Cyflwyniad
Mae brech yr ieir yn gyffredin ac yn effeithio ar blant yn bennaf, er bod pobl o unrhyw oed yn gallu ei dal. Fel arfer, mae'n gwella ar ei phen ei hun o fewn wythnos heb fod angen gweld Meddyg Teulu.
Gwirio ai brech yr ieir ydyw
- Mae brech yr ieir yn dechrau gyda smotiau coch. Gallan nhw ymddangos unrhyw le ar y corff.
- Bydd y smotiau'n llenwi â hylif ac yn troi'n bothelli. Gallai'r pothelli fyrstio. Gallen nhw ledaenu neu aros mewn ardal fach.
- Bydd crachen yn ffurfio dros y smotiau. Gallai mwy o bothelli ymddangos tra bod crachen yn ffurfio dros eraill.
Symptomau eraill
Gallech gael symptomau cyn neu ar ôl y smotiau, gan gynnwys:
- tymheredd uchel uwchlaw 38C
- poenau, a theimlo'n anhwylus yn gyffredinol
- dim chwant bwyd
Mae brech yr ieir yn goslyd iawn ac yn gwneud i blant deimlo'n ddiflas, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw lawer o smotiau. Mae brech yr ieir yn waeth o lawer mewn oedolion, fel arfer.
Mae'n bosibl cael brech yr ieir fwy nag unwaith, er bod hyn yn anarferol.
Os nad ydych chi'n siwr ai brech yr ieir ydyw
Gwiriwch fathau eraill o frechau plant.
Sut i drin brech yr ieir gartref
Bydd angen i chi aros i ffwrdd o'r feithrinfa, yr ysgol neu'r gwaith hyd nes y bydd crach wedi ffurfio ar bob un o'r smotiau.
Bydd hyn fel arfer yn digwydd 5 niwrnod ar ôl i'r smotiau ymddangos gyntaf.
Gwnewch y canlynol:
- yfwch ddigon o hylifau (rhowch gynnig ar lolis iâ os nad yw'ch plentyn yn yfed) i osgoi dadhydradu
- cymerwch barasetamol i helpu i leddfu poen ac anghysur
- rhowch sanau ar ddwylo'ch plentyn yn y nos i'w atal rhag crafu
- torrwch ewinedd eich plentyn
- defnyddiwch hufenau neu geliau oeri o'ch fferyllfa
- siaradwch â'ch fferyllydd ynglyn â defnyddio meddyginiaeth wrth-histamin i helpu â'r cosi
- ymolchwch mewn dwr oerllyd a sychwch eich croen yn ysgafn (peidiwch â'i rwbio)
- gwisgwch ddillad llac
- gwiriwch â'ch cwmni hedfan os ydych yn mynd ar eich gwyliau - ni fydd llawer ohonyn nhw'n gadael i chi hedfan os oes gennych chi frech yr ieir
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- defnyddio ibuprofen oni bai bod eich meddyg wedi'ch cynghori i wneud hynny, oherwydd gallai achosi heintiau croen difrifol
- rhoi aspirin i blant iau nag 16 oed
- dod i gysylltiad â menywod beichiog, babanod newydd-anedig a phobl sydd â system imiwnedd wannach, oherwydd gall fod yn beryglus iddyn nhw
Mae brech yr ieir yn un o’r cyflyrau a gwmpesir gan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin sy’n wasanaeth GIG y gall cleifion gael mynediad ato i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim ac sydd ar gael mewn 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma.
Chwiliwch am fferyllfa yn eich ardal chi sy'n cynnig y gwasanaeth.
Siaradwch â Meddyg Teulu:
- os nad ydych yn siwr ai brech yr ieir ydyw
- os yw'r croen o amgylch y pothelli'n goch, yn boeth neu'n boenus (arwyddion haint)
- os yw'ch plentyn wedi dadhydradu
- os ydych yn pryderu am eich plentyn neu os yw'n gwaethygu
Dywedwch wrth y derbynnydd eich bod chi'n amau brech yr ieir cyn mynd i mewn.
Fe allai argymell amser arbennig ar gyfer apwyntiad os yw cleifion eraill mewn perygl.
Yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, cysylltwch â'ch meddygfa. Gyda'r nos ac ar benwythnosau gallwch ffonio 111 am ddim.
- os ydych chi'n oedolyn ac mae gennych chi frech yr ieir
- os ydych chi'n feichiog, nid ydych wedi cael brech yr ieir o'r blaen ac rydych wedi bod yn agos i rywun sydd â'r cyflwr
- os oes gennych system imiwnedd wannach ac rydych wedi bod yn agos i rywun sydd â brech yr ieir
- os ydych chi'n credu bod gan eich baban newydd-anedig frech yr ieir
Gall fod angen meddyginiaeth arnoch i atal cymhlethdodau. Bydd angen i chi ei chymryd o fewn 24 awr o'r adeg y mae'r smotiau'n ymddangos.
Mae'n rhwydd dal brech yr ieir
Gallwch ddal brech yr ieir trwy fod yn yr un ystafell â rhywun sydd â'r cyflwr.
Mae hefyd yn cael ei lledaenu trwy gyffwrdd â dillad neu ddillad gwely sydd â hylif o'r pothelli arnynt.
Am ba mor hir y mae brech yr ieir yn heintus
Mae brech yr ieir yn heintus o 2 ddiwrnod cyn i'r smotiau ymddangos hyd nes y bydd cramen wedi ffurfio drostyn nhw, sef 5 niwrnod ar ôl iddyn nhw ymddangos gyntaf, fel arfer.
Pa mor fuan y byddwch yn cael symptomau ar ôl dod i gysylltiad â brech yr ieir
Mae'n cymryd 1 i 3 wythnos o'r adeg y daethoch i gysylltiad â brech yr ieir i'r smotiau ddechrau ymddangos.
Brech yr ieir yn ystod beichiogrwydd
Mae'n anghyffredin cael brech yr ieir pan fyddwch yn feichiog, ac mae'r tebygolrwydd y bydd yn achosi cymhlethdodau yn isel.
Os byddwch yn cael brech yr ieir pan fyddwch yn feichiog, mae perygl bach y bydd eich baban yn sâl iawn pan gaiff ei eni.
Siaradwch â'ch Meddyg Teulu os nad ydych wedi cael brech yr ieir ac rydych wedi bod yn agos i rywun sydd â'r cyflwr.
Brechlyn brech yr ieir
Gallwch gael brechlyn brech yr ieir trwy'r GIG os oes perygl o niweidio rhywun sydd â system imiwnedd wannach.
Er enghraifft, gallai plentyn gael ei frechu os yw un o'i rieni'n cael cemotherapi.
Gallwch dalu am y brechlyn mewn rhai clinigau preifat neu glinigau teithio. Pris y brechlyn yw rhwng £120 a £200.
Yr eryr a brech yr ieir
Ni allwch ddal yr eryr oddi wrth rywun sydd â brech yr ieir.
Gallwch ddal brech yr ieir oddi wrth rywun sydd â'r eryr os nad ydych wedi cael brech yr ieir o'r blaen.
Pan fyddwch yn cael brech yr ieir, mae'r firws yn aros yn eich corff. Mae'n bosibl iddo gael ei sbarduno eto os yw'ch system imiwnedd yn isel ac achosi'r eryr.
Gall hyn fod oherwydd straen, cyflyrau penodol, neu driniaethau fel cemotherapi.