Trosolwg
Os ydych chi'n anghofio pethau fwyfwy, yn enwedig os ydych chi dros 65 oed, efallai byddai siarad â'ch meddyg teulu am arwyddion cynnar dementia yn syniad da.
Wrth i chi fynd yn hyn, fe allech sylwi bod colli'r cof yn mynd yn broblem. Nid yw'n anarferol i oedran, straen, blinder, neu afiechydon a meddyginiaethau penodol, effeithio ar eich cof. Gall hyn fod yn annifyr os yw'n digwydd weithiau, ond os yw'n effeithio ar eich bywyd pob dydd neu'n eich poeni chi neu gydnabod i chi, gofynnwch i'ch meddyg teulu am help.
Beth yw dementia?
Mae dementia yn gyflwr cyffredin. Mae risg datblygu dementia yn cynyddu wrth fynd yn hyn ac mae'r cyflwr yn digwydd fel arfer ymhlith pobl dros 65 oed.
Mae dementia yn syndrom (grwp o symptomau cysylltiedig) sy'n gysylltiedig â dirywio parhaus yn yr ymennydd a'i alluoedd. Mae hyn yn cynnwys problemau gyda:
- cholli'r cof
- cyflymder meddwl
- sioncrwydd yr ymennydd
- iaith
- dealltwriaeth
- crebwyll
Gall pobl â dementia fynd yn ddifater neu golli diddordeb yn eu gweithgareddau arferol a chael trafferth rheoli eu hemosiynau. Hefyd, gall sefyllfaoedd cymdeithasol fod yn heriol iddynt, gallant golli diddordeb mewn cymdeithasu a gallai agweddau ar eu personoliaeth newid.
Gallai unigolion â dementia golli empathi (dealltwriaeth a thosturi), gallent weld neu glywed pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld neu'n eu clywed (rhithweledigaethau), neu gallent wneud honiadau neu ddatganiadau ffug.
Oherwydd bod dementia yn effeithio ar allu meddyliol unigolion, gall cynllunio a threfnu fod yn anodd iddynt. Gallai parhau i fod yn annibynnol fynd yn broblem iddynt hefyd. Felly, fel arfer, bydd ar unigolyn â dementia angen help ffrindiau neu berthnasau, gan gynnwys help i wneud penderfyniadau.
Bydd eich meddyg teulu yn trafod y rhesymau posibl dros golli'r cof gyda chi, gan gynnwys dementia. Gall symptomau eraill gynnwys:
- cael mwy a mwy o drafferth â thasgau a gweithgareddau sy'n gofyn am ganolbwyntio a chynllunio
- iselder
- newidiadau mewn personoliaeth a hwyl
- cyfnodau o ddryswch meddyliol
- cael trafferth dweud y geiriau cywir
Nid oes iachâd i'r rhan fwyaf o fathau o ddementia ond, o'i ddarganfod yn gynnar, mae ffyrdd y gallwch ei arafu a chynnal gweithrediadau'r meddwl.
Pa mor gyffredin yw dementia?
Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, mae dementia ar oddeutu 800,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig. Bydd un o bob tri o bobl dros 65 oed yn datblygu dementia, a menywod yw dau o bob tri o'r bobl hynny.
Mae nifer y bobl â dementia yn cynyddu gan fod pobl yn byw'n hirach. Mae amcangyfrif y bydd nifer y bobl yn y Deyrnas Unedig â dementia wedi cynyddu i oddeutu miliwn erbyn 2021.
Pam mae'n bwysig cael diagnosis?
Gall diagnosis cynnar helpu pobl â dementia i gael y driniaeth a'r cymorth cywir, a helpu eu hanwyliaid i baratoi a chynllunio at y dyfodol. O gael triniaeth a chymorth, gall llawer o bobl fyw bywyd gweithgar a boddhaus.
Symptomau
Nid clefyd yw dementia ond casgliad o symptomau sy'n deillio o niwed i'r ymennydd. Gall sawl cyflwr achosi'r symptomau hyn.
Clefyd Alzheimer sy'n achosi dementia gan amlaf. Mae symptomau cyffredin clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia yn cynnwys:
- colli'r cof – yn enwedig problemau cofio digwyddiadau diweddar, fel anghofio negeseuon, cofio'r ffordd i rywle neu enwau, a gofyn cwestiynau dro ar ôl tro
- cael mwy a mwy o drafferth â thasgau a gweithgareddau sydd angen eu trefnu a'u cynllunio
- drysu ag awyrgylch anghyfarwydd
- cael trafferth meddwl am y geiriau cywir
- cael trafferth gyda rhifau a/neu ddefnyddio arian mewn siopau
- newidiadau mewn personoliaeth a hwyl
- iselder
Yn aml, bydd symptomau cynnar dementia (sy'n cael eu galw'n nam gwybyddol weithiau) yn ysgafn a dim ond yn gwaethygu'n raddol iawn. Oherwydd hyn, efallai na fyddwch yn sylwi bod y symptomau gennych ac ni fydd teulu a ffrindiau'n sylwi arnynt, nac yn eu cymryd o ddifrif am beth amser. Yn achos dementia, mae niwed cynyddol i'r ymennydd ac nid yw'n gweithio cystal gydag amser. Mae symptomau dementia yn tueddu i newid a mynd yn fwyfwy difrifol.
Am y rheswm hwn, gorau po gyntaf y byddwch chi'n siarad â'ch meddyg teulu os byddwch chi'n pryderu am broblemau'r cof.
Mae'r ffordd y bydd symptomau'n datblygu a pha mor gyflym bydd y symptomau'n gwaethygu yn dibynnu ar yr hyn sy'n achosi'r dementia, yn ogystal ag iechyd cyffredinol. Mae hyn yn golygu bod symptomau a phrofiad dementia yn gallu amrywio'n fawr rhwng pobl.
Hefyd, gallai rhai pobl ddioddef mwy nag un cyflwr – er enghraifft, gallent fod yn dioddef clefyd Alzheimer a dementia fasgwlaidd ar yr un pryd.
Er bod llawer o symptomau dementia yn debyg ni waeth beth sy'n eu hachosi, mae rhai symptomau penodol gan y gwahanol fathau o ddementia.
Symptomau dementia fasgwlaidd
Weithiau, gall symptomau dementia fasgwlaidd ddatblygu'n sydyn a gwaethygu'n gyflym, er y gallant ddatblygu'n raddol dros sawl mis neu flwyddyn hefyd.
Gall pobl â dementia fasgwlaidd hefyd brofi symptomau tebyg i strôc, gan gynnwys gwendid y cyhyrau neu barlys ar un ochr y corff.
Darllenwch ragor ynghylch dementia fasgwlaidd.
Symptomau penodol dementia gyda chyrff Lewy
Mae dementia gyda chyrff Lewy yn rhannu llawer o symptomau clefyd Alzheimer ac, yn nodweddiadol, mae pobl â'r cyflwr yn dioddef y canlynol hefyd:
- cyfnodau o fod yn effro neu'n gysglyd, neu lefelau amrywiol o ddryswch
- rhithweledigaethau gweledol
- symudiadau corfforol yn arafu
Symptomau penodol dementia blaen-dalcennol
Yn nodweddiadol, mae symptomau cynnar dementia blaen-dalcennol yn cynnwys newidiadau mewn emosiwn, personoliaeth ac ymddygiad. Er enghraifft, gallai pobl â'r math hwn o ddementia fynd yn llai sensitif i emosiynau pobl eraill, gan roi'r argraff eu bod yn oeraidd a dideimlad.
Hefyd, fe allent golli rhywfaint o synnwyr o'r hyn sy'n briodol, gan arwain at ymddygiad sy'n anarferol iddynt, fel dweud pethau difeddwl neu amhriodol.
Mae rhai pobl â dementia blaen-dalcennol hefyd yn cael problemau iaith. Gallai hyn gynnwys methu â siarad, siarad llai na'r arfer neu gael trafferth meddwl am y geiriau cywir.
Darllenwch ragor ynghylch dementia blaen-dalcennol.
Symptomau yn ystod camau diweddarach dementia
Wrth i ddementia ddatblygu, bydd colli'r cof a thrafferthion cyfathrebu yn aml yn mynd yn ddifrifol iawn. Yn ystod y camau diweddarach, mae'r unigolyn yn debygol o esgeuluso'i ofal ei hun a bydd angen gofal a sylw cyson arno.
Symptomau'r cof mewn dementia diweddarach
Efallai na fydd pobl â dementia datblygedig yn adnabod teulu a ffrindiau agos, yn cofio ble maen nhw'n byw nac yn gwybod ble maen nhw. Gall fod yn amhosibl iddyn nhw ddeall gwybodaeth syml, cyflawni tasgau sylfaenol neu ddilyn cyfarwyddiadau.
Problemau cyfathrebu mewn dementia diweddarach
Mae'n gyffredin i bobl â dementia gael trafferth gynyddol siarad ac, yn y pen draw, fe allent golli'r gallu i siarad yn llwyr. Mae'n bwysig dal ati i geisio cyfathrebu â nhw ac adnabod, a defnyddio, dulliau cyfathrebu dieiriau eraill, fel mynegiant, cyffwrdd ac ystumiau.
Problemau symudedd mewn dementia diweddarach
Mae llawer o bobl â dementia yn raddol golli'r gallu i symud heb gymorth a gallant ymddangos yn fwyfwy trwsgl wrth wneud tasgau pob dydd. Yn y pen draw, gall rhai pobl fethu â cherdded yn gyfan gwbl a mynd yn gaeth i'r gwely.
Anymataliad
Mae anymataliad wrinol yn gyffredin yn ystod camau diweddarach dementia a bydd rhai pobl hefyd yn dioddef anymataliad carthion.
Bwyta, awydd bwyd a cholli pwysau
Mae diffyg awydd bwyd a cholli pwysau yn gyffredin yn ystod camau diweddarach dementia hefyd. Mae'n bwysig bod pobl â dementia yn cael digon o gymorth yn ystod amser bwyd i sicrhau eu bod yn cael digon i'w fwyta. Mae llawer o bobl yn cael trafferthion bwyta neu lyncu a gall hyn arwain at dagu, heintiau ar y frest a phroblemau eraill.
Achosion
Newidiadau a niwed graddol yn yr ymennydd sy'n achosi dementia. Mae'r hyn sy'n achosi dementia gan amlaf yn cynnwys clefydau sy'n gwneud i gelloedd yr ymennydd ddirywio a marw'n gynt nag y byddent yn ei wneud fel rhan o'r broses heneiddio arferol. Fel arfer, mae'r newidiadau'n digwydd oherwydd bod proteinau annormal yn cronni yn yr ymennydd.
Mae'r niwed hwn yn arwain at ddirywiad yng ngalluoedd meddyliol ac, weithiau, corfforol unigolyn.
Mae'r proteinau annormal yn wahanol ym mhob un o'r gwahanol fathau hyn o ddementia. Gan amlaf, nid yw dementia yn cael ei etifeddu'n uniongyrchol oddi wrth aelodau'r teulu. Fodd bynnag, gall dementia blaen-dalcennol redeg yn y teulu weithiau.
Achosion dementia fasgwlaidd
Tarfu ar gyflenwad gwaed yr ymennydd sy'n achosi dementia fasgwlaidd.
Fel pob organ, mae angen cyflenwad cyson o ocsigen a maetholion o'r gwaed ar yr ymennydd er mwyn gweithio'n gywir. Os bydd y cyflenwad gwaed yn cael ei rwystro neu ei atal, bydd celloedd yr ymennydd yn dechrau marw, gan arwain at niwed i'r ymennydd.
Os bydd y pibellau gwaed y tu mewn i'r ymennydd yn culhau a chaledu, bydd tarfu graddol ar y cyflenwad gwaed i'r ymennydd. Fel arfer, bydd y pibellau gwaed yn culhau a chaledu pan fydd cramennau brasterog yn datblygu ar furiau'r pibellau gwaed, gan gyfyngu ar lif y gwaed. Yr enw ar hyn yw atherosglerosis ac mae'n fwy cyffredin ymhlith pobl â pwysedd gwaed uchel, diabetes math 1 a phobl sy'n ysmygu.
Bydd atherosglerosis yn y pibellau gwaed llai yn yr ymennydd hefyd yn eu cau'n raddol, gan atal yr ymennydd rhag cael gwaed. Yr enw ar hyn yw clefyd pibellau gwaed bach.
Os bydd strôc yn tarfu'n gyflym ar gyflenwad gwaed yr ymennydd, gall hyn niweidio celloedd yr ymennydd hefyd.
Ni fydd pawb sydd wedi cael strôc yn mynd ymlaen i ddatblygu dementia fasgwlaidd. Fodd bynnag, os ydych wedi cael strôc neu ddiagnosis o glefyd pibellau gwaed bach, gallai eich risg o ddatblygu dementia fasgwlaidd fod yn uwch.
Darllenwch ragor am achosion dementia fasgwlaidd.
