Cyflwyniad
Feirws sy'n gallu heintio'r afu/iau yw hepatitis C. Os na chaiff ei drin, fe all weithiau achosi niwed difrifol i'r afu/iau dros lawer o flynyddoedd a allai fygwth bywyd.
Fodd bynnag, mae triniaethau modern yn golygu bod modd gwella'r haint yn aml, a bydd disgwyliad oes normal gan y rhan fwyaf o bobl sydd â hepatitis C.
Amcangyfrifir bod hepatitis C gan oddeutu 215,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig.
Gallwch gael eich heintio os byddwch yn dod i gysylltiad â gwaed rhywun sydd wedi'i heintio.
Symptomau hepatitis C
Yn aml, nid yw hepatitis C yn achosi unrhyw symptomau amlwg hyd nes bod yr afu/iau wedi cael ei niweidio'n sylweddol. Mae hyn yn golygu y bydd gan lawer o bobl yr haint heb sylweddoli hynny.
Pan fydd symptomau'n digwydd, gellir eu camgymryd am gyflwr arall. Mae symptomau'n gallu cynnwys:
- symptomau tebyg i ffliw, fel dolur yn y cyhyrau a thymheredd uchel (twymyn)
- teimlo'n flinedig drwy'r amser
- diffyg archwaeth
- poen abdomenol (poen yn y bol)
- teimlo'n gyfoglyd a chwydu
Yr unig ffordd o wybod yn sicr a yw'r symptomau hyn yn cael eu hachosi gan hepatitis C yw trwy gael prawf (gweler isod).
Sut ydych yn dal hepatitis C?
Mae'r feirws hepatitis C yn cael ei ledaenu trwy gysylltiad gwaed-i-waed, fel arfer.
Dyma rai o'r ffyrdd y gall yr haint gael ei lledaenu:
- rhannu nodwyddau nad ydynt yn ddi-haint - yn enwedig nodwyddau a ddefnyddir i chwistrellu cyffuriau adloniadol
- rhannu raseli neu frwsys dannedd
- o fenyw feichiog i'w baban heb ei eni
- trwy ryw heb ddiogelwch - er bod hyn yn anghyffredin iawn
Yn y Deyrnas Unedig, mae'r rhan fwyaf o heintiau hepatitis C yn digwydd ymhlith pobl sy'n chwistrellu cyffuriau neu sydd wedi'u chwistrellu yn y gorffennol. Amcangyfrifir bod yr haint ar oddeutu hanner y rhai hynny sy'n chwistrellu cyffuriau.
Cael prawf hepatitis C
Ceisiwch gyngor meddygol os oes gennych symptomau parhaus hepatitis C, neu os oes perygl y gallech fod wedi'ch heintio, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau. Gellir gwneud prawf gwaed i weld a yw'r haint gennych chi.
Mae eich meddyg teulu, clinig iechyd rhywiol, clinig GUM (meddygaeth genhedlol-droethol) neu wasanaeth trin cyffuriau i gyd yn cynnig profion ar gyfer hepatitis C.
Gallwch hefyd gael prawf cartref am ddim yma.
Gall diagnosis a thriniaeth ar gam cynnar helpu i atal neu gyfyngu ar unrhyw niwed i'ch afu/iau a helpu i sicrhau nad yw'r haint yn cael ei throsglwyddo i bobl eraill.
Triniaethau ar gyfer hepatitis C
Gellir trin hepatitis C gyda chyfuniad o feddyginiaethau sy'n atal y feirws rhag lluosogi y tu mewn i'r corff. Bydd angen cymryd y rhain am sawl mis fel arfer.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cymryd dau brif fath o feddyginiaeth o'r enw pegylated interferon (pigiad wythnosol) a ribavirin (pilsen neu dabled), er bod triniaethau mwy newydd gyda thabled yn unig yn debygol o ddisodli pigiadau interferon i'r rhan fwyaf o bobl yn y dyfodol agos.
Canfuwyd bod y meddyginiaethau mwy newydd hyn ar gyfer hepatitis C yn gwneud y driniaeth yn fwy effeithiol. Maen nhw'n cynnwys simeprevir, sofosbuvir a daclatasvir.
Gan ddefnyddio'r meddyginiaethau diweddaraf, gallai hyd at 90% neu fwy o bobl sydd â hepatitis C gael eu gwella. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol na fyddwch yn imiwn i'r haint, a dylech gymryd camau i leihau eich perygl o gael eich heintio eto (gweler isod).
Cymhlethdodau hepatitis C
Os na chaiff yr haint ei thrin am sawl blwyddyn, bydd rhai pobl sydd â hepatitis C yn datblygu ymgreithiad yr afu/iau (sirosis). Dros amser, gall hyn atal yr afu/iau rhag gweithio'n iawn.
Mewn achosion difrifol, gall problemau sy'n bygwth bywyd, fel methiant yr afu/iau (lle mae'r afu/iau'n rhoi'r gorau i weithredu i raddau helaeth neu'n gyfan gwbl) neu ganser yr afu/iau, ddatblygu yn y pen draw.
