.

Cyflwyniad

Mae llawer o resymau pam na fydd menyw efallai yn cael ei mislif arferol, neu pam fydd y mislif o bosibl yn dod i ben yn gyfan gwbl.

Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn cael mislif bob rhyw 28 diwrnod, ond mae'n gyffredin cael cylchred ychydig yn fyrrach neu'n hwy na hyn (rhwng 24 a 35 diwrnod).

Nid yw cylchred mislif rhai menywod yn rheolaidd bob amser. Gallai eu mislif fod yn gynnar neu'n hwyr, a gallai pa mor hir y mae'n para a pha mor drwm ydyw amrywio bob tro.

Darllenwch fwy ynghylch mislif afreolaidd a mislif trwm.

Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:

Pam gallai eich mislif ddod i ben

Mae nifer o resymau pam gallai eich mislif ddod i ben. Dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin:

Gall y mislif ddod i ben weithiau o ganlyniad i gyflwr meddygol hirdymor, fel clefyd y galon, diabetes heb ei reoli, thyroid gorweithredol, neu fethiant ofarïaidd cynamserol.

Beichiogrwydd

Gallech chi fod yn feichiog os ydych chi'n cael rhyw a bod eich mislif yn hwyr. Mae beichiogrwydd yn rheswm cyffredin pam mae mislif yn dod i ben yn annisgwyl. Gall ddigwydd weithiau os bydd y dull atal cenhedlu rydych yn ei ddefnyddio yn methu.

Gallai eich mislif yn syml fod yn hwyr, felly gallech chi aros ychydig ddyddiau i weld a fydd yn dechrau. Os na fydd yn dechrau, gallwch wneud prawf beichiogrwydd i gadarnhau a ydych chi'n feichiog ai peidio.

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol y gallwch feichiogi yn y dyddiau ar ôl yr adeg y dylai eich mislif ddechrau. Gall hyn ddigwydd os bydd oedi wrth ryddhau wy (ofyliad) - er enghraifft, o ganlyniad i salwch neu straen.

Straen

Os byddwch chi dan straen, gall eich cylchred mislif fynd yn hwy neu'n fyrrach, gallai eich mislif ddod i ben yn gyfan gwbl, neu gallai fod yn fwy poenus.

Ceisiwch osgoi bod dan straen trwy wneud yn siwr eich bod yn cael amser i ymlacio. Mae ymarfer corff rheolaidd, fel rhedeg, nofio a ioga, yn gallu helpu i chi ymlacio. Gall ymarferion anadlu helpu hefyd.

Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi â straen, gellir argymell therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Therapi siarad yw CBT sy'n gallu helpu i chi ymdrin â'ch problemau trwy newid y ffordd rydych yn meddwl a gweithredu.

Colli pwysau'n sydyn

Gall colli gormod o bwysau neu golli pwysau'n sydyn achosi i'ch mislif ddod i ben. Mae cyfyngu'n fawr ar faint o galorïau rydych chi'n eu bwyta yn stopio'r hormonau sydd eu hangen ar gyfer ofyliad rhag cael eu cynhyrchu.

Gallai eich meddyg teulu eich cyfeirio at ddeietegydd os ydych chi dan eich pwysau, pan fydd eich mynegai mas y corff (BMI) yn llai nag 18.5. Bydd y deietegydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynglyn â sut i adennill pwysau yn ddiogel.

Os ydych chi wedi colli pwysau oherwydd anhwylder bwyta, fel anorecsia, byddwch yn cael eich cyfeirio at seiciatrydd.

Bod dros eich pwysau neu'n ordew

Mae bod dros eich pwysau neu'n ordew hefyd yn gallu effeithio ar gylchred y mislif. Os ydych chi dros eich pwysau, gallai eich corff gynhyrchu gormod o estrogen, un o'r hormonau sy'n rheoleiddio'r system atgenhedlu mewn menywod.

Gall yr estrogen gormodol effeithio ar ba mor aml rydych chi'n cael eich mislif, a gall achosi i'r mislif ddod i ben hefyd.

Gallai eich meddyg teulu eich cyfeirio at ddeietegydd os ydych chi dros eich pwysau neu'n ordew, gyda BMI o 30 neu fwy, a bod hyn yn effeithio ar eich mislif. Bydd y deietegydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynglyn â cholli pwysau'n ddiogel.

Gormod o ymarfer corff

Gall y straen y mae gweithgarwch corfforol dwys yn ei roi ar eich corff effeithio ar yr hormonau sy'n gyfrifol am eich mislif. Mae colli gormod o fraster y corff trwy ymarfer corff dwys yn gallu achosi i chi stopio ofylu hefyd.

Byddwch yn cael cyngor i leihau eich lefel gweithgarwch os yw gormod o ymarfer corff wedi achosi i'ch mislif ddod i ben.

Os ydych chi'n athletwr proffesiynol, gallech elwa ar weld meddyg sy'n arbenigo mewn meddyginiaeth chwaraeon. Bydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynglyn â sut i gynnal eich perfformiad heb amharu ar eich mislif.

Y bilsen atal cenhedlu

Efallai na fyddwch yn cael mislif bob yn awr ac yn y man os ydych chi'n cymryd y bilsen atal cenhedlu. Nid yw hyn fel arfer yn destun pryder.

