Anhunedd

Cyflwyniad

Mae anhunedd yn golygu eich bod yn cael trafferth cysgu yn rheolaidd. Mae'n gwella fel arfer os newidiwch eich arferion cysgu. 

Gwirio a oes gennych anhunedd

Mae gennych anhunedd os ydych yn profi'r symptomau hyn yn rheolaidd:

  • anhawster cysgu
  • deffro yn ystod y nos
  • deffro sawl gwaith yn ystod y nos
  • deffro’n gynnar yn y bore a methu mynd i gysgu eto
  • ei chael hi'n anodd cysgu yn y dydd er eich bod wedi blino
  • teimlo’n flin ac yn flinedig, a
  • ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn ystod y dydd oherwydd eich bod wedi blino

Os cewch anhunedd am gyfnod byr (llai na 3 mis), anhunedd tymor byr yw'r enw ar hwn. Gelwir anhunedd sy'n para 3 mis neu fwy yn anhunedd tymor hir. 

Faint o gwsg sydd ei angen arnoch

Mae ar bobl angen symiau gwahanol o gwsg. Ar gyfartaledd: 

  • oedolion - 7-9 awr
  • plant - 9-13 awr
  • plant bach a babanod - 12-17 awr

Mwy na thebyg nad ydych yn cael digon o gwsg os ydych wedi blino trwy'r amser yn ystod y dydd. 

Beth sy'n achosi anhunedd

Yr achosion mwyaf cyffredin yw: 

  • straen, gorbryder neu iselder
  • swn
  • ystafell sy'n rhy boeth neu'n rhy oer
  • gwely anghyfforddus
  • alcohol, caffein neu nicotin
  • cyffuriau fel cocen neu ecstasi
  • jetludedd
  • gwaith sifft

Sut gallwch chi drin anhunedd eich hun

Mae anhunedd yn gwella fel arfer wrth i chi newid eich arferion cysgu:

Gwnewch:

  • fynd i'r gwely a deffro yr un pryd bob dydd - ewch i'r gwely dim ond pan fyddwch wedi blino
  • ymlacio o leiaf awr cyn mynd i'r gwely - e.e. ewch i gael bath neu ddarllen llyfr
  • yn siwr bod eich ystafell wely'n dywyll a thawel - defnyddiwch lenni trwchus, bleinds, gorchudd llygaid neu blygiau clustiau
  • ymarfer corff yn rheolaidd yn ystod y dydd
  • yn siwr bod eich matres, gobenyddion a gorchuddion yn gyfforddus

Peidiwch

  • ysmygu neu yfed alcohol, te na choffi am o leiaf 6 awr cyn mynd i'r gwely
  • bwyta pryd mawr o fwyd yn hwyr yn y nos
  • ymarfer corff o leiaf 4 awr cyn mynd i'r gwely
  • gwylio teledu neu ddefnyddio dyfeisiau cyn mynd i'r gwely - bydd y golau'n peri i chi fod yn fwy effro
  • cysgu yn ystod y dydd
  • gyrru os ydych wedi blino
  • cysgu mewn wedi noswaith ddrwg o gwsg - cadwch at eich oriau rheolaidd

Sut gall fferyllydd helpu gydag anhunedd

Gallwch brynu tabledi neu hylifau (cymhorthion cysgu) mewn fferyllfa a allai eich helpu i gysgu'n well. 

Mae rhai yn cynnwys cynhwysion naturiol (valerian, lafant neu felatonin) tra bod eraill, fel Nytol, yn wrth-histaminau. 

Ni allant gael gwared ar anhunedd ond gallent eich helpu i gysgu'n well am wythnos neu ddwy. Ni ddylech eu cymryd am fwy na hyn o amser. 

Gall rhai o'r cynhyrchion hyn gael sgil-effeithiau, er enghraifft, gallent eich gwneud yn gysglyd. Gallai hyn olygu y bydd yn anodd i chi wneud rhai pethau, fel gyrru. 

Gwiriwch gyda'ch meddyg cyn cymryd unrhyw beth am eich problemau cysgu.

Ewch i weld meddyg teulu os:

  • nad yw newid eich arferion cysgu wedi gweithio
  • rydych wedi cael trafferth cysgu ers misoedd
  • yw eich anhunedd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd mewn ffordd sy'n ei gwneud yn anodd i chi ymdopi

Triniaethau gan feddyg teulu

Bydd eich meddyg teulu'n ceisio darganfod beth sy'n achosi'r anhunedd er mwyn i chi gael y driniaeth gywir. 

Weithiau, cewch eich cyfeirio at therapydd i gael therapi ymddygiad gwybyddol. 

Gall hyn eich helpu  newid y meddyliau a'r ymddygiadau sy'n eich atal rhag cysgu. 

Anaml iawn fydd meddygon teulu'n rhagnodi tabledi cysgu i drin anhunedd. Gall tabledi cysgu gael sgil-effeithiau difrifol a gallech ddechrau bod yn ddibynnol arnynt. 

Rhagnodir tabledi cysgu am ychydig ddyddiau neu wythnosau os:

  • yw eich anhunedd yn ddrwg iawn
  • nad yw triniaethau eraill wedi gweithio

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/10/2023 15:20:47