Cyflwyniad
Canser y fron yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y Deyrnas Unedig. Mae'r rhan fwyaf o fenywod sy'n cael diagnosis o ganser y fron dros 50 oed, ond mae menywod iau yn gallu cael canser y fron hefyd.
Mewn achosion prin, gall dynion gael diagnosis o ganser y fron hefyd. Darllenwch ynghylch canser y fron mewn dynion.
Symptomau canser y fron
Gall canser y fron fod â nifer o symptomau, ond y symptom amlwg cyntaf fel arfer yw lwmp neu dewychu ym meinwe'r fron. Nid yw'r rhan fwyaf o lympiau'r fron yn ganseraidd, ond mae bob amser yn well bod eich meddyg yn eu harchwilio.
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu hefyd os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o'r canlynol:
- newid ym maint neu siâp un o'r bronnau, neu'r ddwy
- rhedlif o unrhyw un o'ch tethi, sydd efallai'n cynnwys ychydig o waed
- lwmp neu chwydd yn unrhyw un o'ch ceseiliau
- crych ar groen eich bronnau
- brech ar eich teth neu o'i hamgylch
- newid yng ngolwg eich teth, fel ei bod yn suddo i mewn i'ch bron
Nid yw poen yn y frest yn symptom o ganser y fron.
Dysgwch fwy am symptomau canser y fron.
Achosion canser y fron
Nid oes dealltwriaeth lawn am union achosion canser y fron. Fodd bynnag, mae rhai ffactorau y gwyddom eu bod yn cynyddu'r risg o gael canser y fron.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- oedran - mae'r risg yn cynyddu wrth i chi fynd yn hyn
- hanes teuluol o ganser y fron
- diagnosis blaenorol o ganser y fron
- lwmp diniwed yn y fron yn y gorffennol
- bod yn dal, dros eich pwysau neu'n ordew
- defnydd gormodol o alcohol
Darllenwch fwy am achosion canser y fron.
Gwneud diagnosis o ganser y fron
Ar ôl archwilio eich bronnau, gallai eich meddyg teulu eich cyfeirio at glinig canser y fron arbenigol ar gyfer rhagor o brofion. Gall hyn gynnwys sgrinio'r fron (mamograffeg) neu biopsi.
Darllenwch fwy o wybodaeth am sut gwneir diagnosis o ganser y fron.
Mathau o ganser y fron
Mae sawl gwahanol fath o ganser y fron, sy'n gallu datblygu mewn rhannau gwahanol o'r fron.
Yn aml, bydd canser y fron yn cael ei rannu fel a ganlyn:
- Canser anymledol y fron (carsinoma yn y fan a'r lle) - mae i'w gael yn nwythellau'r fron (carsinoma dwythellol yn y fan a'r lle, DCIS) ac nid yw wedi datblygu'r gallu i ledaenu y tu allan i'r fron. Caiff ei ganfod fel arfer yn ystod mamogram, ac anaml y mae'r math hwn o ganser yn ymddangos ar ffurf lwmp yn y fron.
- Canser ymledol y fron - mae fel arfer yn datblygu yn y celloedd sy'n leinio dwythellau'r fron (canser dwythellol ymledol y fron) a dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser y fron. Gall ledaenu y tu allan i'r fron, er nad yw hyn o reidrwydd yn golygu ei fod wedi lledaenu.
Mae mathau eraill, llai cyffredin, o ganser y fron yn cynnwys:
Mae'n bosibl i ganser y fron ledaenu i rannau eraill o'r corff, fel arfer drwy lif y gwaed neu'r nodau lymff ceseiliol, sef chwarennau bach lymffatig sy'n ffiltro bacteria a chelloedd o'r chwarren laeth. Os bydd hyn yn digwydd, yr enw arno yw canser eilaidd neu fetastatig y fron.
Sgrinio'r fron
Sgrinio mamograffig, ble caiff delweddau pelydr-x o'r fron eu cymryd, yw'r dull mwyaf cyffredin sydd ar gael o ddarganfod nam cynnar yn y fron.
Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na fydd mamogram yn darganfod rhai achosion o ganser y fron.
Gall hefyd gynyddu eich tebygolrwydd o gael profion ac ymyriadau ychwanegol, gan gynnwys llawdriniaeth, hyd yn oed os nad ydych yn cael eich effeithio gan ganser y fron.
Mae'n bosibl y cynigir sgrinio a phrofi genetig am y cyflwr i fenywod sydd â risg uwch na'r cyfartaledd o ddatblygu canser y fron.
Gan fod y risg o ganser y fron yn cynyddu wrth fynd yn hyn, mae pob menyw rhwng 50 a 70 mlwydd oed yn cael gwahoddiad ar gyfer sgrinio'r fron bob tair blynedd. Mae gan fenywod dros 70 oed hawl i gael eu sgrinio hefyd a gallant drefnu apwyntiad drwy eu meddyg teulu neu'r uned sgrinio leol.
Darllenwch fwy o wybodaeth am sgrinio ar gyfer canser y fron.
Trin canser y fron
Os caiff canser ei ddarganfod yn gynnar, gellir ei drin cyn iddo ledaenu i rannau cyfagos o'r corff.
Caiff canser y fron ei drin gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol:
Fel arfer, llawdriniaeth yw'r math cyntaf o driniaeth y byddwch yn ei chael, wedyn cemotherapi neu radiotherapi, neu mewn rhai achosion, triniaethau hormon neu fiolegol.
Bydd y math o lawdriniaeth a'r driniaeth y byddwch yn ei chael ar ôl hynny yn dibynnu ar y math o ganser y fron sydd gennych. Bydd eich meddyg yn trafod y cynllun triniaeth gorau gyda chi.
Mewn cyfran fach o fenywod, caiff canser y fron ei ddarganfod ar ôl iddo ledaenu i rannau eraill o'r corff (canser metastatig y fron).
Nid oes modd gwella canser eilaidd, sydd hefyd yn cael ei alw'n ganser datblygedig neu fetastatig, felly nod y driniaeth yw sicrhau ysgafnhad (lleddfu symptomau).
Dysgwch fwy am sut caiff canser y fron ei drin.
Mynnwch wybodaeth am eich gwasanaethau cymorth canser yn lleol (gan gynnwys sgrinio'r fron).
Byw gyda chanser y fron
Mae cael diagnosis o ganser y fron yn gallu effeithio ar fywyd bob dydd mewn llawer o ffyrdd, yn dibynnu ar ba gam y mae, a'r driniaeth yr ydych yn ei chael.
Mae'r ffordd y mae menywod yn ymdopi â'u diagnosis a'r driniaeth yn amrywio o un fenyw i'r llall. Gellir eich sicrhau bod sawl math gwahanol o gymorth ar gael, os bydd ei angen arnoch.
