Chwarrenau chwyddiedig

Cyflwyniad

Swollen Glands
Swollen Glands

Mae chwarennau chwyddedig yn arwydd bod y corff yn ymladd haint. Byddant yn gwella ar eu pen eu hunain fel arfer ymhen 2 i 3 wythnos.

Gwiriwch a yw'ch chwarennau wedi chwyddo

Mae chwarennau chwyddedig yn teimlo fel lympiau tyner, poenus:

  • ar ddwy ochr y gwddf
  • o dan yr ên
  • yn y ceseiliau
  • o amgylch yr afl (groin)

Mae chwarennau (a elwir yn chwarennau lymff neu'n nodau lymff) yn chwyddo yn agos i haint i helpu'ch corff i'w hymladd.

Weithiau, bydd chwarren ar un ochr o'r corff yn unig yn chwyddo.

Efallai y bydd gennych symptomau eraill hefyd, fel gwddf tost / dolur gwddf, peswch neu dwymyn.

Pethau y gallwch eu gwneud eich hun

Bydd chwarennau chwyddedig yn gwella ymhen 2 neu 3 wythnos pan fydd yr haint wedi mynd.

Gallwch helpu i leddfu'r symptomau trwy:

  • orffwys
  • yfed digon o hylifau (i osgoi dadhydradu)
  • cymryd cyffuriau lladd poen fel paracetamol neu ibuprofen (peidiwch â rhoi aspirin i blant o dan 16 oed)

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os yw'ch chwarennau chwyddedig yn mynd yn fwy neu os nad ydynt wedi gwella o fewn 3 wythnos
  • os ydynt yn teimlo'n galed neu os nad ydynt yn symud pan fyddwch yn eu gwasgu
  • os ydych yn chwysu yn ystod y nos neu os oes gennych dymheredd uchel iawn (teimlo'n boeth ac yn grynedig) am fwy na 3 neu 4 diwrnod
  • os oes gennych chwarennau chwyddedig heb unrhyw arwyddion eraill o salwch neu haint

Dylech chi gael cyngor gan GIG 111 Cymru:

  • os oes gennych chwarennau chwyddedig ac rydych yn ei chael hi'n anodd iawn llyncu

Bydd GIG 111 Cymru yn dweud wrthych chi beth i'w wneud. Gallant drefnu bod nyrs neu feddyg yn eich ffonio, os bydd angen.

Achosion chwarennau chwyddedig

Peidiwch â gwneud diagnosis eich hun - ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni.

Mae chwarennau chwyddedig:

  • yn aml yn cael eu hachosi gan afiechydon cyffredin fel annwyd, tonsilitis a heintiau ar y glust neu'r gwddf
  • yn anaml yn cael eu hachosi gan unrhyw beth mwy difrifol, fel canser y system waed (lewcemia) neu'r system lymff (lymffoma)

Os byddwch yn mynd i weld meddyg teulu, bydd y driniaeth a argymhellir, a allai gynnwys gwrthfiotigau, yn dibynnu ar yr hyn sy'n achosi'r chwarennau chwyddedig.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/03/2024 12:49:23