Mân anafiadau yw'r rhan fwyaf o doriadau a chrafiadau a gallwch eu trin yn hawdd gartref.
Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud fel arfer yw atal y gwaedu, glanhau'r clwyf yn drylwyr a rhoi plastr neu orchudd arno.
Dylai mân glwyfau ddechrau gwella ymhen ychydig ddyddiau.
Sut i drin toriadau a chrafiadau
Ataliwch y gwaedu
Dylech atal unrhyw waedu cyn rhoi gorchudd ar y clwyf. Rhowch bwysau ar y clwyf gan ddefnyddio deunydd glan a sych - fel rhwymyn, lliain neu hances - am sawl fuunud.
Os yw'r anaf ar eich llawn neu eich brraich, codwch y fraich uwchben eich pen i helpu atal llif y gwaed.
Os yw'r anaf ar ran is o'ch corff, gorweddwch i i lawr a chodwch y man sydd wedi cael ei effeithio uwchben lefel eich calon.
Glanhau'r clwyf a rhoi gorchudd drosto
Pan na fydd y clwyf yn gwaedu mwyach, dylech lanhau'r clwyf a rhoi gorchudd drosto er mwyn helpu i atal unrhyw heintio.
I wneud hyn:
- golchwch a sychwch eich dwylo'n drylwyr
- glanhewch yr anaf o dan ddwr tap safon yfed - osgowch ddefnyddio antiseptig gan y gallai niweidio'r croen ac arafu'r gwella
- sychwch yr ardal gyda thywel glân
- rhowch orchudd glynu, diheintiedig, fel plastr, arno
Cadwch y gorchudd yn lân trwy ei newid mor aml ag sydd angen. Defnyddiwch orchuddion gwrth-ddwr, a fydd yn caniatáu i chi gael cawod.
Gallwch dynnu'r gorchudd ar ôl ychydig ddyddiau, pan fydd y clwyf wedi cau ar ei ben ei hun.
Cymerwch gyffuriau lladd poen os oes angen
Os yw'r clwyf yn boenus am yr ychydig ddyddiau cyntaf, gallwch gymryd cyffuriau lladd poen a brynir dros y cownter, fel paracetamol neu ibuprofen.
Pryd i geisio cymorth meddygol
Ffoniwch GIG 111 Cymru neu ewch i'ch uned anafiadau mân neu' eich meddygfa, os oes perygl y gallai'r clwyf gael ei heintio, neu os ydych yn meddwl ei fod eisoes wedi cael ei heintio.
Mae clwyf mewn perygl o gael ei heintio:
- os yw wedi cael ei halogi â phridd, crawn neu hylifau eraill y corff
- os oedd rhywbeth yn yr anaf cyn iddo gael ei lanhau, fel graean neu ddarn o wydr
- os oes ymyl tolciog i'r anaf
- os yw'r anaf yn hirach na 5cm (2 fodfedd)
- os cafodd ei achosi gan frathiad neu gnoad anifail neu ddynoll
Mae arwyddion anaf heintiedig yn cynnwys:
- chwyddo, cochni a phoen cynyddol yn y man yr effeithiwyd arno
- crawn yn ffurfio yn y clwyf neu o'i amgylch
- teimlo'n anhwylus yn gyffredinol
- tymheredd uchel (twymyn) o 38C (100.4F) neu uwch
- chwarennau chwyddedig o dan yr ên neu yn y gwddf, y gesail neu'r forddwyd
Fel rheol, gellir trin anaf heintiedig yn llwyddiannus gyda chwrs byr o wrthfiotigau.
Pryd i fynd i adran damweiniau ac achosion brys (A&E)
Ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys (A&E) agosaf cyn gynted â phosibl:
- os na allwch atal y gwaedu
- os ydych yn gwaedu o rydweli - mae gwaed o rydweli'n dod allan mewn ffrydiau gyda phob curiad o'r galon, ac mae'n lliw coch llachar ac yn anodd ei reoli fel arfer
- os ydych yn profi diffyg teimlad parhaus neu sylweddol ger yr anaf, neu os ydych yn cael trafferth symud rhannau o'ch corff
- os ydych wedi cael toriad difrifol i'ch wyneb - mae'n bosibl y bydd angen i chi gael triniaeth frys i atal creithio
- os ydych wedi cael toriad i gledr eich llaw a bod y toriad yn edrych fel petai'n heintiedig - gall y mathau hyn o heintiau ledaenu'n gyflym
- os oes posibilrwydd bod darn estron yn dal i fod yn y clwyf
- os yw'r clwyf yn fawr iawn neu os yw'r anaf wedi achosi llawer o niwed i feinwe
Yn yr adran damweiniau ac achosion brys, bydd eich clwyf yn cael ei archwilio i weld a oes unrhyw berygl haint ai peidio. Efallai y bydd angen pigiad atgyfnerthu arnoch i atal tetaenws (haint bacterol) a gellir cau eich clwyf gyda phwythau, stribedi neu lud arbennig cyn bod gorchudd yn cael ei roi drosto.
Os oes perygl i'ch clwyf gael ei heintio, ni fydd yn cael ei gau fel arfer am y gallai hyn ddal unrhyw haint y tu mewn iddo. Yn lle hynny, bydd yn cael ei lenwi â rhwymyn nad yw'n ludiog cyn cael ei orchuddio â rhwymyn amddiffynnol hyd nes ei bod yn ddiogel i'w gau.