Thyroid, tanweithgar

Cyflwyniad

Mae thyroid tanweithredol yn golygu nad yw eich chwarren thyroid, sydd wedi ei lleoli yn eich gwddf, yn cynhyrchu digon o hormonau.

Mae arwyddion cyffredin o thyroid tanweithredol yn cynnwys blinder, magu pwysau a theimlo'n isel.

Nid yw thyroid tanweithredol yn ddifrifol fel rheol, ac fe gaiff ei adnabod yn feddygol fel isthyroidedd. Gellir ei drin yn hawdd trwy gymryd tabledi hormon i gymryd lle'r hormonau nad yw eich thyroid yn eu cynhyrchu.

Mae'r thyroid yn cynhyrchu hormon o'r enw thyrocsin, sy'n rheoli faint o egni y mae eich corff yn ei ddefnyddio. Pan nad yw'r thyroid yn cynhyrchu digon o thyrocsin, mae llawer o weithrediadau'r corff yn arafu.

Ni ellir atal thyroid tanweithredol. Mae'r rhan fwyaf o achosion o thyroid tanweithredol yn cael eu hachosi naill ai gan eich system imiwnedd yn ymosod ar eich thyroid neu thyroid wedi'i niweidio.

Cewch wybod mwy am achosion thyroid tanweithredol.

Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu

Ewch i weld eich meddyg teulu a gofynnwch i gael profion am thyroid tanweithredol os oes gennych symptomau sy'n cynnwys:

  • blinder
  • magu pwysau
  • iselder ysbryd
  • bod yn sensitif i oerni
  • croen a gwallt sych
  • poenau yn y cyhyrau

Cewch wybod mwy am symptomau thyroid tanweithredol.

Mae symptomau thyroid tanweithredol yn aml yn cael eu drysu am rywbeth arall, gan gleifion a meddygon. Mae symptomau fel arfer yn dechrau'n araf ac efallai na fyddwch yn sylwi arnynt am rai blynyddoedd. Yr unig ffordd gywir o ganfod a oes gennych broblem thyroid yw cael prawf gwaed i fesur eich lefelau hormon.

Cewch wybod mwy ynghylch profi am thyroid tanweithredol.

Ar bwy mae'n gallu effeithio?

Mae dynion a menywod yn gallu cael thyroid tanweithredol. Fodd bynnag, mae'n fwy cyffredin ymhlith menywod. Yn y DU, mae'n effeithio ar 15 o bob 1,000 o fenywod ac 1 o bob 1,000 o ddynion.

Caiff un o bob 4,500 o fabanod eu geni gyda thyroid tanweithredol (o'r enw isthyroidedd cynhenid). Mae pob baban sy'n cael ei eni yn y DU yn cael ei sgrinio am isthyroidedd cynhenid mewn sampl gwaed a gymerir trwy bricio'i sawdl. Cymerir y sampl ar ôl yr wythnos gyntaf.

Triniaeth

Nid yw thyroid tanweithredol yn ddifrifol fel arfer, a bydd cymryd tabledi amnewid hormonau, o'r enw levothyroxine, yn codi eich lefelau thyrocsin. Bydd angen triniaeth arnoch am weddill eich bywyd fel rheol. Fodd bynnag, o reoli'r cyflwr yn ofalus, dylech allu byw bywyd iach ac arferol.

Cewch wybod mwy ynghylch triniaeth ar gyfer thyroid tanweithredol.

Os na chaiff ei drin, mae thyroid tanweithredol yn gallu arwain at gymhlethdodau, gan gynnwys chwyddo yn y thyroid (cyflwr o'r enw goitr), clefyd y galon, problemau iechyd meddwl ac anffrwythlondeb.

Cewch wybod mwy ynghylch cymhlethdodau thyroid tanweithredol.

Symptomau

Mae symptomau thyroid tanweithredol (isthyroidedd) yr un fath â'r symptomau ar gyfer cyflyrau eraill, felly gellir eu drysu'n hawdd am rywbeth arall.