Gall trin hepatitis C cyn gynted â phosibl helpu i leihau'r risg y bydd y problemau hyn yn digwydd.
Atal hepatitis C
Nid oes brechlyn ar gyfer hepatitis C, ond mae ffyrdd o leihau eich perygl o gael eich heintio, fel.
- peidio â rhannu unrhyw offer chwistrellu cyffuriau gyda phobl eraill - gan gynnwys nodwyddau ac offer arall fel chwistrellau, llwyau a hidlyddion
- peidio â rhannu raseli na brwsys dannedd a allai fod wedi'u halogi â gwaed
Mae'r risg dal hepatitis C trwy ryw yn isel iawn. Fodd bynnag, fe allai'r perygl fod yn uwch os yw gwaed yn bresennol, fel gwaed mislif neu waedu ysgafn yn ystod rhyw rhefrol.
Nid oes angen i barau heterorywiol sydd mewn perthynas tymor hir ddefnyddio condomau i atal hepatitis C fel arfer, ond mae'n syniad da eu defnyddio wrth gael rhyw rhefrol neu ryw gyda phartner newydd.
Symptomau
Nid yw llawer o bobl sydd â hepatitis C yn cael unrhyw symptomau o gwbl ac nid ydynt yn sylweddoli bod ganddynt yr haint. Fe allent ddatblygu symptomau yn ddiweddarach wrth i'w hafu/iau gael ei niweidio mwy.
Symptomau cynnar
Dim ond oddeutu un o bob tri neu bedwar o bobl a fydd yn cael unrhyw symptomau yn ystod chwe mis cyntaf haint hepatitis C. Caiff y cyfnod hwn ei adnabod fel hepatitis C acíwt.
Os bydd symptomau'n datblygu, byddant fel arfer yn digwydd ychydig wythnosau ar ôl dal yr haint. Mae symptomau'n gallu cynnwys:
- tymheredd uchel o 38C (100.4F) neu'n uwch
- blinder
- diffyg archwaeth
- poenau abdomenol (poenau yn y bol)
- teimlo'n gyfoglyd a chwydu
Bydd llygaid a chroen oddeutu un o bob pump o bobl sy'n cael symptomau yn melynu hefyd. Caiff hyn ei adnabod fel y clefyd melyn.
Mewn oddeutu un o bob pedwar o bobl sy'n cael eu heintio â hepatitis C, bydd y system imiwnedd yn lladd y feirws o fewn ychydig fisoedd ac ni fydd yr unigolyn yn cael unrhyw symptomau eraill, oni bai y caiff ei heintio eto.
Yn yr achosion sy'n weddill, bydd y feirws yn parhau y tu mewn i'r corff am flynyddoedd lawer. Caiff hyn ei adnabod fel hepatitis cronig.
Symptomau diweddarach
Mae symptomau hepatitis C tymor hir (cronig) yn gallu amrywio'n fawr. Mewn rhai pobl, prin y gellir sylwi ar symptomau. Mewn pobl eraill, gallant gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd.
Mae'r symptomau hefyd yn gallu diflannu am gyfnodau hir ac yna dychwelyd.
Mae rhai o'r problemau mwyaf cyffredin a brofir gan bobl sydd â hepatitis C cronig yn cynnwys:
- teimlo'n flinedig drwy'r amser
- dolur a phoen yn y cymalau a'r cyhyrau
- teimlo'n gyfoglyd
- problemau â'r cof tymor byr, canolbwyntio a chwblhau tasgau meddwl cymhleth fel rhifyddeg pen - mae llawer o bobl yn disgrifio hyn fel "cael niwl yn yr ymennydd"
- hwyliau ansad
- iselder neu orbryder
- diffyg traul neu deimlo'n orlawn
- cosi ar y croen
- poen abdomenol
Os na chaiff ei thrin, gall yr haint achosi ymgreithiad yr afu/iau (sirosis) yn y pen draw. Gall arwyddion sirosis gynnwys y clefyd melyn, chwydu gwaed, carthion tywyll a hylif yn cronni yn y coesau neu'r abdomen.
Pryd i gael cyngor meddygol
Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych unrhyw un o'r symptomau diweddarach uchod, neu os ydynt yn dychwelyd dro ar ôl tro. Fe allai argymell eich bod yn cael prawf gwaed i wirio am hepatitis C.
Nid yw unrhyw un o'r symptomau uchod yn golygu'n bendant bod gennych hepatitis C, ond mae'n bwysig ymchwilio iddynt ymhellach.
Dylech hefyd siarad â'ch meddyg teulu ynghylch cael prawf os oes perygl y gallech fod wedi'ch heintio, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n chwistrellu cyffuriau neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol yn arbennig.
Achosion
Gallwch gael eich heintio â hepatitis C os byddwch yn dod i gysylltiad â gwaed rhywun sydd wedi'i heintio.
