Cyflwyniad
Mae fitiligo yn anhwylder tymor hir lle y mae darnau gwelw, gwyn yn datblygu ar y croen. Mae'n cael ei achosi gan ddiffyg melanin, sef pigment yn y croen.
Gall fitiligo effeithio ar unrhyw ran o’r croen, ond fe’i gwelir amlaf ar yr wyneb, y gwddf a'r dwylo, ac ym mhlygiadau'r croen.
Mae'r darnau gwelw o groen yn fwy tueddol o losgi yn yr haul, felly mae'n bwysig cymryd gofal ychwanegol yn yr haul a defnyddio eli haul â ffactor amddiffyn (SPF) uchel.
Gwyliwch sioe sleidiau yn dangos brechau a chyflyrau eraill y croen.
Sut mae fitiligo yn cael ei drin?
Mae'r darnau gwyn a achosir gan fitiligo yn barhaol fel arfer, er bod dewisiadau triniaeth ar gael i wella golwg eich croen.
Os yw'r darnau yn gymharol fach, gallwch ddefnyddio hufen cuddliwio'r croen i'w gorchuddio.
Yn gyffredinol, cyfuniad o driniaethau, fel ffototherapi (triniaeth gyda golau) a meddyginiaeth, sy'n rhoi'r canlyniadau gorau.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd triniaeth yn adfer pigment (lliw) i'r darnau ar eich croen ond ni fydd yr effaith yn para fel arfer. Ni all triniaeth atal y cyflwr rhag lledaenu.
Darllenwch fwy am trin fitiligo.
Cymhlethdodau
Weithiau gall fitiligo achosi problemau eraill.
Oherwydd diffyg melanin, bydd eich croen yn fwy agored i effeithiau'r haul. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n defnyddio eli haul cryf i osgoi llosg haul.
Gall fitiligo fod yn gysylltiedig â phroblemau gyda'ch llygaid hefyd, fel llid yr iris, a cholli clyw rhannol (hypoacwsis).
Mae problemau gyda hyder a hunan-barch yn gyffredin ymhlith pobl â fitiligo, yn enwedig os yw'r cyflwr yn effeithio ar rannau o groen sy'n agored yn aml.
Help a chymorth
Gall grwpiau cymorth roi help a chyngor ac efallai gallant eich rhoi mewn cysylltiad â phobl eraill sy'n dioddef o fitiligo. Gall eich meddyg teulu awgrymu grwp yn eich ardal chi. Efallai y bydd elusennau fel The Vitiligo Society yn gallu helpu.
Triniaeth
Mae'r driniaeth ar gyfer fitiligo wedi'i seilio ar wella golwg y croen drwy adfer ei liw.
Fodd bynnag, nid yw effeithiau triniaeth yn barhaol fel arfer, ac ni all bob amser reoli lledaeniad y cyflwr.
Gall eich meddyg teulu argymell:
Efallai na fydd angen triniaeth bellach, er enghraifft, os mai dim ond darn bach o fitiligo sydd gennych neu os mai croen golau iawn sydd gennych beth bynnag. Mae'n bosibl y cewch eich atgyfeirio at ddermatolegydd (arbenigwr trin cyflyrau'r croen) os bydd angen rhagor o driniaeth arnoch.
Amddiffyn rhag yr haul
Mae llosg haul yn berygl go iawn os oes fitiligo gennych. Os oes gennych fitiligo, mae'n rhaid i chi amddiffyn eich croen rhag yr haul ac osgoi defnyddio gwelyau haul.
Pan fydd croen yn cael ei amlygu i olau'r haul, mae'n cynhyrchu pigment o'r enw melanin i helpu ei amddiffyn rhag golau uwchfioled. Os oes fitiligo gennych, nid oes digon o felanin yn eich croen, felly nid yw'n cael ei amddiffyn.
Gwnewch yn siwr eich bod bob amser yn taenu hufen haul ffactor uchel, gyda ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 30 neu fwy, er mwyn amddiffyn eich croen rhag llosg haul a niwed hirdymor. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych groen golau.
Darllenwch fwy am llosg haul.
Bydd amddiffyn eich croen rhag yr haul hefyd yn golygu na fyddwch yn cael gymaint o liw haul, felly'n gwneud eich fitiligo’n llai amlwg.
Fitamin D
Os nad yw eich croen yn cael ei amlygu i'r haul, mae mwy o risg y byddwch yn dioddef o ddiffyg fitamin D. Mae fitamin D yn hanfodol ar gyfer cadw esgyrn a dannedd yn iach.
Golau'r haul yw'r brif ffynhonnell fitamin D, er ei fod i'w gael hefyd mewn rhai bwydydd, fel pysgod olewog.
Gallai fod yn anodd cael digon o fitamin D o fwyd a golau'r haul yn unig. Felly, dylech ystyried cymryd atchwanegiad dyddiol yn cynnwys 10 microgram (mcg) o fitamin D.
Cuddliwio'r croen
Gall hufenau cuddliwio'r croen gael eu rhoi ar y darnau gwyn o groen. Mae'r hufenau'n cael eu gwneud yn arbennig i weddu i liw naturiol eich croen. Mae'r hufen yn gwneud i'r darnau gwyn gydweddu â gweddill eich croen, gan eu gwneud yn llai amlwg.
I gael cyngor ar guddliwio'r croen, efallai y bydd eich meddyg teulu'n eich atgyfeirio at y gwasanaeth cuddliw'r croen, Changing Faces.
Mae angen i chi fod wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio hufenau cuddliwio, ond mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim (er y croesewir rhoddion) a gall rhai hufenau gael eu rhoi ar bresgripsiwn gan y GIG.
Mae hufenau cuddliwio yn dal dwr a gellir eu rhoi ar unrhyw ran o'r corff. Maent yn para am hyd at bedwar diwrnod ar y corff a 12-18 awr ar y wyneb.
Gallwch gael hufen cuddliwio i'r croen hefyd sy'n cynnwys eli haul neu hufen â graddfa SPF.
Gall eli hunan-liwio (lliw haul ffug) help i guddio fitiligo hefyd. Mae rhai mathau'n gallu para am sawl diwrnod cyn bod angen rhoi rhagor arnoch eich hun. Mae eli hunan-liwio ar gael o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd.
Corticosteroidau argroenol
Mae corticosteroidau argroenol yn fath o feddyginiaeth sy'n cynnwys steroidau. Rydych chi'n eu rhoi ar eich croen ar ffurf hufen neu eli. Weithiau gallant atal y darnau gwyn rhag lledaenu, a gallant adfer rhywfaint o'ch lliw croen gwreiddiol.
Gall corticosteroid argroenol gael ei roi ar bresgripsiwn i oedolion:
- os oes gennych fitiligo ansegmentol ar lai na 10% o'ch corff
- os ydych eisiau triniaeth bellach (mae cyngor ar amddiffyn rhag yr haul a hufenau cuddliwio yn ddigon i rai pobl)
- os nad ydych chi'n feichiog
- os ydych chi'n deall ac yn derbyn risg sgîl-effeithiau
Gall corticosteroidau argroenol gael eu defnyddio ar yr wyneb, ond dylid bod yn ofalus wrth ddewis a defnyddio'r math hwn o feddyginiaeth ar eich wyneb.
Darllenwch fwy am corticosteroidau argroenol.
Defnyddio corticosteroidau argroenol
Gall eich meddyg teulu roi presgripsiwn am hufen neu eli, gan ddibynnu ar yr hyn sydd orau gennych a ble fydd yn cael ei ddefnyddio. Mae elïau yn tueddu bod yn fwy seimllyd. Mae hufenau yn well yn eich cymalau – er enghraifft, y tu mewn i'ch penelinoedd. Mae corticosteroidau posibl y gellir eu rhoi ar bresgripsiwn yn cynnwys:
- fluticasone propionate
- betamethasone valerate
- hydrocortisone butyrate
Bydd eich meddyg teulu yn dweud wrthych sut i roi'r hufen neu'r eli ar y darnau a faint ddylech ei ddefnyddio (gweler isod). Fel arfer bydd angen i chi roi'r driniaeth unwaith y diwrnod.
