Cyflwyniad
Mae IUD yn ddyfais fechan siâp T sydd wedi’i gwneud o blastig a chopr, sy’n cael ei ffitio yn eich croth gan feddyg neu nyrs.
Mae'n rhyddhau copr i'ch atal rhag beichiogi ac mae'n amddiffyn rhag beichiogi am rhwng 5 neu 10 mlynedd. Weithiau, "coil" neu "coil copr" yw'r enw arno
Yn fyr: ffeithiau am yr IUD
- Pan fydd wedi cael ei gosod yn gywir, mae'r IUD fwy na 99% yn effeithiol.
- Mae IUD yn gweithio cyn gynted ag y caiff ei gosod a bydd yn gweithio am 5 i 10 mlynedd, yn dibynnu ar y math.
- Gall gael ei gosod ar unrhyw adeg yn ystod cylchred y mislif, ar yr amod nad ydych chi'n feichiog.
- Gall meddyg neu nyrs hyfforddedig ei thynnu allan ar unrhyw adeg, yna mae'n bosibl beichiogi yn syth.
- Gall eich mislif fod yn drymach, yn hirach neu'n fwy poenus yn ystod y 3 i 6 mis cyntaf ar ôl gosod IUD. Gallech gael ychydig o smotiau gwaed neu waedu rhwng y mislif.
- Mae ychydig o risg dal haint ar ôl i'r ddyfais gael ei gosod.
- Mae ychydig o risg i'ch corff wthio'r IUD allan neu gall symud. Bydd eich meddyg neu'ch nyrs yn dangos i chi sut i wirio bod y ddyfais yn ei lle.
- Gall fod yn anghyfforddus pan gaiff yr IUD ei gosod, ond gallwch gymryd poenladdwyr wedi hynny, os bydd eu hangen arnoch.
- Efallai na fydd yn addas os ydych wedi cael heintiau yn y pelfis yn flaenorol.
- Nid yw'n amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), felly gall fod angen i chi ddefnyddio condom hefyd.
Sut mae'n gweithio
Mae'r IUD yn debyg i'r system fewngroth (IUS), ond yn hytrach na rhyddhau hormon progestogen, fel yr IUS, mae'r IUD yn rhyddhau copr i'r groth.
Mae'r copr yn newid y mwcws serfigol, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i sberm gyrraedd wy a goroesi. Hefyd, gall atal wy wedi'i ffrwythloni rhag mewnblannu'i hun.
Os ydych chi'n 40 oed neu'n hŷn pan gewch IUD, gall y ddyfais gael ei gadael yn ei lle hyd nes byddwch yn cyrraedd y menopos neu tan na fydd angen dulliau atal cenhedlu arnoch mwyach.
Gosod IUD
Gall IUD gael ei gosod ar unrhyw adeg yn ystod cylchred y mislif, ar yr amod nad ydych chi'n feichiog. Cewch eich amddiffyn rhag beichiogrwydd yn syth.
Cyn bod eich IUD yn cael ei gosod, bydd meddyg teulu neu nyrs yn archwilio'ch gwain i wirio safle a maint eich croth. Gallech gael profion i weld a oes gennych heintiau, fel heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a chael gwrthfiotigau.
Bydd yr apwyntiad yn cymryd tuag 20 i 30 munud ac ni ddylai gosod yr IUD gymryd mwy na 5 munud:
- caiff y wain ei dal ar agor, fel yn ystod sgrinio serfigol (prawf taeniad)
- gosodir yr IUD trwy geg y groth ac i mewn i'r groth
Gall gosod IUD fod yn anghyfforddus, a gall fod yn boenus i rai pobl, ond gallwch gael anesthetig lleol i helpu. Trafodwch hyn gyda meddyg teulu neu nyrs ymlaen llaw.
Gadewch i'r sawl sy'n gosod eich IUD wybod os byddwch chi'n teimlo unrhyw boen neu anghysur tra bydd yn cael ei osod. Gallwch ofyn iddynt roi'r gorau iddi ar unrhyw adeg.
Hefyd, gallwch lyncu poenladdwyr ar ôl i IUD gael ei gosod, os bydd angen.
Gallech gael crampiau tebyg i'r mislif wedyn, ond gall poenladdwyr leddfu'r rhain. Hefyd, gallech waedu am ychydig ddiwrnodau ar ôl i'r IUD gael ei gosod.
Ar ôl gosod eich IUD, gallech gael cyngor i gael archwiliad meddyg ymhen 3 i 6 wythnos i wneud yn siwr bod popeth yn iawn. Dywedwch wrth eich meddyg teulu os oes gennych unrhyw broblemau ar ôl yr archwiliad cyntaf hwn neu os hoffech i'r IUD gael ei thynnu oddi yno.
