwyaf o achosion ag effaith golau uwchfioled (UV) ar y croen.

Beth yw canser?

Mae'r corff yn cynnwys miliynau o fathau o gelloedd gwahanol. Bydd canser yn digwydd pan fydd rhai o'r celloedd yn cynyddu mewn ffordd annormal. Pan fydd canser yn effeithio ar organau a meinweoedd solet, mae'n achosi tyfiant a elwir yn diwmor i ffurfio. Mae canser yn gallu digwydd yn unrhyw ran o'r corff.

Nid yw'n glir pam fydd y celloedd yn cynyddu'n annormal weithiau.

Sut fydd canser yn lledaenu?

O'i adael heb ei drin, gall canser dyfu'n gyflym a lledaenu, naill ai yn y croen neu'r gwaed, neu i rannau eraill o'r corff. Bydd hyn yn digwydd drwy'r system lymffatig fel arfer.

Mae'r system lymffatig yn gyfres o chwarennau sydd wedi'u lledaenu drwy eich corff ac sydd wedi'u cysylltu ynghyd mewn modd tebyg i system cylchrediad eich gwaed. Mae'r chwarennau lymff yn cynhyrchu llawer o'r celloedd sydd eu hangen ar eich system imiwnedd.

Os yw'r canser yn cyrraedd eich system lymffatig, gall ledaenu i unrhyw ran arall o'ch corff, gan gynnwys eich esgyrn, eich gwaed a'ch organau.

Melanomau

Yn y rhan fwyaf o achosion, credir bod melanomau yn cael eu hachosi gan amlygu eich croen yn ormodol i olau'r haul. Mae golau'r haul yn cynnwys golau uwchfioled (UV) sy'n gallu effeithio ar y croen.

Mae dau brif fath o UV - uwchfioled A (UVA) ac uwchfioled B (UVB). Mae UVA ac UVB yn niweidio'r croen dros amser, gan ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd canserau'r croen (gan gynnwys melanoma) yn datblygu.

Gall ffynonellau golau artiffisial, fel lampau haul a gwelyau haul, gynyddu'ch risg o ddatblygu canser y croen melanoma.

Fodd bynnag, nid yw pob melanoma'n gysylltiedig ag amlygu eich croen i olau UV a gallant ymddangos ar fannau ar y croen sydd prin yn cael eu hamlygu i olau.

Risg gynyddol

Mae ffactorau sy'n cynyddu eich risg o ddatblygu melanoma yn cynnwys:

  • bod â chroen golau sy'n tueddu llosgi ac nad yw'n cael lliw haul yn hawdd
  • os oes aelod o'r teulu wedi cael melanoma
  • bod â gwallt coch, neu felyn
  • bod â llygaid glas
  • oedran hyn
  • bod â nifer fawr o fannau geni
  • bod â nifer fawr o frychni
  • bod â chyflwr sy'n llethu'ch system imiwnedd, fel HIV
  • cymryd meddyginiaethau sy'n llethu'ch system imiwnedd (cyffuriau imiwnolethiad), sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin ar ôl trawsblaniadau organau

Gall pob un o'r ffactorau risg uchod wneud eich croen yn fwy sensitif i effeithiau'r haul.

Diagnosis

Bydd diagnosis o felanoma yn dechrau fel arfer gydag ymweliad â'ch meddyg teulu a fydd yn archwilio'ch croen, ac yn penderfynu a fydd angen i chi gael mwy o asesu gan arbenigwr.

Bydd rhai meddygon teulu'n tynnu ffotograffau digidol o fannau geni amheus, fel y gallant eu hanfon drwy e-bost at arbenigwr i'w hasesu.

Biopsi

Os bydd eich meddyg teulu'n penderfynu y gallai man geni amheus yr olwg fod yn ganlyniad melanoma, byddwch yn cael eich cyfeirio at arbenigwr y croen (dermatolegydd) neu lawfeddyg plastig arbenigol i gael profion pellach.

