Cwestiynau Cyffredin

Cwestiwn – Pa mor aml y mae’r wybodaeth am amseroedd aros yn cael ei diweddaru ar y wefan?

Ateb – Mae’r wybodaeth am amseroedd aros yn cael ei diweddaru unwaith y mis. Mae pob bwrdd iechyd lleol yn rhoi syniad o’u hamseroedd aros ar ddiwrnod olaf pob mis, a defnyddir hyn i gyfrifo’r amseroedd aros cyfartalog (canolrifol) a ddangosir.

Cwestiwn – Rwy’n byw ym Mhowys / bwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr ond rwyf dan ofal ysbyty yn Lloegr neu wedi cael fy atgyfeirio i ysbyty yn Lloegr. Lle gallaf gael gwybodaeth am fy amseroedd aros?

Ateb – Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru yn unig. Gallwch weld gwybodaeth yn ymwneud ag amseroedd aros yn Lloegr yn www.myplannedcare.nhs.uk.

Cwestiwn – Beth yw ‘apwyntiad claf allanol cyntaf’?

Ateb – Dyma eich apwyntiad cyntaf gyda chlinigydd ar ôl cael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall. Gall eich apwyntiad fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.

Cwestiwn – Beth yw ‘dechrau triniaeth’?

Ateb – Gall dechrau triniaeth gynnwys y canlynol:

  • gallech gael eich derbyn i’r ysbyty i gael llawdriniaeth neu driniaeth
  • gallech gael triniaeth lle nad oes angen aros yn yr ysbyty, er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi
  • gallech ddechrau’r broses o osod dyfais feddygol, fel brês coes
  • gallech ddechrau cael monitro eich cyflwr am gyfnod o amser i asesu a oes angen triniaeth bellach.

Cwestiwn – Pam nad oes modd clicio ar yr arbenigedd rwy’n aros amdano?

Ateb – Nid oes modd clicio ar yr arbenigeddau sydd â llai na 200 o lwybrau cleifion gan nad oes digon o ddata i gyfrifo amseroedd aros (canolrifol) cyfartalog dibynadwy.

Cwestiwn – Pam mae’r amser aros am apwyntiad claf allanol cyntaf / i ddechrau triniaeth yn hirach mewn rhai arbenigeddau nag eraill?

Ateb – Yng Nghymru, mae gennym dargedau cenedlaethol ar gyfer amseroedd aros y bwriedir iddynt fod yn berthnasol i bob arbenigedd. Fodd bynnag, oherwydd pandemig COVID-19, mae’r amseroedd aros wedi cynyddu, ac nid yw’r effaith yr un fath ym mhob arbenigedd a bwrdd iechyd. Mae’r GIG yn gweithio’n galed i wella’r amseroedd aros dros amser.

Cwestiwn – Pam mae’r amser aros am apwyntiad claf allanol cyntaf / i ddechrau triniaeth yn hirach mewn rhai byrddau iechyd lleol nag eraill?

Ateb – Yng Nghymru, mae gennym dargedau cenedlaethol ar gyfer amseroedd aros y bwriedir iddynt fod yn berthnasol i bob Bwrdd Iechyd Lleol. Fodd bynnag, oherwydd pandemig COVID-19, mae’r amseroedd aros wedi cynyddu, ac nid yw’r effaith yr un fath ym mhob arbenigedd a bwrdd iechyd. Mae’r GIG yn gweithio’n galed i wella amseroedd aros dros amser.

Cwestiwn – Beth yw’r amser aros cyfartalog (canolrifol)?

Ateb – Yr amser aros cyfartalog (canolrifol) yw’r amser aros yn y canol pe bai’r holl amseroedd aros yn cael eu rhestru o’r byrraf i’r hiraf. Mae hanner y cleifion yn aros llai na’r amser aros cyfartalog (canolrifol) ac mae hanner y cleifion yn aros mwy.

amser aros byrraf amser aros cyfartalog (canolrifol) amser aros hiraf

Cwestiwn – Beth ydyn ni’n ei olygu wrth ddweud bod ‘10% o bobl yn aros X wythnos neu fwy’?

Ateb – Mae hyn yn dangos, o’r holl gleifion ar restr aros, pa mor hir y mae’r 10% sydd wedi bod yn aros hiraf yn aros i gael eu gweld neu i ddechrau triniaeth ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhoi syniad ichi o rai o’r amseroedd aros hiraf. Mae 90% o’r cleifion ar y rhestr aros yn aros am lai o amser na hyn.

Cwestiwn – Pam mae’r amser aros cyfartalog (canolrifol) am apwyntiad claf allanol yn hirach na’r amser aros cyfartalog (canolrifol) rhwng atgyfeiriad a thriniaeth?

Ateb – Gall hyn ymddangos yn rhyfedd, ond gall ddigwydd, er enghraifft, pan fydd rhai llwybrau brys yn symud yn gyflym i ddechrau triniaeth, a bydd hynny felly yn dod â’r cyfartaledd (canolrif) i lawr.