Vaccination menu links


Risgiau a'r manteision

Mae pob meddyginiaeth yn achosi sgil-effeithiau. Fodd bynnag, mae brechlynnau ymhlith y mwyaf diogel ac mae eu buddion yn drech o lawer na risg sgil-effeithiau.

Wrth ystyried brechiad i ni ein hunain a’n plant, mae’n naturiol meddwl am y sgil-effeithiau posibl. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud yw pwyso a mesur y risgiau yn erbyn y buddion.

Beth yw sgil-effeithiau brechiadau?

Mae’r rhan fwyaf o sgil-effeithiau brechiadau’n ysgafn a byrhoedlog. Mae’n eithaf cyffredin i weld cochni neu chwyddo o amgylch y man lle y rhoddwyd y pigiad, ond bydd hyn yn diflannu’n fuan. Mae’n bosibl y bydd babanod neu blant iau ychydig yn bigog neu anhwylus, neu efallai y bydd ganddynt dymheredd ychydig yn uwch nag arfer. Unwaith eto, bydd hyn yn diflannu o fewn un neu ddau ddiwrnod fel arfer.

Darganfyddwch sut i roi gwybod am sgil-effaith brechiad.

Mewn achosion mwy anghyffredin o lawer, mae rhai pobl yn cael adwaith alergaidd yn fuan ar ôl brechiad. Bydd hyn fel arfer ar ffurf brech neu gosi sy’n effeithio ar ran o’r corff neu’r corff cyfan. Mae’r meddygon a’r nyrsys sy’n rhoi’r brechlyn wedi’i hyfforddi ar sut i drin hyn.

Mewn achosion anghyffredin iawn, gallai adwaith alergaidd difrifol ddigwydd o fewn ychydig funudau o’r brechiad. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Fe all arwain at anawsterau anadlu ac, mewn rhai achosion, llewygu.

Cofiwch fod adweithiau anaffylactig yn anghyffredin iawn (llai nag un mewn miliwn). Mae staff brechu wedi’u hyfforddi i ymdrin â’r adweithiau hyn, ac mae modd eu gwrthdroi’n llwyr os cânt eu trin yn brydlon.

Brechiad o gymharu â meddyginiaeth

Mae brechiad yn wahanol i roi meddyginiaeth i blentyn sâl er mwyn ei wella. Mae buddion brechu’n anweladwy. Ni fydd eich plentyn yn mynd yn sâl gyda’r frech goch nac yn gorfod mynd i adran gofal dwys gyda meningitis C.

Fe allech gael eich temtio i ddweud “na” i frechu a’i “adael i natur”. Fodd bynnag, bydd penderfynu peidio â brechu eich plentyn yn ei roi mewn perygl o ddal amrywiaeth o glefydau a allai fod yn ddifrifol neu hyd yn oed yn angheuol.

Y gwirionedd yw bod cael brechiad yn fwy diogel o lawer na pheidio â’i gael. Nid ydynt 100% yn effeithiol ym mhob plentyn, ond hwy yw’r amddiffyniad gorau yn erbyn yr epidemigau a arferai ladd neu anablu’n barhaol filiynau o blant ac oedolion.

Darllenwch fwy ynghylch diogelwch brechiadau.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk