Glomerwloneffritis

Cyflwyniad

Glomerulonephritis
Glomerulonephritis

 

Glomerwloneffritis yw difrod i'r hidlyddion bach iawn y tu mewn i'ch arennau (y glomeruli). Yn aml, caiff ei achosi gan eich system imiwnedd yn ymosod ar feinwe corff iach.

Nid yw glomerwloneffritis fel arfer yn achosi unrhyw symptomau amlwg. Rydych yn fwy tebygol o gael diagnosis pan fydd profion gwaed neu wrin yn cael eu cynnal am reswm arall.

Er y gellir trin achosion ysgafn o  glomerwloneffritis yn effeithiol, i rai pobl, gall y cyflwr arwain at broblemau hirdymor i’r arennau.

Symptomau glomerwloneffritis

Mewn achosion difrifol o  glomerwloneffritis, efallai y gwelwch chi waed yn eich wrin. Fodd bynnag, sylwir ar hyn fel arfer pan fydd sampl wrin yn cael ei brofi.

Gall eich wrin fod yn ffrothlyd os yw'n cynnwys llawer iawn o brotein.

Os bydd llawer o brotein yn gollwng i'ch wrin, gall eich coesau neu rannau eraill o'ch corff chwyddo. Gelwir hyn yn syndrom neffrotig.

Gan ddibynnu ar eich math o  glomerwloneffritis, gall rhannau eraill o'ch corff gael eu heffeithio gan achosi symptomau fel:

  • brech
  • poen yn y cymalau
  • problemau anadlu
  • blinder

Mae gan lawer o bobl sydd â  glomerwloneffritis bwysedd gwaed uchel hefyd.

Pryd i gael cyngor meddygol

Ewch i weld eich meddyg teulu os sylwch chi ar waed yn eich wrin. Nid yw hyn bob amser yn golygu bod gennych glomerwloneffritis, ond dylid ymchwilio i'r achos.

Os yw eich meddyg teulu yn amau glomerwloneffritis, byddant fel arfer yn trefnu:

  • prawf gwaed – i fesur eich lefel creatinin
  • prawf wrin– i wirio am waed neu brotein yn eich wrin

Os caiff glomerwloneffritis ei gadarnhau, efallai y bydd angen rhagor o brofion gwaed i helpu i benderfynu ar yr achos.

Os oes angen ymchwilio ymhellach i'r broblem â’ch arennau, efallai yr argymhellir eich bod chi’n cael:

  • sgan uwchsain –  bydd yn gwirio maint eich arennau, yn sicrhau nad oes rhwystrau, ac yn chwilio am unrhyw broblemau eraill
  • biopsi – bydd sampl bach o feinwe’r arennau yn cael ei dynnu, gan ddefnyddio anesthetig lleol i fferru’r ardal; bydd peiriant uwchsain yn lleoli eich arennau a defnyddir nodwydd fach i gymryd sampl

Achosion glomerwloneffritis

Mae  glomerwloneffritis yn aml yn cael ei achosi gan broblem â'ch system imiwnedd. Weithiau, mae'n rhan o gyflwr fel lwpws (systemic lupus erythematosus - SLE) neu fasgwlitis.

Mewn rhai achosion, mae anormaleddau’r system imiwnedd yn cael eu sbarduno gan haint, fel:

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw glomerwloneffritis yn rhedeg mewn teuluoedd.

Os cewch ddiagnosis o fath etifeddol o glomerwloneffritis, gall eich meddyg eich cynghori am y siawns y bydd rhywun arall yn eich teulu yn cael ei effeithio.

Efallai y byddan nhw'n argymell sgrinio, sy'n gallu adnabod pobl a allai fod mewn mwy o berygl o ddatblygu'r cyflwr.

Trin glomerwloneffritis

Mae triniaeth ar gyfer glomerwloneffritis yn dibynnu ar achos a difrifoldeb eich cyflwr. Efallai na fydd angen unrhyw driniaeth ar achosion ysgafn.

Gall triniaeth fod mor syml â gwneud newidiadau i'ch deiet, fel bwyta llai o halen i leihau'r straen ar eich arennau.

Mae meddyginiaeth i leihau pwysedd gwaed, fel atalyddion ensymau sy'n trosi angiotensin (ACE), yn cael ei ragnodi'n gyffredin oherwydd eu bod yn helpu i ddiogelu'r arennau.

Os yw'r cyflwr yn cael ei achosi gan broblem â'ch system imiwnedd, mae'n bosibl y gellir defnyddio meddyginiaeth sy’n atal imiwnedd.

Darllenwch fwy am trin glomerwloneffritis.

Cymhlethdodau  glomerwloneffritis

Er bod triniaeth ar gyfer glomerwloneffritis yn effeithiol mewn llawer o achosion, gall problemau pellach ddatblygu weithiau.

Mae'r rhain yn cynnwys:

Os cewch chi ddiagnosis o glomerwloneffritis, efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi meddyginiaeth i helpu ostwng eich pwysedd gwaed, gostwng eich colesterol neu amddiffyn yn erbyn tolchenni gwaed.

Triniaeth

Mae triniaeth ar gyfer glomerwloneffritis yn dibynnu ar achos eich cyflwr a'ch symptomau.

Mewn achosion ysgafn, nid yw triniaeth bob amser yn angenrheidiol. Os oes angen triniaeth, mae fel arfer yn cael ei wneud gan arbenigwr ar yr arennau.

Newidiadau deietegol

Mewn achosion ysgafn, bydd eich meddyg teulu neu'ch dietegydd yn rhoi cyngor perthnasol i chi am ddiet. Efallai y cewch eich cynghori i leihau’r canlynol:

  • bwydydd sy'n cynnwys llawer iawn o halen
  • bwydydd neu ddiodydd sy'n cynnwys llawer iawn o botasiwm
  • hylif

Dylai hyn helpu i reoli eich pwysedd gwaed a sicrhau bod faint o hylif yn eich corff yn cael ei reoleiddio.

Dylech gael adolygiad rheolaidd i sicrhau bod eich gwaed yn cynnwys y lefelau cywir o botasiwm, sodiwm clorid a halwynau eraill.

Stopio smygu

Gall smygu wneud clefyd yr arennau a achosir gan glomerwloneffritis yn waeth yn gyflymach.

Mae hefyd yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau fel clefyd y galon a strôc, sydd eisoes yn fwy cyffredin ymhlith pobl â glomerwloneffritis.

Darganfyddwch fwy am stopio smygu.

Meddyginiaethau atal imiwnedd

Weithiau, caiff achosion difrifol o glomerwloneffritis, sy'n cael eu hachosi gan broblemau â'r system imiwnedd, eu trin gyda mathau o feddyginiaeth sy’n atal imiwnedd. Mae'r meddyginiaethau hyn yn atal eich system imiwnedd.

Gall atal eich system imiwnedd fod yn effeithiol, ond mae hefyd yn cynyddu eich risg o heintiau a gall achosi sgil-effeithiau eraill.

Os cewch gynnig triniaeth â meddyginiaethau atal imiwnedd, byddan nhw'n cael eu haddasu i'r lefel sydd ei hangen i drin eich cyflwr a bydd yn cael ei fonitro'n ofalus.

Steroidau

Efallai y byddwch yn cael eich rhoi ar gwrs o feddyginiaethau sy'n cynnwys steroidau, fel Prednisolone.

Defnyddir steroidau i leihau chwyddo ac atal eich system imiwnedd.

Ar ôl i'ch arennau ddechrau gwella, bydd eich dos o feddyginiaeth corticosteroid fel arfer yn cael ei ostwng. Efallai y byddwch yn parhau i gymryd dos bach, neu gall y driniaeth hon gael ei stopio'n gyfan gwbl.

Seicloffosffamid

Mae seicloffosffamid yn feddyginiaeth atal imiwnedd a ddefnyddir mewn dosau uchel iawn i drin rhai mathau o ganserau. Mae hefyd yn driniaeth sefydledig, mewn dosau llawer is, ar gyfer glomerwloneffritis.

Meddyginiaethau eraill atal imiwnedd

Mae meddyginiaethau eraill i helpu i reoli eich system imiwnedd yn cynnwys:

  • mycophenolate mofetil
  • azathioprine
  • rituximab
  • ciclosporin
  • tacrolimus

Meddyginiaethau eraill

Os credir bod eich cyflwr yn gysylltiedig â haint firaol, gall gael ei drin â meddyginiaeth wrthfeirysol.

Weithiau, gellir trin symptomau unigol. Er enghraifft, gall chwyddo a achosir gan groniad o hylif gael ei drin gyda math o feddyginiaeth o'r enw diwretig.

Trin pwysedd gwaed uchel

Mae glomerwloneffritis yn aml yn arwain at bwysedd gwaed uchel, sy'n gallu achosi mwy o niwed i'r arennau a phroblemau iechyd eraill.

Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei fonitro'n ofalus gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n eich trin.

Efallai y bydd angen i chi gymryd meddyginiaethau sy'n gostwng pwysedd gwaed ac yn helpu i leihau faint o brotein sy'n gollwng i'ch wrin, fel:

  • atalyddion ensymau sy'n trosi angiotensin (ACE)
  • rhwystrwyr derbynyddion angiotensin (ARB)

Yn aml, mae angen i bobl sydd â phwysedd gwaed uchel a chlefyd yr arennau gymryd sawl meddyginiaeth i reoli eu pwysedd gwaed.

Mae'r meddyginiaethau hyn yn cael eu rhagnodi'n gyffredin, hyd yn oed os nad yw eich pwysedd gwaed yn arbennig o uchel, gan y gallant helpu i ddiogelu'r arennau.

Darllenwch fwy am drin pwysedd gwaed uchel.

Trin colesterol uchel

Mae lefelau colesterol uchel yn gyffredin mewn pobl â glomerwloneffritis.

Efallai y bydd eich meddyg yn argymell triniaeth gyda meddyginiaeth i leihau colesterol a helpu i'ch amddiffyn rhag cymhlethdodau fel clefyd y galon a chlefyd fasgwlaidd. Statinau yw'r feddyginiaeth a ddefnyddir amlaf.

Darllenwch fwy am drin colesterol uchel.

Cyfnewid plasma

Hylif sy'n rhan o'r gwaed yw plasma. Mae'n cynnwys proteinau, fel gwrthgyrff sy'n gallu achosi i'ch arennau fynd yn llidus.

Mae cyfnewid plasma’n golygu cael gwared ar ychydig o'r plasma o'ch gwaed.

Yn ystod y driniaeth, rydych chi’n cael eich cysylltu â pheiriant sy'n tynnu ychydig o'ch gwaed yn raddol.

Mae'r plasma’n cael ei wahanu oddi wrth y celloedd gwaed ac yn cael ei dynnu. Yna, ychwanegir plasma cyfnewid i'r gwaed cyn iddo gael ei roi yn ôl yn eich corff.

Gellir defnyddio cyfnewid plasma mewn rhai amgylchiadau os yw eich cyflwr yn ddifrifol.

Darllenwch fwy am sut mae cynhyrchion plasma yn cael eu defnyddio

Trin clefyd yr arennau cronig neu fethiant yr arennau

Mewn achosion difrifol na ellir eu gwella gyda thriniaethau eraill, efallai y bydd angen:

  • dialysis yr arennau – triniaeth sy'n cymryd drosodd rhan o swyddogaeth yr aren gan dynnu cynnyrch gwastraff o'ch corff
  • trawsblaniad aren – lle caiff aren iach gan roddwr ei gosod drwy lawdriniaeth i ddisodli eich aren eich hun

Brechiadau

Gall pobl gyda glomerwloneffritis fod yn fwy tueddol o gael heintiau, yn enwedig os:

Fel arfer, mae'n syniad da i helpu amddiffyn eich hun rhag heintiau trwy gael brechiad y ffliwbrechiad niwmonia tymhorol.

Triniaeth



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/12/2022 13:16:46