Efallai y bydd y dermatolegydd neu'r llawfeddyg plastig yn gwneud biopsi. Gweithdrefn lawfeddygol fach yw hon lle bydd man geni amheus yn cael ei dynnu oddi ar eich croen a'i astudio dan ficrosgop. Bydd hyn yn dangos a yw'r man geni'n ganseraidd.

Bydd biopsi'n cael ei wneud o dan anesthetig lleol fel arfer. Bydd y rhan o amgylch y man geni yn cael ei fferru ac ni fyddwch yn teimlo unrhyw boen.

Os bydd canser  yn cael ei gadarnhau, bydd angen llawdriniaeth arall arnoch fel arfer, yn cael ei chynnal gan lawfeddyg plastig yn fwyaf aml, i dynnu rhan fwy o'r croen. 

Profion pellach

Os oes pryder y gallai'r canser fod wedi lledaenu i mewn i organau eraill, eich esgyrn neu eich llif gwaed, bydd profion pellach yn cael eu cynnal.

Biopsi o'r nodau lymff sentinel

Os bydd melanoma'n lledaenu, fel arfer bydd yn dechrau lledaenu mewn ffordd y byddech yn disgwyl drwy sianelau yn y croen (a elwir yn lymffatigau) i'r grwp agosaf o chwarennau (a elwir yn nodau lymff).

Y rhain yw'r un chwarennau sy'n chwyddo yn eich gwddf pan fydd gennych annwyd neu ddolur gwddf, ond maent i'w cael bob man yn y corff. Maent yn rhan o system imiwnedd y corff, ac yn gweithio fel rhyw fath o arhosfa ar gyfer hylif yn y croen wrth iddo gylchredeg yn araf o amgylch y corff.

Gall meintiau microsgopig o felanoma ledaenu drwy'r lymffatigau i'r nodau lymff. Bydd melanoma ar y fraich yn lledaenu'n amlaf i'r nodau lymff yn y gesail, tra bydd melanoma ar y goes yn lledaenu'n amlaf i'r chwarennau yn y forddwyd.

Mae biopsi o'r nodau lymff sentinel yn brawf i bennu a yw'n bosibl fod meintiau microsgopig o felanoma (llai na fyddai'n dangos ar belydr-X neu sgan) eisoes wedi lledaenu i'r nodau lymff. Bydd yn cael ei wneud gan lawfeddyg plastig arbenigol fel arfer.

Bydd y llawfeddyg plastig yn chwistrellu cyfuniad o lifyn glas a chemegyn ymbelydrol gwan o amgylch eich craith. Fel arfer gwneir hyn ychydig cyn bod y darn ehangach o'r croen yn cael ei dynnu. Bydd y llifyn hwn a'r ymbelydredd yn dilyn yr un sianelau yn y croen ag unrhyw felanoma, a'r nod lymff cyntaf y byddant yn ei gyrraedd fyddai, yn rhesymegol, y nod lymff cyntaf y byddai unrhyw ganser yn ei gyrraedd - y nod lymff "sentinel".

Gan ddefnyddio'r ymbelydredd yn gyntaf ac yna'r llifyn glas, gall y llawfeddyg leoli a thynnu'r nod (neu weithiau nodau) sentinel, a gadael yr holl nodau eraill yn gyfan. Bydd y nod yn cael ei roi i batholegydd wedyn, a gofynnir iddo ei archwilio er mwyn gallu dweud a oes neu nad oes un sbecyn microsgopig o felanoma (gall y broses hon gymryd rhai wythnosau).

Os yw'r nod lymff sentinel yn glir o felanoma, mae'n annhebygol eithriadol (er nad yn amhosibl) y bydd unrhyw nodau lymff eraill wedi'u heffeithio. Mae hyn yn galonogol, gan ei bod hi'n fwy tebygol o lawer fod eu melanoma wedi lledaenu i fannau eraill mewn cleifion y mae eu melanoma wedi lledaenu i'r nodau lymff eraill. 