Caiff corticosteroidau argroenol eu mesur mewn uned safonol o'r enw uned blaenau bysedd (FTU). Un FTU yw faint o gorticosteroid argroenol sy'n cael ei wasgu ar hyd blaen bys oedolyn. Mae un FTU yn ddigon i drin darn o groen ddwywaith maint llaw oedolyn.
Gallwch ddefnyddio canllaw Patient UK, Fingertip Units for Topical Steroids, i ganfod faint o FTUau i'w defnyddio i drin rhannau gwahanol o'r corff.
Apwyntiad dilynol
Ar ôl mis, cewch apwyntiad dilynol fel y gall eich meddyg teulu weld pa mor dda mae'r driniaeth yn gweithio a gwirio a oes gennych unrhyw sgîl-effeithiau. Os yw'r driniaeth yn achosi sgîl-effeithiau, gall fod angen i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r corticosteroidau.
Ar ôl mis neu ddau, bydd eich meddyg teulu yn gwirio faint mae eich fitiligo wedi gwella. Os nad oes unrhyw welliant, efallai y cewch eich atgyfeirio at ddermatolegydd (gweler isod).
Os yw eich fitiligo wedi gwella ychydig, gallwch barhau â'r driniaeth ond cael egwyl rhag y driniaeth bob ychydig wythnosau. Efallai y cewch eich atgyfeirio at ddermatolegydd hefyd.
Bydd y driniaeth yn cael ei hatal os bydd eich fitiligo wedi gwella'n sylweddol.
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn cymryd lluniau o'ch fitiligo trwy gydol eich triniaeth i fonitro unrhyw arwyddion o welliant. Efallai y byddwch chi hefyd eisiau cymryd lluniau.
Sgîl-effeithiau
Mae sgîl-effeithiau corticosteroidau argroenol yn cynnwys:
- rhesi neu linellau ar eich croen (rhych)
- eich croen yn teneuo (gwywo)
- gwaedlestri gweladwy yn ymddangos (telangiectasia)
- cynnydd mewn tyfiant blew (hypertrichosis)
- dermatitis cyswllt (llid ar eich croen)
- acne
Atgyfeirio
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich atgyfeirio at ddermatolegydd:
- os nad yw'n sicr ynglyn â'ch diagnosis
- os ydych yn feichiog a bod angen triniaeth arnoch chi
- os yw fitiligo yn effeithio ar fwy na 10% o'ch corff
- os ydych yn gofidio am eich cyflwr
- os yw eich wyneb wedi'i effeithio ac rydych am driniaeth bellach
- os na allwch ddefnyddio corticosteroidau argroenol oherwydd risg sgîl-effeithiau
- os oes fitiligo segmentol gennych ac rydych eisiau triniaeth bellach
- os nad yw triniaeth gyda chorticosteroidau argroenol wedi gweithio
Bydd plant â fitiligo y mae angen triniaeth arnynt yn cael eu hatgyfeirio at ddermatolegydd hefyd.
Mewn rhai achosion, efallai y cewch bresgripsiwn am gorticosteroidau argroenol cryf tra byddwch yn aros i gael eich gweld gan ddermatolegydd.
Mae rhai o'r triniaethau y gall eich dermatolegydd eu hargymell wedi'u disgrifio isod.
Pimecrolimus neu tacrolimus argroenol
Math o feddyginiaeth a elwir yn atalyddion calcineurin yw pimecrolimus a tacrolimus, ac fe'u defnyddir fel arfer i drin ecsema.
Mae pimecrolimus a tacrolimus yn feddyginiaethau didrwydded ar gyfer trin fitiligo, ond gellir eu defnyddio i helpu i adfer pigment yng nghroen plant ac oedolion sydd â fitiligo.
