Syndrom y foch goch

Cyflwyniad

Slapped Cheek

Mae syndrom y foch goch (sydd hefyd yn cael ei alw 'y pumed clefyd' neu parfofirws B19) yn haint firaol sydd yn fwyaf cyffredin mewn plentyndod, er ei fod yn gallu effeithio ar bobl o bob oedran. Fel arfer mae'n achosi i frech goch lachar ddatblygu ar y bochau.

Er bod y frech yn gallu edrych yn eithaf brawychus, haint ysgafn yw syndrom y foch goch fel arfer a bydd yn clirio ar ei ben ei hun ymhen wythnos i dair wythnos. Pan fyddwch wedi cael yr haint, bydd gennych imiwnedd iddi am oes fel arfer.

Fodd bynnag, gall syndrom y foch goch fod yn fwy difrifol i rai pobl. Os ydych chi'n feichiog, os oes gennych anhwylder gwaed neu system imiwnedd wan a'ch bod wedi dod i gysylltiad â'r firws, dylech gael cyngor meddygol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/03/2024 09:31:37