Cyflwyniad
Rhithweledigaethau yw lle mae rhywun yn gweld, clywed, arogleuo, blasu neu'n teimlo pethau nad ydynt yn bodoli y tu allan i'w meddwl.
Maent yn gyffredin mewn pobl sydd â sgitsoffrenia, ac fel arfer ar ffurf clywed lleisiau.
Gall rhithweledigaethau fod yn frawychus, ond fel arfer mae achos y gellir ei adnabod. Er enghraifft, gallant ddigwydd o ganlyniad i:
Ewch i weld eich meddyg teulu ar unwaith os ydych chi'n cael rhithwelediadau. Bydd yr opsiynau triniaeth a argymhellir ar gyfer rhithwelediadau yn dibynnu ar yr achos sylfaenol. Er enghraifft, gall meddyginiaeth wrthseicotig helpu gyda rhithwelediadau i bobl sy'n byw gyda sgitsoffrenia.
Gall rhithweledigaethau wneud i chi deimlo'n nerfus, yn baranoiaidd ac yn ofnus, felly mae'n bwysig bod gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio'r mathau nodweddiadol o rithwelediadau, gan gynnwys pam y maent yn digwydd a beth gallwch ei wneud.
Mae'n cynnwys:
- clywed lleisiau
- rhithweledigaethau a achosir gan gyffuriau
- rhithweledigaethau a chwsg
- rhithweledigaethau mewn plant â thwymyn
- Syndrom Charles Bonnet
- rhithweledigaethau mewn pobl hŷn â deliriwm
Gall rhithweledigaethau ddigwydd hefyd o ganlyniad i flinder eithafol neu brofedigaeth ddiweddar. Fodd bynnag, nid yw'r rhain ac achosion prinnach eraill yn cael eu cynnwys yma.
Clywed lleisiau
Clywed lleisiau yn y meddwl yw'r math mwyaf cyffredin o rithwelediad mewn pobl â chyflyrau iechyd meddwl fel sgitsoffrenia. Gall y lleisiau fod yn feirniadol, yn ganmoliaethus neu'n niwtral, a gallant wneud gorchmynion a allai fod yn niweidiol neu’n cychwyn sgwrs â’r person. Efallai y byddant yn rhoi sylwebaeth ar y pryd ar weithredoedd yr unigolyn.
Mae'r profiad fel arfer yn peri gofid mawr, ond nid yw bob amser yn negyddol. Mae rhai pobl sy'n clywed lleisiau yn gallu byw gyda nhw a dod i arfer â nhw, neu efallai’n eu hystyried yn rhan o'u bywyd.
Nid yw'n anghyffredin i bobl sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar glywed lleisiau, a gall hyn weithiau fod yn llais eu hanwyliaid.
Cyngor ymarferol
Os ydych chi'n clywed lleisiau, trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych gyda'ch meddyg teulu. Os oes angen, byddant yn eich cyfeirio at seiciatrydd. Mae hyn yn bwysig wrth benderfynu a oes gennych salwch meddwl difrifol.
Os sgitsoffrenia sy'n gyfrifol am eich lleisiau, po gynharaf y bydd eich triniaeth yn dechrau, gorau oll fydd y canlyniad.
Efallai y bydd y cyngor canlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd::
- siarad ag eraill sy’n clywed lleisiau – mae Hearing Voices Network yn elusen yn y DU a all rhoi help a chefnogaeth i chi, a'ch rhoi mewn cysylltiad â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg i'ch un chi.
- bod yn agored i drafod eich lleisiau
- ceisio deall o ble mae'r lleisiau'n dod, pam a beth sy'n eu sbarduno
Mae gan y Sefydliad Iechyd Meddwl fwy o wybodaeth a chyngor ymarferol am sut i ddelio â chlywed lleisiau.
Rhithweledigaethau a achosir gan gyffuriau
Cyffuriau anghyfreithlon ac alcohol
Gall pobl gael rhithweledigaethau pan fyddant dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon fel amffetaminau, cocên, LSD neu ecstasi. Gallant hefyd ddigwydd wrth roi’r gorau i alcohol neu gyffuriau os byddwch yn rhoi'r gorau i'w cymryd yn sydyn.
Mae rhithwelediadau a achosir gan gyffuriau fel arfer yn weledol, ond gallant effeithio ar synhwyrau eraill. Gallant gynnwys fflachiadau o olau neu siapiau haniaethol, neu gallant fod ar ffurf anifail neu berson. Yn amlach, mae ystumiadau gweledol yn digwydd sy'n newid canfyddiad y person o'r byd o'u cwmpas.
Gall y rhithwelediadau ddigwydd ar eu pen eu hunain neu fel rhan o seicosis a achosir gan gyffuriau. Gall defnyddio cyffuriau yn yr hirdymor achosi sgitsoffrenia.
