Cerrig y bustl

Cyflwyniad

Cerrig mân wedi'u gwneud o golesterol, fel arfer, yw cerrig y bustl (gallstones), sy'n ffurfio yng nghoden y bustl (gall bladder). Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw cerrig y bustl yn achosi unrhyw symptomau ac nid oes angen eu trin.

Fodd bynnag, pe bai carreg y bustl yn cael ei dal mewn dwythell (agoriad neu sianel), y tu mewn i goden y bustl, gall hyn arwain at boen abdomen sydyn dwys sydd yn parhau, fel arfer am un i bum awr. Gelwir y math yma o boen abdomen yn wayw bustlog neu golig bustlog.

Yr enw meddygol am symptomau a chymhlethdodau sydd yn perthyn i gerrig y bustl ydy clefyd cerrig y bustl neu cholelithiasis.

Gall clefyd cerrig y bustl achosi llid yng nghoden y bustl (cholecystitis). Gall hyn achosi poen parhaus, y clefyd melyn a thymheredd (gwres) o 38°C  (100.4°F)  neu uwch.

Mewn rhai achosion, gall carreg y bustl symud i mewn i'r pancreas (cefndedyn) gan ei achosi troi'n llidus ac ymchwyddo. Adweinir hyn fel pancreatitis aciwt, mae'n achosi poen yn yr abdomen sydd yn mynd yn waeth gydag amser.

Coden y bustl

Organ fechan siâp gellygen sy'n debyg i goden yw coden y bustl, sydd wedi'i lleoli o dan yr afu/iau. Prif bwrpas coden y bustl yw cadw a chrynodi bustl.

Hylif sy'n cael ei gynhyrchu gan yr afu/iau yw bustl, sy'n cael ei ddefnyddio i helpu treulio brasterau. Caiff ei basio o'r afu/iau trwy gyfres o sianeli, o'r enw dwythellau bustl, i goden y bustl.

Caiff y bustl ei gadw yng nghoden y bustl a, thros amser, daw'n fwy crynodedig (yn gryfach), gan gynyddu ei effeithiolrwydd o ran treulio brasterau. Gall coden y bustl ryddhau bustl i'r system dreulio, yn ôl yr angen.

Beth sydd yn achosi cerrig y bustl?

Credir bod cerrig y bustl yn datblygu oherwydd diffyg cydbwysedd cemegol yng ngwneuthuriad y bustl y tu mewn i goden y bustl. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd lefelau colesterol yn y bustl yn mynd rhy uchel a bydd y colesterol ychwanegol yn ffurfio cerrig.

Pa mor gyffredin yw cerrig y bustl?

Mae cerrig y bustl yn gyffredin iawn. Amcangyfrifir bod cerrig y bustl ar 10-15% o oedolion yn y boblogaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, maent yn asymptomatig (nid ydynt yn achosi symptomau).

Mae'r ffactorau risg hysbys am ddatblygu cerrig y bustl yn cynnwys:

  • Oed: bydd y rhan fwyaf o achosion cerrig y bustl yn datblygu mewn pobl 40 oed neu drosodd, po hynaf y mae unigolyn, y mwyaf tebygol y bydd yn datblygu cerrig y bustl.
  • Rhyw: mae merched dwy i deirgwaith yn fwy tebygol o ddatblygu cerrig y bustl na dynion.
  • Mamau - mae gan fenywod sydd wedi cael plant risg uwch o glefyd cerrig y bustl, a all fod oherwydd bod y newidiadau hormonaidd, sydd yn digwydd yn ystod beichiogrwydd, yn codi lefelau colesterol.
  • Gordewdra.

Trin cerrig y bustl

Fel arfer nid oes angen triniaeth ar gerrig y bustl oni bai eu bod nhw'n achosi symptomau,  fel poen yn yr abdomen.

Yn yr achosion hyn, mae'n bosib y bydd llawdriniaeth 'twll y clo' i dynnu coden y bustl yn cael ei hargymell. Gelwir y dull hwn o weithio yn cholecystectomy laparosgopig, mae hi'n gymharol hawdd i'w wneud ac mae ganddo risg isel o gymhlethdodau.

Fe fedrwch chi gael bywyd hollol normal heb goden y bustl. Mae hi'n organ ddefnyddiol ond nid yw hi'n angenrheidiol. Bydd eich iau (afu) yn dal i gynhyrchu bustl er mwyn treulio bwyd, ond fe fydd y bustl yn diferu i'r coluddyn bach trwy'r amser, yn hytrach na chronni yng nghoden y bustl. 

Rhagolygon

Caiff y rhan fwyaf o achosion clefyd cerrig y bustl eu trin yn llwyddianus gyda llawdriniaeth. Gall achosion difrifol fygwth bywyd, yn enwedig mewn pobl sydd ag iechyd bregus eisoes, ond mae marwolaethau ohono yn brin iawn yng Nghymru.