Er enghraifft:
- gall eich teulu a'ch ffrindiau fod yn system gymorth bwerus
- gallwch gyfathrebu â phobl eraill yn yr un sefyllfa
- ceisiwch gael gwybod cymaint ag y bo modd am eich cyflwr
- peidiwch â cheisio gwneud gormod neu ymdrechu'n ormodol
- rhowch amser i chi eich hun
Darllenwch ynghylch byw gyda chanser y fron.
Atal canser y fron
Gan nad oes dealltwriaeth lawn o achosion canser y fron, nid oes modd gwybod sut gellir ei atal ar hyn o bryd.
Os oes gennych risg gynyddol o ddatblygu'r cyflwr, mae rhai triniaethau ar gael i leihau'r risg.
Mae astudiaethau wedi edrych ar y cysylltiad rhwng canser y fron a deiet. Er nad oes unrhyw gasgliadau pendant, mae manteision i fenywod:
- sy'n cynnal pwysau iach
- sy'n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
- nad ydynt yn cael llawer o fraster dirlawn ac alcohol
Awgrymwyd y gall gwneud ymarfer corff yn rheolaidd leihau eich risg o gael canser y fron o gymaint â thraean. Mae ymarfer corff rheolaidd a ffordd iach o fyw yn gallu gwella'r rhagolygon i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser y fron hefyd.
Os ydych chi wedi bod trwy'r menopos, mae'n bwysig iawn nad ydych dros eich pwysau nac yn ordew.
Y rheswm am hyn yw bod mwy o estrogen yn cael ei gynhyrchu os ydych dros eich pwysau neu'n ordew, sy'n gallu cynyddu eich risg o gael canser y fron.
Darllenwch fwy am atal canser y fron.
Symptomau
Symptom cyntaf canser y fron y mae'r rhan fwyaf o fenywod yn sylwi arno yw lwmp, neu ardal wedi'i thewychu o feinwe, yn eu bron. Nid yw'r rhan fwyaf o lympiau ar y fron (90%) yn ganseraidd, ond y peth gorau i'w wneud bob amser yw mynd at y meddyg teulu am archwiliad.
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os ydych yn sylwi ar unrhyw rai o'r canlynol:
- lwmp newydd neu ardal wedi'i thewychu o feinwe, yn y naill fron neu'r llall nad oedd yno o'r blaen
- newid ym maint, neu siâp un, neu'r ddwy fron
- rhedlif o'r naill deth neu'r llall sydd wedi'i staenio â gwaed
- lwmp neu chwydd yn un o'ch ceseiliau
- crychu ar groen eich bronnau
- brech ar eich teth, neu o gwmpas eich teth
- newidiadau yng ngolwg eich teth, fel petai wedi suddo i'ch bron
Nid yw poen yn y fron fel arfer yn symptom o ganser y fron.
Hoffech chi wybod rhagor?
Bod yn ymwybodol o'r fron
Er mwyn i chi allu sylwi ar unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl, mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r fron. Dylech ymgyfarwyddo â'r hyn sy'n normal i chi. Er enghraifft, gall sut olwg a theimlad sydd ar eich bronnau fod yn wahanol ar adegau gwahanol o'ch bywyd. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws o lawer canfod problemau posibl.
I gael mwy o wybodaeth a chanllaw cam wrth gam ar sut i archwilio'ch bronnau eich hun, gwyliwch y fideo canlynol diolch i Breast Cancer Now.
Achosion
Ni ddeellir yn llawn beth sy'n achosi canser y fron, sy'n ei gwneud yn anodd dweud pam y gallai un fenyw ddatblygu canser y fron ond nid menyw arall.
Fodd bynnag, mae ffactorau risg y gwyddom eu bod yn effeithio ar eich tebygolrwydd o ddatblygu canser y fron. Mae rhai ffactorau na allwch wneud unrhyw beth amdanynt, ond mae rhai eraill y gallwch eu newid.
Oedran
Mae eich risg o ddatblygu canser y fron yn cynyddu gydag oedran. Mae canser y fron yn fwyaf cyffredin ymysg menywod sydd dros 50 oed sydd wedi bod drwy'r menopos. Mae tua wyth o bob 10 achos o ganser y fron yn digwydd ymhlith menywod dros 50 oed.
Dylai pob menyw rhwng 50 a 70 oed gael ei sgrinio am ganser y fron bob tair blynedd, fel rhan o Raglen Sgrinio'r Fron y GIG. Mae menywod dros 70 oed yn parhau'n gymwys i gael eu sgrinio a gallant drefnu hyn drwy eu meddyg teulu neu uned sgrinio leol.
Darllenwch fwy am sgrinio'r fron.
Hanes teuluol
Mae'n bosibl bod gennych risg uwch o ddatblygu canser y fron os oes gennych berthnasau agos sydd wedi cael canser y fron, neu canser yr ofarïau. Fodd bynnag, gan mai canser y fron yw'r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith menywod, mae'n ddigon posibl iddo ddigwydd mewn mwy nag un aelod o'r teulu, ar hap.
Nid yw'r rhan fwyaf o achosion o ganser y fron yn rhedeg mewn teuluoedd, ond gall genynnau penodol, a elwir yn BRCA1 a BRCA2, gynyddu'ch risg o ddatblygu canser y fron a chanser yr ofarïau. Mae'n bosibl i'r genynnau hyn gael eu trosglwyddo o riant i'w blentyn.
Mae genynnau eraill sydd wedi cael eu darganfod yn ddiweddar, fel TP53 a CHEK 2, hefyd yn gysylltiedig â chynnydd yn y risg o ganser y fron.
Er enghraifft, os oes gennych ddau berthynas agos, neu fwy, o'r un ochr o'ch teulu (fel eich mam, eich chwaer, neu ferch) sydd wedi cael canser y fron pan oeddent o dan 50 oed, gallech fod yn gymwys i gael eich goruchwylio am ganser y fron neu sgrinio am y genynnau a allai olygu eich bod yn fwy tebygol o'i ddatblygu. Os ydych yn pryderu am eich hanes teuluol o ganser y fron, trafodwch hynny gyda'ch meddyg teulu.
Diagnosis blaenorol o ganser y fron
Os ydych wedi cael canser y fron yn flaenorol, neu newidiadau cynnar mewn celloedd canser anymledol yn nwythellau'r fron, mae mwy o risg y byddwch yn datblygu'r cyflwr eto, naill ai yn eich bron arall neu yn yr un fron.
