Lleihau'r risg
Nid oes unrhyw ffordd benodol i atal pob math o ddementia - mae ymchwilwyr yn dal i ymchwilio i sut mae'r afiechyd yn datblygu.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth dda y gall ffordd iach o fyw helpu i leihau eich risg o ddatblygu dementia pan fyddwch chi'n hyn.
Gall hefyd helpu i atal afiechydon cardiofasgwlaidd, fel strôc a thrawiadau ar y galon, sydd eu hunain yn ffactorau risg ar gyfer clefyd Alzheimer a dementia fasgwlaidd, y mathau mwyaf cyffredin o ddementia.
Ffactorau risg dementia
Mae ffactor risg yn rhywbeth sy'n cynyddu eich tebygolrwydd o ddatblygu cyflwr.
Mae'n anodd neu'n amhosibl newid rhai ffactorau risg dementia. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Oedran: yr hynaf ydych chi, y mwyaf tebygol ydych chi o ddatblygu dementia. Fodd bynnag, nid yw dementia yn rhan anochel o heneiddio.
- Genynnau: ar y cyfan, ni chredir bod genynnau yn unig yn achosi dementia. Er bod rhai ffactorau genetig yn gysylltiedig â rhai mathau mwy anarferol o ddementia, ar y cyfan mae dementia yn datblygu fel cyfuniad o ffactorau genetig ac "amgylcheddol", fel ysmygu a diffyg ymarfer corff rheolaidd.
- Lefelau addysg is.
Yn ogystal, mae'r ymchwil ddiweddaraf yn awgrymu bod ffactorau eraill hefyd yn bwysig. Mae'r rhain yn cynnwys:
- colli clyw
- iselder heb ei drin
- unig neu arwahanrwydd cymdeithasol
- ffordd o fyw eisteddog
Daeth yr ymchwil i'r casgliad, trwy addasu'r ffactorau risg y gallwn eu newid, y gallai ein risg o ddementia leihau hyd at 30%.
Mae arbenigwyr yn cytuno bod yr hyn sy'n dda i'ch calon hefyd yn dda i'ch ymennydd. Mae hyn yn golygu y gallwch chi helpu i leihau eich risg o ddementia trwy:
- bwyta diet iach, cytbwys
- cynnal pwysau iach
- ymarfer corff yn rheolaidd
- cadw alcohol i'r lleiafswm
- rhoi'r gorau i ysmygu
- cadw pwysedd gwaed ar lefel iach.
Deiet a dementia
Y risg: gall diet sy'n cynnwys llawer o fraster dirlawn, halen a siwgr, ac yn isel mewn ffibr, gynyddu eich risg o bwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, mynd dros bwysau neu'n ordew, a diabetes math 2.
Beth allwch chi ei wneud: bwyta diet iach, cytbwys.
Pwysau a dementia
Y risg: gall bod dros bwysau neu'n ordew gynyddu eich pwysedd gwaed a'ch risg o ddiabetes math 2, y mae'r ddau ohonynt yn gysylltiedig â risg uwch o glefyd Alzheimer a dementia fasgwlaidd.
Beth allwch chi ei wneud: gwiriwch a yw'ch pwysau o fewn yr ystod iach gan ddefnyddio'r gyfrifiannell pwysau iach. Os ydych dros eich pwysau neu'n ordew, gall hyd yn oed colli 5 i 10% o'r pwysau gormodol helpu i leihau eich risg o ddementia.
Ymarfer corff a dementia
Y risg: gall diffyg gweithgaredd corfforol rheolaidd gynyddu eich risg o glefyd y galon, mynd dros bwysau neu'n ordew, a diabetes math 2. Mae oedolion hyn nad ydyn nhw'n gwneud ymarfer corff hefyd yn fwy tebygol o gael problemau gyda'r cof neu feddwl (a elwir yn alluoedd gwybyddol).
Beth allwch chi ei wneud: dilynwch y canllawiau argymelledig o 150 munud o weithgaredd aerobig dwyster cymedrol bob wythnos, fel cerdded yn sionc, beicio neu ddawnsio. Dylech hefyd wneud ymarferion cryfhau ddwywaith yr wythnos, fel garddio neu ioga. Mae hefyd yn bwysig eistedd llai, felly ceisiwch godi a symud o gwmpas yn rheolaidd. Er enghraifft, ewch ar y grisiau a cherdded i fyny grisiau symudol, a gwneud galwadau ffôn wrth sefyll i fyny.