Achosion clefyd Alzheimer
Clefyd Alzheimer yw'r math mwyaf cyffredin o ddementia. Yng nghlefyd Alzheimer, mae'r ymennydd yn crebachu o ganlyniad i golli celloedd yr ymennydd.
Mae'r crebachu hwn yn effeithio'n benodol ar y rhan o'r ymennydd o'r enw'r cortecs serebrol. Y cortecs serebrol yw'r freithell sy'n gorchuddio'r ymennydd. Y freithell sy'n gyfrifol am brosesu meddyliau a llawer o weithrediadau cymhleth ein hymennydd, fel cadw ac adalw atgofion, cyfrifo, sillafu, cynllunio a threfnu.
Bydd clystyrau o brotein, o'r enw "placiau" a "dryswch" (tangles), yn ffurfio'n raddol yn yr ymennydd. Tybir mai'r placiau a'r dryswch sy'n gyfrifol am golli celloedd yr ymennydd yn gynyddol. Mae cysylltiadau rhwng celloedd yr ymennydd yn cael eu colli ac mae llai o gemegau niwrodrosglwyddyddion ar gael i gludo negeseuon o un gell yr ymennydd i'r llall. Hefyd, mae'r placiau a'r dryswch yn effeithio ar y cemegau sy'n cludo negeseuon rhwng celloedd yr ymennydd.
Achosion dementia â chyrff Lewy
Lympiau bach cylchog o brotein sy'n datblygu y tu mewn i gelloedd yr ymennydd yw cyrff Lewy. Nid ydym yn gwybod beth sy'n achosi'r rhain. Hefyd, nid yw'n glir sut maent yn niweidio'r ymennydd ac yn achosi dementia.
Mae'n bosibl bod cyrff Lewy yn ymyrryd ag effeithiau dau o'r cemegau negeseuol yn yr ymennydd, sef dopamin ac asetylcolin. Yr enw ar y cemegau negeseuol hyn, sy'n anfon gwybodaeth o un gell yr ymennydd i'r llall, yw niwrodrosglwyddyddion.
Credir bod dopamin ac asetylcolin yn chwarae rhan bwysig wrth reoleiddio gweithrediadau'r ymennydd, fel y cof, dysgu, hwyl a sylw.
Mae cysylltiad agos rhwng dementia gyda chyrff Lewy â clefyd Parkinson. Yn y cyflwr hwn, mae rhan o'r ymennydd yn dioddef mwy a mwy o ddifrod dros nifer o flynyddoedd, gan arwain at symptomau corfforol, fel crynu anwirfoddol (cryndod), anhyblygrwydd y cyhyrau a symud araf. Gallai unigolyn â dementia gyda chyrff Lewy ddatblygu'r symptomau hyn hefyd.
Darllenwch ragor ynghylch dementia gyda chyrff Lewy.
Achosion dementia blaen-dalcennol
Niwed a chrebachu mewn dwy ran o'r ymennydd sy'n achosi dementia blaen-dalcennol. Llabed yr arlais a'r llabed flaen yw'r enw ar y rhannau o'r ymennydd sy'n cael eu heffeithio. Y math hwn o ddementia yw un o'r mathau mwy cyffredin a welir ymhlith pobl o dan 65 oed.
Yn ôl yr amcan, mae 20% o bobl sy'n datblygu dementia blaen-dalcennol wedi etifeddu mwtaniad genynnol gan eu rhieni.
Weithiau, mae clefyd niwronau motor yn gysylltiedig â dementia blaen-dalcennol. Cyflwr prin ydyw sy'n niweidio'r system nerfol gydag amser, gan achosi i'r cyhyrau nychu.
Darllenwch ragor ynghylch dementia blaen-dalcennol.
Achosion llai cyffredin dementia
Gallai achosion eraill dementia neu gyflyrau tebyg i ddementia gael eu trin neu gallant fod yn achosion nad ydynt yn gwaethygu (nid ydynt yn gwaethygu gydag amser). Gall y rhain gynnwys:
Hefyd, ceir achosion mwy prin dementia niwroddirywiol, gan gynnwys:
Diagnosis
Os ydych chi'n poeni am eich cof neu'n meddwl efallai bod dementia arnoch, byddai gweld eich meddyg yn syniad da. Os ydych chi'n poeni am rywun arall, dylech annog yr unigolyn i drefnu apwyntiad a gallech awgrymu eich bod chi'n mynd hefyd.
Os ydych chi'n anghofus, nid yw hynny'n golygu bod dementia arnoch chi. Mae iselder, straen, sgîl-effeithiau cyffuriau neu broblemau iechyd eraill yn gallu achosi problemau'r cof. Gall fod yr un mor bwysig diystyru'r problemau eraill hyn neu ddod o hyd i ffyrdd o'u trin. Bydd eich meddyg teulu'n gallu gwneud rhai archwiliadau syml a rhoi sicrwydd i chi, rhoi diagnosis i chi neu eich cyfeirio at arbenigwr am brofion pellach.
Diagnosis cynnar sy'n rhoi'r cyfle gorau i chi baratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol, a chael unrhyw driniaeth. O gael triniaeth a chefnogaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, teulu a ffrindiau, gall llawer o bobl fyw bywyd gweithgar, boddhaus.
Beth i'w ddisgwyl pan ewch i weld eich meddyg teulu ynghylch dementia
Bydd eich meddyg teulu'n gofyn i chi am eich symptomau ac agweddau eraill ar eich iechyd, ac yn gwneud archwiliad corfforol. Bydd y meddyg yn trefnu i chi gael profion gwaed ac yn gofyn i chi am unrhyw feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd, oherwydd gall y rhain weithiau achosi symptomau tebyg i ddementia.
Hefyd, bydd yn gofyn rhai cwestiynau i chi neu'n rhoi rhai ymarferion ymenyddol i chi eu gwneud i fesur unrhyw broblemau gyda'ch cof neu'ch gallu i feddwl yn glir.
Dysgwch ragor am y profion a ddefnyddir i wneud diagnosis o ddementia.
Cyfeirio at arbenigwr ar ddementia
Gall fod yn anodd gwneud diagnosis o ddementia, yn enwedig os yw eich symptomau'n ysgafn. Os na fydd eich meddyg teulu'n siwr am eich diagnosis, bydd yn eich cyfeirio at arbenigwr fel niwrolegydd (arbenigwr ar drin cyflyrau sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r system nerfol), meddyg gofal yr henoed, neu seiciatrydd â phrofiad o drin dementia.
Gall yr arbenigwr fod yn gweithio mewn clinig cof ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n arbenigwyr ar wneud diagnosis o ddementia, cynghori a gofalu am bobl â dementia a'u teuluoedd.
Mae'n bwysig defnyddio'ch ymgynghoriad â'r arbenigwr yn dda. Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych, gwnewch gofnod o unrhyw dermau meddygol y gallai'r meddyg eu defnyddio a gofynnwch a allwch ddod yn ôl os bydd unrhyw gwestiynau eraill gennych. Gall manteisio ar y cyfle i fynd yn ôl at yr arbenigwr fod yn ddefnyddiol iawn.
Bydd yr arbenigwr yn trefnu profion pellach, a allai gynnwys sganiau'r ymennydd, fel sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT) neu, yn ddelfrydol, sgan delweddu cyseiniant magnetig (MRI).
Os na fydd yn sicr am y diagnosis wedi hyn, gall fod angen profion eraill, mwy cymhleth arnoch.
Cael diagnosis o ddementia
Ar ôl i chi gael y profion angenrheidiol, dylai eich meddyg ofyn i chi os hoffech wybod eich diagnosis.
Dylai esbonio beth allai cael dementia ei olygu i chi a rhoi amser i chi drafod y cyflwr yn fanylach a gofyn unrhyw gwestiynau.
Oni bai eich bod chi'n penderfynu fel arall, dylai eich meddyg neu aelod o dîm y meddyg esbonio'r canlynol i chi a'ch teulu:
- pa fath o ddementia sydd gennych neu, os nad yw'n glir, beth fydd yn rhan o'r cynllun i ymchwilio ymhellach; weithiau, ni fydd diagnosis yn glir, er gwaethaf archwiliadau, felly bydd meddygon yn cynnal adolygiad ohonoch eto ymhen amser er mwyn eich ailasesu
- manylion am y symptomau a sut gallai'r salwch ddatblygu
- triniaethau priodol a allai gael eu cynnig i chi
- gwasanaethau gofal a chymorth yn eich ardal
- grwpiau cymorth a mudiadau gwirfoddol i bobl â dementia a'u teuluoedd a'u gofalwyr
- gwasanaethau eiriolaeth
- ble gallwch chi gael cyngor ariannol a chyfreithiol
Dylech gael gwybodaeth ysgrifenedig am ddementia hefyd.
Cwestiynau i'w gofyn am eich diagnosis o ddementia
Rhag ofn na allwch feddwl am gwestiynau i'w gofyn i'ch meddyg, gallai fod yn werth gofyn:
- pa fath o ddementia sydd gennych
- manylion am y profion neu'r ymchwiliadau y dylech eu cael
- pa mor hir bydd yn rhaid i chi aros hyd nes cewch chi'r profion
- pa mor hir bydd yn rhaid i chi aros cyn cael canlyniadau'r profion hynny
- beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gael y canlyniadau
Asesu dementia yn barhaus
Ar ôl i chi gael diagnosis, dylai eich meddyg teulu drefnu i'ch gweld chi o bryd i'w gilydd, i weld sut mae hi arnoch chi. Oherwydd bod dementia yn gyflwr cynyddol, gallai'r meddyg drefnu apwyntiad arall gyda'r arbenigwr, efallai ymhen chwe mis neu flwyddyn.
Hefyd, gallai'r meddyg teulu a'r arbenigwr ar y cyd roi meddyginiaethau ar bresgripsiwn a allai helpu i drin rhai o symptomau dementia. Fodd bynnag, ni fydd pawb yn elwa o'r cyffuriau hyn.
Gall asesiad parhaus o'ch dementia fod yn gyfle da i ystyried eich cynlluniau at y dyfodol, efallai'n cynnwys Atwrneiaeth Arhosol i ofalu am eich anghenion ariannol neu'ch anghenion lles yn y dyfodol, neu ddatganiad ymlaen llaw am eich gofal yn y dyfodol.
Profion ar gyfer gwneud diagnosis o ddementia
Mae angen amrywiaeth o brofion a gweithredoedd diagnostig i wneud diagnosis o ddementia, ond mae nifer sy'n cael eu defnyddio'n weddol gyffredin i wneud diagnosis.
Mae'r profion hyn am ddementia yn brofion galluoedd meddyliol, profion gwaed a sganiau'r ymennydd yn bennaf.
Profion galluoedd meddyliol i wneud diagnosis o ddementia
Yn aml, bydd pobl â symptomau dementia yn cael holiaduron i helpu i brofi eu galluoedd meddyliol, i weld pa mor ddifrifol yw unrhyw broblemau'r cof. Un prawf cyffredin iawn yw'r archwiliad cyflwr meddyliol cryno (mini mental state examination - MMSE).
Mae'r MMSE yn asesu nifer o wahanol alluoedd meddyliol, gan gynnwys:
- cof byrdymor a hirdymor
- cyfnod canolbwyntio
- canolbwyntio
- sgiliau iaith a chyfathrebu
- y gallu i gynllunio
- y gallu i ddeall cyfarwyddiadau
Cyfres o ymarferion yw'r MMSE, a phob un ohonynt â sgôr uchaf o 30 pwynt. Mae'r ymarferion hyn yn cynnwys:
- cofio rhestr fer o wrthrychau ac yna ailadrodd y rhestr
- ysgrifennu brawddeg fer sy'n ramadegol gywir, fel "eisteddodd y ci ar y llawr/the dog sat on the floor"
- ateb cwestiynau amser yn gywir, fel adnabod y diwrnod o'r wythnos, y dyddiad neu'r flwyddyn
Nid prawf i wneud diagnosis o ddementia yw'r MMSE. Ond, mae'n ddefnyddiol i asesu lefel y nam meddyliol sydd gan rywun â dementia.
Gall lefel addysg unigolyn ddylanwadu ar ei sgorau yn y prawf. Er enghraifft, os nad yw rhywun yn gallu darllen neu ysgrifennu'n dda iawn, gall gael sgôr is, ond efallai nad oes dementia arno. Yn yr un modd, gallai rhywun sydd wedi cael lefel uwch o addysg gael sgôr uwch, ond bydd dementia arno.
Profion gwaed ar gyfer dementia
Os oes amheuaeth bod dementia ar unigolyn, gellid cynnal profion gwaed i archwilio lefel iechyd cyffredinol yr unigolyn. Gall y profion gwaed hefyd ddweud a oes modd diystyru cyflyrau eraill a allai fod yn gyfrifol am y symptomau, fel lefelau hormonau thyroid a fitamin B12.
Darllenwch ragor ynghylch profion gwaed.