Lwmp anfalaen blaenorol ar y fron
Er nad yw cael lwmp anfalaen ar y fron yn golygu bod gennych ganser y fron, gall rhai mathau o lwmp gynyddu ychydig ar y risg y byddwch yn ei ddatblygu. Gall newidiadau anfalaen penodol ym meinwe'ch bron, fel hyperplasia dwythellol annodweddiadol (celloedd yn tyfu'n annormal mewn dwythellau), neu garsinoma llabedynnol yn y fan a'r lle (celloedd annormal y tu mewn i labedennau eich bron), olygu bod cael canser y fron yn fwy tebygol.
Dwysedd y bronnau
Mae eich bronnau wedi'u creu o filoedd o chwarennau bach (llabedennau), sy'n cynhyrchu llaeth. Mae'r feinwe chwarennol hon yn cynnwys crynodiad uwch o gelloedd y fron na meinwe arall y fron, gan ei gwneud yn fwy dwys. Felly, gall menywod sydd â meinwe fwy dwys yn y fron fod â risg uwch o ddatblygu canser y fron oherwydd bod mwy o gelloedd a all droi'n ganseraidd.
Gall meinwe ddwys y fron hefyd ei gwneud hi'n fwy anodd darllen sgan o'r fron (mamogram) gan ei fod yn gwneud unrhyw lympiau, neu ardaloedd o feinwe annormal, yn fwy anodd eu gweld. Mae menywod iau yn tueddu i fod â bronnau mwy dwys. Wrth i chi fynd yn hyn, mae faint o feinwe chwarennol sydd yn eich bronnau'n gostwng ac mae braster yn cymryd ei lle, felly mae eich bronnau'n mynd yn llai dwys.
Amlygiad i estrogen
Weithiau, gall yr hormon benywaidd, estrogen, ysgogi celloedd canser y fron ac achosi iddyn nhw dyfu. Mae eich ofarïau, lle caiff eich wyau eu storio, yn dechrau cynhyrchu estrogen pan fyddwch yn cyrraedd y glasoed i reoli'ch mislif.
Gall eich risg o ddatblygu canser y fron gynyddu ychydig o ran faint o estrogen y mae eich corff yn cael ei amlygu iddo. Er enghraifft, os dechreuodd eich mislif pan oeddech yn ifanc, ac y gwnaethoch gyrraedd y menopos pan oeddech yn hyn, byddwch wedi cael eich amlygu i estrogen dros gyfnod hwy. Yn yr un ffordd, gall peidio â chael plant, neu gael plant yn ddiweddarach yn eich bywyd, gynyddu ychydig ar eich risg o ddatblygu canser y fron gan na fydd beichiogrwydd wedi tarfu ar eich amlygiad i estrogen.
Bod dros eich pwysau neu'n ordew
Os ydych wedi cyrraedd y cyfnod yn dilyn y menopos ac rydych dros eich pwysau neu'n gordew, efallai y bydd mwy o risg i chi o ddatblygu canser y fron. Credir bod hyn yn gysylltiedig â faint o estrogen sydd yn eich corff, oherwydd mae bod dros eich pwysau neu'n ordew yn dilyn y menopos yn achosi i fwy o estrogen gael ei gynhyrchu.
Alcohol
Gall eich risg o ddatblygu canser y fron gynyddu mewn perthynas â faint o alcohol rydych chi'n ei yfed. Yn ôl ymchwil, i bob 200 o fenywod sy'n cael dwy ddiod alcohol y dydd yn rheolaidd, bydd tair menyw ychwanegol â chanser y fron o'u cymharu â menywod nad ydynt yn yfed o gwbl.
Ymbelydredd
Gall rhai gweithdrefnau meddygol sy'n defnyddio ymbelydredd, fel pelydrau-x a sganiau CT, gynyddu ychydig iawn ar eich risg o ddatblygu canser y fron. Os oeddech wedi cael radiotherapi ar eich brest ar gyfer lymffoma Hodgkin pan oeddech yn blentyn, dylech eisoes fod wedi cael gwahoddiad ysgrifenedig gan y GIG i ymgynghoriad ag arbenigwr i drafod eich risg uwch o ddatblygu canser y fron. Ewch i weld eich meddyg teulu am hyn os na chysylltwyd â chi, neu os na wnaethoch fynychu ymgynghoriad. Fel arfer, mae gennych hawl i gael archwiliad o'ch bron trwy sgan MRI.
Os oes angen radiotherapi arnoch ar gyfer lymffoma Hodgkin ar hyn o bryd, dylai eich arbenigwr drafod y risg o ganser y fron cyn bod eich triniaeth yn dechrau.
Therapi amnewid hormonau (HRT)
Mae therapi amnewid hormonau (HRT) yn gysylltiedig ag ychydig o gynnydd yn y risg o ddatblygu canser y fron. Gall HRT cyfunol a HRT estrogen yn unig gynyddu'ch risg o ddatblygu canser y fron, er bod y risg ychydig yn uwch os ydych yn cymryd HRT cyfunol.
Amcangyfrifir y bydd 19 achos ychwanegol o ganser y fron i bob 1,000 o fenywod sy'n cymryd HRT cyfunol am ddeng mlynedd. Mae'r risg yn parhau i gynyddu ychydig po hiraf y byddwch yn cymryd HRT, ond mae'n adfer ei hun i risg normal pan fyddwch yn rhoi'r gorau i'w gymryd.
Ni argymhellir defnyddio HRT am gyfnod hir fel arfer, yn enwedig os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi â symptomau'r menopos.
Y bilsen atal cenhedlu
Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod menywod sy'n defnyddio'r pilsen atal cenhedlu yn wynebu risg ychydig yn fwy o ddatblygu canser y fron.
Fodd bynnag, mae'r risg yn dechrau lleihau wedi i chi roi'r gorau i gymryd y bilsen, ac mae eich risg o gael canser y fron yn normal eto 10 mlynedd ar ôl rhoi'r gorau i gymryd y bilsen.
Mae gwefan Cancer Research UK yn cynnwys mwy o wybodaeth am y bilsen atal cenhedlu a risg canser.
Hoffech chi wybod rhagor?
Diagnosis
Mae'n bosibl y cewch ddiagnosis o ganser y fron ar ôl sgrinio arferol y fron, neu efallai eich bod wedi mynd i weld eich meddyg teulu ynghylch symptomau sydd gennych.
Gweld eich meddyg teulu
Ewch i weld eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl os byddwch yn sylwi ar unrhyw symptomau canser y fron, fel lwmp anarferol yn eich bron neu unrhyw newid yng ngolwg, teimlad neu siâp eich bronnau.
