Mae heintiau yn y glust yn gyffredin iawn, yn enwedig ymhlith plant. Nid oes angen i chi weld meddyg teulu bob amser ar gyfer haint yn y glust gan eu bod yn aml yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn 3 diwrnod.
Gwiriwch a yw'n haint yn y glust
Mae symptomau haint yn y glust fel arfer yn dechrau'n gyflym ac yn cynnwys:
- poen y tu mewn i'r glust
- tymheredd uchel o 38°C neu uwch
- chwydu
- diffyg egni
- anhawster clywed
- rhedlif yn rhedeg allan o'r glust
- teimlad o bwysedd neu lawnder y tu mewn i'r glust
- cosi a llid yn y glust ac o'i chwmpas
- croen cennog yn y glust ac o'i chwmpas
Gall plant ifanc a babanod sydd â haint yn y glust hefyd:
- rhwbio neu dynnu eu clust
- peidio ag ymateb i rai synau
- bod yn flin neu'n anniddig
- bod heb chwant bwyd
- colli eu cydbwysedd yn gyson
Mae'r rhan fwyaf o heintiau yn y glust yn gwella o fewn 3 diwrnod, ond weithiau gall symptomau bara hyd at wythnos..
Gwahaniaethau rhwng haint yn y glust fewnol a haint yn y glust allanol
Haint yn y glust fewnol (llid y glust ganol):
- mae'n effeithio ar blant fel arfer
- caiff ei achosi gan firysau fel annwyd a'r ffliw
- yn effeithio ar y glust fewnol (y tiwb sy'n rhedeg y tu ôl i ddrwm y glust i gefn y trwyn - tiwb Eustachian)
Haint yn y glust allanol (llid y glust allanol):
- mae fel arfer yn effeithio ar oedolion rhwng 45 a 75 oed
- fe'i achosir gan rywbeth yn llidio camlas y glust, fel ecsema, dŵr neu wisgo plygiau clust
- mae’n effeithio ar gamlas y glust (y tiwb rhwng y glust allanol a drwm y glust)
Sut i drin haint yn y glust eich hun
I helpu i leddfu unrhyw boen ac anghysur oherwydd haint yn y glust:
Gwnewch:
- defnyddio poenladdwyr fel paracetamol neu ibuprofen (ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd aspirin)
- rhoi clwt cynnes neu oer ar y glust
- tynnu unrhyw redlif trwy sychu'r glust gyda gwlân cotwm
Peidiwch â:
- rhoi unrhyw beth y tu mewn i'ch clust i gael gwared â chwyr chlustiau, fel ffyn cotwm neu eich bys
- gadael i ddŵr neu siampŵ fynd i mewn i'ch clust
- defnyddio moddion llacio neu gwrth-histaminau - nid oes tystiolaeth eu bod yn helpu gyda heintiau yn y glust
Gall fferyllydd helpu gyda haint yn y glust
Siaradwch â fferyllydd os ydych chi'n meddwl bod gennych haint yn y glust allanol.
Gallant argymell diferion clust asidig i helpu atal bacteria neu ffwng rhag lledaenu.
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu os oes gennych chi neu eich plentyn:
- tymheredd uchel iawn neu'n teimlo'n boeth a chrynedig
- poen yn y glust nad yw'n dechrau gwella ar ôl 3 diwrnod
- chwydd o gwmpas y glust
- hylif yn dod o'r glust
- colli clyw neu newid clyw
- symptomau eraill, fel chwydu, dolur gwddf difrifol neu bendro
- heintiau yn y glust yn rheolaidd
- cyflwr meddygol hirdymor - fel diabetes, neu glefyd y galon, ysgyfaint, arennau neu glefyd niwrolegol
- system imiwnedd wan - oherwydd cemotherapi, er enghraifft
Beth sy'n digwydd yn eich apwyntiad
Bydd eich meddyg teulu yn aml yn defnyddio golau bach (otosgop) i edrych yn y glust.
Mae rhai otosgopau’n chwythu pwff bach o aer i'r glust. Mae hyn yn gwirio am rwystrau, a allai fod yn arwydd o haint.
Triniaeth gan feddyg teulu
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn rhagnodi meddyginiaeth ar gyfer eich haint yn y glust, gan ddibynnu ar beth a’i achosodd.
Heintiau yn y glust fewnol
Nid yw gwrthfiotigau'n cael eu cynnig fel arfer oherwydd bod heintiau yn y glust yn aml yn gwella ar eu pennau eu hunain, ac nid yw gwrthfiotigau'n gwneud fawr o wahaniaeth i symptomau, gan gynnwys poen.
Efallai y bydd gwrthfiotigau'n cael eu rhagnodi os:
- nad yw’r haint yn y glust yn dechrau gwella ar ôl 3 diwrnod
- os oes hylif yn dod allan o'ch clust chi neu glust eich plentyn
- os oes gennych chi neu eich plentyn salwch sy'n golygu bod risg o gymhlethdodau, fel ffibrosis systig
Efallai y byddant hefyd yn cael eu rhagnodi os yw eich plentyn yn iau na 2 flwydd oed a bod ganddo haint yn y ddwy glust.
Heintiau yn y glust allanol
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn rhagnodi:
- diferion clustiau gwrthfiotig - i drin haint bacteriol
- diferion clustiau steroid - i leihau chwydd
- diferion clustiau gwrthffwngaidd - i drin haint ffwngaidd
- tabledi gwrthfiotig - os yw eich haint bacteriol yn ddifrifol
Os oes gennych smotyn neu gornwyd yn eich clust, efallai y bydd eich meddyg teulu yn ei dyllu â nodwydd i ddraenio'r crawn.
Efallai na fydd diferion clustiau yn gweithio os nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gywir.
Sut i ddefnyddio diferion clustiau
- Tynnwch unrhyw redlif gweladwy neu gŵyr clust gan ddefnyddio gwlân cotwm.
- Daliwch y botel yn eich llaw i'w chynhesu - gall diferion clustiau oer wneud i chi deimlo'n benysgafn.
- Gorweddwch ar eich ochr gyda'r glust yr effeithir arno yn wynebu i roi'r diferion i mewn.
- Tynnwch a gwthiwch eich clust yn ysgafn i weithio'r diferion i mewn.
- Arhoswch yn gorwedd i lawr am 5 munud fel nad yw'r diferion yn dod allan.
Atal heintiau yn y glust
Ni allwch atal heintiau yn y glust bob amser, yn enwedig heintiau yn y glust fewnol a achosir gan annwyd a'r ffliw.
I helpu i osgoi heintiau yn y glust fewnol:
- sicrhewch fod eich plentyn yn gyfredol o ran brechiadau
- cadwch eich plentyn i ffwrdd o amgylcheddau myglyd
- ceisiwch beidio â rhoi dymi i'ch plentyn ar ôl 6 mis oed
I helpu i osgoi heintiau yn y glust allanol:
- peidiwch â rhoi ffyn cotwm na'ch bysedd yn eich clustiau
- defnyddiwch blygiau clust neu het nofio dros eich clustiau pan fyddwch chi'n nofio
- ceisiwch osgoi dŵr neu siampŵ yn mynd i mewn i'ch clustiau pan fyddwch yn cael cawod neu bath
- dylech drin cyflyrau sy'n effeithio ar eich clustiau, fel ecsema neu alergedd i gymhorthion clyw