Os yw'r nod lymff sentinel yn cynnwys melanoma, mae risg o ryw 20% y bydd o leiaf un nod lymff arall yn yr un grwp yn cynnwys melanoma. O dan yr amgylchiadau hyn, cewch eich argymell fel arfer i gael llawdriniaeth fwy o lawer er mwyn tynnu'r holl nodau lymff eraill sydd ar ôl yn y grwp yr effeithiwyd arno.

Caiff hyn ei argymell oherwydd nid yw cleifion yr effeithiwyd ar eu nodau lymff ac y gadewir iddynt dyfu yn gwneud gystal â'r rhai y mae eu nodau lymff yn cael eu tynnu yn gynnar. Mae'r llawdriniaeth fwy hon yn cael ei galw'n ddyraniad nodau lymff cyflawn yn aml, neu lymffadenectomi cyflawn.

Mae profion eraill y gallwch eu cael yn cynnwys:

Eisiau gwybod rhagor?

Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain: Diagnosis and staging (PDF, 98Kb).

Cancer Research UK: Melanoma tests.

 

Triniaeth

Llawdriniaeth yw'r brif driniaeth ar gyfer melanoma, er y bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol yn aml.

Os oes gennych felanoma, gallech weld un neu nifer o'r gweithwyr proffesiynol canlynol sy'n gweithio fel rhan o dîm:

  • dermatolegydd (arbenigwr y croen)
  • llawfeddyg plastig (llawfeddyg sy'n arbenigo mewn problemau'r croen)
  • oncolegydd clinigol (meddyg canser sy'n arbenigo mewn defnyddio radiotherapi)
  • oncolegydd meddygol (meddyg canser sy'n arbenigo mewn defnyddio triniaethau cyffuriau)
  • nyrs arbenigol

Mae aelodau eraill y tîm yn cynnwys:

  • patholegydd (sy'n astudio samplau o dan y microsgop i wneud diagnosis o ganser)
  • radiolegydd (sy'n darllen ac yn dehongli pelydrau-X a sganiau)

Mae'r tîm hwn o arbenigwyr, a elwir yn dîm amlddisgyblaethol neu'n MDT, yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r driniaeth a'r gofal gorau.

Wrth eich helpu i benderfynu ar eich triniaeth, bydd y tîm yn ystyried:

  • y math o ganser sydd gennych
  • ym mha gyfnod y mae eich canser (pa mor fawr ydyw a pha mor bell mae wedi lledaenu)
  • eich iechyd cyffredinol

Bydd eich tîm canser yn argymell yr hyn y credant yw'r dewis triniaeth gorau, ond chi fydd yn penderfynu'n derfynol.

Cyn mynd i'r ysbyty i drafod eich dewisiadau o ran triniaeth, mae'n bosibl y bydd ysgrifennu rhestr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn i'r arbenigwr yn ddefnyddiol i chi. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwch eisiau cael gwybod beth yw manteision ac anfanteision triniaethau penodol.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi cynhyrchu canllawiau gofal iechyd am wasanaethau'r GIG ar gyfer canser y croen. Mae'r arweiniad hwn yn amlinellu prif argymhellion NICE o ran sut ddylai pobl â melanoma gael eu trin dros y blynyddoedd i ddod.

NICE: Healthcare services for skin tumours including melanoma (PDF, 236Kb).

Gosod melanoma mewn cyfnodau

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio system cyfnodau i ddisgrifio pa mor bell y mae melanoma wedi tyfu i mewn i'r croen (y trwch) a ph'un a yw wedi lledaenu. Bydd y math o driniaeth y byddwch yn ei derbyn yn dibynnu ar ba gyfnod y mae'r melanoma wedi'i gyrraedd.