Bydd eich meddyg teulu'n archwilio'ch bronnau ac, os yw o'r farn bod angen asesu eich symptomau ymhellach, bydd yn eich cyfeirio chi at glinig arbenigol ar ganser y fron.
Hoffech chi wybod rhagor?
Profion yng nghlinig canser y fron
Os amheuir bod gennych ganser y fron, naill ai oherwydd eich symptomau neu mae eich mamogram wedi dangos annormaledd, cewch eich cyfeirio at glinig arbenigol ar ganser y fron i gael rhagor o brofion.
Mamogram a sgan uwchsain o'r fron
Os oes gennych symptomau ac fe'ch cyfeiriwyd at uned arbenigol y fron gan eich meddyg teulu, mae'n siwr y byddwch yn cael eich gwahodd i gael mamogram, sef pelydr-x o'ch bronnau. Efallai hefyd y bydd angen sgan uwchsain arnoch chi.
Os darganfuwyd eich canser drwy Raglen Sgrinio Bron Brawf Cymru, gallai fod angen mamogram neu sgan uwchsain arall arnoch.
Os ydych o dan 35 oed, gallai eich meddyg teulu awgrymu mai dim ond sgan uwchsain ar y fron rydych chi'n ei gael. Y rheswm am hyn yw bod bronnau menywod iau yn fwy dwys, felly nid yw mamogram mor effeithiol â sgan uwchsain wrth ddarganfod canser.
Mae uwchsain yn defnyddio seindonnau amledd uchel i gynhyrchu delwedd o'r tu mewn i'ch bronnau, gan ddangos unrhyw lympiau, neu annormaleddau. Gall eich arbenigwr y fron awgrymu sgan uwchsain o'r fron hefyd os oes angen iddo wybod a yw lwmp yn eich bron yn solet neu'n cynnwys hylif.
Biopsi
Mewn biopsi, caiff sampl o gelloedd meinwe ei chymryd o'ch bron ac fe gânt eu profi i weld a ydynt yn ganseraidd.
Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen sgan a phrawf nodwydd ar nodau lymff yn eich cesail (axilla) i weld a yw'r rhain hefyd wedi'u heffeithio.
Gall biopsïau gael eu cymryd mewn gwahanol ffyrdd, a bydd y math y cewch chi'n dibynnu ar beth y mae eich meddyg yn ei wybod am eich cyflwr.
Mae'r gwahanol ddulliau o gynnal biopsi wedi'u hamlinellu isod.
- Gall allsugno trwy nodwydd gael ei ddefnyddio i brofi sampl o gelloedd eich bron am ganser, neu i ddraenio lwmp bach llawn hylif (syst anfalaen). Bydd eich meddyg yn defnyddio nodwydd fain i dynnu sampl o gelloedd, heb dynnu unrhyw feinwe.
- Biopsi nodwydd yw'r math mwyaf cyffredin o fiopsi. Bydd sampl o feinwe'n cael ei chymryd o lwmp yn eich bron gan ddefnyddio nodwydd fawr. Byddwch yn cael anesthetig lleol, sy'n golygu y byddwch yn effro ond y bydd eich bron wedi'i fferru. Gallai eich meddyg awgrymu eich bod yn cael biopsi nodwydd a dywysir (gan uwchsain neu belydr-x fel arfer, ond weithiau gan MRI) i gael diagnosis manylach a mwy dibynadwy o ganser ac er mwyn gallu dweud y gwahaniaeth rhyngddo ac unrhyw newid anymledol, yn enwedig carsinoma dwythellol yn y fan a'r lle (DCIS).
- Biopsi gyda chymorth gwactod (biopsi mammotome). Gall y nodwydd gael ei chysylltu â thiwb sugno ysgafn sy'n helpu i gael y sampl a chlirio unrhyw waedu o'r ardal.
Hoffech chi wybod rhagor?
Profion pellach ar gyfer canser y fron
Os caiff y diagnosis o ganser y fron ei gadarnhau, bydd angen mwy o brofion i gael gwybod cam a gradd y canser, a phenderfynu ar y dull gorau o'i drin.
Sganiau a phelydrau-x
Gallai fod angen sganiau tomograffeg cyfrifiadurol (CT), neu belydrau-x o'r frest a sganiau uwchsain ar yr afu/iau, i weld a yw'r canser wedi lledaenu. Gallai fod angen sgan MRI o'r frest i gadarnhau'r canlyniadau neu asesu graddau'r cyflwr yn y frest.
Os bydd eich meddyg yn tybio y gallai'r canser fod wedi lledaenu i'ch esgyrn, efallai y bydd angen i chi gael sgan esgyrn.
Cyn sgan esgyrn, bydd sylwedd sy'n cynnwys ychydig bach o ymbelydredd, sef isotop, yn cael ei roi trwy bigiad i wythïen yn eich braich.
Bydd hwn yn cael ei amsugno i'ch esgyrn os yw canser wedi effeithio arnynt. Bydd yr ardaloedd o asgwrn sydd wedi'u heffeithio yn ymddangos wedi'u hamlygu ar y sgan esgyrn, sy'n cael ei gynnal trwy ddefnyddio camera arbennig.
Profion i bennu mathau penodol o driniaeth
Hefyd, bydd angen i chi gael profion sy'n dangos a fydd y canser yn ymateb i fathau penodol o driniaeth. Gall canlyniadau'r profion hyn roi darlun mwy cyflawn i'ch meddygon o'r math o ganser sydd gennych, a'r ffordd orau o'i drin.
Caiff y mathau o brofion a allai gael eu cynnig i chi eu trafod isod.
Mewn rhai achosion, caiff celloedd canser y fron eu hysgogi i dyfu gan hormonau sy'n digwydd yn naturiol yn eich corff, fel estrogen a phrogesteron. Os dyma'r achos, gall y canser gael ei drin trwy atal effeithiau'r hormonau, neu ostwng lefelau'r hormonau hyn yn eich corff. Gelwir hyn yn therapi hormonau.
Yn ystod prawf derbynnydd hormonau, bydd sampl o gelloedd canser yn cael ei chymryd o'ch bron a'u profi i weld a ydynt yn ymateb naill ai i estrogen neu i brogesteron.
Os yw'r hormon yn gallu cydio wrth y celloedd canser, (gan ddefnyddio derbynnydd hormon), fe'u gelwir yn dderbynyddion hormonau positif.
Yn yr un modd ag y gall hormonau annog twf rhai mathau o ganser y fron, caiff mathau eraill eu hysgogi gan brotein o'r enw derbynnydd ffactor twf epidermaidd dynol 2 (HER2).
Gellir gwneud diagnosis o'r mathau hyn o ganser gan ddefnyddio prawf HER2, ac fe gânt eu trin â meddyginiaeth i rwystro effeithiau HER2. Gelwir hyn yn therapi biolegol neu'n therapi targedig.
