Y crafu

Cyflwyniad

Scabies

Mae’r clefyd crafu yn gyffredin a gall unrhyw un ei ddal. Dylai gael ei drin yn gyflym i’w atal rhag lledaenu.

Gwirio ai’r clefyd crafu ydyw

Dyma symptomau’r clefyd crafu:

  • crafu dwys, yn enwedig yn y nos
  • brech neu smotiau wedi codi

Gall y smotiau edrych yn goch. Maen nhw’n fwy anodd eu gweld ar groen tywyll, ond dylech allu eu teimlo.

Mae brech y clefyd crafu fel arfer yn lledaenu dros y corff cyfan, heblaw am y pen.

Fodd bynnag, gall pobl hŷn, plant ifanc a’r rhai â system imiwnedd wannach ddatblygu brech ar eu pen a’u gwddf.

Pryd nad y clefyd crafu ydyw

Gall llawer o bethau eraill achosi croen coslyd a brechau mewn babanod a phlant.

Gweler sleidiau ar frechau a chyflyrau eraill y croen.

Gall fferyllydd helpu gyda’r clefyd crafu

Nid yw’r clefyd crafu yn gyflwr difrifol fel arfer, ond mae angen ei drin. 

Mae’r clefyd crafu yn un o’r cyflyrau sy’n dod o dan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion droi ato am gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim ac mae ar gael o 99% o fferyllfeydd yng Nghymru. 
Chwiliwch am eich fferyllfa agosaf yma
Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma

Bydd fferyllydd yn argymell hufen neu eli i chi ei roi dros eich corff cyfan. Mae’n bwysig darllen y cyfarwyddiadau yn ofalus. 

Gadewch i’r fferyllydd wybod os ydych chi’n bwydo ar y fron neu’n feichiog. 

Bydd angen i chi ailadrodd y driniaeth wythnos yn ddiweddarach. 

Mae’r clefyd crafu yn heintus iawn ond gall gymryd hyd at 8 wythnos i’r frech ymddangos. 

Bydd angen trin pawb ar eich aelwyd ar yr un pryd, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau. 

Dylid trin unrhyw un y cawsoch chi gysylltiad rhywiol â nhw dros yr 8 wythnos diwethaf hefyd.  

Pethau y gallwch eu gwneud yn ystod triniaeth i atal y clefyd crafu rhag lledaenu

Gwnewch y canlynol:

  • golchwch yr holl ddillad gwely a dillad yn y tŷ ar dymheredd o 50C neu uwch ar ddiwrnod cyntaf y driniaeth
  • rhowch ddillad na ellir eu golchi mewn bag dan sêl am 3 diwrnod hyd nes bydd y gwiddon yn marw
  • stopiwch fabanod a phlant rhag sugno’r driniaeth oddi ar eu dwylo trwy wisgo hosanau neu fenig arnynt

Peidiwch â:

  • chael rhyw na chysylltiad corfforol agos hyd nes y byddwch chi wedi cwblhau’r driniaeth yn llawn
  • rhannu dillad gwely, dillad na thywelion gyda rhywun sydd â’r clefyd crafu

Faint o amser mae’n ei gymryd i gael gwared ar y clefyd crafu

Gallwch chi neu’ch plentyn fynd yn ôl i’r gwaith neu’r ysgol 24 awr ar ôl y driniaeth gyntaf.

Er bod y driniaeth yn lladd gwiddon y clefyd crafu yn gyflym, gall y cosi barhau am ychydig wythnosau.

Ewch i weld meddyg teulu os yw eich croen yn crafu o hyd 4 wythnos ar ôl gorffen y driniaeth.

Gall y clefyd crafu ledaenu’n hawdd

Mae’r clefyd crafu yn trosglwyddo o berson i berson trwy gysylltiad â’r croen. Ni allwch ddal y clefyd crafu oddi wrth anifeiliaid anwes.

Mae mwy o risg i bobl sy’n byw neu’n gweithio’n agos â’i gilydd mewn meithrinfeydd, neuaddau preswyl prifysgol neu gartrefi nyrsio.

Gall unrhyw un gael y clefyd crafu – nid oes ganddo ddim i’w wneud â hylendid gwael.

Cymhlethdodau’r clefyd crafu

Gall crafu’r frech achosi heintiau i’r croen, fel impetigo.

Gall y clefyd crafu waethygu cyflyrau fel ecsema neu soriasis.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/03/2023 16:07:03