Alcohol a dementia
Y risg: mae yfed gormod o alcohol yn cynyddu eich risg o gael strôc, clefyd y galon a rhai canserau, yn ogystal â niweidio'r system nerfol, gan gynnwys yr ymennydd.
Beth allwch chi ei wneud: cadwch at y cyngor argymelledig o ddim mwy na 14 uned yr wythnos ar gyfer dynion a menywod. Os ydych chi'n yfed cymaint â 14 uned yn rheolaidd mewn wythnos, dylech geisio lledaenu'ch yfed dros dri diwrnod neu fwy a chael sawl diwrnod heb ddiod bob wythnos.
Ysmygu a dementia
Y risg: mae ysmygu yn achosi i'ch rhydwelïau gulhau, a all godi eich pwysedd gwaed. Mae hefyd yn cynyddu eich risg o glefyd cardiofasgwlaidd, yn ogystal â sawl math o ganser.
Beth allwch chi ei wneud: os ydych chi'n ysmygu, ceisiwch roi'r gorau iddi. Mae digon o help ar gael ar y GIG. Ffoniwch Helpa Fi i Stopio ar 0808 278 4105 neu ewch i'w gwefan i gael cyngor a gwybodaeth.
Iselder a dementia
Y risg: mae'r berthynas rhwng dementia ac iselder yn gymhleth. Mae'n ymddangos bod cael iselder heb ei drin yn cynyddu'ch risg o ddatblygu dementia ond, yn yr un modd, gall iselder ddigwydd fel rhan o symptomau cyffredinol dementia ei hun. Ta waeth, gall hwyliau isel, pryder neu iselder oll effeithio ar eich gallu i fod yn weithgar yn gymdeithasol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ysgogol yn feddyliol.
Beth allwch chi ei wneud: os ydych chi'n poeni y gallech chi, perthynas neu ffrind fod yn isel eich ysbryd, siaradwch â'ch meddyg teulu. Efallai y byddant yn eich cyfeirio am gwnsela neu therapïau siarad.
Colled clyw a dementia
Mae gan bobl â cholled clyw risg sylweddol uwch o ddementia. Mae'n ymddangos bod defnyddio cymhorthion clyw yn lleihau'r risg. Mae'n bwysig cael archwiliadau rheolaidd ar eich clyw.
Cadw'n gymdeithasol egnïol
Mae bod â chysylltiad cymdeithasol ag eraill yn lleihau'r risg o ddementia. Mae cadw mewn cysylltiad â phobl a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, fel mynd i'r sinema, neu fod yn rhan o grwp cerdded neu gôr, yn dda i'ch hyder a'ch lles meddyliol.
Os oes gennych chi rywun sy'n helpu i ofalu amdanoch chi, mae bywyd cymdeithasol egnïol yn dda iddyn nhw hefyd. Mae llawer o gymunedau bellach yn gyfeillgar i ddementia. Er enghraifft, mae sinemâu yn dangos dangosiadau o'r ffilmiau diweddaraf sy'n gyfeillgar i ddementia, ac mae canolfannau hamdden yn cynnal sesiynau nofio sy'n gyfeillgar i ddementia ynghyd â gweithgareddau eraill.
Mae'n syniad da ymuno â grwp lleol sy'n gyfeillgar i ddementia, efallai mewn caffi cof neu ganolfan gymunedol. Gallwch chi rannu profiadau a defnyddio awgrymiadau gan eraill sy'n byw gyda dementia. Singing for the Brain sy'n cael eu rhedeg gan Gymdeithas Alzheimer - gwyddys bod canu yn gwella hwyliau a lles ac mae hefyd yn llawer o hwyl.
Dewch o hyd i grwpiau yn eich ardal chi ar wefan Cymdeithas Alzheimer. Gall Age Cymru a Chyfeiriadur Iechyd, Cymorth a Lles GIG 111 hefyd ddarparu manylion y gwahanol weithgareddau sydd ar gael yn eich ardal chi.
Cael Archwiliad Iechyd y GIG
Mae'r GIG yn cynnig Gwiriadau Gofal Iechyd am ddim i bobl dros 50 oed. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.