Rhinitis - di-alergaidd

Cyflwyniad

Rhinitis - non-allergic
Rhinitis - non-allergic

Llid y tu mewn i'r trwyn nad yw'n cael ei achosi gan alergedd ydy rhinitis di-alergaidd.

Yn aml, fe gaiff rhinitis ei achosi gan alergen fel paill. Cyflwr ar wahân ydy hwn a elwir yn rhinitis alergaidd.

Gall symptomau rhinitis di-alergaidd gynnwys:

  • trwyn yn llawn
  • trwyn yn diferu - gallai hyn fod trwy'r ffroenau neu i lawr cefn y trwyn (catâr)
  • tisian - er bod hyn yn llai difrifol ar y cyfan o gymharu â rhinitis alergaidd
  • llid ysgafn neu anghysur y tu mewn i'ch trwyn ac o'i amgylch
  • methu arogli cystal 

Ar adegau prin, fe all rhinitis di-alergaidd achosi i grawen ddatblygu'r tu mewn i'r trwyn, a gallai hwn:

  • gynhyrchu arogl ffiaidd 
  • achosi gwaedu os byddwch yn ceisio ei dynnu.

Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu

Dylech chi fynd i weld eich meddyg teulu os bydd symptomau rhinitis di-alergaidd arnoch chi a bod y cyflwr yn amharu ar ansawdd eich bywyd.

Gall fod yn anodd adnabod rhinitis di-alergaidd oherwydd nid oes prawf ar gael i gadarnhau'r cyflwr. Yn gyntaf bydd eich meddyg teulu yn holi am eich symptomau a'ch hanes meddygol.

Mae hi'n bosib y bydd yn gwneud prawf gwaed i weld a oes gennych chi alergedd, neu gall eich cyfeirio at glinig ysbyty am brofion mwy penodol ar gyfer alergeddau, gan gynnwys 'prawf pigo'r croen'.

Os bydd canlyniadau'r prawf yn awgrymu nad oes unrhyw alergedd arnoch chi, mae'n bosib y cewch chi ddiagnosis o rinitis di-alergaidd.

Darllenwch ragor am adnabod rhinitis di-alergaidd.

Beth sy'n achosi rhinitis di-alergaidd?

Gyda rhinitis di-alergaidd, fel arfer bydd y llid o ganlyniad i waedlestri chwyddedig a chrynhoad hylif ym meinweoedd y trwyn.

Bydd yr ymchwyddo hwn yn cau'r ffroenau ac yn ysgogi'r chwarennau mwcws yn eich trwyn, gan achosi symptomau nodweddiadol trwyn sy'n llawn neu drwyn sy'n diferu.  

Mae sawl achos posibl i rinitis di-alergaidd, a gellir eu rhannu'n ffactorau 'allanol' neu 'fewnol'.

Mae ffactorau allanol yn cynnwys

  • heintiau feirol, fel annwyd - mae'r rhain yn ymosod ar leinin y trwyn a'r gwddf
  • ffactorau amgylcheddol, fel tymereddau eithafol, lleithder neu gael eich amlygu i fygdarthau niweidiol, fel mwg

Mae ffactorau mewnol yn cynnwys

Darllenwch fwy am achosion rhinitis di-alergaidd.

Trin rhinitis di-alergaidd

Er nad yw rhinitis di-alergaidd yn achosi niwed fel arfer, mae'n gallu bod yn annifyr ac effeithio ar ansawdd eich bywyd. Bydd y dewis gorau o ran triniaeth yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r cyflwr a beth sy'n ei achosi.

Mewn rhai achosion, gall osgoi rhai sbardunau a mesurau hunan-ofal, megis golchi eich ffroenau, fod o gymorth a lleddfu'ch symptomau chi. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio toddiant wedi'i wneud gartref neu doddiant wedi ei wneud â phecynnau o gynhwysion wedi'u prynu o fferyllfa.

Mewn achosion eraill, efallai y bydd angen meddyginiaeth, fel chwistrelliad trwynol sy'n cynnwys corticosteroidau. Bydd y rhain o gymorth i leddfu'r gorlawnder, ond bydd angen eu defnyddio am sawl wythnos er mwyn iddyn nhw fod yn gwbl effeithiol.

Cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth at rinitis di-alergaidd, darllenwch y daflen a ddaw gyda hi, gan nad yw'r triniaethau a ddefnyddir yn addas ar gyfer pawb. Os nad ydych yn sicr a ddylech chi ddefnyddio un o'r meddyginiaethau hyn, siaradwch â'ch meddyg teulu neu fferyllydd.

Darllenwch ragor ynghylch trin rhinitis di-alergaidd.

Problemau pellach

Mewn rhai achosion, mae rhinitis di-alergaidd yn gallu arwain at gymhlethdodau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • polypau trwynol - codenni annormal ond diniwed (di-ganser) o hylif sy'n tyfu y tu mewn i'r ceudodau trwynol a'r sinysau;
  • llid y sinysau - haint a achosir gan ymchwyddo a llid trwynol sy'n atal mwcws rhag draenio o'r sinysau
  • heintiau'r glust ganol - haint yn y rhan o'r glust sy'n union y tu ôl i dympan y glust.

Yn aml, gellir trin y problemau hyn â meddyginiaeth, er weithiau bydd angen llawdriniaeth mewn achosion difrifol neu hirdymor.

Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau rhinitis di-alergaidd.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/11/2023 10:49:49