Hoffech chi wybod rhagor?
Breast Cancer Care: Diagnosis.
Cam a gradd canser y fron
Pan wneir diagnosis o ganser y fron, bydd y meddygon yn rhoi cam iddo. Mae'r cam yn disgrifio maint y canser a pha mor bell y mae wedi lledaenu, ac mae'n helpu i ragweld y rhagolygon. Weithiau, bydd carsinoma dwythellol yn y fan a'r lle (DCIS) yn cael ei ddisgrifio fel Cam 0. Mae camau eraill canser y fron yn disgrifio canser ymledol y fron.
- Cam 0. Mae'r tiwmor yn y "y fan a'r lle" ac nid oes tystiolaeth o ymlediad (cyn-ymledol).
- Cam 1. Mae'r tiwmor yn mesur llai na 2cm ac nid yw'r nodau lymff yn y gesail wedi'u heffeithio. Nid oes unrhyw arwyddion bod y canser wedi lledaenu i fan arall yn y corff
- Cam 2. Mae'r tiwmor yn mesur rhwng 2cm a 5cm neu mae'r nodau lymff yn y gesail wedi'u heffeithio, neu'r ddau. Nid oes unrhyw arwyddion bod y canser wedi lledaenu i fan arall yn y corff
- Cam 3. Mae'r tiwmor yn mesur rhwng 2cm a 5cm a gall fod wedi cydio wrth strwythurau yn y fron, fel croen neu feinweoedd cyfagos. Mae'r nodau lymff yn y gesail wedi'u heffeithio. Fodd bynnag, nid oes unrhyw arwyddion bod y canser wedi lledaenu i fan arall yn y corff
- Cam 4. Mae'r tiwmor o unrhyw faint ac mae'r canser wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff (metastasis)
Dyma ganllaw syml. Mae pob cam wedi'i rannu'n gategorïau pellach o'r enw A, B a C. Os nad ydych yn siwr pa gam yw eich canser chi, gofynnwch i'ch meddyg.
System gamau TNM
Gall system gamau TNM gael ei defnyddio i ddisgrifio canser y fron hefyd. Gall roi gwybodaeth gywir am y diagnosis:
- Mae T yn disgrifio maint y tiwmor
- Mae N yn disgrifio a yw'r canser wedi lledaenu i'r nodau lymff
- Mae M yn disgrifio a yw'r canser wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff.
Gradd canser y fron
Mae'r radd yn disgrifio golwg y celloedd canser.
- Gradd isel (G1) - mae'n ymddangos bod y celloedd yn araf yn tyfu, er eu bod yn annormal
- Gradd ganolig (G2) - mae golwg y celloedd yn fwy annormal na chelloedd gradd isel
- Gradd uchel (G3) - mae golwg y celloedd yn fwy annormal fyth ac maent yn fwy tebygol o dyfu'n gynt
Hoffech chi wybod rhagor?
Triniaeth
Os oes gennych ganser, dylech gael gofal gan dîm amlddisgyblaethol, sef tîm o arbenigwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r driniaeth a'r gofal gorau.
Dyma'r prif driniaethau ar gyfer canser y fron:
Mae'n bosibl y cewch un o'r triniaethau hyn neu gyfuniad ohonynt. Bydd y math o driniaeth neu'r cyfuniad o driniaethau a gewch yn dibynnu sut y gwnaed y diagnosis o'r canser a cham y canser.
Os gwnaed diagnosis o ganser y fron ar adeg sgrinio, mae'n bosibl bod y canser ar gam cynnar, ond os gwnaed diagnosis o ganser y fron pan fydd symptomau gennych, gall y canser fod ar gam diweddarach a bod angen triniaeth wahanol ar ei gyfer.
Bydd eich tîm gofal iechyd yn trafod gyda chi pa driniaethau sydd fwyaf addas.
Dewis y driniaeth gywir i chi
Pan fyddant yn penderfynu pa driniaeth sydd orau i chi, bydd eich meddygon yn ystyried:
- cam a gradd eich canser (pa mor fawr ydyw a pha mor bell y mae wedi lledaenu)
- eich iechyd cyffredinol
- a ydych chi wedi bod drwy'r menopos
Dylech allu trafod eich triniaeth gyda'ch tîm gofal unrhyw bryd a gofyn cwestiynau.
Hoffech chi wybod rhagor?
Trosolwg o driniaeth
Fel arfer, llawdriniaeth yw'r math cyntaf o driniaeth ar gyfer canser y fron. Bydd y math o lawdriniaeth a gewch yn dibynnu ar y math o ganser y fron sydd gennych.
Fel arfer, bydd cemotherapi neu radiotherapi yn dilyn llawdriniaeth, neu mewn rhai achosion, triniaethau hormon neu fiolegol. Eto, bydd y driniaeth a gewch chi'n dibynnu ar y math o ganser y fron sydd gennych.
Bydd eich meddyg yn trafod y cynllun triniaeth mwyaf addas gyda chi. Weithiau, cemotherapi neu driniaeth hormon fydd y driniaeth gyntaf.
Canser eilaidd y fron
Mae'r rhan fwyaf o ganserau'r fron yn cael eu darganfod yn ystod camau cynnar y cyflwr. Fodd bynnag, mae cyfran fechan o fenywod yn darganfod bod ganddynt ganser y fron ar ôl iddo ledaenu i rannau eraill o'r corff (metastasis).
Os dyma'r achos, gallai'r math o driniaeth a gewch chi fod yn wahanol. Nid oes modd iacháu canser eilaidd, sy'n cael ei alw hefyd yn ganser datblygedig neu fetastatig.
Nod triniaeth yw cyflawni gwellhad dros dro, pan fydd y canser yn crebachu neu'n diflannu, a gwneud i chi deimlo'n normal a gallu mwynhau bywyd i'r eithaf.
Hoffech chi wybod rhagor?
Llawdriniaeth
Mae dau brif fath o lawdriniaeth ar gyfer canser y fron, sef:
- llawdriniaeth cadw'r fron - caiff y lwmp canseraidd (tiwmor) ei dynnu
- mastectomi - llawdriniaeth i dynnu'r fron gyfan.
Mewn llawer o achosion, gellir rhoi mastectomi ar ôl llawdriniaeth adluniol i geisio ail-greu ymchwydd yn lle'r fron a dynnwyd.
Mae astudiaethau wedi dangos bod llawdriniaeth i gadw'r fron, yna radiotherapi yn dilyn hynny, yr un mor llwyddiannus â mastectomi cyfan wrth drin canser y fron sydd ar gam cynnar.
