Cyflwyniad
Sylwch, mae’r pwnc hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd, felly rydym yn argymell eich bod chi’n croesgyfeirio at y fersiwn Saesneg hefyd i sicrhau eich bod chi’n cael gwybodaeth gywir a chyfredol.
Cyflwr yw canser pan fydd celloedd mewn rhan benodol o'r corff yn tyfu ac yn atgynhyrchu'n afreolus. Gall y celloedd canseraidd ymledu i feinwe iach gyfagos, gan gynnwys organau, a'u dinistrio.
Weithiau, bydd canser yn dechrau yn un rhan o'r corff cyn lledaenu i rannau eraill. Yr enw ar y broses hon yw metastasis.
Mae dros 200 gwahanol fath o ganser, pob un â'i ddull ei hun o wneud diagnosis ohono a'i drin. Cewch fwy o wybodaeth am fathau penodol o ganser gan ddefnyddio'r dolenni ar y dudalen hon.
Adnabod arwyddion canser
Mae newidiadau i brosesau arferol eich corff neu symptomau anarferol weithiau'n gallu bod yn arwydd cynnar o ganser.
Er enghraifft, mae lwmp sy'n ymddangos yn sydyn ar eich corff, gwaedu anesboniadwy neu newidiadau i'ch arferion ymgarthu oll yn symptomau y mae angen i feddyg eu harchwilio.
Mewn llawer o achosion, ni fydd eich symptomau'n gysylltiedig â chanser a byddant yn cael eu hachosi gan gyflyrau iechyd eraill, anghanseraidd. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn bwysig mynd i weld eich meddyg teulu er mwyn archwilio'ch symptomau.
Darllenwch fwy am arwyddion a symptomau canser.
Lleihau eich risg o ganser
Mae gwneud rhai newidiadau syml i'ch ffordd o fyw yn gallu lleihau eich risg o ddatblygu canser yn sylweddol. Er enghraifft, bydd bwyta'n iach, gwneud ymarfer corff rheolaidd a peidio ag ysmygu oll yn helpu i leihau'r risg.
Pa mor gyffredin yw canser?
Mae canser yn gyflwr cyffredin. Yn 2011, cafodd bron i 331,500 o bobl yn y Deyrnas Unedig ddiagnosis o ganser. Bydd mwy nag un o bob tri o bobl yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod eu bywyd.
Yn y Deyrnas Unedig, dyma'r mathau mwyaf cyffredin o ganser:
Triniaeth canser
Llawdriniaeth yw'r prif ddewis o driniaeth ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser, oherwydd bod modd i diwmorau solet gael eu tynnu ymaith yn llawfeddygol fel arfer.
Dau fath arall o driniaeth a ddefnyddir yn gyffredin yw cemotherapi (meddyginiaeth gref sy'n lladd canser) a radiotherapi (defnydd rheoledig o belydrau-x ynni uchel).
Amserau aros
Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr holl gleifion sydd ag amheuaeth o ganser yn cael profion diagnostig cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau unrhyw bryder y gallent fod yn ei deimlo.
Mae dau lwybr y gall claf eu dilyn:
Dylai cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser ac a atgyfeiriwyd ar frys gan eu meddyg teulu aros ddim mwy na 62 diwrnod i'w triniaeth gychwyn. Dylai cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser, nid trwy atgyfeiriad gan feddyg teulu, ddechrau eu triniaeth o fewn 31 diwrnod ar ôl penderfyniad i drin.
Symptomau
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau anesboniadwy i'ch corff, fel lwmp sy'n ymddangos yn sydyn, gwaed yn eich wrin neu newid yn eich arferion ymgarthu arferol.
Yn aml, mae'r symptomau hyn yn cael eu hachosi gan afiechydon anghanseraidd eraill, ond mae'n bwysig i chi weld eich meddyg teulu fel y gall gynnal archwiliad.
Mae arwyddion a symptomau posibl eraill canser wedi'u hamlinellu isod.
Lwmp yn y fron
Ewch i weld eich meddyg teulu os byddwch yn sylwi ar lwmp yn eich bron, neu os oes gennych lwmp sy'n tyfu'n gyflym rhywle arall ar eich corff.
Bydd eich meddyg teulu yn eich atgyfeirio i arbenigwr am brofion os yw'n tybio bod gennych ganser.
Pesychu, poen yn y frest a diffyg anadl
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os ydych wedi bod yn dioddef peswch ers dros dair wythnos.
Mae symptomau fel diffyg anadl neu boen yn y frest yn gallu bod yn arwydd o gyflwr acíwt (difrifol), fel niwmonia (haint ar yr ysgyfaint). Ewch i weld eich meddyg teulu ar unwaith os ydych yn dioddef y mathau hyn o symptomau.
Newidiadau mewn arferion ymgarthu
Ewch i weld eich meddyg teulu os byddwch yn cael profiad o un o'r newidiadau isod a'i fod wedi para mwy nag ychydig wythnosau:
- gwaed yn eich carthion
- dolur rhydd neu rhwymedd heb unrhyw reswm amlwg
- teimlad nad ydych wedi gwacáu eich coluddyn yn iawn ar ôl mynd i'r toiled
- poen yn eich abdomen (bol) neu eich anws (twll eich pen ôl)
- bol chwyddedig cyson
Gwaedu
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu hefyd os byddwch yn dioddef unrhyw waedu anesboniadwy, fel:
- gwaed yn eich wrin
- gwaedu rhwng mislifoedd
- gwaedu o'ch pen ôl
- gwaed pan fyddwch yn pesychu
- gwaed yn eich chwyd
Mannau geni
Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych man geni:
- sydd â siâp afreolaidd neu anghymesurol
- sydd â border afreolaidd ag ymylon tolciog
- sydd â mwy nag un lliw (gallai fod â brychni brown, du, coch, pinc neu wyn)
- sydd â diamedr sy'n fwy na 7mm
- sy'n cosi, yn grofennog neu'n gwaedu
Mae unrhyw rai o'r newidiadau uchod yn golygu bod siawns y gallai fod gennych melanoma malaen (canser y croen).
Colli pwysau heb esboniad
Ewch i weld eich meddyg teulu hefyd os ydych wedi colli llawer o bwysau yn ystod y mis neu ddau ddiwethaf na ellir ei esbonio trwy newidiadau i'ch deiet, ymarfer corff na straen.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am ganser ar gael drwy ddilyn y dolenni isod.
Macmillan: arwyddion a symptomau canser
Cancer Research UK: arwyddion a symptomau canser
Canllawiau NICE: atgyfeirio yn achos amheuaeth o ganser
I gael gwybodaeth a chanllaw cam wrth gam ar sut i archwilio'ch bronnau, gwyliwch y fideo gan Breakthrough Breast Cancer.
I gael gwybodaeth a chanllaw cam wrth gam ar sut i archwilio'ch ceilliau, gwyliwch y fideo canlynol, diolch i elusen Orchid.