Mae symptomau isthyroidedd yn tueddu i ymddangos yn araf, ac efallai na fyddwch chi'n sylwi arnynt am nifer o flynyddoedd.

Symptomau cynnar posibl 

  • bod yn sensitif i oerni
  • magu pwysau
  • rhwymedd
  • iselder ysbryd
  • blinder
  • arafwch o ran y corff a'r meddwl
  • dolur a gwendid yn y cyhyrau
  • crampiau yn y cyhyrau
  • croen sych a haenog
  • gwallt ac ewinedd brau
  • mislifoedd trwm neu afreolaidd.

Efallai bydd pobl oedrannus sydd â thyroid tanweithredol yn datblygu problemau cof ac iselder ysbryd. Efallai bydd plant yn tyfu a datblygu'n arafach. Efallai bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn dechrau cyfnod y glasoed yn gynharach na'r arfer.

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn, ewch i weld eich meddyg teulu a gofynnwch i gael prawf am thyroid tanweithredol.

Cewch wybod mwy ynghylch cael prawf am thyroid tanweithredol.

Os na chaiff thyroid tanweithredol ei drin

Mae'n annhebygol y byddai gennych lawer o symptomau hwyrach isthyroidedd gan fod y cyflwr yn aml yn cael ei ganfod cyn i symptomau mwy difrifol ymddangos.

Mae symptomau hwyrach yn cynnwys:

  • llais cryg a dwfn 
  • golwg pwl a chwyddedig ar yr wyneb 
  • aeliau wedi teneuo (neu rannau ohonynt ar goll) 
  • cyfradd y galon yn araf
  • byddardod, ac 
  • anemia.

 

Achosion

Mae isthyroidedd yn digwydd pan nad yw eich chwarren thyroid yn cynhyrchu digon o'r hormon thyrocsin, sydd hefyd yn cael ei alw yn T4.

Mae'r rhan fwyaf o achosion o thyroid tanweithredol yn digwydd naill ai am fod y system imiwnedd yn ymosod ar y chwarren thyroid neu am fod y thyroid wedi'i niweidio.

System imiwnedd

Mae'r rhan fwyaf o achosion o thyroid tanweithredol yn digwydd pan fydd y system imiwnedd, sydd fel arfer yn ymladd haint, yn ymosod ar y chwarren thyroid. Mae meddygon yn disgrifio hyn fel adwaith hunanimíwn. Mae hyn yn niweidio'r thyroid, sy'n golygu nad yw'n gallu gwneud digon o'r hormon thyrocsin, ac yn arwain at symptomau thyroid tanweithredol.

Clefyd Hashimoto yw'r math mwyaf cyffredin o adwaith hunanimíwn sy'n achosi thyroid tanweithredol.

Nid yw'n glir beth sy'n achosi clefyd Hashimoto, ond mae'r cyflwr yn rhedeg mewn teuluoedd. Mae hefyd yn gyffredin ymhlith pobl sydd ag anhwylder arall yn gysylltiedig â'r system imiwnedd, fel diabetes math 1 a fitiligo.

Triniaeth ar gyfer thyroid gorweithredol

Gall thyroid tanweithredol fod yn sgil effaith triniaeth ar gyfer thyroid gorweithredol hefyd, sef cyflwr lle mae'r chwarren thyroid yn cynhyrchu gormod o hormon.

Mae triniaeth ar gyfer thyroid gorweithredol, sy'n cael ei adnabod yn feddygol fel gorthyroidedd, yn gallu cynnwys meddyginiaeth, radiotherapi neu lawfeddygaeth, a gall pob un o'r rhain achosi i'ch thyroid fod yn danweithredol.

Achosion prin eraill

Gall diffyg ïodin difrifol achosi thyroid tanweithredol, gan fod angen ïodin ar eich corff i wneud thyrocsin. Fodd bynnag, prin y gwyddys am ddiffyg ïodin difrifol yn y DU.  