Llawdriniaeth cadw'r fron
Mae llawdriniaeth cadw'r fron yn amrywio o lwmpectomi neu doriad llydan lleol, lle caiff y tiwmor ac ychydig bach o'r feinwe o'i gwmpas ei godi, i fastectomi rhannol neu gwadrantectomi, pan fydd hyd at chwarter y fron yn cael ei chodi.
Os byddwch yn cael llawdriniaeth cadw'r fron, bydd faint o feinwe'r fron sy'n cael ei chodi yn dibynnu ar:
- y math o ganser sydd gennych
- maint y tiwmor a'i leoliad yn eich bron
- faint o'r feinwe o'i amgylch y mae angen ei godi
- maint eich bronnau
Bydd eich llawfeddyg bob amser yn codi ardal o feinwe iach y fron sydd o gwmpas y canser, a gwneir profion ar y feinwe hon am olion o ganser.
Os nad oes canser yn bresennol yn y feinwe iach, mae llai o bosibilrwydd y bydd y canser yn dod yn ôl.
Os deuir o hyd i gelloedd canser yn y feinwe o gwmpas y canser, efallai y bydd angen tynnu mwy o feinwe o'r fron.
Ar ôl cael llawdriniaeth cadw'r fron, bydd radiotherapi fel arfer yn cael ei gynnig i chi i ddinistrio unrhyw gelloedd canser sy'n weddill.
Mastectomi
Mae mastectomi yn golygu codi holl feinwe'r fron, gan gynnwys y deth. Os nad oes unrhyw arwyddion amlwg fod y canser wedi lledaenu i'ch nodau lymff, mae'n bosibl y cewch fastectomi, sef pan gaiff eich bron ei chodi, ynghyd â biopsi nodau lymff gwylio (SLNB).
Os yw'r canser wedi lledaenu i'ch nodau lymff, mae'n bosibl y bydd angen tynnu (clirio) y nodau lymff yn fwy helaeth o'r gesail (axilla).
Adlunio'r fron
Mae adlunio'r fron yn llawdriniaeth i greu siâp bron newydd sy'n edrych mor debyg â phosibl i'ch bron arall.
Gellir adlunio'r fron ar yr un pryd â'r mastectomi (adlunio ar unwaith) neu gall gael ei wneud yn ddiweddarach (adlunio gohiriedig).
Gall yr adlunio gael ei wneud naill ai drwy osod mewnblaniad neu ddefnyddio meinwe o ran arall o'ch corff i greu bron newydd.
Llawdriniaeth nodau lymff
I gael gwybod a yw'r canser wedi lledaenu, gall biopsi nodau lymff gwylio (SLNB) gael ei gynnal.
Y nodau lymff gwylio yw'r nodau lymff cyntaf y mae'r celloedd canser yn eu cyrraedd os yw'r celloedd canser yn lledaenu. Maent yn rhan o'r nodau lymff o dan y fraich (nodau lymff o dan y gesail).
Mae safle'r nodau lymff gwylio yn amrywio, felly fe'u darganfyddir gan ddefnyddio cyfuniad o radioisotop a llifyn glas.
Bydd y nodau lymff gwylio yn cael eu harchwilio mewn labordy i weld a oes unrhyw gelloedd canser yn bresennol. Mae hyn yn rhoi arwydd da ynghylch a yw'r canser wedi lledaenu.
Os oes celloedd canser yn y nodau lymff gwylio, gall fod angen mwy o lawdriniaeth arnoch i dynnu mwy o nodau lymff o'r gesail.
Hoffech chi wybod rhagor?
Radiotherapi
Mae radiotherapi yn defnyddio dosys rheoledig o ymbelydredd i ladd celloedd canser. Fel arfer, fe'i rhoddir ar ôl llawdriniaeth a chemotherapi i ladd unrhyw gelloedd canser sy'n weddill.
Os bydd angen radiotherapi arnoch, bydd eich triniaeth yn dechrau tua mis ar ôl eich llawdriniaeth neu gemotherapi i roi cyfle i'ch corff adfer. Yn ôl pob tebyg, cewch sesiynau radiotherapi am dri i bum niwrnod yr wythnos, am dair i chwe wythnos. Dim ond ychydig funudau y bydd pob sesiwn yn para.
Bydd y math o radiotherapi a gewch yn dibynnu ar y math o ganser a'r math o lawdriniaeth a gewch. Mae'n bosibl na fydd angen radiotherapi o gwbl ar rai menywod.
Dyma'r mathau sydd ar gael:
- Radiotherapi i'r fron. Ar ôl llawdriniaeth cadw'r fron, bydd yr holl feinwe sy'n weddill o'r fron yn cael ymbelydredd
- Radiotherapi i wal y frest. Ar ôl mastectomi, bydd radiotherapi yn cael ei gyfeirio at wal y frest
- Dos atgyfnerthu i'r fron. Gall rhai menywod gael cynnig dos atgyfnerthu o radiotherapi dos uchel i'r ardal ble'r oedd y canser. Fodd bynnag, gallai'r dos atgyfnerthu effeithio ar olwg y fron, yn enwedig os yw eich bronnau'n fwy o faint, a gall gael sgîl-effeithiau eraill weithiau, gan gynnwys achosi i feinwe'r fron galedu (ffibrosis)
- Radiotherapi i'r nodau lymff. Bydd radiotherapi'n cael ei anelu at y gesail (axilla) a'r ardal o'u cwmpas i ladd unrhyw ganser a allai fod yn bresennol yn y nodau lymff
Mae sgîl-effeithiau radiotherapi yn cynnwys:
- gall y croen ar eich bron gosi a thywyllu, a gallai hyn arwain at groen dolurus, coch, sy'n diferu
- lludded (blinder eithriadol)
- lymffoedema (hylif gormodol yn cronni yn eich braich, oherwydd bod rhwystr yn y nodau lymff o dan eich braich)
Hoffech chi wybod rhagor?
Cemotherapi
Mae cemotherapi'n cynnwys defnyddio cyffuriau gwrthganser (sytotocsig) i ladd y celloedd canser.
Fel arfer, defnyddir cemotherapi ar ôl llawdriniaeth i ddinistrio unrhyw gelloedd canser na chafwyd gwared arnynt. Yr enw ar hyn yw cemotherapi cynorthwyol.
Mewn ambell achos, gallech gael cemotherapi cyn llawdriniaeth; yn gyffredinol, defnyddir hyn i leihau tiwmor mawr. Yr enw ar hyn yw cemotherapi neo-gynorthwyol.
