Cyflwyniad
Mae poen yn y cymalau'n broblem gyffredin iawn gyda sawl achos posibl - ond fel arfer mae o ganlyniad i anaf neu lid y cymalau.
Mewn pobl hyn, mae poen yn y cymalau sy'n gwaethygu'n raddol fel arfer yn arwydd o osteoarthritis. Gall effeithio ar un cymal neu sawl un.
Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych symptomau parhaus.
Ni ddylai'r wybodaeth a'r cyngor ar y dudalen hon gael ei defnyddio i hunan-ddiagnosio eich cyflwr ond gallai roi syniad gwell i chi o beth sy'n achosi eich poen.
Poen mewn un cymal yn unig
Poen yn y pen-glin
Y pen-glin yw'r cymal sy'n cael ei anafu amlsf ac mae'n fregus ofnadwy oherwydd ei fod yn dal holl bwysau eich corff.
Fodd bynnag, nid yw poen yn y pen-glin yn broblem cymal bob amser. Dysgwch am yr achosion mwyaf cyffredin o boen yn y pen-glin a beth ddylech ei wneud.
Llid leinin y cymal
Os ydych wedi anafu'r cymal yn ddiweddar a'i fod yn boenus unwaith eto, gallai fod llid ar yr haenen denau o leinin sy'n cysylltu'r cymalau a'r tendonau - cyflwr a elwir yn synovitis trawmatig. Fel arfer, nid yw'n achosi unrhyw gochni na gwres.
Dylech fod yn gallu rheoli'r chwyddo gartref gyda meddyginiaeth gwrthlid, pecyn rhew a gorffwys.
Gowt neu pseudo-gowt
Os yw'r croen dros y cymal yn boeth a choch a daw'r poen mewn pyliau ailadroddus, mae'n debygol o fod yn gowt neu pseudo-gowt.
Mae'r ddau gyflwr yn fathau o lid y cymalau.
Mae gowt yn effeithio ar gymal bys mawr y droed fel arfer, cyn effeithio ar gymalau eraill.
Mae'n bwysig cael diagnosis cywir o gowt, gan y bydd triniaeth yn atal pyliau eraill o boen yn y cymalau ac anabledd.
Mae pseudo-gowt yn gyflwr tebyg i gowt ond mae fel arfer yn effeithio ar gymal y pen-glin yn gyntaf.
Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych y cyflyrau hyn.
Niwed i'r cartilag tu ol i badell y pen-glin
Gallai poen sy'n teimlo'n waeth wrth ddringo neu ddisgyn grisiau fod yn arwydd o anaf i badell y pen-glin - yr enw arno yw chondromalacia patellae.
Ni ddylai achosi unrhyw gochni na gwres o gwmpas y pen-glin.
Ni ddeallwn yr achos mewn gwirionedd ond gall fod yn gysylltiedig a gorddefnyddio'r pen-glin.
Gallwch drin y broblem hon gyda meddyginiaeth gwrthlid, pecyn rhew a gorffwys.
Gwaedu yn y cymalau
Os ydych wedi cael anaf i gymal y pen-glin yn ddiweddar, fel rhwygo ligament neu dorri pen-glin, gall achosi gwaedu yn y cymalau. Dyma yw haemarthrosis.
Mae hwn yn fwy tebygol o ddigwydd i bobl ar gwrthgeulyddion fel warfarin.
Yr arwyddion yw:
- chwyddo yn y pen-glin
- gwres
- anystwythder a chleisio sy'n digwydd yn fuan wedi'r anaf
Ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar unwaith i gael triniaeth os oes gennych ben-glin wedi chwyddo yn dilyn anaf.