Symptomau

Nid oes symptomau ar lawer o bobl sydd â cherrig y bustl, ac nid ydynt yn gwybod eu bod nhw arnynt heblaw y maent yn cael eu darganfod yn ystod prawf sydd yn cael ei wneud am reswm arall.

Fodd bynnag, gall symptomau ddatblygu pan fydd carreg y bustl yn cau un o ddwythellau'r bustl. Mae'r rhain yn strwythurau, yn debyg i diwbau, sydd yn dwyn y bustl o'r iau (afu) i goden y bustl ac wedyn i'r system treulio bwyd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn achosi poen yn yr abdomen (bol), er bydd rhai pobl yn profi symptomau eraill pe tai'r rhwystr yn un mwy difrifol neu pe tai rhwystr yn datblygu mewn rhan arall o'r system treulio bwyd.

Colig bustlog

Yr arwydd mwyaf cyffredin o golig bustlog yw poen sydyn, difrifol sy'n para rhwng awr a phum awr, fel arfer (er y gall bara am ond ychydig funudau ambell waith). Gall y poen fod:

  • yng nghanol eich abdomen, islaw asgwrn y fron ac uwchben eich bogail (botwm bol)
  • yn syth o dan eich asennau ar yr ochr dde, o ble gall ymestyn i'ch ochr neu'ch palfais

Mae'r poen yn un cyson nad yw'n lleddfu wrth fynd i'r ty bach, gollwng gwynt na chwydu. Caiff ei sbarduno weithiau gan fwyta bwyd bras a seimllyd, ond fe all ddigwydd ar unrhyw adeg o'r dydd ac fe all eich deffro yn ystod y nos.

Fel arfer, colig bustlog yw un o symptomau anfynych clefyd cerrig y bustl. Ar ôl pwl o boen, gallai ychydig wythnosau neu fisoedd fynd heibio cyn i chi gael pwl arall.

Yn ogystal â'r poen sy'n gysylltiedig â cholig bustlog, mae nifer o bobl hefyd yn cael profiad o:

  • gyfog
  • chwydu
  • chwysu'n ormodol

Bydd meddygon yn cyfeirio at gerrig y bustl sydd yn achosi pyliau o golig bustlog fel 'clefyd cerrig y bustl heb gymhlethdodau'.

Symptomau eraill

Mewn rhif bach o bobl, gallai cerrig y bustl achosi problemau mwy difrifol os byddant yn rhwystro llif y bustl am amser hir neu os byddant yn symud i mewn i organau eraill (megis y pancreas neu'r coluddyn bach.

Os digwydd hyn gallech chi ddatblygu:

  • tymheredd uchel 38°C (100.4°F) neu'n uwch
  • poen mwy parhaus
  • curiad calon cyflyn
  • melynu i'r croen a gwyn y llygaid (clefyd melyn)
  • croen yn cosi
  • dolur rhydd
  • pyliau o grynu a rhynnu
  • dryswch
  • colli archwaeth at fwyd

Bydd meddygon yn cyfeirio at y cyflwr mwy difrifol hwn fel 'clefyd cerrig y bustl cymhleth'

Pryd i gael cyngor meddygol

Os byddwch yn amau eich bod yn profi pyliau o golig bustlog, dylech chi gael apwyntiad â'ch meddyg teulu.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu yn syth am gyngor os datblygwch chi:

  • y clefyd melyn
  • boen yn yr abdomen sydd yn para am fwy nag wyth awr
  • dymheredd uchel a rhynnu
  • poen yn yr abdomen sydd mor ddwys nad ydych yn medru dod o hyd i osgo i'w leddfu

​Os nad yw'n bosibl cysylltu a'ch Meddyg Teulu ar unwaith ffoniwch 111.

 

Achosion

Credir bod cerrig y bustl yn datblygu oherwydd anghydbwysedd yng nghyfansoddiad cemegol y bustl y tu mewn i goden y bustl. Hylif sy'n cael ei gynhyrchu gan yr afu/iau yw bustl, sy'n helpu i dreulio brasterau.

Mae hi'n dal yn aneglur pa beth sydd yn arwain at yr anghydbwysedd hwn, ond gwyddys y call cerrig y bustl ffurfio os bydd:

  • lefelau colesterol anarferol o uchel y tu mewn i goden y bustl - bydd tua phedair carreg o bob pump  wedi ei ffurfio o golesterol
  • lefelau bilirwbin (defnydd gwastraff a gaiff ei ffurfio wrth i gelloedd coch y gwaed gael eu chwalu) anarferol o uchel y tu mewn i goden y bustl - bydd tua un garreg o bob pump wedi ei ffurfio o filirwbin.

Bydd yr anghydbwysedd cemegol hwn yn achosi i risialau bychain ffurfio yn y bustl, sydd yn tyfu'n araf bach (weithiau dros flynyddoedd llawer) i gerrig caled a all cyn lleied â thywodyn neu gymaint â cherigyn.

Weithiau mai dim ond un garreg bydd yn ffurfio, ond yn aml fe fydd sawl un yn ffurfio ar yr un pryd.

Ffactorau risg hysbys

Mae cerrig y bustl yn fwy cyffredin ymhlith y grwpiau canlynol:

  • menywod, yn enwedig y rheiny sydd wedi bod yn feichiog
  • pobl dros eu pwysau neu ordew - mae gan bobl dros eu pwysau mynegai mas y corff (BMI) o 25 neu'n uwch.
  • pobl 40 oed neu'n hyn (po hynaf yr ydych, y mwyaf tebygol yr ydych o ddatblygu cerrig y bustl)
  • pobl â sirosis (creithiau ar yr afu/iau)
  • pobl â'r anhwylderau treulio clefyd Crohn a syndrom coluddyn llidus (IBS)
  • pobl â hanes teuluol o gerrig y bustl (mae gan 30% o bobl â cherrig y bustl berthynas agos sydd wedi cael cerrig y bustl hefyd)
  • pobl sydd wedi colli pwysau yn ddiweddar, naill ai o ganlyniad i ddiet neu lawdriniaeth colli pwysau, fel cael band gastrig
  • pobl sy'n cymryd meddyginiaeth o'r enw ceftriaxone, sef gwrthfiotig sy'n cael ei ddefnyddio i drin ystod o heintiau, gan gynnwys niwmonia (haint ar yr ysgyfaint), meningitis (llid ar haenau'r ymennydd) a gonorrhoea (haint a drosglwyddir yn rhywiol)

Mae gan fenywod sy'n cymryd y bilsen atal cenhedlu neu sy'n cael therapi estrogen â dos uchel (sy'n cael ei ddefnyddio ambell waith i drin osteoporosis, canser y fron a menopos) fwy o risg o ddatblygu cerrig y bustl hefyd.

Diagnosis

Gan nad oes symptomau ar lawer o bobl sydd â cherrig y bustl, fe ddeuir o hyd iddynt trwy hap wrth archwilio cyflyrau digyswllt eraill.

Os oes symptomau cerrig y bustl arnoch chi, fe ddylech chi wneud apwyntiad â'ch meddyg teulu iddynt adnabod y broblem.

Ymweld â'ch meddyg teulu

Bydd eich meddyg teulu yn holi yn fanwl am eich symptomau ac mae hi'n bosibl bydd yn cynnal prawf syml hefyd o'r enw prawf arwyddion Murphy. Rydych yn anadlu i mewn a bydd eich meddyg teulu yn tapio eich abdomen yn ysgafn ger safle coden y bustl. Os yw'r tapio'n achosi poen, mae hyn fel arfer yn awgrymu bod coden y bustl yn llidus.

Mae hi'n bosib hefyd bydd eich meddyg teulu yn argymell profion gwaed i chwilio am nodweddion haint, neu i gadarnhau bod eich iau yn gweithio'n iawn. Os bydd cerrig y bustl wedi symud i'ch dwythell bustl, bydd gweithrediad normal eich iau wedi'i darfu arno.

Os bydd eich symptomau neu ganlyniadau'r profion yn awgrymu bod cerrig y bustl arnoch chi, fel arfer fe fydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio am brofion pellach a fydd yn cadarnhau'r diagnosis. Gallwch chi gael eich danfon i'r ysbyty ar yr un diwrnod os bydd eich symptomau'n awgrymu bod ffurf ddifrifol o glefyd cerrig y bustl arnoch chi.

Profion pellach

Sgan uwchsain

Fel arfer fe ellid cadarnhau presenoldeb cerrig y bustl trwy ddefnyddio sgan uwchsain, sydd yn defnyddio tonau sain amledd uchel er mwyn creu llun o'r tu mewn i'r corff.

Y math o sgan uwchsain sydd yn cael ei ddefnyddio yn debyg iawn i'r un a ddefnyddir yn ystod beichiogrwydd. Rhoir troswr, teclyn bach sydd yn cael ei dal yn y llaw,  ar eich croen a'i symud dros eich uwch-abdomen.

Mae'r troswr yn danfon tonnau sain trwy eich croen ac i mewn i'ch corff. Mae'r tonnau yn dod yn ôl o feinweoedd y corff, gan ffurfio llun sydd yn cael ei ddangos ar fonitor. Mae'r drefn hon yn ddiboen a fydd yn cymryd tua 10-15 munud i'w gwneud.

Unwaith bydd cerrig y bustl yn cael eu cadarnhau, gall fod ansicrwydd a ydy cerrig wedi mynd i mewn i ddwythell y bustl.

Weithiau bydd yn bosib gweld cerrig yn nwythell y bustl yn ystod sgan uwchsain, ond os nad ydynt i'w gweld, ond bod profion a gawsoch yn awgrymu bod dwythell y bustl wedi'i effeithio (er enghraifft bod prawf gwaed yn abnormal neu fod dwythell y bustl yn ymddangos yn fwy llydan yn ystod y sgan uwchsain), bydd angen profion pellach. Yn y rhan fwyaf o achosion fe fydd hyn yn golygu sgan MRI neu cholangiogram (gweler isod).

Sgan MRI

Gellid defnyddio sgan delweddu cyseiniant magnetig (MRI) i chwilio am gerrig y bustl yn nwythellau'r bustl. Mae math yma o sgan yn defnyddio meysydd magnetig cryf a thonnau radio i ffurfio lluniau manwl o du fewn y corff.

Colangiograffi

Wedi i ddiagnosis o gerrig y bustl gael ei gadarnhau, efallai y byddwch yn mynd trwy weithred o'r enw colangiograffi i gael mwy o wybodaeth am gerrig y bustl a chyflwr coden y bustl.

Mae colangiograffi yn defnyddio llifyn sy'n ymddangos ar belydr X. Bydd y llifyn naill ai yn cael ei chwistrellu i lif y gwaed er mwyn iddo grynodi yn nwythellau'r bustl a choden y bustl, neu gellir ei roi yn nwythellau'r bustl yn ystod llawdriniaeth i dynnu coden y bustl, neu ei roi i mewn i ddwythellau'r bustl gan ddefnyddio camera opteg ffibr hyblyg (endosgop) a gaiff ei roi i mewn trwy eich ceg.

Wedi i'r llifyn gael ei roi, caiff delweddau pelydr X eu cymryd. Bydd y pelydr X yn dangos unrhyw annormaledd yn eich systemau bustl neu’r pancreas, fel coden y bustl neu bancreas llidus. Os yw coden y bustl a'ch systemau bustl yn gweithio'n normal, yna caiff y llifyn ei amsugno i'r holl leoedd y dylai bustl fynd iddynt (eich afu/iau, dwythellau'r bustl, eich coluddion a choden y bustl).

Os nad yw'r llifyn yn ymddangos mewn un neu fwy o'r lleoedd hyn, mae hyn fel arfer yn awgrymu bod cerrig y bustl yn achosi rhwystr. Trwy astudio delweddau'r pelydr X, gellir canfod union leoliad cerrig y bustl.

Os caiff rhwystr ei ganfod yn ystod y prawf hwn, mae'n bosibl y bydd eich meddyg yn ceisio ei dynnu ar y pryd gan ddefnyddio endosgop. Caiff hyn ei alw yn cholangio-pancreatograffi gwrthredol endosgopig (ERCP).

Sgan CT

Gellid defnyddio sgan tomographig cyfrifiadurol (sgan CT) i chwilio am gymhlethdodau cerrig y bustl, fel pancreatitis aciwt.  Mae'r math yma o sgan yn cynnwys tynnu cyfres o luniau pelydr-X  o lawer o wahanol onglau.

Fe gaiff sganiau CT eu gwneud yn aml mewn achosion brys i ddod o hyd i achos poen dwys yn yr abdomen.

Triniaeth

Bydd eich cynllun triniaeth yn dibynnu ar sut mae'r symptomau yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.

Mewn achosion o gerrig y bustl heb symptomau, caiff polisi o 'aros yn wyliadwrus' ei argymell. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael unrhyw driniaeth union, ond dylech gadw llygad i weld a yw eich cyflwr yn gwaethygu a rhoi gwybod i'ch meddyg teulu am unrhyw symptomau.

Yn gyffredinol, po hiraf nad ydych yn cael unrhyw symptomau, y lleiaf tebygol ydyw y bydd eich cyflwr yn gwaethygu.

Efallai bydd angen triniaeth arnoch chi pe bai cyflwr arnoch chi sydd yn codi eich risg o ddioddef cymhlethdodau, fel:

Efallai caiff triniaeth ei hargymell os bydd sgan yn dangos lefelau uchel o galsiwm y tu mewn i'ch coden fustl,  oherwydd gall hyn arwain at ganser coden y bustl yn hwyrach mewn bywyd.

Os cewch chi byliau o boen yn yr abdomen (colig bustlog), bydd triniaeth yn dibynnu ar sut y bydd y poen yn effeithio ar eich gweithgareddau dyddiol. Os bydd y pyliau yn rhai ysgafn ac anaml, efallai y caiff meddyginiaeth ladd poen ei rhagnodi i chi, i reoli pyliau pellach a chyngor ar fwyta a diet iach er mwyn helpu rheoli'r poen.

Os bydd eich yn fwy llym ac yn digwydd yn aml, fel arfer caiff llawdriniaeth i dynnu coden y bustl ei hargymell. Nid yw coden y bustl yn organ angenrheidiol a ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn sylwi ar  fawr o wahaniaeth hebddi.

Colesystectomi

Llawdriniaeth i dynnu coden y bustl yw colesystectomi. Mae dau fath o golesystectomi:

  • colesystectomi laparosgopig
  • colesystectomi agored

Yn y mwyafrif o achosion caiff llawdriniaeth twll y clo ei ddefnyddio i dynnu coden y bustl os argymhellir llawdriniaeth.

Colesystectomi laparosgopig

Y colesystectomi mwyaf cyffredin yw colesystectomi laparosgopig, sef math o lawdriniaeth 'twll clo'.

Yn ystod colesystectomi laparosgopig, bydd y llawfeddyg yn gwneud pedwar endoriad (toriad) bach, tuag 1cm neu'n llai, ym mur eich abdomen. Caiff un o'r endoriadau ei wneud wrth eich bogail (botwm bol) a chaiff y tri arall eu gwneud ar yr ochr dde i'ch abdomen.

Caiff eich abdomen ei enchwythu â nwy carbon deuocsid sy'n cael ei basio trwy'r endoriadau. Mae enchwythu'r abdomen yn rhoi golwg well i'r llawfeddyg o'ch organau a mwy o le i weithio ynddo.

Bydd y llawfeddyg yn rhoi offeryn o'r enw laparosgop trwy un o'r endoriadau. Tiwb bach hyblyg yw laparosgop sydd â ffynhonnell o olau a chamera ar un pen iddo. Mae'r camera yn trosglwyddo delweddau o'r tu mewn i'ch abdomen neu belfis i fonitor teledu.

Yna, bydd y llawfeddyg yn rhoi offerynnau bach i lawr y laparosgop a gellir defnyddio'r rhain i dynnu coden y bustl ac unrhyw gerrig y bustl. Wedi i'r weithred gael ei chwblhau, caiff yr endoriadau eu selio.

Weithiau, os caiff ei amau bod cerrig y bustl yn nwythell y bustl, bydd llun peledr-X o ddwythell y bustl yn cael ei dynnu yn ystod y llawdriniaeth hefyd. Os deuir o hyd i gerig y busstl, weithiau bydd yn bosib eu tynnu yn ystod llawdriniaeth twll y clo. Os na fydd hi'n bosib dod i ben â'r llawdriniaeth yn y ffordd hon, gallai fod rhaid newid y llawdriniaeth i un agored (gweler isod).

Ar ôl tynnu coden y bustl, bydd y nwy sydd yn eich abdomen yn dianc trwy'r laparosgop a chaiff yr endoriadau eu cau gyda phwythau toddi a'u gorchuddio â rhwymyn.

Fel arfer fe fydd colesystectomi laparosgopig yn cael ei wneud o dan anesthetig cyffredinol, sydd yn golygu y byddwch chi'n cysgu trwy'r llawfeddygaeth a ni fyddwch yn teimlo poen tra ei bod hi'n cael ei gwneud. Bydd y llawdriniaeth yn para am 60-90 munud a byddwch chi'n gallu mynd adref ar yr un diwrnod fel arfer. Bydd adferiad llawn fel arfer yn cymryd tua 10 niwrnod.

Llawdriniaeth twll y clo un endoriad.

Math newydd o lawdriniaeth twll y clo ydy colesystectomi laparosgopig un endoriad sydd yn cael ei defnyddio i dynnu coden y bustl. Yn ystod y math yma o lawdriniaeth ni wneir ond un endoriad bychan, sydd yn golygu na fydd ond un graith weladwy prin iawn y gellid ei gweld.

Fodd bynnag nid yw colesystectomiau laparosgopig un endoriad  wedi cael eu gwneud cyn amled â cholesystectomiau laparosgopig confensiynol, felly mae dal rhai pethau ansicr ynglyn â nhw. Mae cael mynediad i'r math yma o lawdriniaeth yn gyfyng oherwydd mae eisiau llawfeddyg profiadol â hyfforddiant arbennigol i'w gwneud.

Mae gan Y Sefydliad Cenedlaethol ar Ragoriaeth Iechyd a Chlinigol (NICE) mwy o wybodaeth am golesystectomi laparosgopig un endoriad.

Colesystectomi agored

Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl na fydd colesystectomi laparosgopig yn cael ei argymell. Gallai hyn fod oherwydd rhesymau technegol neu bryderon ynghylch diogelwch. Mae'n bosibl na chaiff colesystectomi laparosgopig ei argymell:

  • os ydych yn y tri mis olaf o fod yn feichiog
  • os ydych yn ordew
  • os bydd strwythur anarferol ar goden eich bustl neu ddwythell eich bustl sydd yn gwneud llawfeddygaeth twll y clo yn fwy anodd ac o bosib yn fwy peryglus.

Yn yr amgylchiadau hyn, gellir argymell colesystectomi agored. Yn ystod y weithred hon, bydd y llawfeddyg yn gwneud endoriad mawr o 10-15cm (4-6 modfedd) yn eich abdomen, o dan eich asennau ac yn tynnu coden y bustl. Caiff hyn ei wneud o dan anesthetig cyffredinol, sydd yn golygu y byddwch chi'n cysgu trwy'r llawfeddygaeth a ni fyddwch yn teimlo unrhyw boen.

Mae colesystectomi agored yn ddull effeithiol o drin clefyd cerrig y bustl, ond mae'n cymryd mwy o amser i wella ac yn achosi mwy o greithio gweladwy o'i gymharu â cholesystectomi laparosgopig. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cymryd tua chwe wythnos i wella o effeithiau colesystectomi agored.

Asid wrsodeocsicolig

Ambell waith, gellir trin cerrig y bustl sydd wedi'u gwneud o golesterol ac nad ydynt yn cynnwys calsiwm â meddyginiaeth o'r enw asid wrsodeocsicolig, sy'n toddi cerrig y bustl yn araf.

Weithiau, rhoddir presgripsiwn ar gyfer asid wrsodeocsicolig fel rhagofal ar gyfer cerrig y bustl hefyd, os credir eich bod mewn perygl arbennig o fawr o'u datblygu. Er enghraifft, efallai y cewch bresgripsiwn ar gyfer asid wrsodeocsicolig os ydych wedi cael llawdriniaeth i golli pwysau yn ddiweddar.

Fodd bynnag, ni chaiff  ei ddefnyddio'n aml iawn oherwydd nid ydy yn effeithiol iawn fel arfer, ac mae rhaid ei gymryd am amser hir (hyd at ddwy flynedd) a gall y cerrig ail-ddigwydd unwaith y bydd triniaeth wedi dod i ben.

Mae sgîl-effeithiau asid wrsodeocsicolig yn anghyffredin ac yn ysgafn, fel arfer. Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw:

  • cyfog
  • chwydu
  • croen coslyd

Nid yw menywod beichiog na menywod sy'n bwydo ar y fron yn cael eu hargymell i gymryd asid wrsodeocsicolig, fel arfer.

Dylai menywod sy'n cael cyfathrach rywiol ddefnyddio dull atal cenhedlu rhwystrol, fel condom, neu bilsen atal cenhedlu â dos isel o estrogen pan fyddant yn cymryd asid wrsodeocsicolig. Ni chaiff mathau eraill o'r bilsen atal cenhedlu eu hargymell gan y gallant ryngweithio ag asid wrsodeocsicolig mewn modd anrhagweladwy, ambell waith.

Colangiopancreatolograffeg olredol endosgopig (ERCP)

Mae colangiopancreatolograffeg olredol endosgopig (ERCP) yn weithred sydd â'r nod o dynnu cerrig y bustl heb dynnu coden y bustl. Fel arfer, caiff ei gwneud gan ddefnyddio tawelyddion , sy'n golygu y byddwch yn effro yn ystod y driniaeth, ond ni fyddwch yn teimlo unrhyw boen.

Mae ERCP yn debyg i golangiograffi diagnostig, heblaw y caiff gwifren wedi'i chynhesu'n drydanol ei phasio drwy'r endosgop a'i defnyddio i ledu'r agoriad i ddwythell y bustl. Yna, caiff cerrig y bustl eu tynnu neu eu gadael i basio i'ch coluddyn ac allan o'ch corff.

Weithiau, bydd tiwb bach o'r enw stent, yn cael ei osod yn nwythell y bustl yn barhaol er mwyn caniatau i fustl a cherrig basio.

Bydd y weithdrefn ERCP yn para am tua 30 munud ar gyfartaledd, ond fe all gymryd o 15 munud hyd at dros awr. Mae'n bosib bydd rhaid ichi aros yn yr ysbyty dros nos wedi'r driniaeth i gael eich monitro.

Diet a cherrig y bustl

Weithiau yn y gorffennol, cynghorwyd pobl oedd â cherrig y bustl, nad oeddynt yn gymwys am lawdriniaeth i gymryd at ddiet oedd yn isel iawn mewn braster er mwyn atal y cerrig rhag tyfu.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu nad yw hyn yn fuddiol oherwydd mewn gwirionedd fe all colli pwysau sydyn, o ganlyniad i ddiet isel iawn ei fraster, achosi i'r cerrig dyfu.

Felly, os na chaiff llawdriniaeth ei hargymell, neu fod arnoch chi eisiau osgoi llawdriniaeth, callaf fyddai ddilyn diet iach a chytbwys wedi'i seilio ar blât bwyta'n iach'. Mae hyn yn golygu bwyta amrywiaeth o fwydydd - gan gynnwys symiau cymhedrol o fraster - a chael prydiau rheolaidd.

Ni fydd diet iach yn gwella cerrig y bustl nag atal eich symptomau'n llwyr, ond fe all gwella eich iechyd cyffredinol a helpu rheoli'r poen a achosir gan gerrig y bustl.

Cymhlethdodau

Mewn nifer bychan o bobl sydd yn dioddef o gerrig y bustl, gall problemau difrifol ddatblygu pe bai'r cerrig yn achosi rhwystr difrifol neu'n symud i ran arall o'r system treulio bwyd.

Llid coden y bustl (colesystitis aciwt)

Mewn ambell achos o glefyd coden y bustl fe all dwythell bustl cael ei gau yn barhaol, sydd yn gallu peri i fustl gronni y tu mewn i goden y bustl. Gall hyn achosi i goden y bustl fynd yn llidus ac ymchwyddo.

Y term meddygol am lid coden y bustl ydy colesystitis aciwt. Bydd symptomau yn cynnwys:

  • poen yn rhan uchaf eich abdomen sydd yn mynd tuag at eich palfais (yn wahanol i golig bustlog, fe fydd y boen yn parhau am fwy na phum awr)
  • tymheredd uchel (gwres) o 38°C (100.4°F) neu uwch
  • curiad calon cyflym

Amcangyfrifir bydd un o bob saith o bobl, sydd yn dioddef colesystitis aciwt, yn cael y clefyd melyn hefyd (gweler isod).

Fel arfer fe fydd colesystitis aciwt yn cael ei drin â gwrthfiotigau yn gyntaf i sefydlogi'r haint ac wedyn llawdriniaeth twll y clo i dynnu coden y bustl. Gall y llawdriniaeth hon fod yn fwy anodd pan gaiff ei gwneud fel achos brys, a bydd yn fwy tebygol bydd angen ei newid i lawdriniaeth agored.

Weithiau gall haint difrifol arwain at grawniad coden y bustl (empyema coden y bustl). Ni fydd gwrthfiotigau pob tro yn gwella'r rhain ac efallai bydd angen ei ddraenio.

Weithiau gall coden y bustl llidus iawn rwygo, gan arwain at beritonitis (llid y bilen sydd yn gorchuddio y tu mewn i'r abdomen, o enw 'r berfeddlen (peritonewm). Os bydd hyn yn digwydd gall fod angen tynnu'r berfeddlen mewn llawfeddygaeth frys.

Y clefyd melyn

Os daw carreg y bustl o goden y bustl i mewn i ddwythell y bustl gan rwystro llif y bustl fe ddigwydd y clefyd melyn fel canlyniad.

Mae symptomau'r clefyd melyn yn cynnwys:

  • melynu'r croen a llygaid
  • troeth brown tywyll
  • carthion llwydaidd
  • cosi

Weithiau bydd y garreg yn pasio ohoni ei hun. Os na wnaiff, bydd angen tynnu'r garreg.

Haint dwythellau'r bustl (colangitis aciwt)

Unwaith y caiff dwythellau'r bustl eu rhwystro, maent yn agored i haint bacteriol. Yr enw meddygol am haint ar ddwythellau'r bustl ydy colangitis aciwt.

Mae symptomau colangitis aciwt yn cynnwys:

  • poen yn rhan uchaf eich abdomen  sydd yn mynd at eich palfais
  • tymheredd uchel
  • y clefyd melyn
  • fferdod
  • dryswch
  • croen sy'n cosi
  • teimlo'n gyffredinol afiach

Bydd gwrthfiotigau yn helpu trin yr haint, ond y mae hi hefyd yn bwysig helpu i'r bustl ddraenio o'r iau trwy ddefnyddio colangio-pancreatograffi gwrthredol endosgopig (ERCP).

Pancreatitis aciwt

Bydd pancreatitis aciwt yn datblygu pan fydd carreg y bustl yn symud o goden y bustl gan gau'r agoriad (dwythell) i'r pancreas, gan ei achosi troi'n llidus.

Y symptom mwyaf cyffredin o bancreatitis aciwt yd poen sydyn pwl yng nghanol rhan uchaf eich abdomen, tua phen eich stummog.

Yn aml bydd y poen a gysylltir â phancreatitis aciwt yn gwaethygu'n gyson nes ei fod yn cyrraedd cur parhaus. Gall y cur yn mynd o'ch abdomen ar hyd eich cefn a gallwch deimlo yn waeth ar ôl bwyta. Gall plygu ymlaen neu gyrcydu yn bêl helpu lleddfu'r poen.

Gall symptomau eraill pancreatitis aciwt gynnwys:

  • cyfog
  • chwydu
  • y dolur rhydd
  • colli archwaeth at fwyd
  • tymheredd uchel (gwres) o 38°C (100.4°F) neu uwch
  • tynerwch yr abdomen
  • yn llai aml, y clefyd melyn

Nid oes gwellhad am bancreatitis aciwt, felly mae'r driniaeth yn canolbwyntio ar gynnal gweithrediad y corff nes bydd y llid yn mynd heibio.

Fel arfer fe fydd hyn yn golygu mynd i mewn i'r ysbyty er mwyn rhoi hylifau trwy wythïen am leddfu poen, cynhaliaeth faethol ac ocsigen trwy diwbau i'ch trwyn.

Gyda thriniaeth, bydd y mwyafrif o bobl â phancreatitis aciwt yn gwella o fewn wythnos a fe gant nhw adael yr ysbyty ar ôl 5-10 niwrnod.

Canser coden y bustl

Mae canser coden y bustl yn un o gymhlethdodau anghyffredin ond difrifol cerrig y bustl. Caiff ei amcangyfrif bod 600 o achosion o ganser coden y bustl yn cael eu canfod yn y Deyrnas Unedig (DU) bob blwyddyn.

Mae hanes o gerrig y bustl yn ffactor risg mawr o ran datblygu canser coden y bustl. Mae gan tua 80% o bobl â chanser coden y bustl hanes o gerrig y bustl hefyd.

Fodd bynnag, mae gan bobl â hanes o gerrig y bustl siawns sy'n llai nag 1 o bob 10,000 o ddatblygu canser coden y bustl.

Os oes gennych ffactorau risg eraill, fel hanes teuluol o ganser coden y bustl, efallai y cewch eich argymell i dynnu coden y bustl rhag ofn, hyd yn oed os oes gennych gerrig y bustl asymptomatig yn unig (dim symptomau).

Mae symptomau canser coden y bustl yn debyg i symptomau clefyd cerrig y bustl cymhleth, gan gynnwys:

  • poen yn yr abdomen
  • tymheredd uchel (twymyn) o 38ºC (100.4ºF) neu'n uwch
  • clefyd melyn (pan fydd y croen a gwyn y llygaid yn melynu)

Gellir trin canser coden y bustl â chyfuniad o lawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi.

Mae mwy o wybodaeth am ganser coden y bustl ar gael gan Macmillan Cancer Support a Cancer Research UK.

Ilëws cerrig y bustl

Un o gymhlethdodau anghyffredin ond difrifol eraill cerrig y bustl yw ilëws cerrig y bustl. Mae hyn pan gaiff y perfeddyn ei rwystro gan garreg y bustl.

Gall ilëws cerrig y bustl ddigwydd pan fydd sianel annormal, o'r enw ffistwla, yn agor ger coden y bustl. Yna, gall cerrig y bustl deithio trwy'r ffistwla a rhwystro'r perfeddyn. Gall symptomau ilëws cerrig y bustl gynnwys:

  • poen yn yr abdomen
  • chwydu
  • yr abdomen yn chwyddo
  • rhwymedd

Mae angen triniaeth feddygol ar unwaith ar gyfer rhwystr yn y perfeddyn. Os na chaiff ei drin, mae perygl y gallai'r perfeddyn rwygo (hollti). Gallai hyn achosi gwaedu mewnol a haint ar led.

Os ydych yn amau bod eich perfeddyn wedi'i rwystro, cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl.Os nad yw hyn yn bosibl, ffoniwch 111.

Fel arfer, bydd angen llawdriniaeth i dynnu carreg y bustl a dadflocio'r perfeddyn. Mae'r math o lawdriniaeth y bydd ei angen arnoch yn dibynnu ar le mae'r rhwystr yn y perfeddyn.

Atal

Atal cerrig y bustl

Mae llawer o'r ffactorau sy'n achosi cerrig y bustl yn rhai sefydlog, fel oedran a rhyw, felly ni ellir eu hatal.

Fodd bynnag, o'r dystiolaeth gyfyngedig sydd ar gael, y ffordd fwyaf effeithiol o atal cerrig y bustl yw newid eich ffordd o fyw, fel:

  • newid eich deiet
  • colli pwysau (os ydych yn ordew)

Diet

Oherwydd y rhan yr ymddengys y mae colesterol yn ei chwarae mewn ffurfio cerrig y bustl, fe'ch cynghorir i osgoi bwyta bwydydd brasterog sy'n cynnwys llawer o golesterol.

Mae bwydydd sy'n cynnwys llawer o golesterol yn cynnwys:

  • pasteiod cig
  • selsig a darnau brasterog o gig
  • menyn a lard
  • cacennau a bisgedi

Mae diet nad yw'n cynnwys llawer o fraster ond sy'n cynnwys llawer o ffibr yn cael ei argymell. Mae hyn yn cynnwys digon o ffrwythau a llysiau ffres (o leiaf pum dogn y dydd) a grawn cyflawn. Mae mwy o wybodaeth am ddeiet iach ar gael yn nhudalennau'r gwyddoniadur ar diet.

Hefyd, mae tystiolaeth y gall bwyta cnau yn rheolaidd, fel cnau daear neu gnau cashiw, helpu lleihau'r risg o ddatblygu cerrig y bustl, ynghyd ag yfed alcohol yn gymedrol (dim mwy na 3-4 uned y dydd i ddynion a 2-3 uned y dydd i fenywod).

Colli pwysau

Mae bod dros eich pwysau ac, yn arbennig, bod yn ordew, yn cynyddu faint o golesterol sydd yn eich bustl sydd, yn ei dro, yn cynyddu'r risg y byddwch yn datblygu cerrig y bustl. Felly, dylech reoli eich pwysau trwy fwyta diet iach a gwneud digon o ymarfer corff yn rheolaidd.

Fodd bynnag, osgowch ddeietau colli pwysau cyflym sy'n cynnwys ychydig iawn o galorïau. Mae tystiolaeth y gall y rhain amharu ar gemeg eich bustl a chynyddu'r risg y byddwch yn datblygu cerrig y bustl. Mae cynllun colli pwysau mwy graddol yn cael ei argymell.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/11/2022 11:26:11