Mae hylifau eraill y corff yn gallu cynnwys y feirws hefyd, ond y gwaed sy'n cynnwys y lefel fwyaf ohono. Gall mymryn bach o waed achosi haint. Ar dymheredd ystafell, credir bod y feirws yn gallu goroesi y tu allan i'r corff mewn darnau o waed sych ar arwynebau am hyd at sawl wythnos.
Disgrifir isod y prif ffyrdd y gallwch gael eich heintio â'r feirws hepatitis C.
Chwistrellu cyffuriau
Y bobl sydd yn y perygl mwyaf o gael eu heintio â hepatitis C yw'r rhai sy'n chwistrellu cyffuriau, gan gynnwys cyffuriau adloniadol a chyffuriau sy'n gwella perfformiad, fel steroidau anabolig.
Mae bron i 90% o'r achosion hepatitis C yn y Deyrnas Unedig yn digwydd ymhlith pobl sy'n chwistrellu cyffuriau neu sydd wedi'u chwistrellu yn y gorffennol. Amcangyfrifir bod hepatitis C ar oddeutu hanner y bobl yn y Deyrnas Unedig sy'n chwistrellu cyffuriau.
Gall yr haint gael ei lledaenu trwy rannu nodwyddau ac offer cysylltiedig. Gall chwistrellu'ch hun â dim ond un nodwydd wedi'i halogi fod yn ddigon i gael eich heintio.
Mae hefyd yn bosibl dal yr haint trwy rannu offer arall a ddefnyddir i baratoi neu gymryd cyffuriau - fel llwyau, hidlyddion, pibellau a gwellt - sydd wedi'u halogi â gwaed heintiedig.
Achosion llai cyffredin:
Rhyw diamddiffyn
Mae hepatitis C yn gallu cael ei drosglwyddo yn ystod rhyw diamddiffyn (rhyw heb ddefnyddio condom), er bod y risg hon yn cael ei hystyried yn isel iawn.
Mae'r risg o drosglwyddo hepatitis C trwy gael rhyw yn gallu bod yn uwch ymhlith dynion sy'n cael rhyw gyda dynion. Mae'r risg yn uwch hefyd os bydd wlserau neu friwiau genidol o haint a drosglwyddir yn rhywiol, neu os oes gan y naill unigolyn neu'r llall HIV.
Y ffordd orau o atal trosglwyddo hepatitis C trwy ryw yw trwy ddefnyddio condom i ddyn neu i fenyw. Fodd bynnag, gan fod y perygl yn isel iawn i barau sydd mewn perthynas tymor hir, mae llawer yn dewis peidio â defnyddio condom.
Os oes gan eich partner hepatitis C, dylech gael eich profi am y cyflwr.
Rhoi gwaed cyn mis Medi 1991
Ers mis Medi 1991, caiff yr holl waed a roddir yn y Deyrnas Unedig ei brofi am y feirws hepatitis C. Os cawsoch drallwysiadau gwaed neu gynnyrch gwaed cyn y dyddiad hwnnw, mae posibilrwydd bach y cawsoch eich heintio â hepatitis C.
Trallwysiadau gwaed a thriniaeth dramor
Os cewch drallwysiad gwaed neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol dramor, lle na chaiff offer meddygol ei ddiheintio’n gywir, mae’n bosibl y cewch eich heintio â hepatitis C. Mae'r firws yn gallu goroesi mewn mymryn o waed sy'n cael ei adael ar offer.
Rhannu brwsys dannedd, sisyrnau a raseli
Mae risg bosibl trosglwyddo hepatitis C trwy rannu eitemau fel brwsys dannedd, raseli a sisyrnau, oherwydd eu bod yn gallu cael eu halogi â gwaed heintiedig.
Mae offer sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl trin gwallt, fel sisyrnau a chlipwyr, yn gallu achosi risg os yw wedi cael ei halogi â gwaed heintiedig a heb gael ei ddiheintio neu ei lanhau rhwng cwsmeriaid. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o salonau'n gweithredu yn unol â safonau uchel, felly mae'r risg hon yn isel.
Rhoi tatws a thyllu'r corff
Mae risg y gellir trosglwyddo hepatitis C trwy ddefnyddio offer tatwio neu dyllu'r corff nad yw wedi cael ei ddiheintio'n gywir. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o barlyrau tatwio a thyllu'r corff yn y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn unol â safonau uchel ac fe gânt eu rheoleiddio gan y gyfraith, felly mae'r risg hon yn isel.
Mam i blentyn
Mae risg fach y bydd mam sydd wedi'i heintio â'r feirws hepatitis C yn trosglwyddo'r haint i'w baban. Mae hyn yn digwydd mewn oddeutu 5% o achosion.
Ni chredir bod y feirws yn gallu cael ei drosglwyddo o fam i'w baban yn llaeth ei bron.
Anaf a achosir gan nodwydd
Mae risg fach (oddeutu 1 mewn 30) o gael hepatitis C os caiff eich croen ei drywanu'n ddamweiniol gan nodwydd sydd wedi cael ei defnyddio gan rywun â hepatitis C.
