Poen yn yr ysgwydd

Cyflwyniad

Shoulder pain
Shoulder pain

Fel arfer, gallwch chi wneud pethau i leddfu poen ysgwydd eich hun. Ewch i weld meddyg teulu os nad yw'n dechrau teimlo'n well ar ôl 2 wythnos.

Sut i leddfu poen ysgwydd eich hun

Fel arfer, mae angen i chi wneud y pethau hyn am 2 wythnos cyn i boen ysgwydd ddechrau lleddfu.

Gall gymryd 4 i 6 wythnos i wella'n llawn o boen ysgwydd ysgafn.

Pethau y dylech eu gwneud:

  • arhoswch yn egnïol a symud eich ysgwydd yn dyner
  • ceisiwch wneud ymarferion ar gyfer poen ysgwydd - gwnewch yr ymarferion am 6 i 8 wythnos i atal y poen rhag dychwelyd
  • sefwch i fyny'n syth gan roi eich ysgwyddau'n ôl yn dyner
  • eisteddwch gyda chlustog y tu ôl i waelod eich cefn
  • gorffwyswch eich braich ar lustog ar eich glin
  • defnyddiwch rywbeth i leddfu poen fel eich bod yn gallu parhau i symud - ceisiwch gymryd cyffuriau lladd poen fel paracetamol ac ibuprofen, a phecynnau gwres neu oer

Pethau na ddylech eu gwneud:

  • peidiwch â rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch ysgwydd yn gyfan gwbl - gall hyn ei atal rhag gwella
  • peidiwch â gwneud pethau sy'n ei waethygu
  • peidiwch â chreu eich ymarferion egnïol eich hun na defnyddio offer campfa trwm
  • peidiwch ag eistedd yn llipa - peidiwch â rholio'ch ysgwyddau na dod â'ch gwddf ymlaen

Rhoi pecynnau gwres neu oer ar eich ysgwydd

Ceisiwch ddefnyddio naill ai:

  • pecyn o bys wedi rhewi mewn lliain sychu llestri am 5 munud, 3 gwaith y dydd
  • potel dŵr poeth mewn lliain sychu llestri am 20 munud, 2 i 3 gwaith y dydd

Gall fferyllydd helpu â phoen ysgwydd

Gall fferyllydd awgrymu:

  • y cyffur lladd poen gorau - gall hyn fod yn dabledi, yn hufen neu'n gel rydych yn ei rwbio ar y croen
  • syniadau eraill ar gyfer lleddfu poen a phethau y gallwch eu prynu i helpu, fel pecynnau gwres ac oer
  • gweld meddyg teulu, os oes angen

Dewch o hyd i fferyllfa.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw'r poen yn gwella ar ôl 2 wythnos
  • os yw'n anodd iawn symud eich braich neu'ch ysgwydd
  • os dechreuodd y poen ar ôl anaf neu ddamwain, fel cwympo

Gofynnwch am gyngor gan GIG 111 Cymru

  • os yw'r poen yn sydyn neu'n wael iawn
  • os nad ydych chi'n gallu symud eich braich
  • os yw eich braich neu'ch ysgwydd wedi newid siâp neu wedi chwyddo'n wael
  • os oes gennych binnau bach nad ydynt yn diflannu
  • os nad oes teimlad yn eich braich neu'ch ysgwydd
  • os yw eich braich neu'ch ysgwydd yn boeth neu'n oer i'w gyffwrdd

Gall y rhain fod yn arwyddion o rywbeth difrifol, fel asgwrn wedi torri neu asgwrn wedi'i dynnu o'i le, neu rwyg mewn ligament neu dendon.

Bydd GIG 111 Cymru yn dweud wrthych chi beth i'w wneud. Gallant ddweud wrthych chi am y lle cywir i gael cymorth os oes angen i chi fynd i weld rhywun.

Triniaeth gan feddyg teulu

Bydd meddyg teulu yn eich archwilio i geisio canfod beth sy'n achosi eich poen ysgwydd. Efallai y bydd yn eich anfon i gael profion (fel pelydr-X) i wirio'r achos.

Bydd yn awgrymu triniaeth ar sail yr achos, er enghraifft:

  • meddyginiaeth neu bigiadau cryf i leddfu poen a chwyddo
  • ffisiotherapi neu ymarferion i'w gwneud gartref
  • pethau i'w hosgoi i atal y poen rhag mynd yn waeth neu ddod yn ôl
  • gweld arbenigwr i gael profion neu driniaeth 

Ffisiotherapi ar gyfer poen ysgwydd

Mae nifer y sesiynau ffisiotherapi y gallai meddyg teulu eu rhoi ar bresgripsiwn yn dibynnu ar achos eich poen ysgwydd.

Os ydych chi mewn poen o hyd ar ôl i'ch sesiynau ddod i ben, ewch yn ôl i weld y meddyg teulu. Efallai y bydd yn rhoi mwy o ffisiotherapi ar bresgripsiwn neu'n awgrymu triniaeth arall.

Efallai na fydd ffisiotherapi gan y GIG ar gael ym mhobman. Gall amseroedd aros fod yn hir, hefyd.

Gallwch chi hefyd dalu i gael ffisiotherapi yn breifat.

Dewch o hyd i ffisiotherapydd cofrestredig.

Achosion poen ysgwydd

Efallai bod poen ysgwydd nad yw'n gwella ar ôl 2 wythnos yn cael ei achosi gan rywbeth sydd angen triniaeth. Peidiwch â gwneud eich diagnosis eich hun - ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni.

Symptomau ysgwydd ac achosion posibl



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 08/04/2026 11:47:33