Maent yn gallu achosi sgîl-effeithiau, fel:
- llosgi neu deimladau poenus wrth eu rhoi ar y croen
- gwneud y croen yn fwy sensitif i olau'r haul
- gwrido wynebol (cochni) a llid y croen os ydych yn yfed alcohol
Fodd bynnag, yn wahanol i gorticosteroidau, nid yw pimecrolimus a tacrolimus yn teneuo'r croen.
Ffototherapi
Gellir defnyddio ffototherapi (triniaeth gyda golau) ar gyfer plant neu oedolion:
- os nad yw triniaethau argroenol wedi gweithio
- os yw'r fitiligo wedi lledaenu'n eang
- os yw'r fitiligo yn cael effaith sylweddol ar ansawdd eu bywyd
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ffototherapi, yn enwedig o'i gyfuno â thriniaethau eraill, yn cael effaith gadarnhaol ar fitiligo.
Yn ystod ffototherapi, mae eich croen yn cael ei amlygu i olau uwchfioled A (UVA) neu olau uwchfioled B (UVB) o lamp arbennig. Efallai y byddwch yn cymryd meddyginiaeth o'r enw psoralen yn gyntaf, sy'n gwneud eich croen yn fwy sensitif i'r golau. Gallwch gymryd psoralen drwy'r geg (yn eneuol), neu gallwch ei ychwanegu at ddwr y bath.
Weithiau mae'r math hwn o driniaeth yn cael ei alw'n PUVA (psoralen a golau uwchfioled A).
Gall ffototherapi gynyddu'r risg o ganser y croen oherwydd ei fod yn cael ei amlygu mwy i belydrau UVA. Dylai eich dermatolegydd drafod y risg hon gyda chi cyn i chi benderfynu cael ffototherapi.
Nid yw'r lampau haul y gallwch eu prynu i'w defnyddio gartref ar gyfer therapi golau yn cael eu hargymell. Nid ydynt mor effeithiol â'r ffototherapi y byddwch yn ei gael yn yr ysbyty. Nid yw'r lampau yn cael eu rheoleiddio ychwaith, felly mae'n bosib na fyddant yn ddiogel.
Impiadau croen
Mae impio croen yn weithdrefn lawfeddygol sy'n golygu tynnu croen iach o ran o'r corff nad yw wedi'i heffeithio a'i ddefnyddio i orchuddio darn lle mae'r croen wedi'i niweidio neu'i golli. I drin fitiligo, gellir defnyddio impiad croen i orchuddio'r darn gwyn.
Efallai y bydd impiadau croen yn cael eu hystyried ar gyfer oedolion ar rannau sy'n effeithio ar eich golwg:
- os nad oes unrhyw ddarnau gwyn newydd wedi dod i'r golwg yn y 12 mis diwethaf
- os nad yw'r darnau gwyn wedi gwaethygu yn y 12 mis diwethaf
- os na chafodd eich fitiligo ei sbarduno gan niwed i'ch croen, fel llosg haul difrifol (a elwir yn ymateb Koebner)
Mewn math arall o driniaeth yn hytrach nag impio croen, mae'r melanoseitau'n cael eu tynnu o sampl o groen arferol ac yna'n cael eu trawsblannu i'r darnau o fitiligo.
Mae triniaethau o'r math hwn yn llyncu llawer o amser, mae risg creithio ac nid ydynt yn addas i blant. Hefyd, nid ydynt ar gael yn eang yn y Deyrnas Unedig ac nid ydynt yn cael eu hariannu gan y GIG.
Dadbigmentiad
Efallai y bydd dadbigmentiad yn cael ei argymell i oedolion sydd â fitiligo ar fwy na 50% o’u cyrff, ond mae'n bosibl na fydd ar gael yn eang.
Yn ystod dadbigmentiad, bydd eli yn cael ei baentio ar y croen arferol i ddiliwio'r pigment sy'n weddill a'i wneud yr un lliw â'r croen (gwyn) y tynnwyd y pigment ohono. Bydd meddyginiaeth hydrocwinon yn cael ei defnyddio, ac mae'n rhaid ei rhoi yn barhaus er mwyn atal y croen rhag pigmentu eto.
