Ewinedd annormal

Cyflwyniad

Nail abnormalities
Nail abnormalities

Fel arfer, dydy problemau â'r ewinedd ddim yn cael eu hachosi gan unrhyw beth difrifol. Mae problemau cyffredin â'r ewinedd yn cynnwys ewinedd brau, rhydd sy'n gallu newid lliw neu siâp.

Gallai eich ewinedd newid dros gyfnod

Mae'n arferol i ewinedd:

  • fynd yn fwy trwchus neu dorri'n haws (brau) wrth i chi fynd yn hŷn
  • mynd yn fwy caled, yn fwy meddal neu'n fwy brau yn ystod beichiogrwydd - dylent fod yn iachach o fewn 6 mis o gael y babi
  • newid lliw, mynd yn rhydd a disgyn i ffwrdd yn y pen draw ar ôl anaf

Dylai ewinedd sy'n disgyn i ffwrdd ar ôl anaf dyfu'n ôl o fewn 6 mis. Gall ewinedd traed gymryd hyd at 18 mis i dyfu'n ôl.

Pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun

Mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu'ch hun â phroblemau cyffredin â'r ewinedd.

Pethau y dylech chi eu gwneud

  • gwisgwch fenyg rwber os yw eich dwylo mewn dŵr yn aml neu os ydych chi'n defnyddio cynhyrchion glanhau yn rheolaidd
  • glanhewch eich ewinedd â brwsh ewinedd meddal
  • rhowch hufen dwylo ar eich ewinedd a blaenau eich bysedd yn rheolaidd
  • torrwch eich ewinedd yn rheolaidd - efallai y bydd yn helpu os byddwch chi'n torri'ch ewinedd ar ôl cael bath neu gawod
  • torrwch ewinedd rhydd, sydd wedi'u hanafu, yn ôl i'r man lle maen nhw'n parhau i fod yn sownd - mae hyn yn eu helpu i dyfu'n ôl yn y ffordd arferol

Pethau na ddylech chi eu gwneud

  • peidiwch â thorri'ch ewinedd i lawr yr ymylon - torrwch yn syth ar draws y top i helpu osgoi casewin (ingrown toenail)
  • peidiwch â glanhau o dan eich ewinedd â gwrthrychau miniog
  • peidiwch â gwisgo esgidiau sy'n pinsio eich bysedd traed, yn enwedig wrth wneud ymarfer corff
  • peidiwch â chnoi na phigo'ch ewinedd na'r croen o'u cwmpas
  • peidiwch ag anwybyddu heintiau ffyngaidd yr ewinedd ar eich croen - fel tarwden y traed (athlete's foot)

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad ydych chi'n gwybod pam mae ewin wedi newid siâp, newid lliw neu ddisgyn i ffwrdd
  • os yw'r croen o amgylch eich ewinedd wedi mynd yn ddolurus, yn goch, wedi chwyddo ac yn gynnes (paronychia), gall hyn fod yn arwydd o haint neu gasewin

Ewch i weld podiatrydd:

  • os yw eich ewinedd yn rhy galed i'w torri neu dydych chi ddim yn gallu eu cyrraedd

Efallai y bydd rhai meddygon teulu yn gallu eich cyfeirio ar gyfer podiatreg. Gallwch chi hefyd dalu i weld podiatrydd yn breifat.

Dewch o hyd i bodiatrydd

Achosion

Mae'r rhan fwyaf o broblemau â'r ewinedd yn cael eu hachosi gan y canlynol:

  • anafiadau neu gnoi eich ewinedd
  • staenio eich ewinedd - er enghraifft, trwy ysmygu neu roi llawer o farnis ar eich ewinedd
  • peidio â thorri eich ewinedd yn rheolaidd, neu'u torri ar ongl
  • os yw eich dwylo yn aml mewn dŵr neu gynhyrchion glanhau
  • haint ffyngaidd ar yr ewin

Weithiau, mae problemau â'r ewinedd yn gallu bod yn symptom o gyflwr mwy difrifol neu hirdymor, fel:

Ond peidiwch â gwneud eich diagnosis eich hun - ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni.

Mae rhai meddyginiaethau'n gallu achosi problemau â'r ewinedd hefyd. Gwiriwch sgil-effeithiau'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd.

Ffoniwch GIG 111 Cymru

Os na allwch chi siarad â'ch meddyg teulu neu ddim yn gwybod beth i'w wneud nesaf, ffoniwch GIG 111 Cymru.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/03/2024 13:52:55