Caiff sawl math gwahanol o feddyginiaeth eu defnyddio ar gyfer cemotherapi ac, yn aml, bydd tair meddyginiaeth yn cael eu rhoi ar yr un pryd.
Bydd y dewis o feddyginiaeth a'r cyfuniad yn dibynnu ar y math o ganser y fron sydd gennych, ac i ba raddau y mae'r canser wedi lledaenu.
Fel arfer, rhoddir cemotherapi fel triniaeth i gleifion allanol, sy'n golygu na fydd yn rhaid i chi aros yn yr ysbyty dros nos. Bydd y meddyginiaethau'n cael eu rhoi drwy ddiferwr, yn uniongyrchol i'r gwaed, drwy wythïen fel arfer.
Mewn ambell achos, cewch dabledi i'w cymryd gartref. Gallech gael sesiynau cemotherapi unwaith bob pythefnos neu dair wythnos, dros gyfnod o bedwar i wyth mis, fel bod eich corff yn cael gorffwys rhwng triniaethau.
Caiff prif sgîl-effeithiau cemotherapi eu hachosi gan eu dylanwad ar gelloedd iach, arferol, fel celloedd imiwn.
Mae sgîl-effeithiau'n cynnwys:
- heintiau
- colli archwaeth bwyd
- cyfog a chwydu
- blinder
- colli gwallt
- ceg ddolurus
Gall llawer o sgîl-effeithiau gael eu hatal neu eu rheoli gan feddyginiaeth sydd ar gael drwy bresgripsiwn gan eich meddyg.
Hefyd, gall meddyginiaeth cemotherapi atal estrogen rhag cael ei gynhyrchu yn eich corff. Mae'n hysbys bod estrogen yn hybu twf rhai canserau'r fron.
Os nad ydych wedi bod drwy'r menopos, gallai eich mislif ddod i ben tra'ch bod chi'n cael triniaeth cemotherapi.
Ar ôl i chi orffen y cwrs cemotherapi, dylai eich ofarïau ddechrau cynhyrchu estrogen unwaith eto. Fodd bynnag, mewn ambell achos, nid yw hyn yn digwydd a byddwch yn dechrau menopos cynnar. Mae hyn yn fwy tebygol ymhlith menywod dros 40 oed, gan eu bod yn agosach at oedran y menopos. Bydd eich meddyg yn trafod yr effaith a gaiff unrhyw driniaeth ar eich ffrwythlondeb gyda chi.
Cemotherapi ar gyfer canser eilaidd y fron
Os bydd canser y fron wedi lledaenu y tu hwnt i'r fron a'r nodau lymff i rannau eraill o'ch corff, ni fydd cemotherapi yn iacháu'r canser, ond gall leihau'r tiwmor, lleddfu eich symptomau a helpu i ymestyn eich oes.
Hoffech chi wybod rhagor?
Triniaeth hormonau
Mae rhai canserau'r fron yn cael eu hysgogi i dyfu gan yr hormonau estrogen neu brogesteron, sydd i'w cael yn naturiol yn eich corff. Mae'r mathau hyn o ganser yn cael eu galw'n ganserau 'derbynyddion hormonau positif'. Mae therapi hormonau yn gweithio drwy ostwng lefelau'r hormonau yn eich corff neu drwy atal eu heffeithiau.
Bydd y math o therapi hormonau a gewch yn dibynnu ar gam a gradd eich canser, pa hormon y mae'r canser yn sensitif iddo, eich oedran, a ydych chi wedi bod drwy'r menopos a pha fath arall o driniaeth rydych chi'n ei chael.
Yn ôl pob tebyg, cewch therapi hormonau ar ôl llawdriniaeth a chemotherapi, ond weithiau fe'i rhoddir cyn llawdriniaeth i leihau tiwmor, fel ei fod yn haws ei dynnu.
Gallai therapi hormonau gael ei ddefnyddio fel yr unig driniaeth ar gyfer canser y fron os yw eich iechyd cyffredinol yn eich atal chi rhag cael llawdriniaeth, cemotherapi neu radiotherapi.
Gan amlaf, bydd angen i chi gymryd therapi hormonau am hyd at bum mlynedd ar ôl eich llawdriniaeth. Os nad yw'r canser y fron yn sensitif i hormonau, ni fydd therapi hormonau yn cael unrhyw effaith.
Tamoxifen
Mae Tamoxifen yn atal estrogen rhag glynu at gelloedd canser sy'n dderbynyddion estrogen positif. Caiff Tamoxifen ei gymryd bob dydd ar ffurf tabled neu hylif. Gall achosi nifer o sgîl-effeithiau, gan gynnwys:
- blinder
- newidiadau i'ch mislif
- cyfog a chwydu
- chwiwiau poeth
- cymalau sy'n brifo
- cur pen/pen tost
- magu pwysau
Atalyddion aromatase
Os ydych wedi bod drwy'r menopos, gallai atalydd aromatase gael ei gynnig i chi.
Mae'r math hwn o feddyginiaeth yn gweithio drwy rwystro aromatase, sylwedd sy'n helpu i gynhyrchu estrogen yn y corff ar ôl y menopos. Cyn y menopos, mae estrogen yn cael ei gynhyrchu gan yr ofarïau.
Gallai tri atalydd aromatase gael eu cynnig, sef anastrozole, exemestane a letrozole. Fe'u cymerir ar ffurf tabled unwaith y dydd ac mae'r sgîl-effeithiau'n cynnwys:
- chwiwiau poeth a chwysu
- colli diddordeb mewn cyfathrach rywiol
- cyfog a chwydu
- blinder
- cymalau sy'n brifo a phoen yn yr esgyrn
- cur pen/pen tost
- brechau ar y croen
Abladiad ofarïaidd neu atal yr ofarïau rhag gweithio
Ymhlith menywod sydd heb fod drwy'r menopos, caiff estrogen ei gynhyrchu gan yr ofarïau. Mae abladiad ofarïaidd yn atal yr ofarïau rhag gweithio a rhag cynhyrchu estrogen.
Gall abladiad gael ei gyflawni gan ddefnyddio llawdriniaeth neu radiotherapi. Mae hyn yn atal yr ofarïau rhag gweithio'n barhaol ac mae'n golygu y byddwch yn mynd drwy'r menopos yn gynnar.
Mae atal yr ofarïau rhag gweithio'n cynnwys defnyddio cyffur o'r enw goserelin, sy'n LHRHa.
Bydd eich mislif yn dod i ben pan fyddwch chi'n ei gymryd, ond dylent ddechrau unwaith eto pan fydd eich triniaeth wedi gorffen.
Os ydych yn agosáu at oedran y menopos (tua 50 oed), mae'n bosibl na fydd eich mislif yn dechrau eto ar ôl i chi roi'r gorau i gymryd goserelin.
