Llid y tu mewn i'r trwyn, wedi'i achosi gan alergen fel paill, llwch, llwydni neu ddarnau o groen anifeiliaid penodol yw rhinitis alergaidd.
Mae'n gyflwr cyffredin iawn ac amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar ryw 1 o bob 5 o bobl yn y DU.
Symptomau rhinitis alergaidd
Yn nodweddiadol, mae rhinitis alergaidd yn achosi symptomau tebyg i annwyd, fel tisian, cosi a thrwyn llawn neu drwy'n sy'n rhedeg.
Fel arfer, mae'r symptomau hyn yn dechrau'n fuan ar ôl dod i gysylltiad ag alergen.
Mae rhai pobl ond yn cael rhinitis alergaidd am ychydig fisoedd ar y tro am eu bod yn sensitif i alergenau tymhorol, fel paill coed neu baill porfa. Mae pobl eraill yn cael rhinitis alergaidd gydol y flwyddyn.
Symptomau ysgafn, y gellir eu trin yn hawdd ac yn effeithiol, gaiff y rhan fwyaf o bobl.
Ond i rai, gall symptomau fod yn ddifrifol ac yn barhaus, gan achosi problemau cysgu ac ymyrryd â bywyd bob dydd.
Weithiau, gall symptomau rhinitis alergaidd wella gydag amser, ond gall hyn gymryd blynyddoedd lawer ac mae'n annhebygol y bydd y cyflwr yn diflannu'n llwyr.
Pryd i weld meddyg teulu
Ewch i weld meddyg teulu os bydd symptomau rhinitis alergaidd yn tarfu ar eich cwsg, yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd, neu'n effeithio'n niweidiol ar eich perfformiad yn y gwaith neu'r ysgol.
Fel arfer, gwneir diagnosis o rinitis alergaidd ar sail eich symptomau ac unrhyw sbardunau posibl y sylwoch arnynt.
Os na fydd y rheswm dros eich cyflwr yn siwr, gallech gael eich atgyfeirio i gael profion alergaidd.
Dysgwch ragor am wneud diagnosis o rhinitis alergaidd.
Beth sy'n achosi rhinitis alergaidd
Y system imiwnedd yn adweithio i alergen fel pe bai'n niweidiol sy'n achosi rhinitis alergaidd.
O ganlyniad i hyn, mae celloedd yn rhyddhau nifer o gemegion sy'n gwneud i haen fewnol eich trwyn (y bilen ludiog) chwyddo a chynhyrchu lefelau gormodol o fwcws.
Mae alergenau cyffredin sy'n achosi rhinitis alergaidd yn cynnwys paill (yr enw ar y math hwn o rinitis alergaidd yw clefyd y gwair) ynghyd â sborau llwydni, gwyddon llwch tŷ a darnau o groen neu ddiferion o wrin neu boer anifeiliaid penodol.
Dysgwch ragor am achosion rhinitis alergaidd.
Trin ac atal rhinitis alergaidd
Mae'n anodd osgoi alergenau posibl yn llwyr, ond gallwch gymryd camau i ddod i lai o gysylltiad ag alergen penodol rydych chi'n gwybod neu'n amau ei fod yn sbarduno'ch rhinitis alergaidd. Bydd hyn yn helpu gwella'ch symptomau.
Os yw eich cyflwr yn ysgafn, gallwch hefyd helpu lleihau'r symptomau trwy gymryd meddyginiaethau a brynir dros y cownter, fel cyffuriau gwrth-histamin nad ydynt yn gwneud i chi deimlo'n gysglyd, a golchi'ch ffroenau â dŵr halen i gadw'ch trwyn yn rhydd rhag llidwyr.
Ewch at eich meddyg teulu am gyngor os ydych chi wedi rhoi cynnig ar y camau hyn ac nid ydynt wedi helpu.
Gall roi meddyginiaeth gryfach i chi ar bresgripsiwn, fel chwistrell i'r trwyn yn cynnwys corticosteroidau.
Problemau pellach
Gall rhinitis alergaidd arwain weithiau at gymhlethdodau.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- polypau trwynol – codenni annormal ond anghanseraidd (diniwed) o hylif sy'n tyfu'r tu mewn i'r ffroenau a'r sinysau
- llid y sinysau – haint a achoswyd gan lid y trwyn a chwyddo sy'n atal mwcws rhag draenio o'r sinysau
- heintiau'r glust ganol – haint y rhan o'r glust sy'n uniongyrchol y tu ôl i dympan y glust
Yn aml, gall meddyginiaeth drin y problemau hyn ond gall fod angen llawdriniaeth weithiau mewn achosion difrifol neu hirdymor.
Dysgwch ragor ynghylch cymhlethdodau rhinitis alergaidd.
Rhinitis analergaidd
Nid adwaith alergaidd sy'n achosi pob achos o rinitis.
Mae rhai achosion o ganlyniad i:
- haint, fel annwyd cyffredin
- gwaedlestri gor-sensitif yn y trwyn
- defnyddio gormod o foddion llacio'r trwyn
Yr enw ar y math hwn o rinitis yw rhinitis analergaidd.