Cyflwyniad
Mae hepatitis A yn haint yr afu sy'n cael ei ledaenu yng ngharthion person heintiedig. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n ei gael yn gwella o fewn ychydig fisoedd.
Nid yw hepatitis A yn gyffredin yn y DU ond mae'n gyffredin mewn rhannau eraill o'r byd.
Sut allwch chi gael hepatitis A
Mae hepatitis A yn cael ei achosi gan firws sy'n lledaenu mewn carthion.
Mae'r haint yn fwy cyffredin mewn rhannau o Affrica, Asia, y Dwyrain Canol a Chanolbarth a De America.
Gallwch chi gael hepatitis A o:
- yfed dŵr aflan
- bwyta bwyd sydd wedi'i olchi neu ei dyfu mewn dŵr aflan
- bwyta bwyd sydd wedi'i drin gan berson heintiedig
- cyswllt corfforol agos â pherson heintiedig, gan gynnwys cael rhyw a rhannu nodwyddau i gymryd cyffuriau
Gallwch wirio risgiau gwlad rydych chi'n teithio iddi ar wefan TravelHealthPro
Sut i atal hepatitis A
Brechiad Hepatitis A
Brechu yw'r ffordd orau o atal hepatitis A.
Nid yw brechlynnau Hepatitis A yn cael eu cynnig fel mater o drefn yn y DU oherwydd bod y risg o gael eich heintio yn isel.
Dim ond os ydych mewn perygl mawr o ddal neu fynd yn ddifrifol wael o hepatitis A y bydd angen i chi gael brechlyn. Er enghraifft:
- rydych yn teithio i wlad lle mae hepatitis A yn gyffredin – efallai y bydd angen i chi dalu am frechlyn hepatitis A i deithio
- rydych wedi bod mewn cysylltiad corfforol agos yn ddiweddar â rhywun sydd â hepatitis A
- os oes gennych glefyd yr afu hirdymor
- mae gennych anhwylder ceulo gwaed, fel rhai pobl â hemoffilia
- rydych chi'n ddyn sy'n cael rhyw gyda dynion
- mae eich swydd yn eich rhoi mewn perygl o haint – er enghraifft, rydych yn weithiwr gofal iechyd neu’n weithiwr carthffosiaeth
- rydych wedi rhannu nodwyddau, chwistrelli neu offer arall ar gyfer chwistrellu cyffuriau
Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod angen brechlyn hepatitis A arnoch. Os yw eich swydd yn eich rhoi mewn perygl, dylai eich cyflogwr drefnu eich brechiad.
Os ydych yn teithio dramor, mynnwch gyngor gan glinig teithio, meddyg teulu, nyrs, neu fferyllydd cyn i chi fynd.
Ffyrdd eraill o leihau eich risg
Gallwch hefyd helpu i atal hepatitis A wrth deithio drwy:
- olchi'ch dwylo'n drylwyr cyn paratoi a bwyta bwyd
- yfed dŵr potel
- osgoi bwyta pysgod cregyn a ffrwythau a llysiau heb eu coginio
- defnyddio condom neu 'dam' wrth gael rhyw
Symptomau hepatitis A
Mae symptomau hepatitis A yn cynnwys:
- tymheredd uchel (twymyn)
- symptomau tebyg i ffliw, fel blinder, cur pen, a phoenau cyhyrau
- teimlo'n sâl neu fod yn sâl
- poen yn rhan uchaf eich bol
- dolur rhydd neu rwymedd
- carthion melyn golau neu lwyd golau
- wrin brown tywyll
- croen coslyd – efallai y bydd gennych frech wedi'i chodi hefyd (hives)
- croen a'r llygaid yn melynu (clefyd melyn) - efallai y bydd hyn yn anoddach i'w weld ar groen brown a du
Gall y rhan fwyaf o blant, a rhai oedolion, gael symptomau ysgafn neu ddim symptomau o gwbl.
Ymwelwch a meddyg teulu os:
Os oes gennych symptomau hepatitis A a:
- rydych chi wedi teithio'n ddiweddar i wlad lle mae hepatitis A yn gyffredin
- rydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â hepatitis A yn ddiweddar
- mae gennych chi anhwylder ceulo gwaed, fel hemoffilia
- rydych chi'n ddyn sy'n cael rhyw gyda dynion
- rydych chi wedi rhannu nodwyddau wrth gymryd cyffuriau
- mae eich swydd yn eich rhoi mewn perygl o gael haint
Dywedwch wrth y meddyg teulu eich bod chi'n meddwl y gallai fod gennych chi hepatitis A.
Gofynnwch am apwyntiad brys gyda meddyg teulu neu ceisiwch gymorth gan GIG 111 os:
Rydych chi'n meddwl y gallai fod gennych hepatitis A a:
- rydych chi'n feichiog
- rydych chi dros 60 oed
- mae gennych chi gyflwr yr afu
Triniaethau ar gyfer hepatitis A
Fel arfer, mae Hepatitis A yn diflannu ar ei ben ei hun o fewn 3 i 6 mis.
Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaethau i chi i helpu gyda'r symptomau, fel poenladdwyr neu feddyginiaethau i'ch atal rhag teimlo'n sâl neu'n cosi.
Efallai y bydd nifer fach o bobl â hepatitis A yn cael problemau gyda'r afu. Efallai y bydd angen profion gwaed arnoch i wirio bod eich afu yn gweithio'n iawn.
Pethau y gallwch chi eu gwneud os oes gennych chi hepatitis A
Mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud pan fydd gennych chi hepatitis A i helpu i leddfu'r symptomau, ac i atal heintio eraill.
Pa mor hir rydych chi'n heintus
Fel arfer, rydych chi'n heintus am naill ai:
- 7 diwrnod ar ôl i'r croen a'r llygaid ddechrau melynu (clefyd melyn)
- 7 diwrnod ar ôl i'ch symptomau ddechrau, os nad ydych chi wedi cael clefyd melyn
Gwnewch:
- gyfyngu ar gyswllt â phobl eraill am 7 diwrnod ar ôl i'ch symptomau ddechrau neu 7 diwrnod ar ôl i'r clefyd melyn ddechrau (dylai oedolion aros i ffwrdd o'r gwaith a dylai plant aros i ffwrdd o'r ysgol neu'r feithrinfa)
- gorffwys ac yfwch ddigon o hylifau
- gofynnwch i fferyllydd neu feddyg am boenladdwyr, gan gynnwys faint sy'n ddiogel i chi ei gymryd
- cadwch eich ystafell wedi'i hawyru'n dda, gwisgwch ddillad llac, ac osgoi baddonau a chawodydd poeth os ydych chi'n teimlo'n cosi
- golchwch eich dwylo'n drylwyr ar ôl mynd i'r toiled
Peidiwch a:
- peidiwch ag yfed alcohol
- peidiwch â pharatoi bwyd na diod i eraill
- peidiwch â chael rhyw heb gondom neu 'dam' nes nad ydych chi'n heintus mwyach
- peidiwch â rhannu nodwyddau ag eraill