Mae goserelin yn cael ei gymryd ar ffurf pigiad unwaith y mis a gall gynnwys sgîl-effeithiau'r menopos, gan gynnwys:
- chwiwiau poeth a chwysu
- newid mewn hwyl
- trafferth cysgu
Hoffech chi wybod rhagor?
Therapi biolegol (therapi targedig)
Mae rhai canserau'r fron yn cael eu hysgogi i dyfu gan brotein o'r enw derbynnydd ffactor twf epidermaidd dynol 2 (HER2). Mae'r canserau hyn yn cael eu galw'n rhai HER2 positif. Mae therapi biolegol yn gweithio drwy atal effeithiau HER2 a thrwy helpu eich system imiwnedd i frwydro yn erbyn celloedd canser.
Os oes gennych lefelau uchel o'r protein HER2 ac rydych yn gallu cael therapi biolegol, mae'n debygol y cewch feddyginiaeth o'r enw trastuzumab ar bresgripsiwn. Fel arfer, bydd trastuzumab, sydd hefyd yn cael ei alw yn ôl yr enw brand Herceptin, yn cael ei ddefnyddio ar ôl cemotherapi.
Trastuzumab
Mae trastuzumab yn fath o therapi biolegol o'r enw gwrthgorff monoclonol. Mae gwrthgyrff yn digwydd yn naturiol yn eich corff ac yn cael eu cynhyrchu gan eich system imiwnedd i ddinistrio celloedd niweidiol, fel firysau a bacteria.
Mae gwrthgorff trastuzumab yn targedu a dinistrio celloedd canser sy'n HER2 positif.
Fel arfer, rhoddir trastuzumab yn fewnwythiennol, drwy ddiferwr. Mae ar gael weithiau fel pigiad o dan y croen hefyd. Byddwch yn cael y driniaeth mewn ysbyty. Bydd pob sesiwn y driniaeth yn cymryd hyd at awr a bydd nifer y sesiynau y mae eu hangen arnoch yn dibynnu a yw canser y fron mewn cam cynnar neu'n fwy datblygedig.
Ar gyfartaledd, bydd angen sesiwn unwaith bob tair wythnos ar gyfer canser y fron sydd mewn cam cynnar, a sesiynau wythnosol os yw'ch canser yn fwy datblygedig.
Gall trastuzumab achosi sgîl-effeithiau, gan gynnwys problemau'r galon. Mae hyn yn golygu nad yw hwn yn addas os oes gennych broblem ar y galon, fel angina, pwysedd gwaed uchel nad yw'n cael ei reoli (gorbwysedd) neu glefyd falfiau'r galon.
Os bydd angen i chi gymryd trastuzumab, byddwch yn cael profion rheolaidd ar eich calon i wneud yn siwr nad yw'n achosi unrhyw broblemau. Gallai sgîl-effeithiau eraill trastuzumab gynnwys:
- adwaith alergaidd cychwynnol i'r feddyginiaeth, a all achosi cyfog, gwichian, oerni a thwymyn
- dolur rhydd
- blinder
- doluriau a phoenau cyffredinol
Hoffech chi wybod rhagor?
Treialon clinigol
Mae llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â thriniaeth ar gyfer canser y fron ac mae llawer mwy o fenywod yn byw'n hirach erbyn hyn ac yn dioddef llai o sgîl-effeithiau'r driniaeth. Cafodd y datblygiadau hyn eu darganfod mewn treialon clinigol, lle caiff triniaethau newydd a chyfuniadau newydd o driniaethau eu cymharu â rhai arferol.
Caiff pob treial yn ymwneud â chanser yn y Deyrnas Unedig ei oruchwylio'n ofalus i sicrhau bod y treial yn werth chweil ac yn cael ei gynnal yn ddiogel. Yn wir, mae'r rhai sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol yn gallu gwneud yn well yn gyffredinol na'r rhai sy'n cael gofal arferol.
Os gofynnir i chi gymryd rhan mewn treial, byddwch yn cael taflen wybodaeth ac, os hoffech gymryd rhan, gofynnir i chi lofnodi ffurflen ganiatâd. Gallwch wrthod neu dynnu'n ôl o dreial clinigol heb i hynny effeithio ar eich gofal.
Hoffech chi wybod rhagor?
Cymorth seicolegol
Gall delio â chanser fod yn her enfawr, i gleifion a'u teuluoedd. Gall achosi anawsterau emosiynol ac ymarferol. Mae'n rhaid i lawer o fenywod ymdopi â thriniaeth sy'n codi rhan o'r fron, neu'r cyfan ohoni, a gall hyn achosi trallod mawr.
Yn aml, bydd siarad â chwnselydd neu therapydd hyfforddedig am eich teimladau neu anawsterau eraill yn helpu. Gallwch ofyn am y math hwn o help unrhyw bryd yn ystod eich salwch.
Mae sawl ffordd y gallwch ddod o hyd i help a chefnogaeth. Gall eich meddyg ysbyty, nyrs arbenigol neu feddyg teulu eich cyfeirio at gwnselydd.
Os ydych chi'n teimlo'n isel, siaradwch â'ch meddyg teulu. Gallai cwrs o gyffuriau gwrthiselder helpu, neu gall eich meddyg teulu drefnu i chi weld cwnselydd neu seicotherapydd.
Gall siarad â rhywun sydd wedi bob drwy'r un peth â chi helpu. Mae gan lawer o sefydliadau linellau cymorth a fforymau ar-lein. Hefyd, gallant eich rhoi mewn cysylltiad â phobl sydd wedi cael triniaeth ar gyfer canser
Hoffech chi wybod rhagor?
Therapïau cyflenwol
Mae therapïau cyflenwol yn therapïau holistig sy'n gallu hybu lles corfforol ac emosiynol.
Fe'u rhoddir ochr yn ochr â thriniaethau confensiynol ac maent yn cynnwys:
- technegau ymlacio
- tylino
- aromatherapi
- aciwbigo
Gall therapi cyflenwol helpu rhai menywod i ymdopi â diagnosis a thriniaeth a chynnig saib o'r cynllun triniaeth.
Gallai eich ysbyty neu uned y fron eich galluogi i gael at therapïau cyflenwol neu awgrymu ble y gallwch gael y therapïau hyn.
Mae'n bwysig siarad â'ch nyrs arbenigol ar ganser y fron am unrhyw therapi cyflenwol rydych chi'n dymuno'i ddefnyddio, i sicrhau nad yw'n ymyrryd â'ch triniaeth gonfensiynol.
Hoffech chi wybod rhagor?
.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
09/10/2024 10:48:19