Gellir disgrifio cyfnodau melanoma fel hyn:

  • Cyfnod 0 - mae'r melanoma ar wyneb y croen.
  • Cyfnod 1A - mae'r melanoma yn llai nag 1mm o drwch.
  • Cyfnod 1B - mae'r melanoma yn 1-2mm o drwch neu mae'r melanoma'n llai nag 1mm o drwch ac mae wyneb y croen wedi torri (wedi briwio).
  • Cyfnod 2A - mae'r melanoma'n 2-4mm o drwch neu mae'r melanoma'n 1-2mm o drwch ac mae wedi briwio.
  • Cyfnod 2B - mae'r melanoma'n fwy trwchus na 4mm neu mae'r melanoma yn 2-4mm o drwch ac mae wedi briwio.
  • Cyfnod 2C - mae'r melanoma'n fwy trwchus na 4mm ac mae wedi briwio.
  • Cyfnod 3A - mae'r melanoma wedi lledaenu i un i dri nod lymff cyfagos ond nid ydynt wedi chwyddo. Nid yw'r melanoma wedi briwio ac nid yw wedi lledaenu ymhellach.
  • Cyfnod 3B - mae'r melanoma wedi briwio ac mae wedi lledaenu i un i dri nod lymff cyfagos ond nid ydynt wedi chwyddo, neu nid yw'r melanoma wedi briwio ac mae wedi lledaenu i un i dri nod lymff cyfagos ac maent wedi chwyddo, neu mae'r melanoma wedi lledaenu i rannau bach o groen neu i sianelau lymffatig ond nid i nodau lymff cyfagos.
  • Cyfnod 3C - mae'r melanoma wedi briwio ac mae wedi lledaenu i un i dri o nodau lymff cyfagos ac maent wedi chwyddo, neu mae'r melanoma wedi lledaenu i bedwar neu fwy o nodau lymff cyfagos.
  • Cyfnod 4 - mae'r celloedd melanoma wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff, fel yr ysgyfaint, neu'r ymennydd, neu rannau eraill o'r croen.

Eisiau gwybod mwy?

Melanoma cyfnod 1

Bydd trin melanoma cyfnod 1 yn cynnwys tynnu'r melanoma trwy lawdriniaeth, yn ogystal â rhan fach o groen o'i amgylch. Trychiad llawfeddygol yw'r enw ar hyn a bydd yn cael ei wneud gan lawfeddyg plastig fel arfer.

Os yw trychiad llawfeddygol yn debygol o adael craith sylweddol, gellir ei wneud ar y cyd ag impiad croen. Mae impiad croen yn cynnwys tynnu darn o groen iach, a dynnir fel arfer o ran o'ch corff lle na ellir gweld creithio, fel eich cefn. Yna, caiff ei gysylltu, neu ei impio, i'r rhan sydd wedi'i heffeithio.

Bydd trychiad llawfeddygol yn cael ei gynnal o dan anesthetig lleol fel arfer. Mae hyn yn golygu y byddwch yn effro, ond bydd y rhan o amgylch y melanoma'n cael ei fferru ac ni fyddwch yn teimlo unrhyw boen. Mewn rhai achosion, bydd anesthetig cyffredinol yn cael ei ddefnyddio, sy'n golygu y byddwch yn cysgu yn ystod y weithdrefn.

Pan fydd y melanoma wedi'i waredu, posibilrwydd bach sydd y bydd yn dychwelyd, ac ni ddylai fod angen unrhyw driniaeth bellach. Mae'n debyg y gofynnir i chi ddod i apwyntiadau dilynol ar ôl i chi gael eich rhyddhau o'r ysbyty.

Melanoma Cyfnod 2 a 3

Fel gyda melanomau cyfnod 1,  bydd unrhyw ran o'r croen yr effeithir arni yn cael ei thynnu ac efallai y gwneir impiad croen os bydd angen.

Os bydd y melanoma wedi lledaenu i nodau lymff cyfagos, efallai y bydd angen rhagor o lawdriniaeth arnoch i'w tynnu. Dyraniad bloc yw'r enw ar hyn, a bydd yn cael ei gynnal o dan anesthetig cyffredinol.