Sganiau'r ymennydd ar gyfer dementia
Yn aml, bydd sganiau'r ymennydd yn cael eu defnyddio i wneud diagnosis o ddementia pan fydd profion symlach eraill wedi dangos nad problemau eraill sy'n gyfrifol. Mae eu hangen i chwilio am dystiolaeth o broblemau posibl eraill a allai esbonio symptomau unigolyn, fel strôc ddifrifol neu tiwmor ar yr ymennydd.
Gall sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT) gael ei ddefnyddio i chwilio am arwyddion strôc neu diwmor ar yr ymennydd. Fodd bynnag, yn wahanol i sgan MRI, ni all sgan CT roi gwybodaeth fanwl am strwythur yr ymennydd.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell defnyddio sgan delweddu cyseiniant magnetig (MRI) i helpu i gadarnhau diagnosis o ddementia.
Gall sgan MRI ddarparu gwybodaeth fanwl am y difrod i bibellau gwaed sy'n digwydd mewn dementia fasgwlaidd, ynghyd ag unrhyw grebachu'r ymennydd. Mewn dementia blaen-dalcennol, mae'r crebachu'n effeithio ar y llabedau blaen a llabedau'r arlais yn bennaf.
Sganiau a gweithredoedd eraill i wneud diagnosis o ddementia
Mae mathau eraill o sgan, fel sgan tomograffeg gyfrifiadurol allyrru ffoton unigol (SPECT) neu sgan tomograffeg gollwng positronau (PET), yn gallu cael eu hargymell os bydd canlyniad eich sgan CT neu MRI yn ansicr. Mae'r sganiau hyn yn bwrw golwg ar sut mae'r ymennydd yn gweithredu a gallant amlygu annormaleddau yn llif y gwaed yn yr ymennydd.
Weithiau, gall electroenseffalogram (EEG) gael ei wneud i gofnodi signalau trydanol yr ymennydd (gweithgarwch yr ymennydd).
Buddion diagnosis cynnar
Dementia yw un o'r cyflyrau iechyd y mae pobl yn eu hofni fwyaf. Gall fod yn anodd i chi dderbyn bod problemau'r cof yn effeithio ar eich bywyd. Os ydych chi'n poeni am broblemau'r cof neu broblemau eraill sy'n gysylltiedig â dementia, mae bod yn amharod i ofyn am help ac wynebu diagnosis o'r fath yn gwbl normal. Fodd bynnag, mae buddion posibl o gael cyngor meddygol.
Gall diagnosis cynnar eich helpu i gael y triniaethau cywir a dod o hyd i'r ffynonellau cymorth gorau, yn ogystal â gwneud penderfyniadau am y dyfodol.
Gall diagnosis o ddementia helpu pan fydd ansicrwydd
Efallai na fydd yn glir pam mae gennych broblemau gyda'r cof neu pam mae eich ymddygiad wedi newid. Efallai mai dementia sy'n gyfrifol am y problemau hyn, neu efallai resymau eraill fel diffyg cwsg, diffyg hwyl, meddyginiaethau neu gyflyrau meddygol eraill. Gall yr ansicrwydd hwn achosi gofid i chi ac i'ch teulu a'ch ffrindiau.
Er y gall diagnosis o ddementia fod yn newyddion trawmatig, gall esboniad o'r broblem a beth sy'n gallu cael ei wneud yn ei chylch helpu i roi nerth i chi a lleihau rhywfaint o'r pryder a achosir gan ansicrwydd.
I rai pobl, mae'n ddefnyddiol siarad â meddygon a nyrsys am sut gall y dementia effeithio arnyn nhw neu eu hanwyliaid yn y dyfodol, ac mae cyngor ar gael ar sut i fyw'n annibynnol gyda dementia a byw'n dda gyda dementia.
Cael triniaethau ar gyfer dementia
Nid un cyflwr yw dementia – mae'n cyfeirio at drafferthion gyda'r meddwl a'r cof sy'n gallu cael eu hachosi gan nifer o glefydau sylfaenol gwahanol. Dyma un rheswm pam nad yw pawb â dementia yn profi'r un problemau.
Mae cydnabod bod problem a darganfod achos sylfaenol y dementia yn bwysig, oherwydd bydd hyn yn helpu i ddylanwadu ar eich dewis o driniaethau a gwasanaethau.
Gall diagnosis cynnar o ddementia fod yn fuddiol hefyd oherwydd mae'n bosibl trin rhai o'r pethau sy'n achosi dementia, a'u gwrthdroi yn llawn neu'n rhannol, yn dibynnu ar natur y broblem. Gallai cyflyrau fel rhai diffygion fitaminau, sgîl-effeithiau meddyginiaethau a rhai tiwmorau'r ymennydd berthyn i'r categori hwn.
Mae clefyd Alzheimer a dementia gyda chyrff Lewy yn niweidio'r ymennydd yn raddol. Dangoswyd bod meddyginiaethau atalyddion asetylcolinesteras yn fuddiol o ran clefyd Alzheimer a dementia gyda chyrff Lewy. Mae'r triniaethau hyn, fel donepezil (Aricept), rivastigmine (Exelon) a galantamine (amrywiol enwau brand), yn gwella symptomau trwy wneud i weddill celloedd yr ymennydd weithio ychydig yn galetach. Mae memantine yn feddyginiaeth arall sy'n gallu helpu gyda chlefyd Alzheimer.
Er na fyddant yn iacháu eich dementia, gall y meddyginiaethau hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch bywyd a'ch gweithredu o ddydd i ddydd.
Mae trin pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel a diabetes nad yw'n cael ei reoli'n dda yn bwysig hefyd, ac felly hefyd rhoi'r gorau i ysmygu a chynnal pwysau iach. Mae'r ffactorau hyn (ffactorau risg) oll yn cyfrannu'n sylweddol at ddementia fasgwlaidd a gallant wneud clefyd Alzheimer yn waeth. Gall eich meddyg teulu asesu eich ffactorau risg, cynghori a fydd angen triniaeth a'ch monitro chi.
Gall meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau eraill gael eu hadolygu, rhag ofn bod y rheiny'n effeithio'n negyddol ar ba mor dda mae eich meddwl yn gweithio.
Cymorth arall os oes gennych ddementia
P'un a bod triniaethau penodol ar gyfer yr hyn sy'n achosi'r dementia sy'n effeithio arnoch chi ai peidio, mae cael y diagnosis cywir yn bwysig er mwyn cael y cyngor a'r cymorth cywir. Mae amrywiaeth fawr o gymorth a gwybodaeth ar gael i bobl â dementia ac i'w ffrindiau, perthnasau a gofalwyr.
Mae'r cymorth hwn ar gyfer dementia yn cynnwys:
- Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gartref neu yn y gymuned, er enghraifft gan y gwasanaethau cymdeithasol, canolfannau dydd a gofal seibiant, timau iechyd meddwl cymunedol, therapyddion iaith a lleferydd, dietegwyr a therapyddion galwedigaethol.
- Cyngor ar faterion ariannol a chynllunio at y dyfodol.
- Budd-daliadau a chymorth ariannol (fel y Lwfans Gweini).
- Cynllunio gofal ymlaen llaw a chymorth i drefnu Atwrneiaeth Arhosol os yw'r dementia yn gynyddol. Mae hyn yn caniatáu i unigolyn barhau i gymryd rhan mewn trafodaethau am ei ddyfodol tra bydd yn parhau i allu gwneud hynny'n effeithiol.
- Gwybodaeth a grwpiau cymorth. Mae'n haws dod o hyd i lawer o ffynonellau gwybodaeth a chyngor os ydych chi wedi cael diagnosis (er enghraifft, Cymdeithas Alzheimer a grwp cymorth dementia blaen-dalcennol). Mae'n haws troi at grwp cymorth os bydd diagnosis yn glir, oherwydd gall grwpiau cymorth gynnig gwybodaeth arbenigol a chysylltiadau â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.
Cyngor a chymorth ar gyfer cyflyrau meddygol eraill
Os bydd meddygon a nyrsys yn gwybod bod ar unigolyn gyflwr sy'n achosi dementia, bydd hyn yn ddefnyddiol hefyd wrth drin problemau meddygol eraill. Mae hyn yn cynnwys cymryd mwy o amser i esbonio pethau i gleifion mewn ffordd y gallant ei deall, trefnu ffyrdd mwy diogel o gymryd meddyginiaeth (er enghraifft, blychau trefnu pils sy'n eich helpu i gofio pryd i gymryd tabledi), a deall a chynnig cymorth ychwanegol os bydd rhywun yn gorfod aros yn yr ysbyty am reswm arall.
Ymchwil i ddementia a chynllunio gwasanaethau dementia
Mae cael y diagnosis cywir yn bwysig hefyd ar gyfer ymchwil a deall rhagor am achosion dementia. Mae cydnabod yn well pa mor bwysig a chyffredin yw achosion dementia yn hanfodol ar gyfer cynllunio gwasanaethau er mwyn rhoi'r help a'r cymorth y mae ar bobl eu hangen, yn lleol ac yn genedlaethol.
Beth i'w wneud ar ôl cael diagnosis o ddementia
P'un a oedd eich diagnosis yn sioc ynteu wedi cadarnhau'r hyn yr oeddech yn ei amau ers tro, mae'n bwysig cynllunio at y dyfodol tra eich bod yn dal i allu gwneud penderfyniadau clir drosoch eich hun.
Os ydych newydd gael diagnosis o ddementia, hwyrach eich bod chi'n teimlo'n ddiffrwyth, yn ofnus ac yn methu â dirnad y cyfan. Rhowch amser i'ch hun ddod i arfer â'r sefyllfa. Gallai trafod y diagnosis gyda theulu a ffrindiau helpu.
Ar ôl i'r teimladau cychwynnol fynd heibio, mae'n bryd symud ymlaen a chreu cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol. Salwch cynyddol yw dementia, felly gorau po gyntaf y byddwch chi'n gofalu am faterion gofal iechyd, ariannol a chyfreithiol. Dyma'r pethau allweddol i chi feddwl amdanynt:
Cael asesiad
Mae'n ddyletswydd ar eich awdurdod lleol i gynnal asesiad gofal yn y gymuned i gael gwybod pa rai o'i wasanaethau rydych chi eu hangen. I drefnu asesiad, ffoniwch adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol neu ewch i weld eich meddyg teulu.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen ffeithiau Cymdeithas Alzheimer ar asesiad gofal yn y gymuned.
Gwasanaethau a chymorth
Dysgwch beth sydd ar gael yn lleol fel y byddwch yn barod ac yn gallu manteisio ar y cymorth hwn pan fydd ei angen arnoch. Mae'r gwasanaethau a drefnir gan awdurdodau lleol yn amrywio o ardal i ardal, ond gallant gynnwys gwasanaethau gofal cartref, offer ac addasiadau i'ch cartref, ac ati. Mae rhai gwasanaethau, fel nyrsio yn y gymuned, yn cael eu trefnu drwy'r GIG. Gofynnwch i'ch ymgynghorydd yn yr ysbyty am fanylion.
Mae elusennau fel Cymdeithas Alzheimer, Age UK a Dementia UK yn cynnig gwasanaethau fel gwybodaeth, llinellau cymorth, grwpiau cymorth, clybiau cinio a chynlluniau gofal cartref.
Gwneud ewyllys
Os nad ydych wedi gwneud ewyllys eto, byddai gwneud hynny'n syniad da. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich arian a'ch eiddo yn mynd i bobl o'ch dewis pan fyddwch yn marw. Gall unigolyn â dementia wneud neu newid ewyllys, cyn belled ag y gallwch ddangos eich bod chi'n deall beth rydych chi'n ei wneud a beth fydd effeithiau hynny. Eich cyfreithiwr fydd yn penderfynu hynny.
Mae gan Gymdeithas Alzheimer daflen ffeithiau ddefnyddiol ar rheoli materion cyfreithiol.
Cael trefn ar eich gwaith papur
Gwnewch yn siwr fod modd darganfod eich holl bapurau pwysig yn hawdd. Gallai'r papurau hyn gynnwys cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu, dogfennau morgais neu rent, polisïau yswiriant, eich ewyllys, manylion treth a phensiwn, biliau a gwarantau.
Ystyriwch drefnu debydau uniongyrchol neu archebion sefydlog ar gyfer eich biliau rheolaidd. O wneud hyn, byddant yn cael eu talu'n uniongyrchol o'ch cyfrif banc bob mis, fel mater o drefn.
Hawlio budd-daliadau
Gofynnwch a ydych chi'n hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl i'w derbyn. Yn benodol, gofynnwch:
Ymhlith budd-daliadau eraill, gallech fod yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu'r warant lleiafswm incwm, budd-dal analluogrwydd, budd-dal tai a gostyngiad yn y dreth gyngor.
Mae taflen ffeithiau Cymdeithas Alzheimer ar fudd-daliadau yn dweud beth sydd ar gael a sut i'w hawlio.
