Cyflwyniad
Mae diabetes yn gyflwr gydol oes sy'n achosi i lefel siwgr gwaed unigolyn fynd yn rhy uchel.
Mae dau brif fath o diabetes:
- diabetes math 1 – lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar a dinistrio'r celloedd sy'n cynhyrchu inswlin
- diabetes math 2 – lle nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin, neu nid yw celloedd y corff yn adweithio i inswlin
Mae diabetes math 2 yn llawer mwy cyffredin na math 1. Yn y DU, mae gan tua 90% o'r holl oedolion sydd â diabetes fath 2.
Yn ystod beichiogrwydd, mae gan rai menywod lefelau mor uchel o glwcos yn y gwaed fel nad yw eu corff yn gallu cynhyrchu digon o inswlin i amsugno'r cyfan. Gelwir hyn yn diabetes yn ystod beichiogrwydd.
Fi a Fy Iechyd
Os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor, nod y cynllun hwn yw eich helpu chi a'ch gofalwr i ddarparu gwybodaeth glir i staff iechyd a gofal a all fod angen ymweld â'ch cartref mewn argyfwng. Gweler mwy o wybodaeth yma.
Cyn-diabetes
Mae gan lawer mwy o bobl lefelau siwgr yn y gwaed uwch na’r ystod arferol, ond heb fod yn ddigon uchel i gael diagnosis o ddiabetes.
Weithiau, gelwir hyn yn gyn-diabetes. Os yw lefel y siwgr yn eich gwaed yn uwch na'r ystod arferol, mae eich risg o ddatblygu diabetes llawn yn cynyddu.
Mae'n bwysig iawn bod diagnosis o ddiabetes yn cael ei roi mor gynnar â phosibl oherwydd bydd yn gwaethygu'n raddol os na chaiff ei drin.
Pryd y dylech fynd i weld meddyg
Ewch i weld eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl os byddwch chi'n cael prif symptomau diabetes, sy'n cynnwys:
- teimlo'n sychedig iawn
- troethi'n amlach na'r arfer, yn enwedig yn y nos
- teimlo'n flinedig iawn
- colli pwysau a cholli swmp cyhyrau
- cosi o gwmpas y pidyn neu'r wain, neu benodau aml o’r llindag
- toriadau neu glwyfau sy'n gwella'n araf
- golwg niwliog
Gall diabetes math 1 ddatblygu'n gyflym dros wythnosau neu hyd yn oed ddyddiau.
Mae gan lawer o bobl ddiabetes math 2 am flynyddoedd heb sylweddoli oherwydd bod y symptomau cynnar yn tueddu i fod yn rhai cyffredinol.
Achosion diabetes
Mae faint o siwgr sydd yn y gwaed yn cael ei reoli gan hormon o'r enw inswlin, sy'n cael ei gynhyrchu gan y pancreas (chwarren y tu ôl i'r stumog).
Pan fydd bwyd yn cael ei dreulio ac yn mynd i mewn i'ch llif gwaed, mae inswlin yn symud glwcos allan o'r gwaed ac i mewn i gelloedd, lle caiff ei dorri i lawr i gynhyrchu ynni.
Fodd bynnag, os oes gennych ddiabetes, nid yw eich corff yn gallu torri glwcos yn egni. Mae hyn oherwydd naill ai nid oes digon o inswlin i symud y glwcos neu nid yw'r inswlin a gynhyrchir yn gweithio'n iawn.
Nid oes unrhyw newidiadau i'ch ffordd o fyw y gallwch eu gwneud i ostwng eich risg o ddiabetes math 1.
Gallwch leihau'r risg o ddatblygu diabetes math 2 drwy fwyta'n iach, ymarfer corff rheolaidd a chynnal pwysau corff iach.
Byw gyda diabetes
Os cewch chi ddiagnosis o ddiabetes, bydd angen i chi fwyta’n iach, ymarfer corff yn rheolaidd a chynnal profion gwaed rheolaidd i sicrhau bod lefelau glwcos eich gwaed yn aros yn gytbwys.
Gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell pwysau iach BMI i wirio a yw eich pwysau’n iach.
Mae pobl sy'n cael diagnosis o ddiabetes math 1angen pigiadau inswlin rheolaidd am weddill eu hoes, hefyd.
Gan fod diabetes math 2 yn gyflwr graddol, efallai y bydd angen meddygaeth yn y pen draw, fel arfer ar ffurf tabledi.
Darllenwch am:
Diabetic retinopathy
Diabetes a'ch llygaid
Dylid gwahodd unrhyw un sydd â diabetes sy’n 12 oed neu hŷn i wirio eu llygaid am newidiadau oherwydd diabetes unwaith y flwyddyn.
Os oes gennych ddiabetes, mae eich llygaid mewn perygl o retinopathi diabetig, sef cyflwr a all arwain at golli golwg os nad yw'n cael ei drin.
Mae sgrinio, sy'n cynnwys rhoi diferion yn eich llygaid i weld cefn eich llygad yn well, a thynnu lluniau, yn ffordd o ganfod y cyflwr yn gynnar fel y gellir ei drin yn fwy effeithiol
Darllenwch fwy am sgrinio llygaid diabetig.
Mae'r sgrinio diabetig yn gwirio am newidiadau oherwydd diabetes yn unig. Mae cael diabetes yn golygu y gallech fod yn fwy tebygol o gael cyflyrau eraill y llygaid fel glawcoma neu cataractau, felly mae'n bwysig hefyd i chi gael archwiliad llygaid rheolaidd (a fydd yn rhad ac am ddim ar y GIG) gyda'ch optometrydd/optegydd lleol.
Dewch o hyd i optometrydd/optegydd yma