Cymerwch ran

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am GIG 111 Cymru a gwasanaethau Ambiwlans Cymru eraill

Mae eich profiad o ddefnyddio ein gwasanaeth yn bwysig iawn i ni.

Mae profiad yn rhywbeth sydd wedi digwydd i chi, a sut oeddech chi’n teimlo pan ddigwyddodd. Weithiau rydym yn galw eich profiad yn stori.

Mae GIG 111 Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bob amser yn ceisio gwella eu gwasanaethau.

Un o’r rhannau pwysicaf o hyn yw gwrando ar bobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau a dysgu o’u profiad a’u stori.

Gall eich stori chi gwneud gwahaniaeth i’r hyn a wnawn.

Gall dysgu gennych chi ein helpu ni i wella profiadau pobl eraill.

Os hoffech roi adborth i ni, gallwch gysylltu â ni mewn sawl gwahanol ffordd. Gweler ein hadran Cysylltwch â Ni am yr holl wahanol ffyrdd o gysylltu.


Os ydych chi eisiau rhannu eich profiadau, mae yna wahanol ffyrdd y gallwn ei gofnod…


Gwnewch fideo

Gallwn ddod i gwrdd â chi, a gwneud fideo ohonoch yn sôn am eich profiad.


Ysgrifennwch am eich stori

Gallwn ysgrifennu am yr hyn a ddigwyddodd pan wnaethoch chi ddefnyddio ein gwasanaethau.


Llenwch arolwg

Gallwch ateb cwestiynau yn un o’n harolygon ar-lein


Ymunwch â’n Rhwydwaith Pobl a Chymunedau

Byddwn yn rhannu gwybodaeth am sut y gallwch ymuno â’n rhwydwaith yn fuan.