Ewch i weld meddyg teulu os oes risg y gallech chi neu'ch partner gael haint a drosglwyddir yn rhywiol, oherwydd gall hyn arwain at haint yn y pelfis.
Mae'n bosibl bod haint arnoch:
- os oes poen neu dynerwch yn rhan isaf eich abdomen
- os oes gennych dymheredd uchel
- os oes gennych redlif annormal neu ddrewllyd
Sut i wybod os yw'r ddyfais yn ei lle o hyd
Mae 2 edau denau yn hongian i lawr o IUD o'ch croth i frig eich gwain.
Bydd y meddyg teulu neu'r nyrs sy'n gosod eich IUD yn dangos sut y dylech chi deimlo am yr edafedd hyn a gwneud yn siwr bod y ddyfais yn ei lle o hyd.
Gwiriwch fod eich IUD yn ei lle ychydig droeon yn ystod y mis cyntaf ac ar ôl pob mislif wedi hynny, neu'n rheolaidd.
Mae'n annhebygol y bydd eich IUD yn dod allan, ond os na allwch chi deimlo'r edafedd neu os ydych chi'n amau bod y ddyfais wedi symud, efallai na fydd amddiffyniad gennych rhag beichiogi.
Ewch i weld meddyg teulu neu nyrs ar unwaith a defnyddiwch ddulliau atal cenhedlu ychwanegol, fel condom, hyd nes cael archwiliad o'ch IUD.
Os ydych chi wedi cael cyfathrach rywiol yn ddiweddar, gall fod angen i chi ddefnyddio dulliau atal cenhedlu brys.
Ni ddylai eich partner allu teimlo'ch IUD yn ystod cyfathrach rywiol. Os gall, ewch at eich meddyg teulu neu nyrs am archwiliad.
Tynnu IUD
Gall meddyg neu nyrs hyfforddedig dynnu'ch IUD unrhyw bryd.
Os na fydd IUD arall yn cael ei gosod ac nid ydych am feichiogi, defnyddiwch ddulliau atal cenhedlu ychwanegol, fel condom, am 7 niwrnod cyn i'r ddyfais gael ei thynnu.
Mae'n bosibl beichiogi cyn gynted ag y bydd yr IUD wedi'i thynnu.
Pwy all ddefnyddio IUD
Gall y rhan fwyaf o bobl sydd â chroth ddefnyddio IUD.
Bydd meddyg teulu neu nyrs yn holi am eich hanes meddygol i wneud yn siwr bod IUD yn addas i chi.
Efallai na fydd yr IUD yn addas i chi:
- os ydych chi'n amau eich bod chi'n feichiog
- os oes gennych STI neu haint pelfig heb ei drin
- os oes gennych broblemau gyda'ch croth neu geg y groth
- os ydych chi'n gwaedu heb esboniad rhwng y mislif neu ar ôl cael cyfathrach rywiol
Mae'n rhaid i bobl sydd wedi cael beichiogrwydd ectopig neu sydd â falf artiffisial y galon holi'u meddyg teulu neu glinigwr cyn gosod IUD.
Defnyddio IUD ar ôl rhoi genedigaeth
Fel arfer, gall IUD gael ei gosod 4 wythnos ar ôl geni plentyn (trwy'r wain neu doriad Cesaraidd). Bydd angen i chi ddefnyddio dulliau atal cenhedlu eraill ymhen 3 wythnos (21 diwrnod) wedi'r enedigaeth hyd nes caiff yr IUD ei gosod.
Mewn ambell achos, gall IUD gael ei gosod o fewn 48 awr o eni plentyn. Mae'n ddiogel defnyddio IUD tra byddwch chi'n bwydo ar y fron ac ni fydd yn effeithio ar gyflenwad eich llaeth.
Defnyddio IUD yn dilyn camesgoriad neu erthyliad
Gall IUD gael ei gosod gan feddyg teulu neu nyrs brofiadol yn syth ar ôl erthyliad neu gamesgoriad. Byddwch wedi'ch amddiffyn rhag beichiogrwydd ar unwaith.
Manteision ac anfanteision yr IUD
Er bod IUD yn ddull atal cenhedlu effeithiol, mae rhai pethau i'w hystyried cyn gosod un.
Manteision:
- Mae'n amddiffyn rhag beichiogrwydd am 5 neu 10 mlynedd, yn dibynnu ar y math.
- Ar ôl gosod IUD, mae'n gweithio'n syth.
- Gall y rhan fwyaf o bobl sydd â chroth ei defnyddio.
- Nid oes sgîl-effeithiau hormonaidd, fel acne, cur pen neu fronnau tyner.
- Nid yw'n tarfu ar gyfathrach rywiol.