Er y bydd y llawfeddyg yn ceisio sicrhau bod gweddill eich system lymffatig yn gallu gweithredu fel arfer, mae risg y bydd tynnu nodau lymff yn amharu ar y system lymffatig, gan arwain at hylif yn cronni yn eich braich neu goes. Yr enw ar hyn yw  lymffedema.

Pan fydd y melanoma wedi'i dynnu, bydd angen apwyntiadau dilynol arnoch i weld sut ydych chi'n gwella ac i wylio am unrhyw arwydd o'r melanoma'n dychwelyd.

Efallai y cewch gynnig triniaeth i geisio atal y melanoma rhag dychwelyd. Triniaeth gynorthwyol yw'r enw ar hyn. Ar hyn o bryd nid oes rhyw lawer o dystiolaeth fod triniaeth gynorthwyol yn helpu i atal melanoma rhag dychwelyd. Fodd bynnag, mae treialon clinigol presennol yn edrych i mewn i hyn ac mae'n bosib y gofynnir i chi ymuno ag un ohonyn nhw. Mae'r treialon hyn yn ymchwilio i a ellid defnyddio triniaeth gyffuriau i leihau risg melanoma'n dychwelyd.

Melanoma Cyfnod 4

Os bydd melanoma malaen wedi cyrraedd ei gyfnod mwyaf datblygedig, neu os yw'r melanoma wedi lledaenu i ran arall o'ch corff (metastatis) neu mae wedi dychwelyd mewn rhan arall o'ch corff ar ôl triniaeth (canser gwrthdroadol), efallai na fydd modd ei iacháu.

Mae triniaeth ar gael ac yn cael ei rhoi yn y gobaith y gall arafu tyfiant y canser, lleihau unrhyw symptomau y gall fod gennych, ac o bosibl ymestyn eich disgwyliad oes.

Efallai y byddwch yn gallu cael llawdriniaeth i dynnu unrhyw melanomau eraill sydd wedi digwydd i ffwrdd o'r safle gwreiddiol.

Efallai y byddwch yn gallu cael triniaethau eraill hefyd i helpu gyda symptomau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • radiotherapi
  • triniaethau cyffuriau

Radiotherapi

Gellir defnyddio radiotherapi ar ôl llawdriniaeth i dynnu'ch nodau lymff ac mae'n cael ei ddefnyddio hefyd i leddfu symptomau melanoma datblygedig.

Mae radiotherapi'n cynnwys defnyddio dosys rheoledig o ymbelydredd i ladd celloedd canseraidd. Caiff ei roi yn yr ysbyty fel cyfres o sesiynau dyddiol 10-15 munud gyda chyfnod o orffwys dros y penwythnos.

Mae sgîl-effeithiau radiotherapi yn cynnwys:

  • blinder
  • cyfog
  • colli archwaeth bwyd
  • colli gwallt
  • croen dolurus

Gellir atal llawer o sgîl-effeithiau neu gellir eu rheoli gyda meddyginiaethau y gall eich meddyg eu rhoi i chi ar bresgripsiwn, felly rhowch wybod iddo am unrhyw sgîl-effeithiau fydd gennych. Ar ôl i'r driniaeth orffen, dylai sgîl-effeithiau radiotherapi leihau'n raddol.

Triniaeth cyffuriau

Cemotherapi

Mae cemotherapi'n cynnwys defnyddio cyffuriau gwrth-ganser (cytotocsig) i ladd y canser. Fel arfer mae cemotherapi'n cael ei ddefnyddio i drin melanoma sydd wedi lledaenu i rannau o'r corff tu hwnt i'r safle gwreiddiol. Mae'n cael ei roi'n bennaf i leddfu symptomau melanoma datblygedig.

Bydd nifer o gyffuriau cemotherapi gwahanol yn cael eu defnyddio i drin melanoma ac weithiau bydd cyfuniad ohonynt yn cael eu rhoi. Y cyffuriau sy'n cael eu defnyddio amlaf ar gyfer melanoma yw dacarbazine a temozolomide. Fodd bynnag, gallai llawer o fathau gwahanol o gyffuriau gael eu defnyddio. Gall eich arbenigwr drafod pa gyffuriau yw'r rhai gorau i chi.