Mae gweithwyr gofal iechyd, nyrsys a thechnegwyr labordy yn wynebu risg uwch gan eu bod yn dod i gysylltiad agos â gwaed a hylifau'r corff a allai gynnwys gwaed yn rheolaidd.
Mythau am hepatitis C
Ni chaiff y feirws hepatitis C ei drosglwyddo trwy gyswllt cymdeithasol, fel cofleidio, cusanu a rhannu offer cegin.
Nid yw'n gallu cael ei drosglwyddo trwy seddi toiledau.
Diagnosis
Os ydych yn credu eich bod wedi dod i gysylltiad â hepatitis C, bydd cael prawf yn tawelu eich meddwl neu, os yw'r prawf yn bositif, yn eich galluogi i ddechrau eich triniaeth yn gynnar.
Mae meddygfeydd, clinigau iechyd rhywiol, clinigau meddygaeth genhedlol-droethol (GUM) neu wasanaethau triniaeth cyffuriau i gyd yn cynnig profion ar gyfer hepatitis C.
Pwy ddylai gael prawf?
Dylech ystyried cael prawf hepatitis C os ydych yn pryderu y gallech fod wedi cael eich heintio neu os ydych yn perthyn i un o'r grwpiau sydd mewn perygl uwch o gael eu heintio.
Yn aml, nid yw hepatitis C yn dangos unrhyw symptomau, felly mae'n bosibl y byddwch wedi cael eich heintio hyd yn oed os ydych yn teimlo'n iach.
Mae'r grwpiau canlynol o bobl mewn perygl uwch o ddal hepatitis C:
- pobl sydd wedi defnyddio cyffuriau yn y gorffennol a phobl sy'n eu defnyddio yn awr, yn enwedig cyffuriau sy'n cael eu chwistrellu
- pobl a gafodd drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991
- pobl a dderbyniodd drawsblaniad organ neu feinwe cyn 1992
- pobl sydd wedi byw neu gael triniaeth feddygol mewn ardal lle mae hepatitis C yn gyffredin - mae ardaloedd risg uchel yn cynnwys Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol a Chanolbarth a Dwyrain Asia
- babanod a phlant y mae gan eu mamau hepatitis C
- unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â'r feirws yn ddamweiniol, fel gweithwyr iechyd
- pobl sydd wedi cael tatŵ neu dylliad corff lle nad oedd yr offer wedi cael ei ddiheintio'n briodol o bosibl
- partneriaid rhywiol pobl sydd â hepatitis C
Os byddwch yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau risg uchel, fel chwistrellu cyffuriau'n aml, efallai yr argymhellir eich bod yn cael prawf yn rheolaidd. Bydd eich meddyg yn gallu rhoi cyngor i chi ynglŷn â hyn.
Prawf hepatitis C
Gwneir diagnosis o hepatitis C trwy ddau brawf gwaed: y prawf gwrthgyrff a'r prawf PCR. Bydd y canlyniadau ar gael o fewn pythefnos fel arfer.
Y prawf gwrthgyrff
Mae'r prawf gwaed gwrthgyrff yn canfod a ydych erioed wedi dod i gysylltiad â'r feirws hepatitis C trwy brofi am bresenoldeb gwrthgyrff i'r feirws. Mae gwrthgyrff yn cael eu cynhyrchu gan eich system imiwnedd i ymladd yn erbyn germau.
Ni fydd y prawf yn dangos adwaith positif tan ychydig fisoedd ar ôl i chi gael eich heintio oherwydd ei bod yn cymryd amser i'ch corff gynhyrchu'r gwrthgyrff hyn.
Os yw'r prawf yn negyddol ond eich bod wedi dioddef symptomau neu wedi dod i gysylltiad â hepatitis C o bosibl, efallai y cewch eich cynghori i gael y prawf eto.
Mae prawf positif yn dangos eich bod wedi cael eich heintio ar ryw adeg. Nid yw'n golygu eich bod wedi'ch heintio ar hyn o bryd, o reidrwydd, gan ei bod yn bosibl eich bod wedi gwaredu'r feirws o'ch corff ers hynny.
Yr unig ffordd o wybod a oes gennych yr haint ar hyn o bryd yw cael ail brawf gwaed o'r enw prawf PCR.
Y prawf PCR
Mae'r prawf gwaed hwn yn gwirio a yw'r feirws yn bresennol o hyd trwy ganfod a yw'n atgynhyrchu yn eich corff.
Mae prawf positif yn golygu nad yw eich corff wedi ymladd yn erbyn y feirws a bod yr haint wedi symud ymlaen i gyfnod cronig (hirdymor).
Profion eraill
Os oes gennych haint hepatitis C weithredol, cewch eich atgyfeirio i arbenigwr i gael profion ychwanegol i weld a oes unrhyw niwed i'ch afu/iau.
Mae'r profion y gallech eu cael yn cynnwys:
- profion gwaed - mae'r rhain yn mesur ensymau a phroteinau penodol yn llif y gwaed sy'n dangos a yw'ch afu/iau wedi'i niweidio neu'n llidus
- sganiau uwchsain - lle mae tonnau sain yn cael eu defnyddio i brofi pa mor stiff yw eich afu/iau (mae stiffrwydd yn awgrymu bod yr afu/iau wedi ymgreithio)
Gall yr arbenigwr drafod unrhyw driniaeth y gallai fod ei hangen arnoch hefyd.
