Hepatitis A

Cyflwyniad

Haint ar yr afu/iau yw hepatitis A a achosir gan firws sy'n cael ei ledaenu yng ngharthion rhywun sydd wedi ei heintio.

Mae'n anghyffredin yng Nghymru, ond mae grwpiau penodol yn wynebu risg gynyddol. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n teithio i rannau o'r byd sydd â lefelau gwael o lanweithdra, dynion sy'n cael rhyw â dynion, a phobl sy'n chwistrellu cyffuriau.

Mae hepatitis A yn gallu bod yn amhleserus, ond nid yw fel arfer yn ddifrifol, a bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr o fewn ychydig fisoedd.

Efallai na fydd rhai pobl, yn enwedig plant ifanc, yn cael unrhyw symptomau. Ond gall hepatitis A bara am fisoedd lawer o bryd i'w gilydd, ac mewn achosion prin, gall beryglu bywyd os yw'n achosi i'r afu/iau roi'r gorau i weithio'n iawn (methiant yr afu/iau).

Mae brechlyn hepatitis A ar gael i bobl sydd â risg uchel o ddal yr haint.

Symptomau hepatitis  A

Mae symptomau hepatitis A, ar gyfartaledd, yn datblygu tua phedair wythnos ar ôl i rywun gael ei heintio, er na fydd pawb yn cael y symptomau.

Gall symptomau gynnwys:

  • teimlo'n flinedig ac yn gyffredinol anhwylus
  • poen yn y cymalau a'r cyhyrau
  • tymheredd uchel (twymyn)
  • colli awydd bwyd
  • teimlo'n sâl neu fod yn sâl
  • poen yn rhan uchaf eich bol ar yr ochr dde
  • croen a'r llygaid yn melynu (clefyd melyn)
  • wrin tywyll a charthion golau
  • croen yn cosi

Bydd y symptomau fel arfer yn gorffen o fewn ychydig fisoedd.

Darllenwch fwy ynghylch symptomau hepatitis A.

Pryd i gael cyngor meddygol

Ewch i weld eich meddyg teulu i gael cyngor:

  • os oes gennych symptomau hepatitis A - gall prawf gwaed fel arfer gadarnhau p'un a oes gennych yr haint
  • os ydych o bosibl wedi bod yn agored i firws hepatitis A yn ddiweddar ond nad oes gennych unrhyw symptomau - gall triniaeth gynnar atal yr haint rhag datblygu
  • os ydych yn credu y gallai fod angen brechlyn hepatitis A arnoch - gall eich meddyg teulu eich cynghori ynghylch p'un a ddylech gael y brechlyn (gweler isod)

Er nad yw hepatitis A fel arfer yn ddifrifol, mae'n bwysig cael diagnosis cywir i ddiystyru cyflyrau mwy difrifol sydd â symptomau tebyg, fel hepatitis C neu sirosis (creithio ar yr afu/iau).

Efallai y bydd angen i'ch ffrindiau, teulu ac unrhyw bartneriaid rhywiol gael prawf hefyd, rhag ofn eich bod wedi rhoi'r haint iddyn nhw.

Sut gallwch chi ddal hepatitis A

Mae hepatitis A yn fwyaf cyffredin mewn rhannau o’r byd lle mae safonau glanweithdra a hylendid bwyd yn gyffredinol wael, fel rhannau o Affrica, isgyfandir India, y Dwyrain Pell, y Dwyrain Canol, Canolbarth a De America.

Gallwch gael yr haint:

  • trwy fwyta bwyd wedi ei baratoi gan rywun sydd â’r haint nad yw wedi golchi ei ddwylo’n iawn neu wedi eu golchi mewn dwr wedi ei halogi â charthion
  • trwy yfed dwr wedi ei halogi (gan gynnwys ciwbiau rhew)
  • bwyta pysgod cregyn amrwd neu bygsod cregyn heb eu coginio'n ddigonol o ddwr wedi ei halogi
  • trwy gael cyswllt agos â rhywun sydd â hepatitis A
  • yn llai cyffredin, trwy gael rhyw â rhywun sydd â’r haint (mae hyn yn risg yn benodol i ddynion sy’n cael rhyw â dynion) neu chwistrellu cyffuriau gan ddefnyddio offer wedi ei halogi

Mae rhywun â hepatitis A yn fwyaf heintus o ryw bythefnos cyn i’w symptomau ymddangos tan ryw wythnos ar ôl i’r symptomau ddatblygu i ddechrau.

