Telerau Defnyddio
1. Caiff y wefan hon ei gweithredu gan GIG 111 Cymru. Mae’r telerau defnyddio hyn yn llywodraethu defnydd ein gwefan (https://111.wales.nhs.uk/Default.aspx?locale=cy) , yn cynnwys defnydd o'n gwasanaeth ymholiad gwybodaeth iechyd ar-lein.
2. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyson â gwybodaeth ac arferion cyfredol y GIG. Fodd bynnag, mae gwybodaeth ac arferion meddygol yn datblygu'n barhaus ac efallai y bydd angen gwybodaeth benodol mewn rhai achosion ac na fydd modd darparu'r wybodaeth honno drwy'r wefan hon. Yn unol â hyn, darparwyd y wefan hon er gwybodaeth yn unig. Nid ei bwriad yw disodli ymgynghoriad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol cymwys. Ni allwn warantu y bydd y wybodaeth a ddarperir gennym drwy’r wefan yn diwallu eich anghenion iechyd a'ch anghenion meddygol. Os ydych yn pryderu am eich iechyd, cysylltwch â gweithiwr iechyd proffesiynol neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
3. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno na fydd GIG 111 Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn atebol am unrhyw gais, colled neu ddifrod (boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) fydd yn deillio o ddibynnu ar gynnwys gwefan GIG 111 Cymru (https://111.wales.nhs.uk/Default.aspx?locale=cy) neu'n gysylltiedig â hynny i'r graddau na ellir eithrio atebolrwydd o'r fath dan y gyfraith.
4. Ni fyddwch yn dadgreu, dadwneud, copïo neu addasu meddalwedd neu godau neu sgriptiau eraill sy'n ffurfio rhan o'r wefan. Ni fyddwch yn ceisio trosglwyddo unrhyw wybodaeth sy’n cynnwys firws, mwydyn, Trojan neu unrhyw elfen aflonyddgar neu niweidiol rall i'r wefan neu drwy'r wefan.
5. Ni allwn warantu y cewch fynediad didor i'r wefan, neu'r gwefannau y mae'n cysylltu â hwy. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw niwed sy’n codi yn sgîl y ffaith bod y wefan ddim ar gale neu yn sgîl y wybodaeth sydd arni.
6. Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti.
7. Gallwch greu dolenni hyperdestun i’n gwefan, ond gofynnwn i unrhyw gyswllt gyd-fynd â'n polisi cysylltiadau.
8. Os ydych yn cyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol i ni drwy’r wefan, caiff ei defnyddio yn unol â'n polisi preifatrwydd. Edrychwch ar ein polisi prefatrwydd i gael rhagor o fanylion.
9. Nid yw’r rhyngrwyd yn gyfrwng cyfathrebu diogel. Ni allwn warantu y bydd unrhyw wybodaeth rydych yn ei chyflwyno i ni drwy’r wefan neu dros yr e-bost yn mynd i’n cyrraedd yn ddiogel ac ni allwn warantu na chaiff trydydd partïon fynediad iddi cyn iddi ein cyrraedd ni.
10. Nid oes dim yn y telerau defnyddio hyn yn ein heithrio ni neu ein cyflogeion rhag bod yn atebol i chi o ran camgynrychiolaeth ffug neu am farwolaeth neu anaf personol yn deilio o'r ffaith i ni neu'n cyflogeion fod yn esgeulus.
11. Mae’r cynnwys ar ein gwefan wedi'i ddiogelu gan hawlfraint y goron, oni nodir yn wahanol. Ni allwch gopïo, atgynhyrchu neu ailddosbarthu unrhyw ddeunydd sydd ar ein gwefan heblaw yn unol â'n polisi awdurdodi cynnwys.
12. Caiff y termau defnyddio hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac rydych yn cytuno i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod a allai ddeilio mewn perthynas â'r wefan.
13. Cynhyrchwyd y wefan yma yn unol â'n prosesau golygu ac adolygu. Os hoffech ofyn am unrhyw ddogfennau eraill a ddefnyddir yn y prosesau golygu ac adolygu defnyddiwch y dudalen cysylltu â ni.
Polisi cysylltau
Cysylltiadau o’r wefan
Mae pob cyswllt o’r wefan wedi cael ei ddewis drwy ddefnyddio ein Prosesau Golygu ac Adolygu. Mae’r cysylltiadau er gwybodaeth a chyfleustra yn unig. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am y safleodd eraill na’r wybodaeth sydd arnynt. Nid yw'r ffaith bod cyswllt i wefan arall ar ein gwefan ni yn golygu ein bod yn cymeradwyo'r wefan honno.