Mae cemotherapi'n cael ei roi fel triniaeth allgleifion fel arfer, sy'n golygu na fydd rhaid i chi aros dros nos yn yr ysbyty. Bydd dacarbazine yn cael ei roi drwy ddiferiad yn syth i mewn i'r gwaed drwy wythïen, a bydd temozolomide yn cael ei roi fel tabledi. Mae'n debyg y byddech yn cael sesiynau cemotherapi unwaith bob tair i bedair wythnos, gyda bylchau rhwng triniaethau er mwyn rhoi amser i'ch corff a'ch gwaed wella.

Mae prif  sgîl-effeithiau cemotherapi yn cael eu hachosi gan eu dylanwad ar weddill y corff. Mae sgîl-effeithiau'n cynnwys heintio, cyfog a chwydu, blinder a cheg dolurus. Gellir atal neu reoli llawer o sgîl-effeithiau gyda meddyginiaethau y gall eich meddyg roi i chi ar bresgripsiwn.

Imiwnotherapi

Mae imiwnotherapi'n defnyddio cyffuriau (a geir yn aml o sylweddau sy'n digwydd yn naturiol yn y corff) sy'n annog system imiwnedd eich corff i weithio yn erbyn y melanoma. Dwy driniaeth o'r fath sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd i drin melanoma yw interferon-alpha ac interleukin-2. Bydd y ddau'n cael eu rhoi trwy bigiad (i mewn i'r gwaed, o dan y croen neu i lympiau o felanoma). Mae sgîl-effeithiau'n cynnwys symptomau tebyg i'r ffliw, fel rhynnu, tymheredd uchel, poen yn y cymalau a gorflinder.

Brechlynnau

Mae ymchwil yn mynd ymlaen i gynhyrchu brechlyn ar gyfer melanoma, naill ai i drin melanoma datblygedig neu i'w ddefnyddio ar ôl llawdriniaeth mewn cleifion sydd â risg uchel y bydd y melanoma'n dychwelyd. Diben brechlynnau yw rhoi ffocws i system imiwnedd y corff fel ei bod yn adnabod y melanoma ac yn gallu gweithio yn ei erbyn. Bydd brechlynnau'n cael eu rhoi fel pigiad o dan y croen fel arfer, a rhaid rhoi'r pigiad eto bob ychydig wythnosau, dros gyfnod o fisoedd yn aml.

Gan fod angen gwneud mwy o ymchwil i frechlynnau, dim ond fel rhan o dreial clinigol fyddech chi'n cael brechlyn.

Gwrthgyrff monoclonaidd

Mae ein systemau imiwnedd yn gwneud gwrthgyrff drwy'r amser, fel ffordd o reoli heintiau fel arfer. Sylweddau ydynt sy'n adnabod rhywbeth nad yw'n perthyn yn y corff ac yn helpu ei ddinistrio. Gellir cynhyrchu gwrthgyrff yn y labordy, a gellir gwneud i'r rhain adnabod targedau penodol a'u dilyn, naill ai yn y canser neu yn rhannau penodol o'r corff.

Fel arfer gelwir gwrthgyrff sy'n cael eu cynhyrchu yn y labordy yn wrthgyrff monoclonaidd. Dau fath o wrthgyrff monoclonaidd sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd ar gyfer trin melanoma yw bevacizumab ac ipilimumab.

Mae bevacizumab wedi'i drwyddedu ar hyn o bryd fel triniaeth ar gyfer canser datblygedig y coluddyn. Mae ymchwil yn dal i fynd ymlaen i weld a all leihau risg melanoma'n dychwelyd ar ôl iddo gael ei dynnu oddi ar y croen neu'r nodau lymff. Gall eich meddyg roi cyngor i chi ynghylch a fyddech yn gymwys i fod yn rhan o'r treial clinigol sy'n archwilio hyn.