- Mae'n ddiogel defnyddio IUD os ydych chi'n bwydo ar y fron.
- Mae'n bosibl beichiogi cyn gynted ag y caiff yr IUD ei thynnu.
- Nid yw meddyginiaethau eraill yn effeithio arni.
- Nid oes tystiolaeth y bydd IUD yn effeithio ar eich pwysau nac yn cynyddu risg canser ceg y groth, canser y groth (wterws) na chanser yr ofarïau.
Anfanteision:
- Gallai eich mislif fynd yn drymach, yn hirach neu'n fwy poenus, ond gallai hyn wella ymhen ychydig fisoedd.
- Nid yw'n amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, felly gall fod angen i chi ddefnyddio condom hefyd.
- Os cewch chi haint pan fydd eich IUD yn cael ei gosod, gallai arwain at haint y pelfis pe na bai'n cael ei drin.
- Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n rhoi'r gorau i ddefnyddio IUD yn gwneud hynny oherwydd gwaedu a phoen yn y wain, er bod y sgîl-effeithiau hyn yn anghyffredin.
Risgiau'r IUD
Heintiau'r pelfis
Mae posibilrwydd bach iawn o gael haint y pelfis yn ystod yr 20 diwrnod cyntaf ar ôl gosod yr IUD.
Efallai bydd archwilio am unrhyw heintiau sydd eisoes yn bodoli cyn gosod IUD yn cael ei gynghori.
Ewch i weld meddyg teulu os cawsoch IUD ac mae gennych:
- boen neu dynerwch yn rhan isaf eich abdomen
- tymheredd uchel
- rhedlif annormal neu ddrewllyd
Y llindag
Mae rhywfaint o dystiolaeth gyfyngedig ei bod hi fymryn yn fwy posibl y byddwch yn cael y llindag, sy'n dod yn ôl yn fynych, os cewch chi IUD.
Siaradwch â meddyg teulu os oes gennych IUD ac rydych chi'n cadw cael y llindag. Hwyrach y byddwch am feddwl am roi cynnig ar fath arall o ddull atal cenhedlu.
Gwrthod
Mae mymryn o bosibilrwydd y gall y groth wrthod (bwrw allan) yr IUD, neu y gall symud (dadleoli).
Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn digwydd yn fuan ar ôl ei gosod fel arfer. Dangosir i chi sut i archwilio bod eich IUD yn ei lle.
Niwed i'r groth
Mewn achosion prin, gall yr IUD wneud twll yn y groth pan gaiff ei gosod. Gall hyn bod yn boenus, ond efallai na fydd unrhyw symptomau weithiau.
Os bydd y meddyg teulu neu'r nyrs sy'n gosod eich IUD yn brofiadol, mae'r risg yn isel tu hwnt. Ond ewch i weld meddyg teulu ar unwaith os ydych chi'n teimlo poen neu ni allwch deimlo edafedd eich IUD, oherwydd gall fod angen llawdriniaeth arnoch i'w thynnu.
Beichiogrwydd ectopig
Os bydd yr IUD yn methu a byddwch yn beichiogi, mae mwy o risg hefyd o gael beichiogrwydd ectopig.
Ble i gael IUD
Gallwch gael yr IUD yn rhad ac am ddim, hyd yn oed os ydych o dan 16 oed, o:
- glinigau dulliau atal cenhedlu
- clinigau iechyd rhywiol neu feddygaeth genhedlol-droethol (GUM)
- meddygfeydd
- rhai gwasanaethau pobl ifanc
Dod o hyd i glinig iechyd rhywiol
Os ydych chi o dan 16 oed
Mae gwasanaethau dulliau atal cenhedlu ar gael yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol, gan gynnwys i bobl o dan 16 oed.
Os ydych chi o dan 16 oed ac eisiau dulliau atal cenhedlu, ni fydd y meddyg, y nyrs neu'r fferyllydd yn dweud wrth eich rhieni na'ch gofalwr, ar yr amod y byddant o'r farn eich bod chi'n llwyr ddeall y wybodaeth a roddir i chi a'r penderfyniadau rydych chi'n eu gwneud.
Mae meddygon a nyrsys yn gweithio yn unol â chanllawiau llym wrth ddelio â phobl o dan 16 oed. Byddant yn eich annog chi i ystyried dweud wrth eich rhieni, ond ni fyddant yn eich gorfodi chi i wneud.
Yr unig dro y gallai gweithiwr proffesiynol fod eisiau dweud wrth rywun arall fydd os yw'n amau bod risg niwed i chi, fel cael eich cam-drin.
O dan yr amgylchiadau hyn, byddai angen i'r risg fod yn ddifrifol a byddai gweithiwr fel arfer yn ei drafod gyda chi i ddechrau.