Cwynion am wasanaethau’r GIG

Cyflwyniad

Ar 1 Ebrill 2026, gweithredodd GIG Cymru newidiadau i'r ffordd y caiff pryderon eu hymchwilio ledled Cymru. Un o'r newidiadau allweddol a gyflwynwyd yw'r canllawiau statudol newydd Gwrando ar Bobl, sy'n disodli'r canllawiau blaenorol Gweithio i Wella. Cynlluniwyd y newidiadau hyn i'w gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gleifion, teuluoedd a gofalwyr godi pryderon a/neu rannu eu profiad am ofal y GIG. Mae'r dull newydd yn rhan o ymrwymiad cenedlaethol i wella agoredrwydd, tosturi a dysgu ar draws gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a chyflwyno prosesau cliriach a gwell cefnogaeth i unrhyw un sy'n dymuno siarad am eu gofal.

Mae gan bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth y GIG eu tîm pryderon eu hunain.

Gall y tîm pryderon eich cynorthwyo i godi'ch problem gyda'r gwasanaeth sy'n gyfrifol am eich triniaeth. Cewch fanylion cyswllt y tîm yn eich ardal ar wefan eich Bwrdd Iechyd:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 02/04/2026 14:47:25