Mae ipilimumab yn wrthgorff monoclonaidd nad yw wedi'i drwyddedu i'w ddefnyddio yn y DU. Mae'n gweithio fel math o gyflymydd i'r system imiwnedd, ac yn galluogi'r corff i weithio yn erbyn pob mathau o gyflyrau, gan gynnwys canser. Mae ymchwil wedi canfod y gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer trin melanoma.

Atalyddion signalu

Cyffuriau yw atalyddion signalu sy'n gweithio drwy darfu ar y negeseuon (signalau) y bydd canser yn eu defnyddio i gydlynu ei dyfiant. Mae cannoedd o'r signalau hyn, ac mae'n anodd gwybod pa rai y mae angen eu blocio. Mae enwau technegol byr i'r rhan fwyaf o'r signalau hyn. Dau sydd o ddiddordeb cyfredol mewn melanoma yw BRAF a MEK.

Mae cyffuriau ar gael sy'n gallu amharu ar y signalau hyn, ond dim ond fel rhan o dreialon clinigol maent ar gael ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd NICE argymhelliad drafft yn erbyn defnyddio atalydd signalu o'r enw vemurafenib am fod ei gost yn gorbwyso'i effeithiolrwydd. Fodd bynnag, mae tystiolaeth newydd am y cyffur yn cael ei harchwilio ar hyn o bryd cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

Penderfynu yn erbyn triniaeth ar gyfer melanomau Cyfnod 4

Gan y gall llawer o driniaethau achosi sgîl-effeithiau annymunol sy'n gallu effeithio ar ansawdd eich bywyd, efallai y penderfynwch beidio â chael triniaeth, yn enwedig os bydd y driniaeth yn annhebygol o ymestyn eich disgwyliad oes rhyw lawer neu os nad oes gennych symptomau sy'n achosi poen neu anesmwythder i chi.

Eich penderfyniad chi fydd hyn, a bydd eich tîm gofal iechyd yn ei barchu. Os penderfynwch beidio â chael triniaeth, trefnir bod cyffuriau lleddfu poen a gofal nyrsio ar gael i chi fel y bydd eu hangen. Yr enw ar hyn yw gofal lliniarol.

Treialon clinigol

Mae pob triniaeth newydd ar gyfer canser (ac ar gyfer afiechydon eraill) yn cael ei rhoi i gleifion gyntaf mewn treial clinigol. Mae treial clinigol neu astudiaeth glinigol yn ffordd drwyadl tu hwnt o brofi cyffur mewn pobl go iawn, a bydd cleifion yn cael eu monitro am effaith y cyffur ar y canser ac am unrhyw sgîl-effeithiau. Mae llawer o gleifion sydd â melanoma yn cael cynnig bod yn rhan o dreialon clinigol, ond mae rhai pobl yn amheus o'r broses.

Mae nifer o bethau allweddol am dreialon clinigol i wybod amdanynt:

  • Yn gyffredinol, mae cleifion mewn treialon clinigol yn gwneud yn well na'r rhai sydd ar driniaeth arferol, hyd yn oed pan fyddant yn cael cyffur a fyddai'n cael ei roi'n arferol.
  • Mae pob treial clinigol yn cael ei reoleiddio'n fanwl iawn.
  • Bydd pob triniaeth newydd yn dod ar gael gyntaf drwy dreialon clinigol.
  • Hyd yn oed pan fydd cyffur newydd yn methu cynnig unrhyw fuddion dros driniaeth bresennol, mae'r wybodaeth a gawn o'r treial yn werthfawr i gleifion y dyfodol.

Os gofynnir i chi gymryd rhan mewn treial, rhoddir taflen wybodaeth i chi, ac os ydych am gymryd rhan, gofynnir i chi lofnodi ffurflen gydsynio. Gallwch wrthod neu dynnu allan o dreial clinigol heb fod hynny'n effeithio ar eich gofal.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/07/2023 12:08:11