Clwy’r pennau

Cyflwyniad

Mae clwy'r pennau (y dwymyn doben) yn haint firaol heintus a oedd yn arfer bod yn gyffredin ymhlith plant cyn cyflwyno'r brechlyn MMR (y frech goch, clwy'r pennau a rwbela).

Y symptom mwyaf amlwg yw'r chwyddiadau poenus ar ochr y wyneb o dan y clustiau (y chwarennau parotid), sy'n rhoi golwg nodedig i unigolyn, tebyg i "wyneb bochdew".

 

Mae symptomau eraill yn cynnwys cur pen/pen tost, poen yn y cymalau a thymheredd uchel, sy'n gallu datblygu ychydig ddyddiau cyn i'r chwarennau parotid chwyddo.

Pryd i weld eich meddyg teulu

Mae'n bwysig i chi gysylltu â'ch meddyg teulu os byddwch yn amau clwy'r pennau er mwyn cael diagnosis. Er nad yw clwy'r pennau'n ddifrifol fel arfer, mae ganddo symptomau tebyg i fathau mwy difrifol o haint, fel twymyn y chwarennau a thonsilitis.

Fel arfer, gall eich meddyg teulu wneud diagnosis ar ôl gweld a theimlo'r chwydd, edrych ar leoliad y tonsiliau yn y geg a gwirio tymheredd yr unigolyn i weld a yw'n uwch na'r arfer.

Rhowch wybod i'ch meddyg teulu ymlaen llaw os byddwch yn mynd i'r feddygfa, er mwyn iddo/iddi allu cymryd unrhyw ragofalon angenrheidiol i atal yr haint rhag cael ei lledaenu.

Os bydd eich meddyg teulu yn amau clwy'r pennau, dylai roi gwybod i'ch tîm diogelu iechyd lleol (HPT). Bydd yr HPT yn trefnu i sampl o boer gael ei phrofi er mwyn cadarnhau neu ddiystyru'r diagnosis.

Sut mae clwy'r pennau yn cael ei ledaenu

Mae clwy'r pennau yn cael ei ledaenu yn yr un ffordd ag anwydon a'r ffliw – trwy ddiferion heintiedig o boer a all gael eu mewnanadlu neu eu codi oddi ar arwynebau a'u trosglwyddo i'r geg neu'r trwyn.

Bydd unigolyn yn fwyaf heintus ychydig ddyddiau cyn i'r symptomau ddatblygu ac am ychydig ddyddiau wedyn.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n bwysig ceisio atal lledaenu'r haint i bobl eraill, yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sydd heb gael eu brechu.

Os bydd clwy'r pennau arnoch chi, fe allwch chi helpu i'w atal rhag cael ei ledaenu trwy:

  • olchi eich dwylo â sebon yn rheolaidd
  • defnyddio a chael gwared ar hancesi papur wrth disian
  • peidio â mynd i'r ysgol neu waith am o leiaf pum niwrnod ar ôl i'ch symptomau ymddangos am y tro cyntaf.

Atal clwy'r pennau

Gallwch chi amddiffyn eich plentyn rhag clwy'r pennau trwy wneud yn siwr ei fod yn cael y brechlyn MMR cyfunol (ar gyfer clwy'r pennau, y frech goch a rwbela).

Mae'r brechlyn MMR yn rhan o amserlen imiwneiddio rheolaidd y GIG i blant. Dylai'ch plentyn gael un dos pan fydd tua 12-13 mis oed ac ail ddos atgyfnerthol yn 3 blwydd a 4 mis oed. Os byddwch chi neu eich plentyn wedi colli'r cynnig, gallwch ddal i fyny trwy wneud cais am y brechlyn hwn am ddim. Ar ôl cael y ddau ddos, mae'r brechlyn yn rhoi amddiffyniad da rhag clwy'r pennau.

Triniaeth ar gyfer clwy'r pennau

Nid oes gwellhad i glwy'r pennau ar hyn o bryd, ond dylai'r haint fynd heibio ymhen wythnos neu ddwy.

Caiff triniaeth ei defnyddio i leddfu symptomau, ac mae'n cynnwys:

  • gorffwys yn y gwely ac yfed digon o hylifau
  • defnyddio cyffuriau lleddfu poen, fel ibuprofen a pharasetamol – ni ddylech roi aspirin i blant dan 16 oed
  • rhoi clwtyn oer neu gynnes ar y chwarennau chwyddedig i helpu i leddfu'r boen

Cymhlethdodau

Bydd clwy'r pennau fel arfer yn mynd heibio heb achosi niwed difrifol i iechyd rhywun. Mae cymhlethdodau difrifol yn brin.

Fodd bynnag, gall clwy'r pennau arwain at feningitis firaol os bydd y firws yn symud i haenen allanol yr ymennydd. Mae cymhlethdodau eraill yn cynnwys chwyddo'r ceilliau neu'r ofarïau (os bydd yr unigolyn sydd â chlwy'r pennau wedi bod drwy'r glasoed).

Pwy sy'n cael eu heffeithio

Mae'r rhan fwyaf o achosion o glwy'r pennau yn digwydd ymhlith oedolion ifanc (a gafodd eu geni rhwng 1980 a 1990, fel arfer) na chawsant y brechlyn MMR fel rhan o'u hamserlen imiwneiddio rheolaidd i blant ac na chawsant glwy'r pennau yn blentyn.

Ar ôl i chi gael eich heintio gan firws clwy'r pennau, byddwch fel arfer yn datblygu imiwnedd gydol oes rhag unrhyw haint bellach.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 22/06/2026 10:13:17