Rydym yn cadw'r hawl i ddileu cyswllt neu wrthod cyswllt i unrhyw wefan heb roi esboniad na chyfiawnhad.
Os dymunwch gopi o’n Prosesau Golygu ac Adolygu a’r meini prawf gwethuso cysylltwch â ni a nodwch eich cyfeiriad e-bost.
Cysylltiadau i’r wefan hon
Mae croeso i unrhyw sefydliad neu unigolyn greu cyswllt i’n hafan neu i dudalen unigol ar ein gwefan, heb orfod gofyn am ganiatâd i wneud hynny. Ond, rydym yn gofyn i’r sawl sy'n creu cyswllt i’n gwefan i barchu’r amodau canlynol:
- Ni ddylai cysylltiadau gael eu defnyddio mewn cyd-destun difenwol;
- Dylai'r sawl sy'n creu cysylltiadau dwfn fod yn ymwybodol y gall URL’s tudalennau penodol gael eu newid heb rybudd;
- Ac eithrio sefydliadau'r GIG, does dim hawl i logo GIG 111 Cymru gael ei gopïo na'i ddefnyddio i greu cyswllt;
- Nid ydym yn ‘masnachu’ cysylltiadau – os ydych yn dewis creu cyswllt i’r wefan hon, ni fyddwn yn cynnig creu cyswllt i'ch gwefan chi.
Golygyddol a Broses Adolygu
1. Cynhyrchu Cynnwys
Lle bo modd, mae'r holl gynnwys yn cael ei gynhyrchu gan GIG 111 Cymru, ond gall cynhyrchu cynnwys fod yn allanol os::
- mae cyfyngiadau amser yn atal rhag cael ei gynhyrchu yn fewnol
- mae angen mwy o wybodaeth arbenigol, neu
- ei bod yn fwy effeithiol i wneud hynny
Mae cynlluniau cynnwys yn cael eu cynhyrchu i amserlen i gynhyrchu cynnwys newydd a sicrhau bod y cynnwys presennol yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd. Gall y rhain eu diwygio cynlluniau ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau mewn amcanion busnes.
Mae holl gynnwys GIG 111 Cymru yn ddarostyngedig i brosesau golygyddol mewnol.
2. Hawliau Deallusol Eiddo
Mae'r goron yn cadw hawlfraint yr holl gynnwys a gyhoeddwyd, oni bai fod cytundebau contractiol eraill penodol yn eu lle.
3. Uniaethu Blaenoriaethau Cynnwys
Mae penderfyniadau ar flaenoriaethau gynnwys yn cael eu hysbysu a'u nodi o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys:
- Gofynion y Cyhoedd a'r galw am fesur yn ôl defnydd o gynnwys,
- Adborth defnyddwyr a staff dros y teleffon a trwy gyfrwng-e
- Proffil uchel o storiau iechyd
- Newyddion argyfwng iechyd y cyhoedd,
- Polisiau'r Llywodraeth, Fframweithiau Gwasanaethau Cenedlaethol, Cytundeb Meddygon Teulu,
- Ymgyrchoedd a mentrau'r Adran Iechyd
- Ymgyrchoedd a mentrau Llywodraeth Cymru,
- Amcanion busnes, rhanddeiliaid a marchnata,
- Ymgyrchoedd iechyd ac wythnosau ymwybyddiaeth, a
- Bylchau cynnwys yn cael ei nodi gan y timau golygyddol ac adolygu.
Mae cynnwys ar y wefan a'i defnydd yn cael ei hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod y wybodaeth yn parhau i fod yn gyfoes, yn gyfredol, ac o werth i ddefnyddwyr y we. Rydym eisiau gwneud yn siwr bod yr adrannau a'r cynnwys yn adlewyrchu'r galw cynyddol am wybodaeth iechyd a gwasanaethau lleol a'i bod yn hygyrch i ystod eang o ddefnyddwyr sy'n bosibl.
4. Cysylltiadau
Gall cysylltiadau i wefannau eraill, a manylion cysylltu ar gyfer sefydliadau eraill, cael eu rhoi o fewn cynnwys ar wefan GIG 111 Cymru, ond dydy hyn ddim yn awgrymu ardystiad.