Mae haint feirol neu rai cyffuriau a ddefnyddir i drin cyflyrau eraill, fel iselder ysbryd ac anhwylderau'r galon, yn gallu achosi i'r thyroid roi'r gorau i weithio'n iawn.

Efallai bydd baban yn cael ei eni â thyroid tanweithredol os na fydd y chwarren thyroid wedi datblygu'n iawn yn y groth. Fodd bynnag, sylwir ar hyn yn ystod sgrinio newydd-anedig fel rheol. 

Gallai problem gyda'r chwarren bitwidol achosi thyroid tanweithredol. Mae'r chwarren bitwidol wedi ei lleoli ar waelod yr ymennydd ac yn rheoleiddio'r thyroid. Felly gall niwed i'r chwarren hon arwain at isthyroidedd.   
 

Diagnosis

Os oes gennych symptomau thyroid tanweithredol (isthyroidedd), ewch i weld eich meddyg teulu a gofynnwch am brawf gwaed.

Cewch wybod mwy am symptomau thyroid tanweithredol.

Prawf gwaed yn mesur eich lefelau hormon yw'r unig ffordd gywir o ganfod a oes problem.

Mae'r prawf, sy'n cael ei alw'n brawf gweithrediad thyroid, yn edrych ar lefelau'r hormon sy'n ysgogi thyroid (TSH) a thyrocsin yn y gwaed.

Gallai lefel uchel o TSH a lefel isel o hormon thyrocsin yn y gwaed olygu bod gennych thyroid tanweithredol.

Os yw eich prawf yn dangos TSH uwch ond thyrocsin normal, mae'n golygu y gallech fod mewn perygl o ddatblygu thyroid tanweithredol yn y dyfodol.

Efallai bydd eich meddyg teulu yn eich cynghori i gael prawf gwaed bob hyn a hyn i weld a ydych yn datblygu thyroid tanweithredol yn y pen draw.

I gael mwy o wybodaeth am brofi, trowch at Profion Labordy Ar-lein: profion gweithrediad thyroid.  

Atgyfeirio

Efallai bydd eich meddyg yn eich atgyfeirio i endocrinolegydd (arbenigwr mewn anhwylderau hormon):

  • os ydych chi'n iau nag 16,
  • os ydych chi'n feichiog neu'n ceisio beichiogi,
  • os ydych newydd roi genedigaeth,
  • os oes gennych gyflwr iechyd arall, fel clefyd y galon (a allai gymhlethu eich meddyginiaeth), neu 
  • os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth amiodarone neu lithiwm. 

Sut mae hormonau thyroid yn gweithio

  • Pan fydd lefelau thyrocsin yn disgyn, caiff hormon sy'n ysgogi thyroid (TSH) ei ryddhau i'r gwaed i ysgogi cynhyrchu thyrocsin.
  • Pan fydd lefelau thyrocsin yn rhy uchel, mae'r TSH a gynhyrchir yn disgyn i alluogi i lefelau thyrocsin ddychwelyd i fod yn normal.

Termau meddygol

Isthyroidedd: thyroid tanweithredol.

Thyrocsin: hormon sy'n cael ei gynhyrchu gan y thyroid, mae hefyd yn cael ei alw yn T4.

Isthyroidedd amlwg: lle mae'n amlwg bod gennych symptomau thyroid tanweithredol.

Isthyroidedd isglinigol: lle mae eich symptomau yn ysgafn neu ni ellir sylwi arnynt bron.

Levothyroxine: tabledi sy'n cynnwys yr hormon thyrocsin, a ddefnyddir i drin thyroid tanweithredol.

Triniaeth

Mae thyroid tanweithredol (isthyroidedd) fel arfer yn cael ei drin trwy gymryd tabledi amnewid hormonau o'r enw levothyroxine.

