Mae gwlychu’r gwely (enwresis nos) yn gallu achosi pryder a rhwystredigaeth, ond mae'n gyffredin i blant
wlychu'r gwely yn ddamweiniol yn ystod y nos. Mae'r broblem fel arfer yn gwella ymhen amser.
Mae gwlychu'r gwely yn gyffredin ymhlith plant ifanc, ond mae'n mynd yn llai cyffredin wrth i blentyn fynd yn
hyn.
Yn y DU, amcangyfrifir bod tua:
- 1 o bob 12 o blant yn gwlychu'r gwely'n rheolaidd yn bedair a hanner oed (diffinnir yn rheolaidd fel o
leiaf ddwywaith yr wythnos)
- 1 o bob 40 o blant yn gwlychu'r gwely'n rheolaidd yn saith a hanner oed
- 1 o bob 65 o blant yn gwlychu'r gwely'n rheolaidd yn naw a hanner oed
Mae tua 1 o bob 100 o bobl yn parhau i wlychu'r gwely pan fyddant yn oedolion.
Mae gwlychu'r gwely ychydig yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn na merched.
Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu
Dim ond pan fydd yn dechrau achosi trafferth i'r plant neu'r rhieni y mae gwlychu'r gwely yn broblem mewn
gwirionedd. Anaml yn unig y bydd hyn yn cael ei ystyried yn broblem ymhlith plant o dan 5 oed. Mae llawer o
deuluoedd yn gofyn am driniaeth i ddechrau pan fydd y ffaith fod plentyn yn gwlychu'r gwely yn effeithio ar ei
fywyd cymdeithasol (er enghraifft, atal y plentyn rhag mynd i aros dros nos yn nhai ffrindiau).
Nid yw triniaethau meddygol fel arfer yn cael eu hargymell ar gyfer plant o dan bump oed (ond gellir gwneud
eithriadau os yw gwlychu'r gwely yn achosi pryder mawr i blentyn).
Os yw eich plentyn yn gwlychu'r gwely'n aml a bod hyn yn achosi pryder iddo, siaradwch â'ch meddyg
teulu i gael cyngor.
Darllenwch fwy am symptomau
gwlychu'r gwely.
Pam mae fy mhlentyn yn gwlychu'r gwely?
Fel arfer, nid oes rheswm amlwg pam mae plant yn gwlychu'r gwely ac nid yw eich plentyn ar fai. Mewn llawer o
achosion, mae'r broblem yn rhedeg mewn teuluoedd.
Gallai eich plentyn wlychu'r gwely:
- os yw'n cynhyrchu mwy o wrin na'r hyn y mae ei bledren yn gallu ymdopi ag ef
- os oes ganddo bledren orweithredol, sy'n golygu mai ychydig bach o wrin yn unig y mae'n gallu ei ddal
- os yw'n cysgu'n drwm iawn felly nid yw'n ymateb i'r signalau sy'n dweud wrth ei ymennydd bod
ei bledren yn llawn
Yn aml, mae rhwymedd yn
gysylltiedig â gwlychu'r gwely, yn enwedig ymhlith plant nad ydynt yn gwlychu eu hunain bob nos. Yn yr
achosion hyn, gallai plentyn wlychu'r gwely yn ystod y nos pan na fydd wedi gwneud pw yn ystod y dydd. Weithiau,
y cyfan sydd angen ei wneud yw trin y rhwymedd fel na fydd yn gwlychu'r gwely. Mae achos o rwymedd heb ei drin
yn ei gwneud yn llawer anos trin achos o wlychu'r gwely.
O bryd i'w gilydd, mae gwlychu'r gwely yn gallu cael ei sbarduno gan ofid emosiynol, er enghraifft os
yw'r plentyn yn cael ei fwlio neu wedi symud i ysgol newydd.
Mewn achosion prin, gall gwlychu'r gwely fod yn symptom o gyflwr iechyd gwaelodol, fel math 1 diabetes.
Darllenwch fwy am achosion
gwlychu'r gwely a gwneud diagnosis o
wlychu'r gwely.
Trin achosion o wlychu'r gwely
Fel arfer, argymhellir y dylech roi cynnig ar rai camau eich hun yn gyntaf, er enghraifft cyfyngu ar faint o hylif y
mae eich plentyn yn ei yfed gyda'r nos, a gwneud yn siwr ei fod yn mynd i'r toiled cyn mynd i gysgu.
Mae hefyd yn bwysig i chi dawelu meddwl eich plentyn bod popeth yn iawn. Peidiwch â rhoi pryd o dafod i'ch
plentyn na'i gosbi am wlychu'r gwely gan na fydd hyn yn helpu a gallai waethygu'r broblem. Mae'n
bwysig i'ch plentyn wybod nad yw ar ei ben ei hun, ac y bydd pethau'n gwella.
Os na fydd y camau hyn ar eu pen eu hunain yn helpu, argymhellir larwm gwlychu'r gwely yn aml, sef padiau
sy'n sensitif i anwedd y mae plentyn yn eu gwisgo ar ei ddillad nos. Bydd larwm yn gwneud swn os yw'r
plentyn yn dechrau pi-pi. Dros gyfnod, dylai'r larwm helpu i hyfforddi plentyn i ddeffro pan fydd ei bledren yn
llawn.
Os na fydd larwm yn gweithio neu os bydd yn anaddas, gellir defnyddio meddyginiaeth o'r enw desmopressin neu
oxybutinin.
Mae'r rhan fwyaf o blant yn ymateb yn dda i driniaeth, er y byddant weithiau'n ailddechrau gwlychu'r
gwely dros dro.
Darllenwch fwy ynghylch trin
achosion o wlychu'r gwely.
ERIC
ERIC, The Children's Bowel & Bladder Charity sef elusen yn y DU i bobl
sy'n cael eu heffeithio gan wlychu'r gwely. Mae gwefan yr elusen yn darparu gwybodaeth a chyngor defnyddiol
ar gyfer plant a phobl ifanc fel ei gilydd.
Mae gan ERIC linell gymorth hefyd - 0845 370 8008, sydd ar agor ar ddyddiau'r wythnos rhwng 10am a 4pm.
Oedolion sy'n gwlychu'r gwely
Mae tua 1 o bob 100 o bobl yn parhau i wlychu'r gwely pan fyddant yn oedolion, a bydd rhai pobl dim ond yn
dechrau gwlychu'r gwely pan fyddant yn oedolion.
Mae hyn fel arfer yn golygu bod angen eu cyfeirio at arbenigwr fel wrolegwr (arbenigwr mewn trin cyflyrau sy'n
effeithio ar y system wrinol) neu ymgynghorydd ar anymataliad.
Darllenwch fwy am anymataliad wrinol, oedolion sy'n gwlychu'r gwely a pobl ifanc yn eu harddegau sy'n gwlychu'r gwely.