Atwrneiaeth arhosol
Gallwch benodi un neu ragor o bobl yn 'atwrneiod' i reoli eich materion, gan gynnwys eich arian, eich eiddo a'ch triniaeth feddygol, pe bai angen. Gallwch ddewis unrhyw un rydych chi'n ymddiried ynddo i fod yn atwrnai i chi, sef aelod o'r teulu neu ffrind agos fel arfer, ond rhaid i'r atwrnai fod dros 18 oed.
Cynllunio gofal yn y dyfodol
Hwyrach y byddwch eisiau gwneud cynllun gofal yn y dyfodol, fel y gallwch ddweud eich dweud o ran eich gofal meddygol yn y dyfodol. Mae hyn yn caniatáu i chi wrthod triniaeth neu weithred feddygol benodol, ymlaen llaw, pe na byddech yn gallu penderfynu drosoch eich hun yn y dyfodol.
Gofalu am eich iechyd meddwl
Os ydych chi'n dioddef iselder neu'n teimlo'n ddigalon iawn, siaradwch â'ch meddyg teulu. Mae iselder yn gyffredin iawn yn ystod dementia cynnar ac mae amrywiaeth o driniaethau ar gael, gan gynnwys triniaethau siarad, sy'n gallu helpu.
Cadw'n iach
Yn yr un modd â chyflyrau hirdymor eraill, mae'n bwysig gofalu amdanoch eich hun trwy roi'r gorau i ysmygu, bwyta'n iach a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd. Gofynnwch i'ch meddyg teulu a fyddech yn elwa o gael brechiadau'r ffliw a niwmonia.
Darllenwch ragor ynghylch byw'n dda gyda dementia.
Llyfrau atgofion
Gall llyfrau atgofion fod yn ffordd ddefnyddiol o ysgogi'ch cof a'ch ailgysylltu â'ch anwyliaid yn y dyfodol. Yn ei hanfod, dyma gyfuniad ar ffurf "This is Your Life" o ffotograffau, nodiadau a chofroddion o gyfnod eich plentyndod hyd at heddiw. Gall fod yn llyfr neu'n system ddigidol, fel llyfr lluniau.
Triniaeth
Nid oes iachâd ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ddementia ac, yn raddol, byddant yn achosi problemau mwy difrifol.
Ond mae eithriadau pwysig, gan gynnwys dementia a achosir gan ddiffyg fitaminau a diffyg hormon thyroid; gall y rhain gael eu trin gan ddefnyddio ychwanegion.
Gall rhai achosion gael eu trin trwy lawdriniaeth – er enghraifft rhai tiwmorau ar yr ymennydd, gormod o hylif ar yr ymennydd (hydroseffalws) neu anaf i'r pen.
O ran mathau o ddementia lle mae meinwe nerfol a meinwe'r ymennydd yn dirywio, gallwch gymryd camau i atal rhagor o niwed. Mae'n bosibl gwneud hyn trwy leihau ffactorau risg dementia, fel rheoli pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, diabetes math 1 a rhoi'r gorau i ysmygu.
O ran y math o ddementia na ellir ei iacháu ar hyn o bryd, gallai rhai mathau o feddyginiaethau atal symptomau rhag gwaethygu, am gyfnod. Fel arfer, rhoddir y meddyginiaethau hyn i bobl yng nghamau cynnar a chanol y clefyd, i geisio cynnal neu wella'u hannibyniaeth.
Mae'n eithaf cyffredin i bobl â dementia ddioddef iselder. Os oes gennych ddementia ac iselder, gallai eich meddyg teulu ystyried rhoi cyffur gwrthiselder ar bresgripsiwn, neu drefnu apwyntiad i chi gyda seiciatrydd sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phobl hyn.
Efallai mai'r math pwysicaf o driniaeth i unrhyw un â dementia yw'r gofal a'r cymorth mae'n eu cael gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, teulu a ffrindiau.
Os ydych chi neu un o'ch anwyliaid wedi cael diagnosis o ddementia, dylech ddechrau cynllunio'r gofal y bydd ei angen yn y dyfodol.
Trafodwch yr opsiynau, fel Atwrneiaeth, gyda'r bobl gysylltiedig – eich teulu, eich meddyg teulu a'ch awdurdod lleol. Hefyd, mae Cymdeithas Alzheimer yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth a chymorth. Mae ganddi ganghennau yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.
Yn olaf, mae pethau y gallwch chi neu eich anwyliaid eu gwneud er mwyn cynnal y cof, annibyniaeth a gweithrediad pan fydd gennych ddementia.
Meddyginiaethau i drin dementia
Dangoswyd bod nifer o feddyginiaethau'n gallu trin dementia ysgafn, cymedrol a difrifol yn effeithiol. Gallech gael meddyginiaethau ar bresgripsiwn, yn dibynnu ar y math penodol o ddementia, pa mor ddifrifol yw'r cyflwr, neu unrhyw faterion eraill mae'r meddyg yn sylwi arnynt. Serch hynny, ni fydd pawb yn cael budd o'r cyffuriau hyn.
Aricept (donepezil) ac atalyddion asetylcolinesteras eraill
Defnyddir atalyddion asetylcolinesteras (fel galantamine a rivastigmine) i drin clefyd Alzheimer ysgafn i gymedrol. Hefyd, gallant gael eu defnyddio i drin dementia gyda chyrff Lewy, a gallant drin rhithweledigaethau yn arbennig o effeithiol.
Mae sgîl-effeithiau cyffredin atalyddion asetylcolinesteras yn cynnwys cyfog a chwydu, ond mae'r rhain yn gwella fel arfer ar ôl pythefnos o gymryd y cyffuriau.
Weithiau, gall atalyddion asetylcolinesteras arafu curiad eich calon, felly fe allai fod angen i chi gael electrocardiogram (ECG) cyn ac yn ystod y driniaeth. Mae ECG yn weithred sy'n cofnodi rhythmau a gweithgarwch trydanol eich calon.
Memantine hydrochloride
Mae memantine yn feddyginiaeth sy'n gweithio trwy rwystro effeithiau cemegyn yn yr ymennydd. Fe'i defnyddir i drin clefyd Alzheimer difrifol, ond gall gael ei roi hefyd i bobl â symptomau cymedrol os nad ydynt yn ymateb yn dda i atalyddion asetylcolinesteras.
Cyffuriau gwrthseicotig
Mae cyffuriau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio weithiau i drin pobl ag ymddygiad sy'n tarfu – er enghraifft, maent yn tueddu i droi'n ymosodol neu gynhyrfu. Fel arfer, fe'u defnyddir am gyfnod byr, gyda gofal, oherwydd gallant gynyddu risg problemau cardiofasgwlaidd, achosi cysgadrwydd ac maent yn tueddu i waethygu symptomau eraill dementia.
Mae rhywfaint o dystiolaeth bod cyffuriau gwrthseicotig yn gallu achosi amrywiaeth o sgîl-effeithiau difrifol ymhlith pobl â dementia gyda chyrff Lewy. Mae'r rhain yn cynnwys:
- anhyblygedd
- ansymudoledd
- methu â chyfathrebu
Gan amlaf, bydd cyffuriau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio dim ond pan fydd symptomau difrifol ymddygiad heriol sy'n tarfu ac sy'n peri niwed. Cyn rhoi cyffuriau gwrthseicotig, dylai'r gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, gofalwyr yn y teulu ac, os oes modd, yr unigolyn a fydd yn cael y cyffuriau, drafod buddion a risgiau'r driniaeth yn llawn.
Os defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, y dos lleiaf posibl fydd yn cael ei roi am y cyfnod byrraf posibl. Bydd angen monitro iechyd unrhyw un sy'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ofalus.
Cyffuriau gwrthiselder
Mae iselder yn broblem i lawer o bobl â dementia, efallai'n gysylltiedig â'r rhwystredigaethau mae'r cyflwr yn eu hachosi.
Weithiau, gall iselder wneud cof unigolyn â dementia yn waeth. Gallai cyffuriau gwrthiselder gael eu rhoi ar bresgripsiwn.
Triniaethau seicolegol ar gyfer dementia
Nid yw triniaethau seicolegol yn arafu cynnydd dementia, ond gallant helpu gyda'r symptomau.
Ysgogiad gwybyddol a therapi atgoffa o realaeth
Mae ysgogi gwybyddol yn golygu cymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymarferion a gynlluniwyd i wella'r cof, sgiliau datrys problemau a gallu ieithyddol.
Mae therapi atgoffa o realaeth yn lleihau teimladau o golli cyswllt yn feddyliol, colli'r cof a dryswch, gan wella hunan-barch ar yr un pryd.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ysgogi gwybyddol yn gallu gwella sgiliau meddwl a chofio ymhlith pobl â dementia. Ar hyn o bryd, dyma'r unig driniaeth seicolegol mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn ei hargymell yn uniongyrchol i helpu pobl â dementia ysgafn i gymedrol.
Gall atgoffa o realaeth fod yn fuddiol hefyd i rai, ond gall y buddion fod yn brin ac, yn aml, dim ond gydag ymdrech barhaus y mae'r buddion i'w gweld.
Therapi dilysu
Mae therapi dilysu yn canolbwyntio ar ddementia o safbwynt emosiynol, yn hytrach na ffeithiol. Mae wedi'i seilio ar yr egwyddor bod hyd yn oed yr ymddygiad mwyaf dryslyd â rhyw ystyr i'r unigolyn.
Er enghraifft, os bydd unigolyn â dementia yn dechrau cynhyrfu ar adeg benodol bob dydd gan ei fod yn meddwl bod ei fam yn mynd i ddod i'w gasglu, gallai dweud wrth yr unigolyn fod ei fam wedi marw waethygu cynnwrf a gofid yr unigolyn.
Mewn therapi dilysu, efallai mai peidio â chywiro'r unigolyn fydd yr ymateb yn y sefyllfa hon, ond derbyn ei bryderon a siarad â'r unigolyn am y broblem a throi'r sgwrs i gyfeiriad arall yn raddol. Mewn egwyddor, dylai hyn leihau gofid yr unigolyn, gan gydnabod bod gan feddyliau a theimladau'r unigolyn ystyr iddo.
Fodd bynnag, er y gall therapi dilysu gael ei ddefnyddio weithiau fel rhan o driniaeth rhywun â dementia, nid oes digon o dystiolaeth am effeithiolrwydd y dull hwn i fod yn siwr p'un a yw'n fuddiol.
Therapi ymddygiad
Mae therapi ymddygiad yn ceisio dod o hyd i resymau dros ymddygiad anodd. Caiff gwahanol strategaethau eu mabwysiadu i geisio newid yr ymddygiad hwnnw.
Er enghraifft, gallai unigolyn â dementia fod â hanes o grwydro allan o'i gartref neu ganolfan ofal gan ei fod yn teimlo'n aflonydd. Felly, gallai annog yr unigolyn i gymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd helpu i leihau'r aflonyddwch hwn.
Gall therapi ymddygiad gael ei ddefnyddio i drin llawer o'r problemau ymddygiad sy'n gysylltiedig â dementia, fel iselder, ymddygiad ymosodol a meddwl rhithiol. Yn aml, bydd therapi ymddygiad yn cael ei roi gan berthynas (y prif ofalwr yn y teulu fel arfer) neu ffrind wedi'i hyfforddi, neu gan ofalwr cyflogedig, ond caiff ei oruchwylio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Atal
Nid oes unrhyw ffordd sicr o atal pob math o ddementia.
Fodd bynnag, gall ffordd iach o fyw helpu i leihau'r risg y byddwch chi'n datblygu dementia pan fyddwch chi'n hyn. Hefyd, gall helpu i atal clefydau cardiofasgwlaidd, fel strociau a trawiadau ar y galon.
I leihau'r risg y byddwch yn datblygu dementia a chyflyrau iechyd difrifol eraill, argymhellir eich bod chi:
- yn bwyta diet iach
- yn cynnal pwysau iach
- yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
- ddim yn yfed gormod o alcohol
- yn rhoi'r gorau i ysmygu (os ydych chi'n gwneud)
- yn gwneud yn siwr eich bod yn cynnal eich pwysedd gwaed ar lefel iachus
Diet a dementia
Gall diet gyda lefel uchel o ffibr a lefel isel o fraster, gan gynnwys digonedd o ffrwythau a llysiau ffres a grawn cyflawn, helpu i leihau eich risg o gael rhai mathau o ddementia.
Gall cyfyngu ar yr halen yn eich diet i ddim mwy na chwe gram y dydd helpu hefyd. Bydd gormod o halen yn cynyddu eich pwysedd gwaed, sy'n peri risg i chi ddatblygu rhai mathau o ddementia.
Gallai lefelau colesterol uchel hefyd beri risg i chi ddatblygu rhai mathau o ddementia, felly ceisiwch gyfyngu ar faint o fwyd rydych chi'n ei fwyta sydd â lefel uchel o fraster dirlawn.