Triniaeth
Yn aml, gall hepatitis C gael ei drin yn llwyddiannus trwy gymryd cyfuniad o feddyginiaethau am sawl mis.
Os caiff hepatitis C ei ganfod yn ystod y camau cynnar, a elwir yn hepatitis acíwt, efallai na fydd angen i'r driniaeth ddechrau'n syth. Yn lle hynny, fe allech gael prawf gwaed arall ar ôl ychydig fisoedd i weld a yw'ch corff yn ymladd yn erbyn y firws.
Os yw'r haint yn parhau am sawl mis, a elwir yn hepatitis cronig, bydd triniaeth yn cael ei hargymell fel arfer.
Eich cynllun triniaeth
Mae'r driniaeth ar gyfer hepatitis C yn cynnwys:
- gwneud newidiadau i'ch ffordd o fyw er mwyn helpu i atal mwy o niwed i'ch afu/iau a lleihau perygl lledaenu'r haint
- cymryd cyfuniad o ddau neu dri math o feddyginiaeth i ymladd yn erbyn y feirws - adwaenir hyn fel therapi cyfunol
Fel arfer, bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth am 12 i 48 wythnos. Bydd y cyfnod yn dibynnu ar yr union feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd a pha fersiwn (rhywogaeth) o'r feirws hepatitis C sydd gennych. Bydd eich meddyg yn rhoi cyngor i chi ynglyn â hyn.
Ceir chwe phrif rywogaeth o'r feirws. Yn y Deyrnas Unedig, gelwir y rhywogaethau mwyaf cyffredin yn "genoteip 1" a "genoteip 3".
Yn ystod y driniaeth, dylech gael profion gwaed i weld a yw'ch meddyginiaeth yn gweithio. Os yw'r prawf yn dangos nad yw'r driniaeth yn cael llawer o effaith, fe allai gael ei hatal gan na fydd unrhyw werth mewn rhoi rhagor o driniaeth o bosibl.
Mesurau ffordd o fyw
Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu i gyfyngu ar unrhyw niwed i'ch afu/iau ac atal yr haint rhag lledaenu i bobl eraill. Gall y rhain gynnwys:
- bwyta deiet iachus a chytbwys
- ymarfer corff yn rheolaidd
- rhoi'r gorau i alcohol neu gyfyngu ar faint ohono rydych chi'n ei yfed
- rhoi'r gorau i ysmygu
- cadw'ch eitemau personol, fel brwsys dannedd neu raseri, at eich defnydd eich hun
- peidio â rhannu unrhyw nodwyddau na chwistrellau gyda phobl eraill
Darllenwch rai cwestiynau cyffredin am fyw gyda hepatitis C i gael rhagor o wybodaeth.
Meddyginiaethau hepatitis C
Tan yn gymharol ddiweddar, roedd y driniaeth ar gyfer hepatitis C cronig yn cynnwys cymryd dau brif fath o feddyginiaeth:
- pegylated interferon – meddyginiaeth sy'n annog y system imiwnedd i ymosod ar y feirws
- ribavirin – meddyginiaeth wrthfiraol sy'n atal y feirws rhag lluosogi
Roedd y meddyginiaethau hyn yn cael eu cymryd gyda'i gilydd yn aml, ond erbyn hyn fe'u cyfunir â thrydedd feddyginiaeth, fel simeprevir neu sofosbuvir. Meddyginiaethau hepatitis C mwy newydd yw'r rhain y dangoswyd eu bod yn gwneud y driniaeth yn fwy effeithiol.
Mewn rhai achosion, fe allai cyfuniad o'r meddyginiaethau mwy newydd hyn gael eu cymryd heb fod angen cymryd pegylated interferon a/neu ribavirin hefyd. Darllenwch fwy am yr holl feddyginiaethau hyn isod.
Pegylated interferon a ribavirin
Fel arfer, cymerir pegylated interferon ar ffurf pigiad wythnosol. Gallwch gael eich hyfforddi i roi'r pigiad i'ch hun gartref. Bydd angen ei gymryd am hyd at 48 wythnos fel rheol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae ribavirin ar gael ar ffurf pils, tabledi neu doddiant a gymerir trwy'r geg. Fel arfer, fe'i cymerir ddwywaith y dydd gyda bwyd. Bydd angen ei gymryd ochr yn ochr â pegylated interferon am hyd at 48 wythnos.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar peginterferon alfa a ribavirin i drin hepatitis C cronig.
Meddyginiaethau mwy newydd
Ceir hefyd nifer o feddyginiaethau mwy newydd a ddefnyddir yn aml i drin hepatitis C erbyn hyn.
Cymerir rhai o'r rhain ochr yn ochr â pegylated interferon a/neu ribavirin, tra gellir cymryd rhai eraill ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad â meddyginiaethau eraill mwy newydd.