Mae rhai pobl yn cymryd canabis i "dawelu eu hunain" a lleddfu eu symptomau seicotig, heb sylweddoli bod y canabis yn y tymor hwy yn gwneud y seicosis yn waeth.
Gall camddefnyddio alcohol hefyd arwain at gyflyrau seicotig, rhithwelediadau a dementia.
Meddyginiaeth
Gall meddyginiaethau presgripsiwn amrywiol achosi rhithwelediadau, weithiau. Gall pobl oedrannus yn enwedig fod mewn perygl.
Gall rhithweledigaethau a achosir gan feddyginiaeth fod yn gysylltiedig â dos, ac maent fel arfer yn stopio pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth. Fodd bynnag, peidiwch byth â rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth heb siarad â'ch meddyg yn gyntaf ac, os oes angen, ar ôl cael eich asesu gan seiciatrydd.
Siaradwch â'ch meddyg teulu am sut mae'r feddyginiaeth yn effeithio arnoch chi, er mwyn i chi allu trafod y posibilrwydd o newid i feddyginiaeth arall.
Rhithweledigaethau a chwsg
Mae rhai pobl yn cael rhithwelediadau wrth iddyn nhw gwympo i gysgu (hypnagogig), neu wrth iddyn nhw ddechrau deffro (hypnopompig).
Gall y rhithwelediad fod ar ffurf synau, neu gall y person weld pethau nad ydynt yn bodoli, fel gwrthrychau’n symud, neu ddelwedd ffurfiedig, fel person (gall y person feddwl ei fod wedi gweld ysbryd).
Mae rhithweledigaethau hypnagogig a hypnopompig yn arbennig o gyffredin mewn pobl â narcolepsi. Fodd bynnag, gallant ddigwydd hefyd mewn pobl heb narcolepsi nac unrhyw anhwylder. Yn y bôn, maent fel breuddwydion, heb fod yn rhywbeth i boeni amdanyn nhw.
Rhithweledigaethau mewn plant â thwymyn
Gall rhithweledigaethau ddigwydd weithiau mewn plant sy'n sâl â thwymyn. Ffoniwch eich meddyg teulu os yw eich plentyn yn sâl gyda thymheredd corff o 38°C neu uwch a'ch bod chi’n meddwl ei fod yn rhith-weld.
Yn y cyfamser, peidiwch â chynhyrfu, cadwch eich plentyn yn oer a thawelu ei feddwl. Anogwch ef/hi i yfed digon o hylifau a rhoi paracetamol neu ibuprofen iddo/iddi (darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion bob amser i ddarganfod y dos a'r amlder cywir ar gyfer oedran eich plentyn, a gwnewch yn siŵr nad oes ganddyn nhw alergedd i feddyginiaethau rydych chi'n eu rhoi). Dylai'r rhithwelediadau basio ar ôl ychydig funudau.
Darllenwch fwy am twymyn ar blant.
Syndrom Charles Bonnet
Efallai y bydd rhai pobl â nam ar eu golwg yn cael rhithwelediadau gweledol dros dro.
Gelwir hyn yn Syndrom Charles Bonnet ac mae'n tueddu i effeithio ar bobl hŷn sydd wedi dechrau colli eu golwg, er y gall effeithio ar bobl o unrhyw oedran.
Mae'r rhithwelediadau fel arfer yn para tua 12 i 18 mis a gallant fod ar ffurf patrymau syml, ailadroddus neu ddelweddau cymhleth o bobl, gwrthrychau neu dirweddau.
Mae rhai o'r achosion mwyaf cyffredin o nam ar y golwg yn cynnwys:
- dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran (AMD) – lle mae rhan ganolog cefn y llygad (y macwla, sy'n chwarae rôl bwysig mewn golwg canolog) yn stopio gweithio'n iawn
- cataractau – pan fydd newidiadau yn lens y llygad yn achosi iddo ddod yn llai tryloyw (clir)
- glawcoma – lle mae hylif yn cronni y tu mewn i'r llygad, gan niweidio'r nerf optig (sy'n trosglwyddo gwybodaeth o'r llygad i'r ymennydd)
- retinopathi diabetig – lle mae pibellau gwaed sy'n cyflenwi'r llygad yn cael eu difrodi oherwydd glwcos yn cronni
Yn y DU, credir bod tua 100,000 o bobl yn cael eu heffeithio gan Syndrom Charles Bonnet.
Rhithweledigaethau mewn pobl hŷn â deliriwm
Gall rhithweledigaethau ddigwydd weithiau mewn pobl hŷn fregus sy'n sâl. Gall y rhithwelediadau ddechrau cyn arwyddion eraill bod y person yn sâl. Efallai y byddant yn cael eu hachosi gan haint ar y frest neu haint y llwybr wrinol, er enghraifft.
Ffoniwch y meddyg teulu os yw eich perthynas oedrannus yn datblygu rhithwelediadau yn sydyn, yn enwedig os yw'n ymddangos yn sâl mewn unrhyw ffordd arall.