Problemau diferticwlaidd

Cyflwyniad

Diverticular disease and diverticulitis
Diverticular disease and diverticulitis
Sylwch, mae’r pwnc hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd, felly rydym yn argymell eich bod chi’n croesgyfeirio at y fersiwn Saesneg hefyd i sicrhau eich bod chi’n cael gwybodaeth gywir a chyfredol.

Dau gyflwr treuliol cysylltiedig yw clefyd diferticwlaidd a llid y diferticwlwm/llid y cilfachau. Mae symptomau clefyd diferticwlaidd yn cynnwys:

  • poen yn rhan isaf yr abdomen (stumog)
  • teimlo'n chwyddedig

Mae symptomau llid y diferticwlwm yn cynnwys:

  • poen difrifol yn yr abdomen
  • tymheredd uchel (twymyn) o 38ºC (100.4ºF) neu'n uwch

Diferticwla, clefyd diferticwlaidd a llid y diferticwlwm

Diferticwla yw'r term meddygol a ddefnyddir i ddisgrifio'r codenni bach sy'n ymwthio allan o ochr y coluddyn mawr (colon). Mae diferticwla'n hynod gyffredin ac maen nhw'n gysylltiedig â henaint. Tybir bod diferticwla gan 50% o bobl erbyn iddynt fod yn 50 oed, a 70% erbyn iddynt fod yn 80 oed.

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl sydd â diferticwla yn profi unrhyw symptomau. Fodd bynnag, bydd 1 o bob 4 o bobl sydd â diferticwla yn profi symptomau fel poen yn yr abdomen a dolur rhydd. Disgrifir pobl sy'n profi symptomau fel rhai sydd â chlefyd diferticwlaidd.

Gall diferticwla hefyd fynd yn heintiedig ac yn llidus. Mae cyflwr lle mae diferticwla'n mynd yn llidus yn cael ei alw'n llid y diferticwlwm. Mae llid y diferticwlwm yn achosi symptomau mwy difrifol na chlefyd diferticwlaidd, megis poen difrifol. Gall achosi cymhlethdodau difrifol, fel rhwygo'r colon (hollti) a allai arwain at haint ar leinin yr abdomen (peritonitis).

Pa mor gyffredin yw clefyd diferticwlaidd a llid y diferticwlwm?

Clefyd diferticwlaidd yw un o'r cyflyrau treuliol mwyaf cyffredin. Fel diferticwla, mae clefyd diferticwlaidd yn gysylltiedig ag oed. Bydd tua 75% o bobl sydd â chlefyd diferticwlaidd yn cael o leiaf un pwl o lid y diferticwlwm.

Amcangyfrifir bod clefyd diferticwlaidd yn effeithio ar tua 30% o bobl sy'n 60+ oed. Mae'r ffigur yn codi i 65% ar gyfer pobl sy'n 80+ oed.

Mae clefyd diferticwlaidd a llid y diferticwlwm yn effeithio ar ddynion a menywod yn yr un modd, ond mae'r cyflwr yn fwy tebygol o ddod i'r amlwg yn gynharach i ddynion (o dan 50 oed) o gymharu â menywod.

Mae clefyd diferticwlaidd yn cael ei ddisgrifio'n aml fel 'clefyd y gorllewin' gan fod y cyfraddau'n uchel iawn yng ngwledydd gorllewin Ewrop a Gogledd America, ac yn isel iawn yng ngwledydd Affrica ac Asia. Tybir mai deiet yw'r prif reswm dros hyn, yn enwedig y ffaith mai ychydig iawn o ffeibr y mae llawer o bobl yng ngwledydd y gorllewin yn ei fwyta. Mae deiet ffeibr isel yn cael ei gydnabod fel ffactor o bwys sy'n gwneud pobl yn fwy tebygol o gael y cyflwr.

Mae disgwyl i'r nifer sy'n cael eu heffeithio gan glefyd diferticwlaidd a llid y diferticwlwm gynyddu dros y degawd nesaf yn sgil y cynnydd cyfatebol yn y nifer sy'n 60+ oed.

Rhagolygon

Ar y cyfan, mae'r rhagolygon ar gyfer clefyd diferticwlaidd yn dda oherwydd gellir rheoli'r symptomau fel arfer drwy gynnwys mwy o ffeibr yn eich deiet.

Fodd bynnag, nid yw'r rhagolygon ar gyfer llid y diferticwlwm mor ffafriol oherwydd bydd tua 1 o bob 5 o bobl yn cael cymhlethdodau y bydd angen llawdriniaeth i'w gwella. Gydag achosion lle nad oes unrhyw gymhlethdodau (llid anghymleth y diferticwlwm), cwrs byr o wrthfiotigau yw'r driniaeth sy'n cael ei hargymell.

Os bydd rhywun yn dioddef llid cymhleth y diferticwlwm dro ar ôl tro, hwyrach yr argymhellir llawdriniaeth i gael gwared ar y rhan o'r coluddyn sydd wedi'i heffeithio fel cam i atal y cyflwr.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 09/05/2024 13:17:13