Mae'r meddyginiaethau hyn yn cynnwys:
- simeprevir
- sofosbuvir
- daclatasvir
- cyfuniad o ledipasvir a sofosbuvir
- cyfuniad o ombitasvir, paritaprevir a ritonavir, a gymerir gyda dasabuvir neu hebddo
Cymerir y meddyginiaethau hyn ar ffurf tabledi unwaith neu ddwywaith y dydd, am rhwng wyth a 48 wythnos, yn dibynnu ar yr union feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd, eich genoteip hepatitis C a difrifoldeb eich cyflwr.
Yn gyffredinol, defnyddir y meddyginiaethau hyn i drin pobl sydd â hepatitis C genoteip 1 neu genoteip 4, er eu bod yn cael eu defnyddio i drin pobl â genoteipiau eraill weithiau hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau NICE ar:
Mae ymchwil yn parhau i feddyginiaethau hyd yn oed mwy effeithiol.
Pa mor effeithiol yw'r driniaeth?
Gall effeithiolrwydd y driniaeth ar gyfer hepatitis C ddibynnu ar ba rywogaeth o'r feirws sydd gennych.
Arferai genoteip 1 fod yn fwy heriol i'w drin a, hyd at yn gymharol ddiweddar, byddai llai na hanner y bobl a gâi eu trin yn gwella.
Fodd bynnag, gall y tebygolrwydd o wella fod yn llawer uwch yn sgil y meddyginiaethau mwy newydd sydd ar gael. Erbyn hyn, gall cyfuniadau o dabledi arwain at gyfradd wella o fwy na 90%.
Mae hyn yn uwch na'r tebygolrwydd o wella'r rhan fwyaf o genoteipiau eraill hepatitis C.
Bydd y driniaeth ar gyfer genoteip 3 fel arfer yn cynnwys triniaethau safonol pegylated interferon a ribavirin. Bydd oddeutu 70-80% o'r rhai hynny a gaiff eu trin yn gwella.
Os caiff y feirws ei glirio'n llwyddiannus gyda thriniaeth, mae'n bwysig bod yn ymwybodol nad ydych yn imiwn i'r haint. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gallech gael eich heintio eto os byddwch yn parhau i chwistrellu cyffuriau ar ôl cael triniaeth.
Os nad yw'r driniaeth yn gweithio, fe allai fod angen ei hailadrodd, neu roi cynnig ar gyfuniad gwahanol o feddyginiaethau.
Sgil-effeithiau triniaeth
Mae sgil-effeithiau'n eithaf cyffredin gyda therapi cyfunol sy'n cynnwys interferon. Mae llawer llai o sgil-effeithiau'n gysylltiedig â'r triniaethau tabled mwy newydd ac nid ydynt yn cael unrhyw effaith ar y rhan fwyaf o bobl.
Os yw'ch triniaeth yn cynnwys interferon, gall y sgil-effeithiau gynnwys:
- symptomau tebyg i'r ffliw, fel cur pen/pen tost, lludded (blinder eithafol) a thymheredd uchel (twymyn)
- llai o gelloedd gwaed coch (anemia), sy'n gallu achosi i chi deimlo'n flinedig ac yn fyr eich anadl
- brech
- iselder
- cosi ar y croen
- teimlo'n gyfoglyd a chwydu
- rhwymedd neu dolur rhydd
- problemau cysgu (anhunedd)
- diffyg archwaeth a cholli pwysau
Gall meddyginiaethau hepatitis C achosi adweithiau anrhagweladwy pan gânt eu cymryd gyda meddyginiaethau eraill. Dylech wirio bob amser gyda'ch arbenigwr, meddyg teulu neu fferyllydd cyn cymryd mathau eraill o feddyginiaeth.
Gallai unrhyw sgil-effeithiau wella dros amser wrth i'ch corff ymgyfarwyddo â'r meddyginiaethau. Dywedwch wrth eich tîm gofal os yw unrhyw sgil-effaith yn arbennig o drafferthus.
Fe all fod yn heriol ymdopi â sgil-effeithiau, ond dylech barhau i gymryd eich meddyginiaeth yn unol â'r cyfarwyddyd. Gallai hepgor dosau leihau eich tebygolrwydd o wella.
Triniaeth yn ystod beichiogrwydd
Gall y meddyginiaethau a ddefnyddir i drin hepatitis C, yn enwedig ribavirin, fod yn niweidiol i fabanod heb eu geni ac nid ydynt yn cael eu defnyddio fel arfer yn ystod beichiogrwydd.
Os ydych chi'n feichiog pan gewch ddiagnosis o'r haint, bydd eich triniaeth yn cael ei gohirio fel arfer hyd nes y byddwch wedi rhoi genedigaeth. Fel arall, fe'ch cynghorir i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu drwy gydol eich triniaeth ac mae'n bosibl y bydd angen i chi gael profion beichiogrwydd rheolaidd.