Darllenwch ragor ynghylch bwyta'n iach.
Sut mae pwysau'n effeithio ar risg dementia
Os ydych dros eich pwysau, gall hyn godi eich pwysedd gwaed, sy'n cynyddu eich risg o gael rhai mathau o ddementia. Mae'r risg yn uwch os ydych yn ordew. Y ffordd fwyaf gwyddonol o fesur eich pwysau yw trwy gyfrifo indecs màs eich corff (BMI).
Gallwch gyfrifo'ch BMI gan ddefnyddio cyfrifiannell BMI pwysau iach. Mae pobl â BMI rhwng 25 a 30 dros eu pwysau ac mae'r rhai â BMI dros 30 yn ordew. Mae pobl â BMI o 40 neu uwch yn afiach o ordew.
Darllenwch ragor ynghylch colli pwysau.
Ymarfer corff i leihau risg dementia
Bydd gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn gwneud eich calon a'ch system cylchrediad gwaed yn fwy effeithlon. Hefyd, bydd yn helpu i ostwng eich colesterol ac yn cadw eich pwysedd gwaed ar lefel iach, gan leihau eich risg o ddatblygu rhai mathau o ddementia.
I'r rhan fwyaf o bobl, argymhellir o leiaf 150 munud (2 awr a 30 munud) yr wythnos o weithgarwch aerobig cymedrol, fel beicio neu gerdded yn gyflym.
Darllenwch ragor am wneud ymarfer corff rheolaidd.
Alcohol a dementia
Bydd eich pwysedd gwaed yn codi a bydd lefel y colesterol yn eich gwaed yn codi os byddwch chi'n yfed gormodedd o alcohol.
Cadwch at y terfyn alcohol sy'n cael ei argymell i leihau eich risg o gael pwysedd gwaed uchel, clefyd cardiofasgwlaidd a dementia.
I gadw'ch risg o niwed oherwydd alcohol yn isel, mae'r GIG yn argymell:
- peidio ag yfed dros 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd
- os byddwch yn yfed cymaint â 14 uned yr wythnos, ymestyn hyn yn gyfartal dros dri diwrnod neu ragor fyddai orau
- os byddwch chi'n ceisio yfed llai o alcohol, mae nifer o ddiwrnodau heb alcohol yr wythnos yn syniad da
Ystyr yfed rheolaidd neu fynych yw yfed alcohol bron bob wythnos. Mae'r risg i'ch iechyd yn cynyddu trwy yfed unrhyw lefel o alcohol yn rheolaidd.
Mae uned o alcohol yn cyfateb i oddeutu hanner peint o lager cryfder arferol, gwydraid bach o win neu fesur tafarn (25ml) o wirod.
Darllenwch ragor am yfed ac alcohol.
Gallai rhoi'r gorau i ysmygu leihau risg dementia
Gall ysmygu wneud i'ch rhydwelïau gulhau, a all arwain at godi'ch pwysedd gwaed. Hefyd, mae'n cynyddu eich risg o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd, canser a dementia.
Mae Dim Smygu Cymru yn cynnig cyngor ac anogaeth i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu. Gallwch ffonio ar 0800 250 6885.
Bydd eich meddyg teulu neu'ch fferyllydd yn gallu rhoi help a chyngor i chi ar roi'r gorau i ysmygu hefyd.
Darllenwch ragor ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu.
*
Mae'r cysyniad bod dementia yn glefyd yn hytrach na sgîl-effaith naturiol heneiddio (yr hyn a alwyd yn ddryswch henaint) wedi bodoli ers dros 100 mlynedd.
Ond, ar ôl canrif a mwy o ymchwil, mae llawer nad ydym ni'n ei wybod o hyd am y cyflwr ac a oes iachâd i ddementia.
Mae elusennau dementia wedi dadlau, yn gyfiawn, bod diffyg arian ar gyfer ymchwil i ddementia o gymharu ag ymchwil i driniaethau ar gyfer cyflyrau hirdymor eraill, fel canser.
Fodd bynnag, gallai llawer o feysydd ymchwil arwain at driniaethau mwy effeithiol ac, efallai, iachâd i ddementia. Yn anochel, mae triniaethau o'r fath flynyddoedd, os nad degawdau, o waith caled i ffwrdd.
Hyd yn oed heb iachâd, mae rheswm dros gredu bod modd cyflawni gwelliant parhaus mewn safonau gofal dementia.
Dyma rai o'r meysydd ymchwil addawol i ddementia.
Therapi genynnau ar gyfer dementia
Maes meddygaeth yw therapi genynnau sy'n defnyddio deunydd genetig i geisio atal neu iacháu clefyd.
Er bod y theori wrth wraidd therapi genynnau wedi'i thrafod ers y 1970au, maes ymchwil newydd iawn yw hwn ac, ar hyn o bryd, dim ond un driniaeth drwyddedig sydd ar gael yn y DU.
Ym maes dementia, nod therapi genynnau yw atal celloedd yr ymennydd rhag marw neu efallai roi celloedd newydd yn eu lle, ond mae'n bosibl na ellir cynnal treialon ar bobl am nifer o flynyddoedd.
Brechlyn rhag dementia
Mae rhai ymchwilwyr yn astudio'r hyn sydd wedi cael ei alw'n frechlyn rhag dementia. Byddai hwn yn feddyginiaeth sy'n "dysgu" y system imiwnedd i adnabod y cramennau annormal o brotein (fel placiau amyloid) yng nghlefyd Alzheimer sy'n cael eu hamau o achosi'r niwed i gelloedd yr ymennydd.
Yna, byddai'r system imiwnedd yn ymosod ar y placiau hyn, a allai arafu cynnydd y cyflwr. Mae ymchwilwyr yn astudio sawl gwahanol ffordd o wneud hyn, yn amrywio o frechlynnau i drwythau o wrthgyrff.
Bôn-gelloedd a dementia
Mae bôn-gelloedd yn "flociau adeiladu". Gallant ddatblygu'n sawl math gwahanol o gell, gan gynnwys celloedd yr ymennydd.
Mae dau brif drywydd ymchwil i'r defnydd ar fôn-gelloedd mewn dementia yn cael eu harchwilio.
Yn gyntaf, gall bôn-gelloedd gael eu haddasu fel eu bod yn dynwared rhai o brosesau'r corff a allai achosi datblygiad dementia. Bydd gwneud hyn yn helpu gwyddonwyr i ddeall dementia yn well. Hefyd, mae'n caniatáu i ymchwilwyr ragfynegi effeithiau cyffuriau posibl ar gyfer dementia yn fwy cywir.
Yn ail, mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd bôn-gelloedd yn gallu cael eu defnyddio rhyw ddiwrnod i ddatblygu celloedd newydd yr ymennydd yn lle celloedd sydd wedi'u niweidio gan ddementia.
Ymyriadau seicolegol ar gyfer dementia
Mae'r datblygiadau hyn mewn technoleg gymhleth yn bwysig, ond bu datblygiadau hefyd o ran helpu pobl i ddelio â'u symptomau seicolegol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- ysgogiad gwybyddol – pan fydd pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymarferion a gynlluniwyd i wella'r cof, sgiliau datrys problemau a gallu ieithyddol
- therapi dilysu – pan fydd pobl yn cael eu hannog i archwilio sut oedd hi iddyn nhw yn y gorffennol a sut mae hyn yn perthyn i'r ffordd maen nhw'n teimlo nawr
Mae ymchwil yn parhau i wella'r dulliau hyn, ac mae dulliau newydd eraill yn cael eu harchwilio hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys grwpiau cymorth ar gyfryngau cymdeithasol ac apiau gwella'r cof.
Nod arall ymchwil i ymyriadau seicolegol yw darganfod ffyrdd o helpu i reoli ymddygiad heriol ymhlith pobl â dementia, heb orfod troi at gyffuriau gwrthseicotig.
Un dull sy'n cynnig canlyniadau addawol yw dadansoddiad gweithrediadol. Mae hyn wedi'i seilio ar y theori mai'r ffordd orau o reoli ymddygiad heriol yw deall ei gymhelliant. Bydd pobl â dementia yn aml yn ymddwyn mewn modd heriol oherwydd eu bod yn teimlo bod neb yn bodloni eu hanghenion, sy'n eu cynhyrfu.
Ymuno ag ymchwil dementia
Mae dwsinau o brosiectau ymchwil dementia yn mynd yn eu blaen o amgylch y byd; mae llawer o'r rhain yn digwydd yn y Deyrnas Unedig. Gallech helpu gwyddonwyr i ddeall y clefyd yn well trwy gymryd rhan mewn ymchwil.
Mae hyn yn cynnwys astudiaethau sy'n bwrw golwg ar sut mae ein genynnau, neu hyd yn oed ein ffordd o fyw, yn gallu chwarae rhan yn ein risg o ddatblygu dementia.
Gallwch gynnig cymryd rhan mewn treialon ar wefan Join Dementia Research y GIG.
Byw gyda
Mae bywyd cymdeithasol llawn yn allweddol ar gyfer helpu rhywun â dementia i deimlo'n hapus a llawn cymhelliant.
Mae clybiau a gweithgareddau wedi'u creu i helpu pobl yn yr un sefyllfa, a all fod yn fuddiol i'r unigolyn â dementia a'i deulu a gofalwyr.
Mae pawb angen ymdeimlad o ddiben a gallu mwynhau eu hunain yn ystod y dydd. Mae annog rhywun â dementia i wneud rhywbeth creadigol, ychydig o ymarfer corff ysgafn neu gymryd rhan mewn gweithgaredd yn eu helpu i gyflawni eu potensial, sy'n gwella eu hunan-barch ac yn lleihau unigrwydd. Gallai pobl yng nghamau cynnar dementia fwynhau cerdded, mynd i ddosbarthiadau ymarfer corff i bobl hŷn, neu gyfarfod â ffrindiau cefnogol sy'n deall eu sefyllfa.
Os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia, gall gweithgaredd ar y cyd hefyd roi cyfle i chi wneud rhywbeth sy'n gwneud i'r ddau ohonoch deimlo'n hapusach a gallwch fwynhau amser buddiol gyda'ch gilydd.
Gall gweithgareddau amlsynhwyraidd helpu gyda dementia
Os yw'r unigolyn rydych chi'n gofalu amdano wedi mynd i'w gragen, efallai byddwch eisiau archwilio gwahanol ffyrdd o greu cyswllt ag ef. Mae rhagor o gyngor gan Gymdeithas Alzheimer ar sut gall pobl â dementia fod yn weithgar a chadw cysylltiad, trwy arddio, pobi, gwneud posau a mwy. Hefyd, ceir syniadau ar gyfer cofio'r gorffennol mewn modd hapus, fel ymweld â hoff le neu roi blwch atgofion at ei gilydd.
Mae dull amlsynhwyraidd o ryngweithio yn arbennig o bwysig pan fydd dementia datblygedig gan unigolyn. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod lliwiau llachar, seiniau diddorol a gwrthrychau cyffyrddadwy oll yn gallu dal eu sylw mewn ffordd nad yw gweithgareddau eraill, fel sgwrsio neu ddarllen, yn gallu gwneud mwyach.
Gerddi'r synhwyrau
Mae nifer cynyddol o gartrefi gofal bellach yn cynnig gardd y synhwyrau lle y gall trigolion dreulio amser. Fel arfer, mae'r gerddi hyn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ac yn cynnwys planhigion a blodau a ddewiswyd yn ofalus i ddenu bywyd gwyllt lleol. Mae gardd y synhwyrau yn ardd neu'n llain arall a grëwyd i roi gwahanol brofiadau synhwyraidd i ymwelwyr. Er enghraifft, gallai gardd y synhwyrau gynnwys:
- planhigion persawrus a bwytadwy
- cerfluniau a chanllawiau wedi'u cerflunio
- nodweddion dŵr y gall pobl gyffwrdd â nhw a'u clywed
- padiau cyffwrdd â gwead
- sgriniau sy'n chwyddwydrau
- disgrifiadau Braille a dolenni sain
Gall gerddi'r synhwyrau fod o fudd i oedolion hŷn trwy eu hannog i dreulio mwy o amser y tu allan. Nod eu cynllun a'u trefn yw cynnig taith ysgogol trwy'r synhwyrau, gan ddwysáu ymwybyddiaeth unigolyn o'r hyn sydd o'i gwmpas.
Mentro allan
Os hoffech fentro ymhellach oddi cartref ond rydych chi'n poeni am ymdopi ag anghenion yr unigolyn â dementia, mae mudiadau ar gael sy'n gallu helpu'r ddau ohonoch. Mae Dementia Adventure yn cynnig teithiau a gwyliau byr, fel hwylio ar gwch camlas a theithiau cerdded mewn coedwigoedd, a gynlluniwyd i bobl â dementia a'u gofalwyr eu mwynhau gyda'i gilydd.