Achosion llai cyffredin
Achosir poen sydyn i gymal yn gyffredin gan:
- toriad - darllenwch am torri braich neu arddwrn, torri coes neu bigwrn neu torri clun
- crydcymalau ymatebol sy'n datblygu fel arfer wedi haint ac sy'n dueddol o effeithio ar oedolion ifanc
- crydcymalau psoriatig - math o arthritis sy'n effeithio hyd at un o bump o bobl sy'n dioddef o psoriasis
- crydcymalau gwynegol - sy'n gallu dechrau mewn un cymal, gyda'r poen yn mynd a dod
- clefyd Osgood Schlatter - chwyddo a thynerwch dros y twlpyn esgyrnog ychydig islaw padell y pen-glin
Yn anaml iawn, gall yr achos fod yn:
- crydcymalau septig - cyflwr difrifol sy'n achosi cymal poenus, poeth, wedi chwyddo na fyddwch yn gallu ei symud (gyda thwymyn ar adegau) - ewch i wedl eich meddyg neu'r Adran A&E ar unwaith
- haemoffilia - cyflwr a etifeddir sy'n effeithio ar allu'r corff i geulo
- haint trofannol
- canser
- yr asgwrn yn malu (avascular necrosis) - a achosir gan ddiffyg cyflenwad gwaed
- y cymal yn cael ei daflu o'i le sawl tro
Poen mewn sawl cymal
Crydcymalau gwynegol
Mae crydcymalau gwynegol yn fath arall o arthritis sy'n achosi poen a chwyddo yn y cymalau - fel arfer, y dwylo, traed ac addyrnau.
Gallai'r poen fynd a dod ar y dechrau gyda chyfnodau hir rhwng pyliau.
Gall wneud i chi deimlo'n dost yn gyffredinol ac wedi blino. Darllenwch fwy am symptomau crydcymalau gwynegol.
Crydcymalau psoriatig
Mae crydcymalau psoriatig yn effeithio ar hyd at un o bump o bobl sy'n dioddef o psoriasis.
Mae'r math hwn o gydcymalau'n anrhagweladwy ond mae modd rheoli pyliau gyda thriniaeth.
Fel mathau eraill o grydcymalau, mae'n golygu bod un neu fwy o'ch cymalau wedi'u llidio ac yn chwyddo, yn anystwyth, poenus ac yn anodd eu symud.
Haint feirol sy'n achosi crydcymalau
Mae enghreifftiau o heintiau feirol sy'n achosi poen yn y cymalau a symptomau twymyn yn cynnwys:
- hepatitis feirol - llid yr afu/iau sy'n cael ei achosi gan feirws
- rwbela - haint feirol a arferai fod yn gyffredin mewn plant
Clefyd y meinwe cysylltiol
Mae poen eang yn y cymalau'n gallu bod yn arwydd o glefyd sy'n effeithio ar bron holl organau'r corff, fel
- lwpws - lle mae'r system imiwnedd yn ymosod ar gam ar gelloedd, meinweoedd ac organau iach
- sglerodema - lle mae'r system imiwnedd yn ymosod ar feinwe cysylltiol o dan y croen, gan achosi ardaloedd trwchus, caled o groen
Achosion llai cyffredin
Yn llai cyffredin, gall poen yn y cymalau gael ei achosi gan:
- math llai cyffredin o grydcymalau - fel ankylosing spondylitis, crydcymalau mewn plant a phobl ifanc neu crydcymalau adweitheddol
- syndrom Behcet - cyflwr prin nad yw'n cael ei ddeall yn dda sy'n achosi llid yn y gwaedlestri
- Henoch-Schonlein purpura - cyflwr prin, a welir mewn plant fel arfer, sy'n achosi gwaedlestri i lidio
- canser
- rhai triniaethau - gan gynnwys therapi steroid, isoniazid a hydralazine
- osteoarthropathi ysgyfeiniol hypertroffig - clefyd prin sy'n achosi'r bysedd yn dod at ei gilydd, a welir mewn pobl a chanser yr ysgyfaint
- sarcoidosis - cyflwr prin sy'n peri i ddarnau bach o feinwe ddatblygu yn yr organau