Clefyd y gwair

Cyflwyniad

Hay fever
Hay fever

Mae clefyd y gwair yn gyflwr alergaidd cyffredin sy'n effeithio ar un o bob pump o bobl rywbryd yn ystod eu hoes.

Mae symptomau clefyd y gwair yn cynnwys:

  • tisian
  • trwyn sy'n diferu
  • llygaid sy'n cosi

Byddwch yn cael symptomau clefyd y gwair os cewch adwaith alergaidd i baill.

Llwch mân yw paill sy'n cael ei ollwng gan blanhigion fel rhan o'u cylch atgynhyrchu. Mae paill yn cynnwys proteinau a all achosi i'r trwyn, llygaid, gwddf a sinysau (ceudodau bach, llawn aer y tu ôl i esgyrn eich boch a thalcen) ymchwyddo a llidio.

Mae'n bosibl bod ag alergedd i:

  • baill coed, a ddaw yn ystod y gwanwyn
  • paill glaswellt, a ddaw ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf
  • paill chwyn, a ddaw yn hwyr yn yr hydref

Darllenwch ragor am achosion clefyd y gwair.

Bydd llawer o bobl yn gweld bod eu symptomau'n gwella wrth iddynt fynd yn hyn. Bydd tua hanner y bobl yn dweud bod eu symptomau'n gwella ar ôl sawl blwyddyn. Mewn 10%-20% o bobl, bydd y symptomau'n diflannu'n llwyr.

Triniaeth clefyd y gwair

Nid oes iachâd o glefyd y gwair ar hyn o bryd, ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu lleddfu'r symptomau, i ryw radd o leiaf, â thriniaeth.

Osgoi paill fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o reoli clefyd y gwair. Fodd bynnag, mae'n anodd iawn osgoi paill, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf pan fyddwch chi eisiau treulio mwy o amser yn yr awyr agored.

Mae'r dewisiadau triniaeth ar gyfer clefyd y gwair yn cynnwys gwrth-histaminau, sy'n gallu helpu i atal adwaith alergol rhag digwydd, a corticosteroidau (steroidau), sy'n helpu i leihau lefelau llidio a chwyddo.

Gellir rheoli clefyd y gwair yn aml trwy ddefnyddio meddyginiaethau a brynir dros y cownter o'ch fferyllydd. Ond os bydd eich symptomau'n fwy trafferthus, mae'n syniad da siarad â'ch meddyg teulu rhag ofn y bydd angen meddyginiaeth arnoch ar bresgripsiwn.

O ran clefyd y gwair parhaus a difrifol, mae triniaeth o'r enw imiwnotherapi ar gael hefyd, lle y defnyddir symiau bach o baill arnoch chi dros amser er mwyn i chi gynyddu eich gallu i wrthsefyll ei effaith alergaidd. Fodd bynnag, fe all hyn gymryd misoedd lawer neu hyd yn oed flynyddoedd i weithio.

Darllenwch ragor am trin clefyd y gwair.

Pwy sy'n cael ei effeithio?

Clefyd y gwair yw un o'r cyflyrau alergol mwyaf cyffredin. Gallwch gael clefyd y gwair ar unrhyw oedran, er y bydd yn dechrau yn ystod plentyndod neu'r arddegau fel arfer. Mae'r cyflwr yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn na merched. Mewn oedolion, mae dynion a menywod yn cael eu heffeithio i'r un graddau.

Rydych yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y gwair os bydd hanes o alergeddau yn y teulu, yn enwedig asthma neu ecsema.

Cyngor hunangymorth

Weithiau, bydd modd atal symptomau clefyd y gwair trwy wneud pethau sylfaenol fel:

  • gwisgo sbectol haul sy'n lapio o gwmpas eich pen er mwyn atal paill rhag mynd i'ch llygaid tra byddwch chi yn yr awyr agored
  • cael cawod a newid eich dillad ar ôl bod y tu allan i gael gwared â'r paill oddi ar eich corff
  • aros y tu mewn pan fydd y cyfrifiad paill yn uchel (dros 50 o ronynnau fesul metr ciwbig o aer)
  • rhoi ychydig o Vaseline (eli petrolewm) ar agoriadau'r trwyn i ddal gronynnau paill

Darllenwch ragor am atal clefyd y gwair.

Cymhlethdodau

Nid yw clefyd y gwair yn fygythiad iechyd difrifol, ond fe all gael effaith negyddol ar ansawdd bywyd rhywun. Yn aml, bydd pobl sy'n dioddef clefyd y gwair gwael iawn yn gweld ei fod yn tarfu ar faint o waith y gallant ei wneud yn yr ysgol neu'r gweithle.

Cymhlethdod cyffredin arall o glefyd y gwair yw llid y sinysau (sinwsitis). Gall plant ddatblygu llid ar y glust ganol (otitis media) o ganlyniad i glefyd y gwair hefyd.

Darllenwch mwy am cymhlethdodau clefyd y gwair.

Rhinitis alergol

Y term meddygol am glefyd y gwair yw rhinitis alergol tymhorol. Ystyr rhinitis yw llid y tu mewn i'r trwyn.

Bydd rhai pobl hefyd yn profi symptomau sy'n debyg i rai clefyd y gwair wrth ddod i gysylltiad â sylweddau eraill a all sbarduno alergedd, megis gwiddon llwch a blew anifail.

Darllenwch mwy am fathau eraill o rhinitis alergol.

Cyfrifiad paill

Y cyfrifiad paill yw mesur o faint o baill sydd yn yr awyr. Po uchaf y cyfrifiad, y gwaethaf y gall symptomau clefyd y gwair fod (gan ddibynnu ar y math penodol o baill y mae gennych alergedd iddo).

Mae'r Swyddfa Dywydd yn darparu rhagolwg paill. Os bydd y cyfrifiad paill yn uchel, gallwch gymryd camau i atal yr effaith, fel cymryd meddyginiaeth gwrth-histamin cyn gadael y ty.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30/11/2022 11:10:16