Caffis cof
Ffordd dda o gyfarfod â phobl eraill â dementia a'u gofalwyr yw dod o hyd i "gaffi cof" cyfagos. Mae caffis cof yn cynnig lleoliadau anffurfiol i bobl sy'n dioddef problemau'r cof a'u gofalwyr gael cymorth a chyngor.
Mae caffis cof yn cael eu cynnal ar sail 'galw heibio', gan roi cyfle i bobl rannu profiadau a gwybodaeth, a chael cymorth ymarferol ac emosiynol. Mae rhai caffis cof yn cynnig gweithgareddau, yn ogystal â chyngor a lluniaeth.
Mae'r caffis yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr wedi'u hyfforddi, gyda chefnogaeth gweithwyr iechyd proffesiynol, a byddant yn cyfarfod am ychydig oriau bob mis fel arfer, er bod rhai'n cyfarfod bob pythefnos. Mae caffis cof yn wahanol i "glinig cof", sef gwasanaeth dementia gan y GIG sy'n cynnwys asesu a gwneud diagnosis o'r cyflwr, a rhaid i feddyg teulu neu ysbyty eich atgyfeirio i'r rhain.
Chwiliwch am gaffi cof cyfagos.
'Canu ar gyfer yr Ymennydd'
Mae grwpiau canu yn cynnig cyfle i bobl â dementia a'u gofalwyr ganu a chymdeithasu â phobl eraill yn yr un sefyllfa.
Mae Cymdeithas Alzheimer yn cynnal grwpiau 'Canu ar gyfer yr Ymennydd' ledled y wlad. Dangoswyd bod canu yn gwella ansawdd bywyd pobl â dementia. Mae llawer o bobl â dementia a'u gofalwyr wedi dweud bod canu'n eu helpu nhw i deimlo'n well.
Fe wnaeth Chreanne Montgomery-Smith, o Gymdeithas Alzheimer, helpu i greu'r sesiynau Canu ar gyfer yr Ymennydd yn 2003 ar ôl sylwi sut oedd rhai pobl â dementia mewn cartref nyrsio yn ymateb i ganu.
Fel yr esbonia Chreanne: "Dechreuais wneud amrywiaeth o weithgareddau yn y cartref nyrsio. Roedd un o'r gweithgareddau'n gêm gwis, yn cynnwys chwarae caneuon cyfarwydd. Doedd neb wedi canu y tro cyntaf, ac ymunodd ychydig o bobl â'r canu yn yr ail wythnos. Erbyn y drydedd wythnos, roedd pawb yn canu.
"Roedd un wraig yn canu gymaint – roedd hi'n adnabod pob cân yn y cwis, ac yn cofio a chanu pob un. Roedd hi'n falch iawn. A doedd hi ddim hyd yn oed yn gwybod ei henw ei hun. Gwnaeth hynny i mi sylweddoli bod gallu arbennig gan bobl â dementia i gofio caneuon. Roeddwn i'n teimlo bod hyn yn ffordd o roi hyder i bobl."
Erbyn hyn, mae dros 200 o grwpiau Canu ar gyfer yr Ymennydd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Maen nhw'n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o ddementia.
Bydd pob sesiwn yn dechrau gydag ymarferion cynhesu, sy'n cynnwys symudiadau corfforol, er enghraifft rholio bag ffa bach i fyny un goes, ei drosglwyddo i'r llaw arall a'i rolio i lawr y llall, neu glapio gyda chân. Mae pob math o ganeuon yn cael eu defnyddio ac mae offerynnau taro, fel drymiau, ar gael i bobl eu chwarae.
"Roeddwn i'n teimlo bod hyn yn ffordd o roi hyder i bobl," Chreanne Montgomery-Smith, cyd-sylfaenydd Canu ar gyfer yr Ymennydd
Dod o hyd i grŵp canu i bobl â dementia
Caiff sesiynau Canu ar gyfer yr Ymennydd eu cynnal mewn adeiladau cymunedol, fel neuaddau eglwys. I ddod o hyd i grŵp cyfagos, ffoniwch Cymdeithas Alzheimer ar 0300 222 1122. Os nad oes sesiwn Canu ar gyfer yr Ymennydd yn eich ardal chi, gofynnwch i'ch meddyg teulu, awdurdod lleol neu elusennau fel Age UK a ydynt yn gwybod am unrhyw grwpiau canu lleol.
"Prif nod Canu ar gyfer yr Ymennydd yw creu cysylltiadau â phobl a'u helpu i deimlo bod bywyd yn werth chweil," meddai Chreanne. "Rwy'n credu mai mewn hyder, hunan-barch a chyfeillgarwch mae'r buddion. Hyd yn oed os nad yw pobl â dementia yn gallu siarad, mae'n bosibl y byddan nhw'n gallu canu, chwibanu, clapio neu guro'u traed i'r gerddoriaeth. Gallwch ganu gartref. Gallwch ganu gyda CD, neu gydag emynau neu ganeuon eraill ar y teledu."
Cyngor i ofalwyr
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y pynciau canlynol:
- Gofalu am rywun â dementia gartref
- Cartrefi gofal
- Beth i'w ddisgwyl gan y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG
- Materion ariannol
- Rheoli materion cyfreithiol
- Cynllunio diwedd oes
Gofalu am rywun â dementia gartref
Gyda'r cymorth cywir, mae'n bosibl y bydd rhywun â dementia yn gallu parhau i fyw gartref am gyfnod hir.
Er bod dementia yn gallu lleihau gallu unigolyn i fyw'n annibynnol, mae amrywiaeth o gymorth ar gael i'w helpu. Os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia ac eisiau ei helpu i barhau i fyw gartref, gallwch gael cyngor ac adnoddau isod ynghylch y meysydd canlynol:
- Bwydo
- Gwisgo
- Ymolchi
- Symud a thrafod
- Symudedd
- Diogelwch yn y cartref
- Technoleg teleofal
- Cynllunio gofal ymlaen llaw
Gwyliwch y fideo hwn gan Gymdeithas Alzheimer am Rose, 92 oed, sydd â dementia ac sy'n byw yn ei fflat ei hun, gyda chymorth teulu a gofalwyr.
Gwasanaethau cymorth sy'n gallu helpu pobl â dementia
I rai pobl â dementia, gallai cymorth gwerthfawr gael ei ddarparu gan weithwyr gofal sy'n cael eu talu i ddod i'w tai er mwyn helpu gyda thasgau ymarferol, fel glanhau, coginio, siopa a gofal personol.
Gall cymorth gael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol hefyd, fel gwasanaeth pryd ar glud neu wasanaeth golchi dillad a gwasanaeth llyfrgell. Gofynnwch i'ch awdurdod lleol am ragor o fanylion.
Helpu rhywun â dementia i fwydo'i hun
Ar adeg pryd bwyd, gallai unigolyn â dementia fethu ag adnabod y bwyd o'i flaen. Hefyd, gallai gael trafferth defnyddio cyllell a fforc os bydd y dementia'n effeithio ar ei gydsymudiad corfforol, a chael trafferth cnoi neu lyncu bwyd. Gall yr unigolyn â dementia wrthod cymorth i fwyta o ganlyniad i broblemau pellach gydag ymddygiad.
Gall y ffactorau hyn arwain at ddiet cyfyngedig iawn i rywun â dementia sydd, mewn achosion eithafol, yn gallu arwain at diffyg maeth. Fodd bynnag, mae camau a all gael eu cymryd i atal hyn rhag digwydd.
I gael awgrymiadau ar gyfer helpu unigolyn â dementia ar adeg pryd bwyd ac esboniad o'r rhesymau dros newidiadau mewn arferion bwyta, darllenwch taflen ffeithiau Alzheimer’s UK ar fwyta ac yfed.
Gwisgo rhywun â dementia
Wrth i ddementia gynyddu, bydd gallu unigolyn i ganolbwyntio a chydsymud yn lleihau a bydd angen mwy o gymorth arno i wisgo. Mae'n bwysig bod yr unigolyn yn gallu parhau i benderfynu beth i'w wisgo cyhyd â phosibl ond, os bydd angen cymorth arno, ceisiwch ei gynnig mewn ffordd bwyllog a sensitif.
Gwnewch yn siwr fod yr unigolyn yn gwisgo dillad sy'n ddigon cynnes neu ysgafn, yn dibynnu ar y tywydd, ei fod yn gwisgo haenau o ddillad os bydd angen a'i fod yn sych.
Os byddwch chi'n helpu'r unigolyn i brynu dillad newydd, ceisiwch ei annog i ddewis dillad hawdd eu gwisgo – er enghraifft dillad â phopwyr yn lle botymau.
Darllenwch taflen ffeithiau Cymdeithas Alzheimer ar wisgo, sy'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu rhywun i wisgo a'i helpu i ddewis dillad cyfforddus.
Helpu rhywun â dementia i ymolchi
I'r rhan fwyaf o oedolion, gweithred bersonol a phreifat yw ymolchi, felly gall fod yn anodd i'r unigolyn â dementia ddod i arfer â chael rhywun yn ei helpu i ymolchi. Hefyd, gall fod yn heriol i chi fel gofalwr ddod i arfer â'r lefel hon o ofalu, os yw'n newydd i chi. Ceisiwch fynd ati mewn ffordd gadarnhaol a chyda meddwl agored; bydd hyn yn helpu i'w atal rhag bod yn brofiad anodd i'r ddau ohonoch.
Mae pethau ymarferol i'w hystyried hefyd. Gallai rhywun gael trafferth mynd i mewn i'r bath a dod allan ohono, colli ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hylendid personol neu wrthod cymorth oherwydd awydd am urddas ac annibyniaeth.
Mae taflen ffeithiau Cymdeithas Alzheimer ar ymolchi yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu rhywun i ymolchi, gan gynnwys annog annibyniaeth a chreu awyrgylch braf.
Help gydag eistedd, sefyll, symud a chodi
Os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia datblygedig, bydd llawer o sefyllfaoedd pan fydd angen i chi drafod yr unigolyn yn gorfforol – er enghraifft, ei helpu i'r gwely ac ohono, y bath, mynd i'r toiled, neu efallai ei godi os bydd wedi cwympo.
Ond, oni bai eich bod chi'n cymryd y rhagofalon angenrheidiol wrth godi neu symud rhywun, gallech fod mewn perygl o gael anaf.
Os byddwch chi'n dechrau symud rhywun yn rheolaidd gan nad yw'n gallu symud ei hun, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i ofyn am asesiad o anghenion gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn â dementia. Dyma'r ffordd orau o gael at gymorth, offer a hyfforddiant ar gyfer symud unigolyn.
Problemau symudedd mewn dementia
Os bydd yr unigolyn â dementia yn datblygu problemau symudedd, gallai elwa o ddefnyddio cadair olwyn y tu allan i'r cartref. Mae'n fwy tebygol y bydd angen iddo gael cadair olwyn gyda rhywun yn ei gwthio, felly bydd angen i chi, fel gofalwr, ystyried beth sy'n gweithio i chi yn ogystal â'r unigolyn yn y gadair olwyn. Mae hyn yn cynnwys ystyriaethau megis a ydych chi eisiau cadair olwyn sy'n plygu fel bod modd ei rhoi mewn car.
Diogelwch gartref a dementia
Mae mwy o risg i rywun â dementia gael damwain gartref, yn enwedig wrth i'r dementia gynyddu. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod synnwyr cydbwysedd a gallu'r unigolyn i ymateb yn gyflym yn gostwng. Mae effaith gynyddol ar gof a chrebwyll yr unigolyn hefyd.
Yn ogystal, gall straen a dryswch yn yr unigolyn â dementia, neu flinder ar ran y gofalwyr, gynyddu'r posibilrwydd o ddamwain. At hynny, mae colli'r cof a chael trafferth dysgu pethau newydd yn golygu y gall rhywun â dementia anghofio ble y mae, ble mae pethau a sut mae pethau'n gweithio.
Am yr holl resymau hyn, mae'n werth cymryd camau syml i helpu'r unigolyn â dementia i allu symud o gwmpas ei gartref yn fwy hawdd a diogel. Ond, ceisiwch beidio â gwneud newidiadau mawr dros nos; gall hyn beri braw a phryder i'r unigolyn â dementia.
Darllenwch y daflen ffeithiau hon gan Gymdeithas Alzheimer ynghylch diogelwch yn y cartref. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar sut i osgoi damweiniau trwy ystyried pethau fel goleuadau, offer, sylweddau peryglus a risg tân yn y cartref.
Gall gosod offer a chyfleusterau arbenigol wneud gwahaniaeth mawr o ran helpu rhywun â dementia i barhau i fyw gartref yn ddiogel.
Darllenwch y daflen ffeithiau hon gan Gymdeithas Alzheimer ynghylch offer, addasiadau a gwelliannau i'r cartref. Y ffordd orau o gael yr offer hwn yw trwy gael asesiad o anghenion gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn yn eich gofal.