Os ydych chi'n ddyn sy'n cymryd ribavirin, ni ddylech gael rhyw gyda menyw feichiog oni bai eich bod yn defnyddio condom. Os nad yw'ch partner yn feichiog, dylech sicrhau bod dulliau atal cenhedlu'n cael eu defnyddio yn ystod eich triniaeth ac mae'n bosibl y bydd angen i'ch partner gael profion beichiogrwydd rheolaidd.
Penderfynu peidio â chael triniaeth
Mae rhai pobl sydd â hepatitis C cronig yn penderfynu peidio â chael triniaeth. Gallai hyn fod oherwydd:
- nad oes ganddynt unrhyw symptomau
- eu bod yn fodlon byw gyda pherygl sirosis yn ddiweddarach
- nad ydynt o'r farn bod buddion posibl triniaeth yn drech na'r sgil-effeithiau y gall y driniaeth eu hachosi
Gall eich tîm gofal roi cyngor i chi ar hyn, ond chi piau'r dewis olaf am driniaeth.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chael triniaeth ond yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch ofyn am gael eich trin ar unrhyw adeg.
Cwestiynau cyffredinol
Ceir isod atebion i rai cwestiynau am fyw gyda hepatitis C, gan gynnwys cwestiynau am ddeiet, y gweithle, teithio a chael baban.
A all unrhyw beth a wnaf waethygu hepatitis C?
Gall yfed alcohol gynyddu'r niwed i'ch afu/iau. Os oes gennych hepatitis C, dylech geisio rhoi'r gorau i alcohol neu gyfyngu ar faint ohono yr ydych yn ei yfed. Os oes angen cyngor arnoch ynghylch hyn, holwch eich meddyg neu cysylltwch â sefydliad hunangymorth alcohol.
Darllenwch rai awgrymiadau ynghylch lleihau faint o alcohol yr ydych yn ei yfed a chael gwybod ble i gael cymorth gydag alcohol.
Os ydych yn pryderu eich bod yn gaeth i alcohol ac nad ydych yn gallu rhoi'r gorau i yfed, cysylltwch â'ch meddyg teulu. Mae triniaethau ar gael i'ch helpu i roi'r gorau i yfed alcohol.
A oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i helpu fy hun?
Yn ogystal â rhoi'r gorau i alcohol, fe allai helpu i:
Mae bod dros eich pwysau, ysmygu a bod â mwy nag un math o hepatitis yn gallu cynyddu'r tebygolrwydd o niweidio'ch afu/iau os oes gennych hepatitis C.
A oes angen i mi fwyta deiet arbennig?
Ni fydd angen i chi newid i ddeiet arbennig, fel arfer, os oes gennych hepatitis C, ond bydd angen i chi wneud yn siwr eich bod yn bwyta deiet iach, cytbwys yn gyffredinol.
Dylai eich deiet gynnwys digon o ffrwythau a llysiau, bwydydd startsh, ffeibr a phrotein. Bwytwch lai o fwyd brasterog a bwyd wedi'i ffrio a'i brosesu. Darllenwch fwy ynghylch ystyr deiet cytbwys.
Fodd bynnag, os yw eich afu/iau wedi'i niweidio'n ddifrifol, efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu lleihau faint o halen a phrotein yr ydych yn eu cael er mwyn osgoi rhoi gormod o straen ar eich afu/iau. Gall deietegydd yr ysbyty roi cyngor i chi ar yr hyn y gallwch ei fwyta a'r hyn na allwch ei fwyta.
Sut gallaf osgoi lledaenu'r haint i bobl eraill?
Gallwch leihau'r perygl o drosglwyddo hepatitis C i bobl eraill trwy:
- gadw eitemau personol, fel brwsys dannedd neu raseri, at eich defnydd chi yn unig
- glanhau unrhyw doriadau neu grafiadau a rhoi gorchudd dal dwr drostynt
- glanhau unrhyw waed o arwynebau gyda channydd cartref
- peidio â rhannu nodwyddau na chwistrellau gyda phobl eraill
- peidio â rhoi gwaed
Mae perygl lledaenu hepatitis C trwy ryw yn isel. Fodd bynnag, mae'r risg yn uwch os oes gwaed yn bresennol, fel gwaed mislif neu yn ystod rhyw rhefrol.
Nid oes angen i barau heterorywiol sydd mewn perthynas tymor hir ddefnyddio condomau fel arfer, ond mae'n syniad da eu defnyddio wrth gael rhyw rhefrol neu ryw gyda phartner newydd.
A oes rhaid i mi ddweud wrth fy nghyflogwr?
Nid oes rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr fod gennych hepatitis C oni bai eich bod yn weithiwr gofal iechyd.
Fodd bynnag, os yw hepatitis C yn effeithio ar eich perfformiad yn y gwaith a bod eich cyflogwr yn gwybod am eich cyflwr, efallai y bydd yn rhaid iddo gymryd hyn i ystyriaeth, fel rhoi amser i ffwrdd i chi i fynd i'r clinig. Efallai y bydd gennych hawl i gael tâl salwch statudol ar gyfer unrhyw apwyntiadau â'r meddyg neu amser i ffwrdd o'r gwaith hefyd.
Felly, efallai y byddwch am ystyried dweud wrth eich cyflogwr am eich cyflwr.
A allaf deithio dramor?
Fe allwch deithio dramor os oes gennych hepatitis C, ond dylech siarad â'ch meddyg ymlaen llaw.
Mae'n bosibl y bydd angen i chi gael brechiadau ac efallai y bydd angen i drefniadau arbennig gael eu gwneud i sicrhau eich bod yn gallu cludo a storio eich meddyginiaeth hepatitis C yn ddiogel.
Fe allai hefyd fod yn syniad da mynd ag unrhyw ddogfennau gyda chi, fel manylion profion gwaed neu gofnodion meddygol, rhag ofn y bydd angen triniaeth feddygol arnoch dramor.
A allaf gael baban os oes gennyf i neu fy mhartner hepatitis C?
Fe allwch gael baban os oes gennych chi neu eich partner hepatitis C, ond mae risg isel (oddeutu 1 o bob 20) y caiff hepatitis C ei drosglwyddo o'r fam i'r baban.
Ceir risg fach hefyd y caiff yr haint ei lledaenu i'r partner nad oes ganddo hepatitis wrth gael rhyw diamddiffyn, ond mae hyn yn annhebygol iawn o ddigwydd.
Siaradwch â'ch meddyg i gael cyngor os ydych yn bwriadu cael baban a bod gennych chi neu eich partner hepatitis C.
Cymhlethdodau
Os na chaiff ei drin, gall hepatitis C weithiau achosi creithiau ar yr afu/iau (sirosis). Mae hyn yn gallu datblygu hyd at 20 mlynedd neu fwy ar ôl i chi gael eich heintio gyntaf.
Mae nifer o bethau'n gallu cynyddu eich perygl o gael sirosis, gan gynnwys:
Yn gyffredinol, bydd hyd at un o bob tri unigolyn sy'n cael eu heintio â hepatitis C yn datblygu sirosis o fewn 20 i 30 mlynedd. Bydd rhai o'r rhain yn mynd ymlaen wedyn i ddatblygu methiant yr afu/iau neu ganser yr afu/iau.
Sirosis
Os oes gennych sirosis, bydd y feinwe greithiog yn eich afu/iau yn disodli'r feinwe iach yn raddol ac yn atal yr afu/iau rhag gweithio'n iawn.
Ni fydd llawer o symptomau yn ystod y camau cynnar fel arfer. Ond, wrth i'ch afu/iau golli ei allu i weithio'n iawn, fe allech brofi:
- blinder a gwendid
- diffyg archwaeth
- colli pwysau
- teimlo'n gyfoglyd
- croen coslyd iawn
- tynerwch neu boen yn eich bol
- llinellau coch bychain (capilarïau gwaed) ar y croen
- y croen a gwyn y llygaid yn melynu (y clefyd melyn)
Heblaw am drawsblaniad afu/iau, nid oes gwellhad ar gyfer sirosis. Fodd bynnag, gall mesurau ffordd o fyw a meddyginiaethau hepatitis C helpu i atal y cyflwr rhag gwaethygu.
Methiant yr afu/iau
Mewn achosion difrifol o sirosis, mae'r afu/iau yn colli'r rhan fwyaf neu bob un o'i weithrediadau. Caiff hyn ei adnabod fel methiant yr afu/iau neu glefyd yr afu/iau cyfnod olaf.
Bob blwyddyn, bydd oddeutu 1 o bob 20 o bobl sydd â sirosis yn gysylltiedig â hepatitis yn datblygu methiant yr afu/iau.
Mae symptomau methiant yr afu/iau yn cynnwys:
- colli gwallt
- hylif yn cronni yn y coesau, y fferau a'r traed (edema)
- hylif yn cronni yn eich bol (asgites)
- wrin tywyll
- carthion tywyll, tarllyd neu welw iawn
- trwyn yn gwaedu a deintgig yn gwaedu'n aml
- tuedd i gleisio'n rhwydd
- chwydu gwaed
Mae fel arfer yn bosibl byw gyda methiant yr afu/iau am sawl blwyddyn trwy gymryd meddyginiaeth. Fodd bynnag, trawsblaniad yr afu/iau yw'r unig ffordd o wella'r cyflwr ar hyn o bryd.
Canser yr afu/iau
Amcangyfrifir y bydd oddeutu 1 o bob 20 o bobl sydd â sirosis yn gysylltiedig â hepatitis yn datblygu canser yr afu/iau bob blwyddyn.
Mae symptomau canser yr afu/iau yn gallu cynnwys:
- diffyg archwaeth
- colli pwysau heb esboniad
- blinder
- teimlo'n gyfoglyd a chwydu
- poen neu chwydd yn eich bol
- y clefyd melyn
Yn anffodus, nid yw fel arfer yn bosibl gwella canser yr afu/iau, yn enwedig mewn pobl sydd â sirosis, er bod triniaeth yn gallu helpu i reoli eich symptomau ac arafu lledaeniad y canser.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
21/11/2024 10:02:37