Mae rhai mathau o ddulliau atal cenhedlu, fel y bilsen progestogen yn unig, pigiad atal cenhedlu a system fewngroth (IUS), yn enwedig Mirena, yn gallu achosi i'r mislif ddod i ben yn gyfan gwbl.

Fodd bynnag, dylai eich mislif ailddechrau pan fyddwch yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r mathau hyn o ddulliau atal cenhedlu.

Y menopos

Mae'n bosibl y byddwch yn dechrau peidio â chael mislif wrth i chi agosau at y menopos. Mae hyn oherwydd y bydd lefelau estrogen yn dechrau gostwng, a bydd ofylu yn digwydd yn llai rheolaidd. Ar ôl y menopos, bydd eich mislif yn dod i ben yn gyfan gwbl.

Mae'r menopos yn rhan naturiol o'r broses heneiddio mewn menywod, sydd fel arfer yn digwydd pan fydd menyw rhwng 45 a 55 oed. Yr oedran cyfartalog i fenyw gyrraedd y menopos yw 51 oed yn y DU.

Fodd bynnag, mae tua 1 ym mhob 100 o fenywod yn cyrraedd y menopos cyn iddynt fod yn 40 oed. Gelwir hyn yn fenopos cyn-amser neu'n fethiant ofarïaidd cynamserol.

Syndrom ofarïau polygodennog (PCOS)

Mae ofarïau polygodennog yn cynnwys nifer fawr o ffoliglau diniwed, sy'n godennau heb eu datblygu'n ddigonol lle mae wyau'n datblygu. Os oes gennych chi PCOS, yn aml, ni all y codennau hyn ryddhau wy, sy'n golygu nad yw ofylu'n digwydd.

Credir bod PCOS yn gyffredin iawn, ac mae'n effeithio ar ryw 1 o bob 10 menyw yn y DU. Mae'r cyflwr yn gyfrifol am gynifer ag un o bob tri achos o fislif yn dod i ben.

Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os nad ydych yn feichiog - rydych wedi cael prawf beichiogrwydd negyddol - ac rydych wedi colli mwy na thri mislif yn olynol.

Os ydych chi'n cael rhyw ac nad ydych wedi cymryd prawf beichiogrwydd, efallai y bydd eich meddyg teulu'n eich cynghori i gymryd prawf beichiogrwydd.

Efallai y bydd yn eich holi hefyd am y canlynol:

  • eich hanes meddygol
  • hanes meddygol eich teulu
  • eich hanes rhywiol
  • unrhyw broblemau emosiynol sydd gennych
  • unrhyw newidiadau diweddar ym mhwysau eich corff
  • faint o ymarfer corff rydych yn ei wneud

Gallai eich meddyg teulu argymell eich bod yn aros i weld a fydd eich mislif yn ailddechrau ar ei ben ei hun. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen triniaeth arnoch er mwyn i'ch mislif ailddechrau.

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu hefyd os bydd eich mislif yn dod i ben cyn i chi fod yn 45 oed neu os ydych yn gwaedu o hyd a'ch bod dros 55 oed.

Cyfeirio at arbenigwr

Os yw eich meddyg teulu yn credu y gallai cyflwr meddygol sylfaenol fod wedi achosi i'ch mislif ddod i ben, gallai eich cyfeirio at arbenigwr.

Yn dibynnu ar beth mae eich meddyg teulu yn ei amau sy'n achosi'r broblem, gellir eich cyfeirio at y canlynol:

  • gynecolegydd - arbenigwr mewn trin cyflyrau sy'n effeithio ar y system atgenhedlu fenywaidd
  • endocrinolegydd - arbenigwr mewn trin cyflyrau hormonaidd

Gallech gael archwiliad gynecolegol llawn a phrofion amrywiol, gan gynnwys:  

  • profion gwaed - i weld a oes gennych chi lefelau annormal o rai hormonau, fel prolactin, hormon sy'n ysgogi thyroid, hormon sy'n ysgogi ffoliglau, neu hormon lwteineiddio
  • sgan uwchsain, sgan CT, neu sgan MRI - i nodi unrhyw broblemau â'ch system atgenhedlu neu'r chwarren bitwidol yn eich ymennydd 

Trin cyflyrau sylfaenol

Os bydd canlyniadau profion yn dangos mai cyflwr meddygol sylfaenol sydd wedi achosi i'ch mislif ddod i ben, gellir cynnig triniaeth i chi ar gyfer eich cyflwr.

Er enghraifft, os yw'r cyflwr wedi ei achosi gan PCOS, gellir eich cynghori i gymryd y bilsen atal cenhedlu neu dabledi sy'n cynnwys hormon o'r enw progesteron.

Darllenwch fwy ynghylch trin PCOS.

Os yw'r cyflwr wedi ei achosi gan fenopos cynnar (methiant ofarïaidd cynamserol), mae hyn yn golygu nad yw'r ofarïau yn gweithio yn y ffordd arferol mwyach. Argymhellir meddyginiaeth hormonau fel arfer. Mae triniaethau y dylech roi cynnig arnynt yn cynnwys y bilsen atal cenhedlu neu therapi amnewid hormonau (HRT).

Os oes gennych chwarren thyroid orweithredol, efallai y byddwch yn cael meddyginiaeth i atal eich chwarren thyroid rhag cynhyrchu gormod o hormonau.

Darllenwch fwy ynghylch trin chwarren thyroid orweithredol.

 

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/11/2023 11:27:35