Anafiadau i'r llygaid

Cyflwyniad

Eye injuries
Eye injuries

Bydd mân anafiadau i’r llygaid, fel siampŵ neu lwch yn eich llygad, yn aml yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn diwrnod. Mynnwch help meddygol os oes gennych gemegyn yn eich llygad neu os bydd rhywbeth yn treiddio iddo.

Ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) neu ffoniwch 999:

  • os bydd cemegyn cryf, fel glanhawr popty neu gannydd, yn eich llygad – parhewch i olchi eich llygad gyda dŵr tra byddwch chi’n aros am help meddygol
  • os oes rhywbeth miniog wedi treiddio i’ch llygad
  • os oes rhywbeth wedi taro eich llygad ar gyflymder mawr – er enghraifft wrth ddefnyddio offer pŵer neu dorri’r lawnt
  • os oes unrhyw newidiadau i’ch golwg ar ôl anaf i’r llygad
  • os oes gennych gur pen/pen tost, tymheredd uchel neu os ydych chi’n sensitif i olau
  • os ydych chi’n teimlo’n fel chwydu neu yn chwydu ar ôl anaf i’r llygad
  • os na allwch symud eich llygad na’i gadw ar agor
  • os oes gwaed neu grawn yn dod o’ch llygad

Chwiliwch am eich A&E agosaf

Sut i drin anaf i’r llygad gartref

  • golchwch eich llygad gyda dŵr glân os oes rhywbeth ynddo
  • dilynwch y cyngor ar y deunydd pecynnu os bydd colur neu nwyddau’r cartref yn mynd i’ch llygaid
  • llyncwch boenleddfwyr fel parasetamol neu ibuprofen i leddfu unrhyw boen neu anghysur

 

Peidiwch â:

  • cheisio tynnu unrhyw wrthrych sydd wedi treiddio i’ch llygad
  • cyffwrdd na rhwbio eich llygad hyd nes bydd yn well
  • gwisgo colur o gwmpas eich llygad hyd nes bydd yn well
  • gwisgo lensys cyffwrdd hyd nes bydd eich llygad yn well

 

Sut i olchi eich llygad

Dylech:

  • ddefnyddio dŵr glân (nid poeth) – gall hwn fod o’r tap, o’r gawod neu ddŵr potel os na fyddwch gartref
  • dal eich llygad ar agor
  • rhedeg llawer o ddŵr dros belen eich llygad am o leiaf 20 munud

Gwnewch yn siŵr nad yw llif y dŵr yn rhy gryf.

Ewch i weld optometrydd/optegydd neu ffoniwch 111:

  • os nad yw eich llygad yn gwella ymhen 24 awr
  • os ydych chi’n poeni am eich anaf

Chwiliwch am optometrydd/optegydd



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/11/2023 07:28:05