Mae levothyroxine yn amnewid yr hormon thyrocsin nad yw eich thyroid yn gwneud digon ohono.

Bydd prawf gwaed yn mesur eich lefelau o hormon sy'n ysgogi thyroid (TSH) yn pennu faint o levothyroxine sydd ei angen arnoch.

Os yw'r prawf yn canfod lefelau uchel o TSH, mae'n golygu bod gennych thyroid tanweithredol, ac efallai bydd eich meddyg yn eich cynghori i gymryd levothyroxine.

Gallech ddechrau ar ddos isel o levothyroxine, a gellir cynyddu'r dos yn raddol yn dibynnu sut mae eich corff yn ymateb.

Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd i ddechrau nes cyrraedd y dos cywir o levothyroxine. Gall gymryd ychydig o amser i gael hyn yn gywir.

Os yw eich symptomau yn ysgafn

Os yw prawf yn canfod lefelau uchel o TSH ond nid oes gennych unrhyw symptomau neu maent yn ysgafn iawn, efallai na fydd angen unrhyw driniaeth arnoch.

Bydd eich meddyg teulu fel arfer yn monitro eich lefelau hormon bob rhyw dri mis a gallai roi levothyroxine i chi ei gymryd i ddechrau os byddwch yn datblygu symptomau.

Mae rhai pobl yn dechrau teimlo'n well yn fuan ar ôl dechrau ar y driniaeth, ond gall gymryd rhai misoedd i bobl eraill deimlo'n well.

Mae thyroid tanweithredol yn gyflwr gydol oes, felly mae'n siwr y bydd angen i chi gymryd levothyroxine am weddill eich bywyd.

Nid yw levothyroxine yn achosi unrhyw sgîl-effeithiau fel arfer gan fod y tabledi yn syml yn amnewid hormon sydd ar goll.

Pan fyddwch chi wedi dechrau cymryd y dos cywir, byddwch chi fel arfer yn cael prawf gwaed unwaith y flwyddyn i fonitro eich lefelau hormon.

Pryd i alw'r meddyg 

Os ydych chi'n cael eich trin am isthyroidedd, ffoniwch eich meddyg:

  • os bydd poen yn datblygu yn eich brest
  • os bydd haint arnoch
  • os bydd eich symptomau'n gwaethygu neu os na fyddant yn gwella, neu
  • os byddwch chi'n datblygu symptomau newydd. 

Os ydych chi'n feichiog

Os ydych chi'n feichiog a bod gennych thyroid tanweithredol, dylech weld arbenigwr. Mae'n fwy tebygol y bydd angen tabledi amnewid hormonau ac archwiliadau mwy rheolaidd arnoch i fonitro eich lefelau hormon.   

Cymhlethdodau

Mae nifer o gymhlethdodau yn gallu codi os nad yw thyroid tanweithredol yn cael ei drin.

Mae thyroid tanweithredol yn gallu cael ei achosi gan broblem â'r system imiwnedd, sef system amddiffyn naturiol y corff, sy'n gallu ymosod ar gelloedd y corff ei hun, gan gynnwys y thyroid.

Gallai'r anhwylder hwn gynyddu eich risg o ddatblygu cyflyrau imiwnedd eraill, er bod hyn yn anarferol.

Mae'r cyflyrau hyn yn cynnwys:  

  • fitiligo (darnau o groen yn colli lliw),
  • methiant yr arennau, a 
  • methiant cynnar yr ofarïau neu derfyn cynnar y mislif. 

Coma

Yn anaml iawn, mae isthyroidedd difrifol yn gallu arwain at gyflwr sy'n bygwth bywyd o'r enw coma mycsedema (colli gweithrediad yr ymennydd). Mae symptomau'n cynnwys:

  • tymheredd corff isel
  • bod yn fyr eich anadl 
  • pwysedd gwaed isel
  • siwgr gwaed isel, a 
  • diffyg ymateb. 

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 12/06/2023 15:20:48