Mae hydrocwinon yn gallu achosi sgîl-effeithiau, fel:
Mae dadbigmentiad yn barhaol fel arfer a bydd yn gadael y croen yn gwbl ddiamddiffyn i'r haul. Gall ail-bigmentu ddigwydd (pan fydd y lliw yn dychwelyd), ac efallai y bydd yn wahanol i'ch lliw croen gwreiddiol. Weithiau, gall defnyddio triniaethau dadbigmentiad ar un darn o groen wneud i bigment gael ei golli o groen ar rannau eraill o'r corff.
Triniaethau eraill
Gall eich dermatolegydd argymell eich bod yn rhoi cynnig ar fwy nag un driniaeth, er enghraifft, ffototherapi mewn cyfuniad â thriniaeth argroenol. Mae triniaethau posibl eraill yn cynnwys:
- laserau excimer – pelydrau golau egni uchel sy'n cael eu defnyddio mewn triniaeth laser i'r llygaid, ond gellir eu defnyddio mewn ffototherapi hefyd (nid yw ar gael ar y GIG)
- analogau fitamin D – fel calcipotriol, y gellir ei ddefnyddio gyda ffototherapi hefyd
- asathïoprin – meddyginiaeth sy'n amharu ar eich system imiwnedd (system amddiffyn naturiol y corff)
- prednisolone geneuol – math o gorticosteroid, sydd hefyd wedi ei ddefnyddio gyda ffototherapi, y gall achosi sgîl-effeithiau
Therapïau cyflenwol
Mae rhai therapïau cyflenwol yn honni eu bod yn lleddfu neu'n atal fitiligo. Ond nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi eu heffeithiolrwydd, felly mae angen gwneud mwy o ymchwil cyn y gellir eu hargymell.
Mae ychydig bach iawn o dystiolaeth y gall ginkgo biloba, sef meddyginiaeth lysieuol, fod o fudd i bobl â fitiligo ansegmentol. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i'w argymell.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio meddyginiaethau llysieuol, gwiriwch gyda'ch meddyg teulu yn gyntaf, gan y gall rhai meddyginiaethau adweithio mewn ffordd anrhagweladwy â meddyginiaethau eraill neu eu gwneud yn llai effeithiol.
Grwpiau cyngor a chefnogaeth
Os ydych yn dioddef fitiligo, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ymuno â grwp cymorth fitiligo. Gall hyn eich helpu i ddeall mwy am eich cyflwr a dod i delerau â golwg eich croen.
Efallai y bydd elusennau, fel The Vitiligo Society, yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau cymorth lleol (mae'n bosib y bydd angen i chi ymaelodi yn gyntaf). Efallai y gall eich meddyg teulu awgrymu grwp lleol hefyd.
Os oes gennych symptomau seicogymdeithasol –- er enghraifft, mae eich cyflwr yn achosi gofid i chi – gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at seicolegydd neu gwnselydd i gael triniaeth fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).
Mae CBT yn fath o therapi sy'n ceisio eich helpu i reoli eich problemau drwy newid y ffordd rydych yn meddwl ac yn gweithredu.
Meddyginiaethau didrwydded
Mae llawer o driniaethau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer fitiligo yn ddidrwydded. Mae 'didrwydded' yn golygu nad yw gwneuthurwr y feddyginiaeth wedi gwneud cais am drwydded ar gyfer defnyddio'r feddyginiaeth i drin eich cyflwr. Nid yw'r feddyginiaeth wedi bod yn destun treialon clinigol i weld a yw'n effeithiol ac yn ddiogel i drin eich cyflwr.
Gallai meddygon argymell defnyddio meddyginiaeth ddidrwydded os byddant o'r farn y bydd yn effeithiol a bod buddion y driniaeth yn gorbwyso unrhyw risg gysylltiedig. Cyn rhoi meddyginiaeth ddidrwydded ar bresgripsiwn, dylent roi gwybod i chi ei bod yn ddidrwydded a thrafod y risgiau a'r buddion posibl gyda chi.
Darllenwch fwy am meddyginiaethau didrwydded.