Sgil effeithiau brechiadau
Efallai eich bod yn pryderu y byddwch chi neu eich plentyn yn profi sgil-effaith o ganlyniad i frechiad.
Er ei bod yn bosibl i bob brechlyn achosi sgil-effeithiau mewn rhai pobl, y gwir yw bod y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i fod yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â salwch neu sgil-effaith a amheuir, cysylltwch â’ch meddyg.
Sgil-effeithiau cyffredin brechlynnau
Mae sgil-effeithiau cyffredin unrhyw frechlyn yn gallu cynnwys:
- adwaith yn y man lle y rhoddwyd y pigiad (poen, chwyddo a chochni)
- twymyn ysgafn
- crynu
- lludded
- cur pen/pen tost
- poen yn y cyhyrau a’r cymalau
Sgil-effeithiau anghyffredin brechlynnau
Sgil-effaith ddifrifol, ond llai cyffredin o lawer, o ganlyniad i frechlyn yw adwaith alergaidd uniongyrchol, a adwaenir hefyd fel adwaith anaffylactig. Mae’r adweithiau hyn yn ddramatig ac yn gallu bygwth bywyd; fodd bynnag, dylid nodi eu bod yn digwydd yn anaml iawn (llai nag un mewn miliwn) a bod modd eu gwrthdroi’n llwyr os cânt eu trin yn brydlon gan staff gofal iechyd.
Er mwyn bod â safbwynt cytbwys, mae’n rhaid pwyso a mesur sgil-effeithiau posibl yn erbyn buddion disgwyliedig brechiad o ran atal cymhlethdodau difrifol clefyd.
Darllenwch fwy ynghylch buddion a risgiau brechiadau.
Nid sgil-effaith fydd pob salwch sy’n digwydd ar ôl brechiad. Oherwydd bod miliynau o bobl y flwyddyn yn cael eu brechu, mae’n anochel y bydd rhai yn mynd ymlaen i ddatblygu haint neu salwch cyd-ddigwyddiadol yn fuan wedi hynny.
Beth i’w wneud os yw’ch plentyn yn sâl ar ôl cael brechiad
Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin ymhlith babanod a phlant ifanc yn digwydd y man lle y rhoddwyd y pigiad, ac maent yn cynnwys:
- chwyddo
- cochni
- lwmp bach caled
Mae’r symptomau hyn yn diflannu o fewn deuddydd fel arfer, ac nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ynglŷn â hwy.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd plant yn datblygu twymyn (tymheredd uchel). Os bydd hyn yn digwydd, cadwch eich plentyn yn oer. Gwnewch yn siwr nad yw’n gwisgo gormod o haenau o ddillad neu flancedi a rhowch ddigon o ddiodydd oer iddo. Gallwch hefyd roi dos o ibuprofen hylifol neu barasetamol ar gyfer babanod iddo yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y botel.
Canfod gwybodaeth ynglŷn â sgil-effeithiau brechlyn
Cynhwysir Taflen Gwybodaeth i Gleifion ym mhecyn pob dos o frechlyn sy’n rhestru’r sgil-effeithiau posibl.
Gallwch ddarllen Taflenni Gwybodaeth i Gleifion ar gyfer brechlynnau ar wefan y Compendiwm Meddyginiaethau electronig (eMC) hefyd.
Rhoi gwybod am sgil-effaith brechlyn
Os ydych chi, meddyg, nyrs neu fferyllydd yn amau eich bod chi neu eich plentyn wedi profi sgil-effaith bosibl o ganlyniad i frechlyn, gellir rhoi gwybod amdani trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn.
Cynhelir y Cynllun Cerdyn Melyn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ac fe’i cynlluniwyd i amlygu problemau annisgwyl neu sgil-effeithiau newydd. Os amlygir sgil-effaith newydd ddifrifol, bydd yr MHRA yn ymchwilio iddi. Fe allai newid y ffordd y defnyddir brechlyn, neu hyd yn oed ei dynnu’n ôl o’r farchnad.
Yn ogystal â rhoi gwybod am sgil-effeithiau meddyginiaethau a amheuir, gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau neu broblemau a amheuir sy’n gysylltiedig â dyfeisiau meddygol, a chynhyrchion gofal iechyd diffygiol a ffug.
Nid cynllun ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn unig yw hwn. Gall unrhyw un ddefnyddio’r system Cerdyn Melyn i roi gwybod am sgil-effaith brechlyn neu feddyginiaeth a amheuir.
Y cynllun Cerdyn Melyn
Dywedwch wrth eich meddyg, nyrs neu fferyllydd am y sgil-effaith a amheuir, a bydd yn rhoi gwybod amdani ar eich rhan. Fel arall, gallwch roi gwybod amdani eich hun trwy:
- ddefnyddio system adrodd ar-lein y Cynllun Cerdyn Melyn
- codi ffurflen Cerdyn Melyn o’ch meddygfa neu fferyllfa leol. Llenwch y ffurflen a’i hanfon i’r cyfeiriad a ddarperir
- ffonio llinell radffon y cynllun Cerdyn Melyn ar 0808 100 3352 (rhwng 10am a 2pm yn ystod yr wythnos)
Nawr, darllenwch fwy ynghylch diogelwch brechiadau, neu sgil-effeithiau pob brechlyn:
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk