Vaccination menu links


Sgil effeithiau brechlyn brech yr ieir

Sgil-effaith fwyaf cyffredin y brechlyn brech yr ieir yw dolur a chochni o amgylch y man lle y rhoddwyd y pigiad. Mae hyn yn digwydd mewn oddeutu un o bob pump o blant ac un o bob pedwar o bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion. Gallai brech ysgafn ddatblygu mewn un o bob 10 o blant ac un o bob 20 o oedolion.

Mae sgil-effeithiau difrifol, fel anaffylacsis (adwaith alergaidd difrifol), yn anghyffredin. Maen nhw’n digwydd mewn oddeutu un mewn miliwn o achosion brechu.

Er nad yw’r brechlyn varicella yn rhan o raglen imiwneiddiadau plentyndod arferol y GIG yn y Deyrnas Unedig, mae wedi’i gynnwys mewn rhaglenni gwledydd eraill, fel yr Unol Daleithiau a’r Almaen.

Mae miliynau o ddosau o’r brechlyn wedi’u rhoi ac nid oes tystiolaeth o unrhyw risg uwch o ddatblygu cyflwr iechyd tymor hir o ganlyniad i’r brechiad.

Darllenwch fwy ynghylch sgil-effeithiau brechlynnau.

Mwy ynglŷn â sgil-effeithiau’r brechlyn brech yr ieir

Mae Taflen Gwybodaeth i Gleifion (PIL) wedi’i chynnwys ym mhecyn pob dos o’r brechlyn sy’n rhestru ei sgil-effeithiau posibl.

Darllenwch y PIL ar gyfer y brechlyn brech yr ieir.

Monitro diogelwch brechlynnau

Yn y Deyrnas Unedig, mae diogelwch brechlynnau’n cael ei fonitro trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a’r Comisiwn ar Feddyginiaethau Dynol.

Mae’r rhan fwyaf o adweithiau y rhoddwyd gwybod amdanynt trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn wedi bod yn ysgafn, fel cochni a chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad, brechau, twymyn a chwydu.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk