Gonorrhoea

Cyflwyniad

Haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yw gonorrhoea, sy'n cael ei achosi gan facteria o’r enw Neisseria gonorrhoeae neu gonococws. Arferai gael ei adnabod fel "y clap".

Mae gonorrhoea yn gallu effeithio ar y serfics (gwddf y groth), wrethra (y llwybr dŵr), yr wterws (croth), y tiwbiau Ffalopaidd, yr ofarïau, y ceilliau, y rectwm (anws), y gwddf, ac weithiau'r llygaid.

Mae dynion fel arfer yn sylwi ar redlif o flaen y pidyn, ond ni fydd y rhan fwyaf o fenywod yn sylwi bod unrhyw beth o'i le.

Caiff triniaeth gyflym ei hargymell i atal problemau mwy difrifol:

Mewn menywod, lledaeniad yr haint i'r organau atgenhedlu gan arwain o bosibl at anffrwythlondeb

Mewn dynion, lledaeniad yr haint i'r ceilliau gan arwain at boen a chwyddo

Mae profion ar gael mewn unrhyw glinig iechyd rhywiol arbenigol neu glinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM), ac mewn rhai meddygfeydd a gwasanaethau atal cenhedlu.

Mae gan gonorrhoea ymwrthedd i lawer o wrthfiotigau cyffredin. Bydd angen i chi gael eich profi mewn gwasanaeth iechyd rhywiol arbenigol i sicrhau eich bod yn cael y driniaeth gywir.

Sut caiff gonorrhoea ei ledaenu

Mae'r bacteria sy'n achosi gonorrhoea i'w cael mewn rhedlif o'r pidyn ac mewn hylif gweiniol, yn bennaf.

Mae'n hawdd trosglwyddo gonorrhoea o un unigolyn i'r llall trwy:

  • ryw gweiniol, geneuol neu refrol diamddiffyn, a
  • rhannu dirgrynwyr neu deganau rhyw eraill heb eu golchi na'u gorchuddio â chondom newydd bob tro y cânt eu defnyddio.

Mae'r bacteria yn gallu heintio'r serfics (yr agoriad i'r groth), yr wrethra (y tiwb y mae wrin yn pasio allan o'r corff trwyddo), y rectwm, a'r gwddf neu'r llygaid, sy'n llai cyffredin.

Gall yr haint gael ei drosglwyddo o fenyw feichiog i'w baban hefyd. Os ydych chi'n feichiog ac y gallai fod gonorrhoea gennych, mae'n bwysig cael prawf a thriniaeth cyn i'ch baban gael ei eni.

Heb driniaeth, gall gonorrhoea achosi dallineb parhaol mewn baban newydd-anedig.

Ni chaiff gonorrhoea ei ledaenu trwy gusanu, cofleidio, pyllau nofio, seddi toiled, neu rannu bath, tywelion, cwpanau, platiau neu gyllyll a ffyrc. Ni all y bacteria oroesi y tu allan i'r corff dynol am gyfnod hir.

Symptomau gonorrhoea

Fel arfer, bydd dynion yn sylwi ar y canlynol:

  • rhedlif o flaen y pidyn
  • poen sy'n llosgi wrth basio dŵr. Mae symptomau mewn dynion fel arfer yn ymddangos o fewn 2-5 diwrnod o ddal yr haint

Efallai na fydd menywod yn sylwi bod unrhyw beth o'i le, ond gallant basio'r haint i'w partner o hyd. Mae'r haint fel arfer yn dechrau yn y serfics (gwddf y groth) ac wedyn, gall ledaenu'n fewnol i'r wterws (croth), y tiwbiau Ffalopaidd a'r ofarïau.

Efallai y bydd rhai menywod yn sylwi ar un neu fwy o'r canlynol:

  • gwaedu rhwng y mislif neu ar ôl cael rhyw
  • poen yn rhan isaf yr abdomen yn enwedig yn ystod rhyw
  • 'systitis' neu boen sy'n llosgi wrth basio dŵr
  • rhedlif cynyddol o'r fagina

Nid yw pobl fel arfer yn sylwi ar heintiau yn y gwddf neu'r rectwm.

Cael prawf

Menywod

Os oes gennych chi symptomau, mae'n well bod meddyg neu nyrs yn cymryd swab o'r serfics (gwddf y groth) yn ystod archwiliad mewnol.

Os nad oes gennych chi symptomau, gallwch gymryd swab eich hun o'r agoriad i'r fagina.

Dynion

Os oes gennych chi redlif, bydd meddyg neu nyrs yn cymryd swab o flaen y pidyn.

Os nad oes gennych chi unrhyw symptomau, bydd sampl wrin yn cael ei chasglu - ddylech chi ddim fod wedi pasio dŵr am awr.

Yn achlysurol, gall swabiau gael eu cymryd o'r gwddf, y rectwm a'r llygad hefyd.

Mae'n bwysig cael prawf cyn gynted ag y bo modd gan fod gonorrhoea yn gallu arwain at broblemau iechyd hirdymor mwy difrifol os na chaiff ei drin, yn cynnwys clefyd llidiol y pelfis (PID) mewn menywod neu anffrwythlondeb.

Trin gonorrhoea

Fel arfer, caiff gonorrhoea ei drin ag un pigiad gwrthfiotig ac un dabled wrthfiotig. Gyda thriniaeth effeithiol, dylai'r rhan fwyaf o'ch symptomau wella o fewn ychydig ddyddiau.

Yn achlysurol, bydd angen ail gwrs o wrthfiotigau os nad yw eich symptomau'n diflannu neu os gwelir bod gennych chi straen o gonorrhoea sydd ag ymwrthedd.

Nid yw'r gwrthfiotigau yn ymyrryd â'ch dull atal cenhedlu.

Rhaid i chi beidio â chael rhyw eto hyd nes byddwch chi a'ch partner wedi cymryd eich triniaeth (mae hyn yn cynnwys rhyw geneuol a rhyw trwy ddefnyddio condomau).

Weithiau, efallai y byddwch yn cael eich cynghori i gael prawf arall i wneud yn siŵr fod y gonorrhoea wedi mynd yn gyfan gwbl - yn yr achos hwn, mae'n bwysig peidio â chael rhyw hyd nes byddwch yn cael prawf terfynol i ddweud bod popeth yn glir.

Nid yw triniaeth lwyddiannus flaenorol ar gyfer gonorrhoea yn golygu bod gennych imiwnedd rhag ei ddal eto.

Pwy sy'n cael ei effeithio

Mae unrhyw un sy'n weithredol yn rhywiol yn gallu dal gonorrhoea, yn enwedig pobl sy'n newid partneriaid yn aml neu ddim yn defnyddio dull atal cenhedlu rhwystrol, fel condom, wrth gael rhyw.

Gonorrhoea yw'r haint bacterol a drosglwyddir yn rhywiol (STI) mwyaf cyffredin ond un yn y Deyrnas Unedig, ar ôl clamydia.

Atal gonorrhoea

Gellir atal gonorrhoea a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yn llwyddiannus trwy ddefnyddio dull atal cenhedlu priodol a chymryd rhagofalon eraill, er enghraifft:

  • defnyddio condomau dynion neu condomau menywod bob tro rydych chi'n cael rhyw gweiniol, neu gondomau dynion yn ystod rhyw rhefrol
  • defnyddio condom i orchuddio'r pidyn neu sgwâr latecs neu blastig (llen) i orchuddio organau cenhedlu'r fenyw, os ydych chi'n cael rhyw geneuol
  • peidio â rhannu teganau rhyw, neu'u golchi a'u gorchuddio â chondom newydd cyn i unrhyw un arall eu defnyddio

Os ydych chi'n poeni efallai bod gennych chi STI, ewch i'ch clinig GUM neu glinig iechyd rhywiol lleol i gael cyngor. 

Symptomau

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Diagnosis

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Triniaeth

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Cymhlethdodau

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 03/04/2024 14:09:28