Sut gall technoleg teleofal helpu gyda dementia
Mae teleofal yn air a ddefnyddir i ddisgrifio larymau personol a dyfeisiau monitro iechyd a all helpu pobl ag anableddau a chyflyrau hirdymor fyw'n fwy annibynnol. Gall teleofal fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia.
Gall gwasanaethau teleofal a theleiechyd roi tawelwch meddwl i'r sawl sydd â dementia a'i berthnasau, trwy gadarnhau ei fod yn ddiogel gartref a bod ei iechyd yn sefydlog. Er enghraifft, gall teleofal helpu i roi sicrwydd i chi – o bell – fod yr unigolyn yn eich gofal wedi codi o'r gwely (trwy synhwyrydd pwysedd yn y gwely) ond heb adael y ty (synhwyrydd drws y ty).
Cynllunio gofal ymlaen llaw i bobl â dementia
Mae "cynllunio gofal ymlaen llaw" yn ffordd o sicrhau bod pobl yn cael y cymorth maen nhw eisiau ei gael. Mae cynllunio gofal ymlaen llaw yn golygu bod angen i bawb sy'n ymwneud â gofalu am rywun â dementia, gan gynnwys meddygon, gweithwyr gofal, gofalwyr yn y teulu a'r unigolyn ei hun, feddwl am ddymuniadau'r unigolyn ynglyn â'i ofal parhaus, trafod y dymuniadau hynny ac yna eu cofnodi.
Trwy sicrhau bod pawb yn deall beth yw dewisiadau'r unigolyn, mae'n fwy tebygol y bydd yr unigolyn yn cael y cymorth yr hoffai ei gael, hyd yn oed os na all ddweud hynny yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i rywun â dementia, oherwydd gall leihau pryder, sef achos posibl ymddygiad heriol.
Cartrefi Gofal
Mae cartrefi gofal yn rhoi cyfle i bobl â dementia fyw mewn awyrgylch cartref gyda staff hyfforddedig wrth law i ofalu amdanynt ddydd a nos. Gall cartref gofal gynnig mathau o ofal sy'n debyg i'r hyn y byddai aelodau'r teulu yn eu rhoi gartref, fel cymorth i ymolchi, gwisgo a darparu prydau bwyd.
Mae cartrefi gofal i bobl hyn yn cael eu rhannu'n gartrefi sy'n cynnig "gofal personol" a'r rhai sy'n cynnig "gofal nyrsio". Bydd cartref gofal sy'n cynnig gofal personol yn gofalu am anghenion personol sylfaenol preswylwyr, er enghraifft prydau bwyd, ymolchi, mynd i'r toiled a chymryd meddyginiaeth. Mewn rhai cartrefi, bydd mwy o annibyniaeth gan breswylwyr mwy abl a byddant yn gofalu am lawer o'u hanghenion eu hunain.
Dewis cartref gofal dementia
Gan amlaf, y cam cyntaf tuag at ddewis cartref gofal i rywun â dementia fydd cael asesiad gan wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn dangos yn glir a oes angen lle mewn gofal preswyl ar yr unigolyn ai peidio, a pha ddewisiadau posibl eraill sydd ar gael.
Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu rhoi gwybodaeth am gartrefi gofal preswyl ac efallai'n gallu helpu i ddod o hyd i gartref addas.
Hyd yn oed os yw'r unigolyn â dementia yn annhebygol o fod yn gymwys i gael cymorth ariannol gyda ffioedd cartref gofal preswyl, byddai'n werth cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol o hyd. Mae'r wybodaeth y gall y gwasanaethau cymdeithasol ei rhoi i chi, ynghyd â'r asesiad, yn debygol o helpu o ran gwneud penderfyniadau hirdymor pwysig am ofal.
Hwyrach y byddwch eisiau ystyried y canlynol hefyd:
- Lleoliad cartref gofal – bydd hyn yn fwy perthnasol i rai pobl nag eraill. A fyddai'n well gan yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano fod gerllaw teulu a ffrindiau? A oes siopau, cyfleusterau hamdden neu gyfleusterau addysg yn yr ardal? A yw'r ardal yn swnllyd?
- A yw'r cartref gofal rydych chi'n ei ystyried yn canolbwyntio ar anghenion unigol preswylwyr, ac a fydd yn darparu ar gyfer yr anghenion hynny? Neu a yw'n mynnu bod preswylwyr yn dod i arfer â threfn benodol?
- Pa gysylltiad sydd rhwng y cartref gofal a'r gymuned?
- Pa drefniadau sydd yno i ymwelwyr? A all preswylwyr fynd a dod fel y mynnont, cyn belled ag y bo'n ddiogel gwneud hynny? A yw staff yn gallu helpu preswylwyr i fynd allan? A oes teithiau allan yn cael eu trefnu?
- Ym mha ffordd y byddech chi'n ymwneud â'r cartref gofal? Sut byddech chi'n cyfathrebu â staff? A oes unrhyw grwpiau cymorth neu gyfarfodydd rheolaidd?
- Os yw diogelwch yn broblem i'r unigolyn yr ydych yn gofalu amdano, pa drefniadau goruchwylio y gall y cartref gofal eu darparu?
- A fydd y cartref gofal yn bodloni anghenion crefyddol, ethnig neu ddiwylliannol penodol? A fydd y diet cywir yn cael ei ddarparu? A fyddant yn siarad iaith yr unigolyn? A fydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefyddol?
Adroddiadau arolygu cartrefi gofal
Mae cartrefi gofal i oedolion yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Yn ogystal â siarad â'r gwasanaethau cymdeithasol, gallwch siarad â'ch meddyg teulu, nyrs ardal, y tîm gofal lliniarol neu'r ymgynghorydd i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal. Gallai mudiadau gwirfoddol fel Independent Age, Age UK neu Mind fod yn ddefnyddiol hefyd.
Os ydych chi'n dibynnu ar gyllid yr awdurdod lleol, ni fyddwch yn gallu cael gofal mewn cartref sy'n ddrutach na'r hyn y mae'r awdurdod yn barod i dalu amdano, oni bai eich bod chi neu eich teulu'n gallu talu'r gwahaniaeth.
P'un a ydych chi'n dewis cael gofal gartref, mewn cartref gofal neu mewn hosbis, dylech gael asesiad gofal iechyd parhaus y GIG. Gofal iechyd parhaus yw gofal proffesiynol sy'n cael ei roi i fodloni anghenion iechyd corfforol neu iechyd meddwl oedolion ag anabledd, anaf neu salwch dros gyfnod estynedig.
Mae'n golygu bod pecyn gofal yn cael ei drefnu a'i ariannu gan y GIG ac mae ar gael am ddim i'r unigolyn sy'n cael y gofal. Weithiau, bydd hyn yn cael ei alw'n ofal y GIG wedi'i ariannu'n llawn.
Dementia, y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG
Mae'r GIG a chynghorau lleol yn gallu helpu pobl â dementia i gael gwybodaeth a gwasanaethau i'w helpu.
Os cewch ddiagnosis o ddementia, bydd angen asesu eich anghenion gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol, a chreu cynllun gofal i amlinellu sut i fodloni eich anghenion.
Os byddwch yn gymwys i gael cymorth, adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod neu gyngor lleol fydd yn darparu eich gofal cymdeithasol a phersonol, a'r GIG fydd yn darparu eich gofal iechyd angenrheidiol.
Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi dalu am rywfaint o'r cymorth a drefnir gan y gwasanaethau cymdeithasol, neu'r cyfan ohono, yn dibynnu ar eich incwm a'ch cynilion, ond bydd y gofal a gewch gan y GIG am ddim i raddau helaeth.
Bydd y gwasanaethau a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a beth mae'r cyngor lleol neu'r GIG yn barod i dalu amdano.
Y gwasanaethau cymdeithasol a dementia
Gall y gwasanaethau cymdeithasol gynorthwyo gyda'ch gofal personol a'ch gweithgareddau o ddydd i ddydd. Er enghraifft, gallai'r gwasanaethau cymdeithasol ddarparu cynorthwywyr gofal cartref i'ch helpu i ymolchi a gwisgo, gwasanaethau golchi dillad, pryd ar glud, dosbarthu bwyd wedi'i rewi i chi, cymhorthion ac addasiadau, a helpu i hawlio budd-daliadau.
Bydd angen asesiad i gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch. Os nad ydych wedi cael asesiad gan y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd eto, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu eich meddyg teulu a gofynnwch i'r adran gwasanaethau cymdeithasol gynnal asesiad o'ch anghenion gofal a chymorth. Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch cais, bydd rheolwr gofal yn cysylltu â chi neu eich teulu i gynnal asesiad dros y ffôn, neu i drefnu apwyntiad i ddod i'ch gweld gartref ac asesu eich anghenion.
Cymorth y GIG ar gyfer dementia
Bydd cymorth y GIG ar gyfer dementia yn cynnwys y driniaeth a gewch gan eich meddyg teulu a'ch ysbyty. Hefyd, gall gynnwys mathau eraill o ofal iechyd fel nyrsys iechyd meddwl yn y gymuned, ffisiotherapi, awdioleg (gofal clyw), optometreg (gofal y llygaid), podiatreg (gofal y traed), therapi iaith a lleferydd, ac arbenigwyr symudedd.
Yn ogystal, bydd y GIG yn ariannu unrhyw ofal nyrsio a gewch mewn cartref nyrsio, er efallai na fydd y lleoliad mewn cartref nyrsio yn gwbl rad ac am ddim.
Mae'r GIG yn darparu gofal iechyd parhaus am ddim i bobl â dementia pan fydd eu hanghenion gofal yn ymwneud yn bennaf â'u hiechyd. Os penderfynir rhoi gofal iechyd parhaus i chi, y GIG fydd yn darparu ac yn ariannu eich pecyn gofal cyfan – gan gynnwys eich gofal iechyd a'ch gofal cymdeithasol – p'un a fyddwch chi'n byw mewn cartref gofal ynteu yn eich cartref eich hun. Os byddwch chi'n byw mewn cartref gofal, bydd gofal iechyd parhaus y GIG yn cynnwys eich costau preswyl a'ch bwyd, yn ogystal ag unrhyw ofal nyrsio.
I fod yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, bydd angen i chi gael asesiad unigol; efallai bydd hyn wedi digwydd eisoes. I gadarnhau a ydych chi wedi cael asesiad gofal iechyd parhaus, neu i wneud cais am asesiad, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol.
Awgrymiadau ar gyfer cael help a chymorth ar gyfer dementia
Mae'r problemau emosiynol, y problemau gweithrediadol a'r problemau gyda'r cof a achosir gan ddementia yn gallu ei gwneud hi'n anodd cael help a chymorth ar gyfer dementia. Gall hefyd fod yn gymhleth i ofalwyr weithredu ar ran unigolyn â dementia. Gallai'r tri awgrym hyn helpu:
- Cadwch gopïau o ffurflenni a llythyrau a chofnod o'r bobl rydych chi wedi'u gweld. Bydd hyn yn eich helpu i gadw trywydd ar eich cynnydd a gall fod yn ddefnyddiol i'r gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol y byddwch chi'n cyfarfod â nhw.
- Byddwch yn barod i fod yn daer am yr hyn rydych chi ei eisiau. Efallai na fydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol bob amser yn cyfathrebu â'i gilydd cystal ag y dylent, ac mae'n bosibl y bydd rhaid i chi esbonio'ch sefyllfa bob tro y byddwch chi'n cyfarfod â gweithiwr proffesiynol newydd.
- Ystyriwch ddefnyddio mudiad eirioli. Gall mudiadau eirioli eich helpu i gael at wasanaethau a rhoi cyngor i chi ar eich hawliau, yn enwedig os bydd cyfarfodydd a sgyrsiau â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn codi ofn arnoch. Mae gan Cymdeithas Alzheimer rwydwaith o eiriolwyr ar draws y wlad.
Mae angen i bobl â dementia drefnu eu materion ariannol a chyfreithiol tra bo'r gallu ganddynt i wneud penderfyniadau.
Syniad da fyddai cael cyngor proffesiynol ar ewyllysiau, pensiynau, sut i reoli unrhyw asedau ariannol sydd gennych a sut i sicrhau bod unrhyw bartner neu blant yn cael eu hamddiffyn a bod ganddyn nhw sicrwydd ariannol.
Dementia a rheoli arian
Os oes gennych ddementia, efallai byddwch eisiau ystyried penodi unigolyn rydych chi'n ymddiried ynddo i reoli eich arian rhag ofn na fyddwch yn gallu gwneud hynny eich hun mwyach. Yr enw ar hyn yw Atwrneiaeth Arhosol, ac fe all hefyd alluogi'r unigolyn enwebedig i wneud penderfyniadau am faterion iechyd a lles ar eich rhan.
Os ydych chi'n gofalu am unigolyn â dementia, fe allech sylwi eich bod yn helpu'r unigolyn i reoli ei arian o ddydd i ddydd a thalu ei filiau. Gallai hyn ddibynnu ar anabledd neu alluedd meddyliol yr unigolyn, a dylid ei drafod gyda'r unigolyn ymlaen llaw.