Darllenwch fwy ynghylch achosion hepatitis A.

Brechu yn erbyn hepatitis A

Nid oes brechiad yn erbyn hepatitis A yn cael ei gynnig fel arfer yn y DU gan fod risg­ haint yn isel i’r rhan fwyaf o bobl.

Caiff ei argymell ar gyfer pobl sy’n wynebu risg gynyddol yn unig, gan gynnwys:

  • cysylltiadau agos â rhywun sydd â hepatitis A
  • pobl sy’n bwriadu teithio i, neu fyw mewn rhannau o’r byd lle mae hepatitis  A yn gyffredin, yn enwedig os disgwylir bod glanweithdra a hylendid bwyd yn wael
  • pobl sydd ag unrhyw fath o clefyd yr afu/iau hirdymor (cronig)
  • dynion sy’n cael rhyw â dynion eraill
  • pobl sy’n chwistrellu cyffuriau anghyfreithlon
  • pobl a allai gael eu hamlygu i hepatitis A trwy eu gwaith – mae hyn yn cynnwys gweithwyr carthffosiaeth, staff sefydliadau lle gallai lefelau hylendid personol fod yn wael (fel lloches i bobl ddigartref) a phobl sy’n gweithio gyda mwncïod, epaod a gorilaod

Mae brechlyn hepatitis A fel arfer ar gael am ddim ar y GIG i unrhyw un sydd ei angen.

Darllenwch fwy ynghylch brechlyn hepatitis A.

Triniaethau ar gyfer hepatitis A

Nid oes gwellhad ar gyfer hepatitis A ar hyn o bryd, ond bydd fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun o fewn ychydig fisoedd. Gallwch ofalu amdanoch chi eich hun gartref fel arfer.

Tra byddwch yn sâl, mae’n syniad da:

  • cael digon o orffwys
  • cymryd cyffuriau lladd poen fel paracetamol neu ibuprofen ar gyfer unrhyw ddolur a phoenau – gofynnwch i’ch meddyg teulu am gyngor am hyn, gan y gallai fod angen i chi gymryd dosau is na’r arfer neu osgoi meddyginiaethau penodol nes y byddwch wedi gwella
  • cynnal amgylchedd eithaf oer, wedi ei awyru’n dda, gwisgo dillad llac, ac osgoi bath neu gawodydd poeth i leihau unrhyw gosi
  • bwyta prydau llai ac ysgafnach i helpu i leihau cyfog a chwydu
  • osgoi alcohol i leihau’r straen ar eich afu/iau
  • aros adref o’r gwaith neu’r ysgol ac osgoi cael rhyw tan o leiaf wythnos ar ôl i’r clefyd melyn neu symptomau eraill ddechrau
  • arfer mesurau hylendid da, fel golchi’ch dwylo â sebon a dwr yn rheolaidd

Siaradwch â’ch meddyg teulu os yw eich symptomau yn achosi llawer o drafferth i chi neu os na fyddant wedi dechrau gwella o fewn ychydig fisoedd. Gallant roi meddyginiaethau ar bresgripsiwn i helpu â chosi, cyfog neu chwydu os bydd angen.

Darllenwch fwy ynghylch trin hepatitis A.

Rhagolwg i hepatitis A

I’r rhan fwyaf o bobl, bydd hepatitis A yn gwella o fewn deufis ac ni fydd unrhyw effeithiau hirdymor. Wedi iddo basio, byddwch fel arfer yn datblygu imiwnedd gydol oes yn erbyn y firws.

I ryw 1 o bob 7 o bobl sydd â’r haint, gallai’r symptomau fynd a dod am hyd at 6 mis cyn gorffen yn y pen draw.

Mae cymhlethdodau sy’n peryglu bywyd fel methiant yr afu/iau yn brin, ac yn effeithio ar lai nag 1 o bob 250 o bobl â hepatitis A. Mae’r bobl sydd â’r risg fwyaf yn cynnwys y rheiny sydd eisoes â phroblemau ar yr afu/iau a phobl oedrannus.

Os bydd yr afu/iau yn methu, bydd angen trawsblaniad yr afu/iau i’w drin gan amlaf.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/11/2024 13:14:17