Budd-daliadau i bobl â dementia
Os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia, gwnewch yn siwr fod y ddau ohonoch yn cael yr holl fudd-daliadau a chredydau treth y mae gennych hawl iddynt. Er enghraifft, mae'n bosibl y gallwch hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Gweini ar gyfer yr unigolyn â dementia, a'r Lwfans Gofalwr ar gyfer y gofalwr. Gallai fod hawl gennych chi neu'r unigolyn yn eich gofal i gael gostyngiad yn y dreth gyngor.
I gael gwybod mwy, darllenwch wybodaeth y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ynghylch rheoli arian pan fydd rhywun yn sâl.
Gallwch gael cyngor a chymorth ynghylch hawlio budd-daliadau o'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol ac oddi wrth fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymorth.
Delio â chyfrifon banc ar ran rhywun â dementia
Os oes gennych Atwrneiaeth neu os ydych yn benodai neu'n ddirprwy, mae'n bosibl y byddwch yn gallu rheoli gweithgareddau bancio unigolyn. I hyn ddigwydd, rhaid bod eich atwrneiaeth wedi cael ei chofrestru er mwyn i chi gael eich cydnabod yn benodai neu'n ddirprwy i unigolyn.
Bydd ar y banc neu'r gymdeithas adeiladu angen tystiolaeth o'ch sefyllfa gyfreithiol o ran rheoli arian rhywun cyn y byddant yn caniatáu i chi wneud hynny. Hefyd, byddant angen gweld tystiolaeth o enw a chyfeiriad yr unigolyn yn eich gofal.
Gallai fod cyfyngiadau ar waith ynghylch sut gallwch chi reoli'r cyfrif. Er enghraifft, os gwnaed unigolyn yn benodai, dim ond delio ag arian gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) y gall wneud.
Hefyd, gallwch wneud cais am fandad trydydd parti i ddelio â chyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif ariannol arall ar ran unigolyn. Mae hwn yn caniatáu i chi ddelio â materion bancio rhywun arall ar ei ran mewn cangen, os na all yr unigolyn fynd i'r banc ei hun. Cysylltwch â banc deiliad y cyfrif i gael rhagor o wybodaeth am drefnu mandad trydydd parti.
Darllenwch ragor ynghylch cymorth anffurfiol i reoli eich arian gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
Rheoli materion cyfreithiol
Bydd symptomau dementia yn gwaethygu gydag amser. Dyma pam mae'n bwysig cael diagnosis cynnar a dechrau gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol cyn gynted â phosibl.
Dylai'r cynlluniau hyn gynnwys sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu parchu os na fyddwch yn gallu gwneud penderfyniadau eich hun – yr enw ar hyn hefyd yw diffyg "galluedd" neu "alluedd" amharedig.
Cydsynio i driniaeth os yw dementia wedi amharu ar eich galluedd
Bwriad y Ddeddf Galluedd Meddyliol yw amddiffyn pobl sydd heb y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ar eu rhan eu hunain.
O dan y Ddeddf, tybir bod galluedd gan unigolyn i wneud penderfyniadau "oni bai fod pob cam ymarferol wedi’i gymryd i’w helpu i wneud hynny heb lwyddo".
Mae cydsynio yn golygu bod rhaid i chi roi caniatâd pendant cyn y gall unrhyw driniaeth feddygol gael ei chynnal arnoch.
Mae angen cael cydsyniad ar gyfer pob triniaeth, boed hynny'n brawf gwaed syml neu roi organ.
Yr unig adeg pan all triniaeth fynd yn ei blaen heb eich caniatâd yw pan na allwch wneud penderfyniad ar eich pen eich hun ac mae'r meddygon sy'n gyfrifol am eich gofal o'r farn bod y driniaeth er eich lles pennaf chi.
Dysgwch ragor ynghylch materion cydsynio.
Atwrneiaeth i bobl â dementia
Rhywbryd yn y dyfodol, mae'n bosibl na fyddwch yn gallu cydsynio mwyach oherwydd eich symptomau. Efallai byddwch eisiau rhoi'r pwer i berthynas rydych chi'n ymddiried ynddo wneud penderfyniadau ar eich rhan os na allwch chi wneud hynny. Yr enw ar hyn yw atwrneiaeth.
Mae tri gwahanol fath o atwrneiaeth:
- Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer materion yn ymwneud ag eiddo a materion ariannol
- Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer materion yn ymwneud â lles yr unigolyn (gan gynnwys ei iechyd)
- Atwrneiaeth Barhaus. Mae atwrneiaethau parhaus a wnaed cyn 1 Hydref 2007 yn ddilys o hyd a gellir eu cofrestru dim ond os yw'r unigolyn yn colli, neu wedi colli, ei alluedd meddyliol, a rhaid i'r atwrnai gofrestru'r atwrneiaeth
Rhaid creu atwrneiaeth arhosol mewn modd cyfreithiol penodol ac ni chaiff ei chydnabod yn gyfreithiol hyd nes y bydd wedi'i chofrestru gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Gall yr unigolyn sy'n llunio'r atwrneiaeth ar gyfer eiddo a materion gofrestru'r atwrneiaeth arhosol tra'i fod yn gallu gwneud penderfyniadau drosto'i hun. Ni all atwrneiaeth arhosol yn ymwneud â lles personol gael ei chofrestru hyd nes bod unigolyn wedi colli galluedd. Gall pwerau atwrneiaeth ar wahân gael eu llunio ar gyfer y naill atwrneiaeth arhosol neu'r llall, neu gellir penodi'r ddau fath o atwrneiaeth arhosol i'r un atwrnai.
Cynllunio gofal ymlaen llaw ar gyfer dementia
Ar ôl cael diagnosis o ddementia, fe allech ddymuno ystyried llunio penderfyniad ymlaen llaw. Mae cynllun gofal ymlaen llaw yn datgan beth fyddech yn ei ffafrio o ran triniaeth nawr, rhag ofn na fyddwch yn gallu datgan hynny yn y dyfodol.
Gall y meysydd sy'n cael sylw mewn penderfyniad ymlaen llaw gynnwys:
- pa driniaeth y byddech chi'n ystyried ei chael, ac o dan ba amgylchiadau
- pa fathau o driniaeth na fyddech fyth eisiau eu cael, ni waeth beth fo'r amgylchiadau
- pa fath o ofal diwedd oes y byddech chi'n dymuno ei gael – er enghraifft, a fyddech chi eisiau cael eich adfywio trwy ddull artiffisial, fel gosod tiwb anadlu yn eich gwddf os bydd eich ysgyfaint yn methu
- a fyddech chi'n fodlon rhoi eich organau ar ôl eich marwolaeth
Ni allwch ofyn am unrhyw beth anghyfreithlon yn eich penderfyniad ymlaen llaw, fel cymorth i farw. Bydd eich tîm gofal yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth a chyngor i chi ar benderfyniadau ymlaen llaw.
Ewyllysiau
Mae ewyllys yn caniatáu i chi benderfynu beth ddylai ddigwydd i'ch asedau (eich arian, eich eiddo a'ch pethau) ar ôl eich marwolaeth. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu cyflawni yn ôl eich dymuniad wedi i chi farw.
Os byddwch yn marw heb wneud ewyllys, bydd y llywodraeth yn penderfynu beth fydd yn digwydd i'ch asedau. Gallwch ysgrifennu eich ewyllys eich hun, ond byddai cael cyngor cyfreithiol yn syniad da. Bydd angen iddi gael ei thystio a'i llofnodi'n ffurfiol fel ei bod yn ddilys yn gyfreithiol.
Wrth ysgrifennu eich ewyllys, mae GOV.UK yn argymell y dylech gynnwys:
- pwy rydych chi eisiau iddynt elwa o'ch ewyllys
- pwy ddylai ofalu am unrhyw blant o dan 18 oed
- pwy fydd yn cael trefn ar eich ystâd ac yn cyflawni eich dymuniadau ar ôl eich marwolaeth (eich ysgutor)
- beth sy'n digwydd os bydd y bobl rydych chi eisiau iddynt elwa yn marw cyn i chi farw
Dylech gadw eich ewyllys yn ddiogel a dweud wrth eich ysgutor ble mae'n cael ei chadw.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y cyngor ar ysgrifennu eich ewyllys gan GOV.UK neu holwch Cyngor ar Bopeth. Mae'n bosibl y byddwch chi eisiau darllen gwybodaeth y Gwasanaeth Cynghori Ariannol am ysgrifennu a newid ewyllys a chynllunio eich ystâd.
Cynllunio diwedd oes
Mae pobl â dementia yn aml yn byw am flynyddoedd lawer ar ôl eu diagnosis. Mae symptomau dementia yn debygol o waethygu gydag amser a byddai'n ddoeth cynllunio ymhell cyn bod cyflwr unigolyn yn dirywio.
Gallai pobl â salwch nad oes modd ei iacháu, fel dementia, gael cynnig gofal diwedd oes (neu ofal lliniarol) fel y gallant fyw mor dda â phosibl tan eu marwolaeth. Mae gofal diwedd oes hefyd yn cynnwys cymorth i aelodau'r teulu. Gall gofal gael ei roi gartref, mewn hosbis, mewn cartref gofal neu mewn ysbyty.
Dylai pawb sydd wedi cael diagnosis o ddementia fod â chynllun gofal wedi'i lunio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dylai gofal diwedd oes fod yn rhan allweddol o'r cynllun gofal dementia hwn.
Yn rhan o fanylion y gofal diwedd oes sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gofal dementia, gallai'r unigolyn â dementia ddweud ble yr hoffai farw a sut yr hoffai gael ei drin. Hefyd, dylai'r cynllun gofal dementia ddarparu rhywfaint o gymorth i ofalwyr, a fydd yn galaru ar adeg y farwolaeth.
Darllenwch am ymdopi â phrofedigaeth.
Yn ddelfrydol, dylai dewisiadau o ran gofal diwedd oes gael eu trafod a'u cofnodi yn fuan ar ôl diagnosis o ddementia. Dylid ystyried camau gweithredu fel llunio datganiad ymlaen llaw o ddymuniadau cyn gynted â phosibl.
Hefyd, dylai cynllunio diwedd oes ystyried materion ariannol a chynllunio cyfreithiol.
Gofal gartref i bobl â dementia datblygedig
Weithiau, gall gwasanaethau gofal lliniarol gael eu cynnig gartref, yn hytrach nag mewn adeilad hosbis. Mae gan wasanaethau "hosbis yn y cartref" staff sydd fel arfer ar gael 24 awr y dydd ac sy'n gallu ymweld â phobl gartref.
Gall eich meddyg teulu drefnu bod nyrsys gofal lliniarol cymunedol yn rhoi gofal yn y cartref. Hefyd, gallai eich awdurdod lleol ddarparu offer a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer y cartref.
Gofal hosbis ar gyfer dementia datblygedig
Unedau preswyl arbenigol yw hosbisau sy'n cael eu cynnal gan dîm o feddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr a gwirfoddolwyr hyfforddedig. Maen nhw'n llai o faint ac yn dawelach nag ysbytai ac yn teimlo'n fwy tebyg i gartref.
Gall hosbisau ddarparu gofal unigol mwy addas i unigolion mewn awyrgylch tawelach, digyffro. Ni chodir tâl am ofal hosbis, ond rhaid i feddyg teulu atgyfeirio claf i hosbis.
Gofal lliniarol mewn cartref gofal
Mae gofal lliniarol ar gael mewn cartrefi gofal preswyl. Os bydd rhywun â dementia mewn cartref preswyl eisoes, mae'n bosibl y bydd eisiau aros yno i gael gofal lliniarol. Gallai hyn wneud yr unigolyn yn fwy cyfforddus a llai pryderus am orfod mynd i ysbyty, oni bai bod hynny'n angenrheidiol.
Gofal lliniarol ar gyfer dementia, fel claf dydd mewn hosbis
Os bydd yn well gan unigolyn â dementia barhau i fyw gartref, mae'n bosibl y gall ymweld â hosbis yn ystod y dydd. Trwy wneud hyn, bydd yn gallu cael y gofal a'r cymorth y mae arno eu hangen heb orfod gadael ei gartref yn barhaol.
Fel claf dydd, bydd yr unigolyn yn gallu manteisio ar fwy o wasanaethau nag y gellid eu cynnig pe bai'n aros gartref. Gallai gwasanaethau o'r fath gynnwys therapïau creadigol a chyflenwol ac adsefydlu, yn ogystal â gofal nyrsio a meddygol. Hefyd, bydd yn cyfarfod â chleifion eraill. Bydd hosbisau yn aml yn darparu cludiant i'r hosbis ac yn ôl gartref.
Ewch i'n Canllaw Dementia i gael rhagor o wybodaeth am Ddementia.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
09/03/2022 09:49:49